Search Legislation

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 1061 (Cy. 177)

Yr Amgylchedd Hanesyddol, Cymru

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024

Gwnaed

23 Hydref 2024

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 211(3) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 209(5)(h) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Tachwedd 2024.

Darpariaeth ganlyniadol ac arbediad

2.  Mae Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

3.  Ar ôl paragraff 9, mewnosoder—

Deddf Harbyrau 1964 (p. 40)

9A.  Yn Atodlen 3 i Ddeddf Harbyrau 1964, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “sensitive area”, ym mharagraff (h), ar y diwedd mewnosoder “or section 3 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.

4.  Hepgorer paragraff 73.

5.  Ar ôl paragraff 106, mewnosoder—

106A.  Yn adran 17(4), hepgorer “in relation to England”.

6.  Yn lle paragraff 116, rhodder—

116.  Hepgorer adran 29.

7.  Ar ôl paragraff 116, mewnosoder—

116A.  Yn adran 30—

(a)yn is-adran (1)—

(i)hepgorer paragraff (c);

(ii)yn y geiriau ar ôl y paragraffau, yn lle “those sections” rhodder “section 28”;

(b)yn is-adran (2), hepgorer “or 29”.

8.  Yn lle paragraff 117, rhodder—

117.  Yn adran 31—

(a)yn is-adran (2), yn lle “28, 28B, 29, 44AC and 44D” rhodder “28 and 44AC”;

(b)yn is-adran (4), yn lle “sections 28 and 29” rhodder “section 28”.

9.  Ar ôl paragraff 122, mewnosoder—

122A.  Yn adran 44AA(1) ac yn y pennawd o’i blaen, hepgorer “in England” yn y ddau le y mae’n digwydd.

122B.  Ym mhennawd adran 44AB, hepgorer “in England”.

122C.  Ym mhennawd adran 44AC, hepgorer “in England”.

10.  Ym mharagraff 124, o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

(za)yn is-adran (1A), hepgorer “in England”;.

11.  Yn lle paragraff 130, rhodder—

130.  Yn adran 54—

(a)yn is-adran (2)—

(i)ym mharagraff (a), hepgorer “if the building is in England,”;

(ii)hepgorer paragraff (b) a’r “or” o’i flaen;

(b)yn is-adran (4), hepgorer “, in the case of a building in England,”;

(c)hepgorer is-adran (4A);

(d)yn is-adran (5), hepgorer “, in the case of works authorised under subsection (2)(a),”;

(e)hepgorer is-adran (5A);

(f)yn is-adran (6), hepgorer “or (5A)”.

12.  Yn lle paragraff 145(b)(ii), rhodder—

(ii)hepgorer “28B, 29,”;.

13.  Ar ôl paragraff 147, mewnosoder—

147A.  Hepgorer adran 86(3).

14.  Ym mharagraff 148—

(a)o flaen is-baragraff (a), mewnosoder—

(za)yn is-adran (3ZA), hepgorer “in England”;;

(b)yn lle is-baragraff (b), rhodder—

(b)yn is-adran (4), yn lle “, 28B, 29, 44AC or 44D” rhodder “or 44AC”.

15.  Ym mharagraff 152(a), ar y diwedd mewnosoder—

(vi)yn y cofnod ar gyfer adran 327ZA, hepgorer “in England”;.

16.  Yn lle paragraff 153, rhodder—

153.  Yn adran 90—

(a)yn is-adran (5), ar ôl “council of a county” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (6)(b), yn lle “29” rhodder “28A”;

(c)yn is-adran (7)(a), yn lle “sections 28 or 29” rhodder “section 28”.

17.  Ar ôl paragraff 154, mewnosoder—

154A.  Yn adran 92(2)(b), yn lle “29” rhodder “28A”.

18.  Hepgorer paragraff 155(f).

19.  Ym mharagraff 158, yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)ym mharagraff 2, yn lle “, 44AB or 44C” rhodder “or 44AB”;.

20.  Ym mharagraff 161, yn lle’r geiriau o flaen y tabl rhodder—

161.  Mae Deddf Cynllunio a Digolledu 1991 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

161A.  Yn Atodlen 6, hepgorer paragraff 43.

161B.  Yn Atodlen 18—

(a)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud ag adran 29 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

(b)ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag adran 29(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 mewnosoder—.

21.  Ar ôl paragraff 196, mewnosoder—

Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 (p. 55)

197.  Mae Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

198.  Yn adran 102—

(a)yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “after subsection (2)” hyd at y diwedd rhodder “in subsection (2), after “preserving” insert “or enhancing””;

(b)yn is-adran (4)—

(i)o flaen paragraff (a) mewnosoder—

(za)in subsection (1), after “preserving” insert “or enhancing”;;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in subsection (2), after “preserving” insert “or enhancing”.

199.  Yn adran 103—

(a)hepgorer is-adrannau (3) i (6);

(b)hepgorer is-adran (10)(b) ac (c);

(c)hepgorer is-adran (12)(a) ac (c).

200.  Hepgorer adran 105(3) a (4).

22.  Yn Atodlen 14, Rhan 3, ar ôl paragraff 11, mewnosoder—

Hysbysiadau diogelu adeilad yn Lloegr: digollediad

12.  Nid yw diddymu adran 105(4) o Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 gan baragraff 200 o Atodlen 13 i’r Ddeddf hon yn effeithio ar weithrediad parhaus yr arbediad a wneir gan yr adran honno, ac nid yw diddymu adran 29 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 gan baragraff 116 o’r Atodlen honno, nac unrhyw ddarpariaeth arall yn yr Atodlen honno ychwaith yn effeithio ar ei weithrediad parhaus.

Jack Sargeant

Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (“Deddf 2023”) yn cydgrynhoi’r brif ddeddfwriaeth ar gyfer cadwraeth yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae Deddf 2023 yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.

Y prif Ddeddfau a ddygwyd ynghyd yn yr ymarfer cydgrynhoi hwnnw yw Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion Hynafol 1953 (p. 49), Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p. 46), Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) (“Deddf 1990”) a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4).

Gwnaeth Atodlen 13 i Ddeddf 2023 fân newidiadau a newidiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae rheoliad 3 yn mewnosod yn Atodlen 13 newid canlyniadol i Ddeddf Harbyrau 1964.

Mae rheoliad 4 yn hepgor darpariaeth nad yw’n ofynnol.

Gwnaeth Atodlen 13 i Ddeddf 2023 newidiadau hefyd i Ddeddf 1990. Ers hynny, mae Deddf 1990 wedi cael ei diwygio ymhellach gan Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023. Mae rheoliadau 5 i 21 yn gwneud diwygiadau pellach i Atodlen 13 i Ddeddf 2023 yng ngoleuni’r diwygiadau pellach hynny a wnaed gan Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023. Mae’r diwygiadau yn cynnwys diddymiadau.

Mae Atodlen 14 i Ddeddf 2023 yn gwneud darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed. Mae rheoliad 22 yn gwneud arbediad pellach.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources