Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “ailddefnyddio” yr ystyr a roddir i “re-use” yn Erthygl 3(13) o’r Gyfarwyddeb Wastraff;

mae i “ailgylchu” yr ystyr a roddir i “recycling” yn Erthygl 3(17) o’r Gyfarwyddeb Wastraff;

mae i “alcohol” yr un ystyr ag sydd i “alcohol” yn adran 191 o Ddeddf 2003 ac mae “alcoholig” i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “awdurdod casglu gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste collection authority” yn adran 30(3) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(1);

mae i “awdurdod gwaredu gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste disposal authority” yn adran 30(2) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—

(a)

awdurdod casglu gwastraff;

(b)

awdurdod gwaredu gwastraff;

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn galendr y mae person yn gynhyrchydd mewn cysylltiad â hi;

mae i “busnes gweithredu tafarn” (“pub operating business”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9(2);

ystyr “categori o becynwaith” (“packaging category”) yw un o’r categorïau y cyfeirir atynt yn rheoliad 6(4);

ystyr “CNC” (“NRW”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru;

mae i “cyflenwi” (“supplies”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1);

ystyr “cyfnod casglu data” (“data collection period”) yw—

(a)

y cyfnod o’r dyddiad y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym tan 31 Rhagfyr 2023, a

(b)

mewn blynyddoedd dilynol, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;

mae i “cynhyrchydd” (“producer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8;

mae i “cynhyrchydd bach” (“small producer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11(2);

mae i “cynhyrchydd mawr” (“large producer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11(1);

ystyr “cynllun cofrestredig” (“registered scheme”) yw cynllun sydd wedi ei gofrestru yn unol â Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith) 2007(2);

ystyr “cytundeb gweithredu tafarn” (“pub operating agreement”) yw cytundeb neu nifer o gytundebau cysylltiedig y mae un person (y busnes gweithredu tafarn) yn rhoi ynddo neu odano, neu ynddynt neu odanynt, denantiaeth neu les mangre i berson arall (y tenant) sy’n cynnwys rhwymedigaeth (pa un a’i mynegir fel rhwymedigaeth gadarnhaol neu fel rhwymedigaeth negyddol) ar y tenant i brynu rhywfaint neu’r cyfan o’r alcohol neu’r ddiod alcoholig (yn ôl y digwydd), i’w werthu neu i’w gyflenwi fel arall, neu i’w gwerthu neu i’w chyflenwi fel arall, yn y fangre neu o’r fangre, oddi wrth y busnes gweithredu tafarn neu oddi wrth berson neu bersonau a enwebwyd neu a awdurdodwyd gan neu ar ran y busnes hwnnw;

ystyr “cytundeb trwyddedu” (“licence agreement”) yw cytundeb neu nifer o gytundebau cysylltiedig y mae’r trwyddedwr yn rhoi ynddo neu odano, neu ynddynt neu odanynt, drwydded i’r trwyddedai sy’n caniatáu i’r trwyddedai ddefnyddio nod masnach fel enw y mae’r trwyddedai yn gwerthu odano o’r fangre nwyddau sy’n gysylltiedig â’r nod masnach hwnnw, ac mae’n cynnwys rhwymedigaeth (pa un a’i mynegir fel rhwymedigaeth gadarnhaol neu fel rhwymedigaeth negyddol) ar y trwyddedai sy’n ymwneud â diwyg y fangre honno;

ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person sy’n cyflenwi pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio i ddefnyddiwr y pecynwaith hwnnw pan fo’r cyflenwi’n digwydd drwy roi’r pecynwaith ar log neu ar fenthyg;

ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Trwyddedu 2003(3);

ystyr “deunydd cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffibr” (“fibre-based composite material”) yw deunydd pecynwaith sydd wedi ei wneud o bapur-fwrdd neu ffibrau papur, wedi ei lamineiddio â phlastig, ac y gall fod iddo haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw;

ystyr “deunyddiau pecynwaith” (“packaging materials”) yw deunyddiau a ddefnyddir i weithgynhyrchu pecynwaith ac mae’n cynnwys deunyddiau crai a deunyddiau wedi eu prosesu cyn eu troi’n becynwaith;

mae i “diod” (“drink”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy’n gweithgynhyrchu neu’n mewnforio pecynwaith nas llanwyd ac yn cyflenwi’r pecynwaith hwnnw i berson arall;

mae i “gwaredu” yr ystyr a roddir i “disposal” yn Erthygl 3(19) o’r Gyfarwyddeb Wastraff;

mae i “gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste” yn Erthygl 3(1) o’r Gyfarwyddeb Wastraff, o’i darllen gydag Erthyglau 5 a 6 o’r Gyfarwyddeb honno;

ystyr “gwastraff pecynwaith” (“packaging waste”) yw pecynwaith neu ddeunydd pecynwaith sy’n wastraff ond nid yw’n cynnwys pecynwaith sy’n cael ei daflu ac yn dod yn wastraff y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

mae i “gwastraff pecynwaith perthnasol” (“relevant packaging waste”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16(7);

ystyr “gweithredwr” (“operator”) mewn perthynas â marchnadle ar-lein yw’r person sy’n rheoli mynediad at y marchnadle ar-lein, a chynnwys y marchnadle hwnnw, ar yr amod bod y person yn ymwneud ag—

(a)

pennu unrhyw delerau ac amodau sy’n gymwys i werthu nwyddau,

(b)

prosesu, neu hwyluso’r gwaith o brosesu, taliadau am y nwyddau, ac

(c)

archebu neu ddanfon, neu hwyluso’r gwaith o archebu neu ddanfon, y nwyddau;

ystyr “gweithredwr marchnadle ar-lein” (“online marketplace operator”) yw gweithredwr gwefan, neu unrhyw gyfrwng arall y perir bod gwybodaeth ar gael dros y rhyngrwyd drwyddo, sy’n hwyluso gwerthu nwyddau drwy’r wefan neu’r cyfrwng arall gan bersonau heblaw’r gweithredwr, pa un a yw’r gweithredwr hefyd yn gwerthu nwyddau drwy’r marchnadle ar-lein ai peidio;

ystyr “gwerthwr” (“seller”) yw person sy’n cyflenwi pecynwaith i ddefnyddiwr neu dreuliwr y pecynwaith hwnnw, pa un a yw’r pecynwaith wedi ei lenwi pan gaiff ei gyflenwi ai peidio;

ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff(4), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/851(5), ac fel y’i darllenir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw safle gwerthu y trinnir pecynwaith arno ac mae’n cynnwys unrhyw dir, cerbyd, llestr, offer symudol a stondin;

ystyr “mewnforiwr” (“importer”) yw—

(a)

y person sy’n gyfrifol am fewnforio pecynwaith wedi ei lenwi i’r Deyrnas Unedig, pa un a gyflenwir y pecynwaith hwnnw yn y pen draw ai peidio, neu

(b)

pan nad yw’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwn yn bresennol yn y Deyrnas Unedig, y person cyntaf yn y Deyrnas Unedig sy’n cymryd perchnogaeth o’r pecynwaith;

mae i “nod masnach” yr un ystyr ag a roddir i “trade mark” yn adran 1 o Ddeddf Nodau Masnach 1994(6);

ystyr “paciwr/llanwr” (“packer/filler”) yw person sy’n rhoi nwyddau mewn pecynwaith;

mae i “pecynwaith” (“packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;

mae i “pecynwaith cartref” (“household packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;

mae i “pecynwaith cludo” (“shipment packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(d);

mae i “pecynwaith cynradd” (“primary packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(a);

mae i “pecynwaith eilaidd” (“secondary packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(b);

ystyr “pecynwaith esempt” (“exempt packaging”) yw pecynwaith sy’n esempt mewn perthynas â chynhyrchydd yn unol â rheoliad 12(2);

mae i “pecynwaith trydyddol” (“tertiary packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(c);

mae i “pecynwaith wedi ei frandio” (“branded packaging”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8(13);

ystyr “pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio” (“reusable packaging”) yw pecynwaith sydd wedi ei gynllunio i gael ei ddefnyddio sawl gwaith drwy ei ail-lenwi neu ei ailddefnyddio at yr un diben y’i crëwyd ato;

mae i “perchennog brand” (“brand owner”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8(13) o’i ddarllen gyda rheoliad 8(3);

ystyr “person a gymeradwywyd” (“approved person”) yw person sydd wedi ei gymeradwyo am y tro o dan reoliad 24 at ddiben dilysu gwybodaeth a ddarperir gan gynhyrchydd—

(a)

i CNC o dan reoliad 17(4)(b);

(b)

i weithredwr cynllun o dan reoliad 19(2)(b)(ii);

ystyr “rheoleiddiwr y DU” (“UK regulator”) yw—

(a)

o ran Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd,

(b)

o ran Cymru, CNC,

(c)

o ran yr Alban, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, neu

(d)

o ran Gogledd Iwerddon, Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon;

ystyr “rhwymedigaethau adrodd am ddata” (“data reporting obligations”) yw’r rhwymedigaethau yn rheoliad 17;

ystyr “rhwymedigaethau casglu data” (“data collection obligations”) yw’r rhwymedigaethau yn rheoliad 16;

ystyr “tenant” (“tenant”) yw’r parti mewn cytundeb gweithredu tafarn y rhoddir y les neu’r denantiaeth mangre iddo;

ystyr “treuliwr” (“consumer”) yw unigolyn sy’n gweithredu at ddibenion sydd y tu allan i fasnach, busnes, crefft neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw;

ystyr “trosiant”, mewn perthynas â pherson, yw ei drosiant fel y diffinnir “turnover” yn adran 539 o Ddeddf Cwmnïau 2006(7) ond fel pe bai’r cyfeiriadau at gwmni yn gyfeiriadau at y person hwnnw;

ystyr “trwyddedai” (“licensee”) yw’r parti mewn cytundeb trwyddedu y rhoddir trwydded i ddefnyddio nod masnach iddo;

mae i “trwyddedwr” (“licensor”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9(1).

(2At ddibenion y diffiniad o “gweithredwr marchnadle ar-lein”, mae marchnadle ar-lein yn hwyluso gwerthu nwyddau os yw’n caniatáu i berson—

(a)cynnig nwyddau ar werth, a

(b)ymrwymo i gontract ar gyfer gwerthu’r nwyddau hynny.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)caniateir i unrhyw ddogfen sydd i’w darparu neu ei rhoi i unrhyw berson gael ei darparu neu ei rhoi i’r person hwnnw drwy ddulliau electronig os oes modd i’r person hwnnw atgynhyrchu’r ddogfen honno ar ffurf ddarllenadwy;

(b)caniateir bodloni ar ffurf electronig unrhyw ofyniad i wneud, cadw neu ddal gafael ar gofnod neu i gadw cofrestr os oes modd i’r testun gael ei gynhyrchu gan y person sy’n ddarostyngedig i’r gofyniad ar ffurf ddogfennol ddarllenadwy;

(c)caniateir bodloni unrhyw ofyniad am lofnod drwy lofnod electronig wedi ei ymgorffori yn y ddogfen, ac at y dibenion hyn, ystyr “llofnod electronig” yw data ar ffurf electronig sydd wedi ei atodi i ddata arall ar ffurf electronig, neu sy’n rhesymegol gysylltiedig â data arall ar ffurf electronig, ac a ddefnyddir gan y llofnodwr i lofnodi.

(1)

1990 p. 43. Mae diwygiadau i adran 30 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

2003 p. 17. Diwygiwyd adran 191 gan adran 135 o Ddeddf Plismona a Throseddu 2017 (p. 3) ac O.S. 2006/2407.

(4)

OJ L312, 22.11.2008, t. 3.

(5)

OJ L150, 14.6.2018, t. 109.

(6)

1994 p. 26. Diwygiwyd adran 1 gan O.S. 2018/825.

(7)

2006 p. 46. Mae diwygiadau i adran 539 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources