Search Legislation

Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1

Ffurf y cais am drwydded triniaeth arbennig

Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf
Ffurf

Rheoliad 6(1)

ATODLEN 2

Ffurf a chynnwys trwydded triniaeth arbennig – Rhan 1 – cerdyn llun

Blaen y cerdyn llun

Ffurf

Cefn y cerdyn llun

Ffurf

Ffurf a chynnwys trwydded triniaeth arbennig – Rhan 2 – papur A4

Ffurf
Ffurf

Rheoliad 7(3)

ATODLEN 3Amodau trwyddedu mandadol: amodau cyffredinol

Cyffredinol

1.—(1Ni chaiff deiliad y drwydded ond rhoi triniaeth arbennig y mae wedi ei drwyddedu i’w rhoi yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd a bennir ar ei drwydded (oni bai bod eithriadau’n gymwys).

(2Ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig mewn mangre a gymeradwywyd neu mewn cerbyd a gymeradwywyd, nac mewn unrhyw ran ohoni neu ohono, os oes risg, neu os yw’n debygol y bydd risg, o niwed i iechyd dynol.

(3Ni chaiff deiliad y drwydded ond rhoi’r driniaeth arbennig yn y fath fodd sy’n lleihau’r risg o niwed i iechyd dynol.

(4Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflawni gweithgareddau mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth arbennig mewn ffordd nad yw’n mynd yn groes i’r dystysgrif gymeradwyo (gan gynnwys yr amodau cymeradwyo mandadol) a ddyroddwyd mewn perthynas â’r fangre neu’r cerbyd a nodir yn y drwydded triniaeth arbennig.

Materion sy’n ymwneud â’r drwydded

2.—(1Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod Rhan 1 neu Ran 2 o’i drwydded triniaeth arbennig yn cael ei harddangos mewn safle sy’n galluogi cleientiaid ac aelodau o’r cyhoedd i’w darllen yn hawdd.

(2Rhaid i gopi o’r amodau trwyddedu mandadol cymwys fod ar gael yn rhwydd ar gais gan swyddog awdurdodedig neu gleient.

(3Ni chaniateir addasu’r drwydded triniaeth arbennig mewn unrhyw ffordd a rhaid iddi barhau i fod yn ddarllenadwy.

(4Mewn achos pan fo’r drwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, rhaid i ddeiliad y drwydded wneud cais, o fewn cyfnod rhesymol, i gael un newydd yn ei lle oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.

(5Os caiff deiliad y drwydded ei euogfarnu o drosedd berthnasol yn ystod cyfnod y drwydded, rhaid i ddeiliad y drwydded hysbysu’r awdurdod lleol sy’n dyroddi ar unwaith am yr euogfarn. Rhaid i’r hysbysiad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys dyddiad yr euogfarn, manylion y drosedd berthnasol, y ddedfryd neu’r gosb a roddwyd (gan gynnwys hyd unrhyw ddedfryd) ac unrhyw wybodaeth arall sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.

(6Pan ddaw’r drwydded triniaeth arbennig i ben, rhaid dychwelyd y drwydded sydd wedi dod i ben i’r awdurdod lleol sy’n dyroddi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir gan yr awdurdod hwnnw.

Y cleient ac ymgynghori â chleient

3.—(1Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i gleient os yw’n amau nad yw’r cleient yn ffit ac yn iach.

(2Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i unigolyn sy’n feddw, neu yr ymddengys ei fod yn feddw, pa un ai yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall.

(3Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal ymgynghoriad â’r cleient a, phan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, â rhiant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, cyn rhoi’r driniaeth arbennig. Rhaid i’r ymgynghoriad hwn fod ar ffurf ffurflen ysgrifenedig ar gyfer ymgynghori â chleientiaid a rhaid i’r ffurflen honno gynnwys y canlynol—

(a)enw llawn y cleient,

(b)datganiad sy’n cadarnhau bod deiliad y drwydded wedi gwirio oedran y cleient,

(c)manylion cyswllt y cleient,

(d)esboniad llawn o’r broses, y risgiau a’r gwrtharwyddion sy’n gysylltiedig â’r driniaeth arbennig,

(e)esboniad o effeithiau cymdeithasol triniaeth arbennig a roddir ar wyneb neu wddf y cleient (os yw’n gymwys),

(f)hanes meddygol perthnasol y cleient, gan gynnwys cyflyrau iechyd arwyddocaol neu berthnasol fel clefyd y galon, epilepsi, diabetes, cyflyrau sy’n peryglu imiwnedd, alergeddau, beichiogrwydd a manylion meddyginiaeth ragnodedig gan gynnwys gwrthgeulyddion,

(g)cofnod a yw cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig (ac, os felly, gadarnhad bod deiliad y drwydded wedi ei fodloni bod yr anesthetig argroenol wedi ei gymeradwyo a’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd(1)), ac

(h)esboniad o’r cyngor ôl-ofal ar gyfer y driniaeth arbennig a roddir.

(4Rhaid i’r ffurflen ymgynghori â chleientiaid sydd wedi ei llenwi gael ei llofnodi gan ddeiliad y drwydded a’i chydlofnodi gan y cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, gan riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient.

(5Pan nodir unrhyw wrtharwyddion yn ystod yr ymgynghoriad â chleient, ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig oni bai bod deiliad y drwydded wedi ei fodloni bod modd rhoi’r driniaeth arbennig yn ddiogel o hyd. Os oes gan ddeiliad y drwydded unrhyw bryderon ynghylch iechyd y cleient, ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig nes ei fod wedi cael cyngor meddygol neu gymeradwyaeth gan ymarferydd cyffredinol neu feddyg ymgynghorol y cleient. Rhaid cynnwys copi o’r wybodaeth hon yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient.

(6Cyn ac ar ôl rhoi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded roi cyfle i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, i ofyn unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r driniaeth arbennig a’r cyngor ôl-ofal.

(7Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod cyngor ôl-ofal yn cael ei ddarparu i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient. Rhaid defnyddio iaith glir wrth ddarparu’r cyngor hwn a rhaid iddo fod mewn fformat hawdd ei ddeall. Rhaid ei roi ar lafar ac yn ysgrifenedig i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, a rhaid iddo gynnwys manylion cyswllt deiliad y drwydded a roddodd y driniaeth arbennig. Rhaid cynnwys copi o’r cyngor yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient.

Cadw cofnodion

4.—(1Rhaid i ddeiliad y drwydded ddal gafael ar gofnodion ysgrifenedig mewn perthynas â’r cleient am 3 blynedd gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir y driniaeth arbennig. Rhaid i’r cofnodion hyn gynnwys copi o’r ffurflen ymgynghori â chleientiaid wedi ei llenwi a’i llofnodi.

(2Rhaid i ddeiliad y drwydded gadw a chynnal cofrestr o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig gan ddeiliad y drwydded. Rhaid i’r gofrestr hon gynnwys y canlynol—

(a)dyddiad y digwyddiad,

(b)manylion y digwyddiad,

(c)enw a manylion cyswllt y cleient neu berson arall (a all gynnwys deiliad y drwydded) a roddodd wybod am y digwyddiad, a

(d)unrhyw gamau adfer a gymerwyd gan ddeiliad y drwydded i atal hyn rhag digwydd eto.

(3Rhaid i ddeiliad y drwydded gofrestru’r digwyddiad a chymryd unrhyw gamau adfer o fewn cyfnod resymol.

(4Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod ganddo sicrwydd yswiriant drwy’r amser yn ystod cyfnod ei drwydded. Rhaid i dystiolaeth o sicrwydd yswiriant dilys fod ar gael yn rhwydd i’w harolygu gan unrhyw swyddog awdurdodedig.

Arferion diogelwch a hylendid deiliad y drwydded

5.—(1Rhaid i ddeiliad y drwydded barhau i ddatblygu, diweddaru a chynnal ei wybodaeth am atal a rheoli heintiau a’i sgiliau o ran pob triniaeth arbennig y mae wedi ei drwyddedu i’w rhoi. Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal cofnod ysgrifenedig o’r modd y mae wedi bodloni’r gofyniad hwn.

(2Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i unigolyn pan fo’r driniaeth wedi ei pheryglu, neu’n debygol o gael ei pheryglu, gan y ffaith ei fod ef ei hun yn feddw yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall.

(3Ni chaiff deiliad y drwydded ysmygu, fepio, bwyta bwyd nac yfed diod yn y man gwaith triniaethau arbennig.

(4Rhaid i ddeiliad y drwydded arfer hylendid dwylo rheolaidd a thrylwyr.

(5Rhaid i ewinedd deiliad y drwydded fod yn lân, heb estyniadau ewinedd, farnais nac addurn.

(6Rhaid i ddeiliad y drwydded orchuddio unrhyw glwyfau agored, briwiau neu gornwydydd ar ran o’i gorff nad yw wedi ei gorchuddio â dresin anathraidd.

(7Rhaid newid unrhyw gyfarpar diogelu personol untro, tafladwy, rhwng pob cleient neu pan fydd egwyl wrth roi’r driniaeth arbennig.

(8Os yw’n ofynnol defnyddio rasel yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau mai dim ond raseli untro tafladwy a ddefnyddir.

(9Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal asesiad gweledol o gyflwr croen y cleient lle y mae’r driniaeth arbennig i’w rhoi, a dihalogi’r croen cyn rhoi’r driniaeth arbennig.

(10Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig ar groen nad yw’n gyflawn neu pan fo tystiolaeth o niwed, crafiad neu haint.

(11Ni chaiff deiliad y drwydded gyflenwi anesthetigau argroenol i gleient, na’u dodi arno, cyn, yn ystod nac ar ôl triniaeth arbennig.

(12Ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig—

(a)os yw deiliad y drwydded wedi cael gwybod bod y cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig, nad yw wedi ei gymeradwyo na’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, neu

(b)os yw’r cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig ac nad yw deiliad y drwydded wedi cael digon o dystiolaeth bod yr anesthetig argroenol wedi ei gymeradwyo a’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

(13Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod ei weithfan yn cael ei glanhau a’i diheintio’n effeithiol rhwng pob cleient pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol, neu pan fo halogiad o’r fath yn debygol.

(14Rhaid i bob triniaeth arbennig gael ei rhoi mewn amgylchedd preifat sy’n briodol ar gyfer y driniaeth arbennig a roddir.

(15Ni chaiff deiliad y drwydded ond caniatáu i gleient ddod ag unigolyn arall gydag ef os nad yw presenoldeb yr unigolyn arall hwnnw yn ystod y driniaeth arbennig yn peri risg uwch o haint.

(16Ni chaiff deiliad y drwydded ganiatáu i anifeiliaid ddod i’r man gwaith triniaethau arbennig ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig sy’n dod gyda chleient.

Gosodiadau a ffitiadau

6.—(1Mae unrhyw osodiad neu ddodrefnyn a ddefnyddir gan y cleient wrth roi’r driniaeth arbennig iddo i’w orchuddio â dalen bapur dafladwy, lliain neu gyffelyb, sydd i’w newid rhwng pob cleient pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol.

(2Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl osodiadau, ffitiadau a dodrefn sy’n gysylltiedig â’i weithfan wedi eu gwneud o ddeunydd difandwll a’u bod mewn cyflwr da i alluogi gwaith glanhau effeithiol a, phan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol, waith diheintio effeithiol.

Cyfarpar ac offerynnau

7.—(1Rhaid i’r holl gyfarpar, offerynnau a chynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded—

(a)cael eu defnyddio a’u cynnal yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a

(b)cael eu gwasanaethu’n a’u dilysu’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a rhaid cadw a chynnal yr holl gofnodion gwasanaethu a dilysu ar gyfer eu harolygu gan swyddog awdurdodedig.

(2Rhaid i’r holl offerynnau a chyfarpar a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded fod wedi eu gwneud o ddeunydd difandwll y gellir ei lanhau, ei ddiheintio a, phan fo’n briodol, ei sterileiddio yn hawdd.

(3Rhaid cadw offerynnau a chyfarpar mewn cyflwr da i alluogi gwaith glanhau effeithiol a rhaid eu defnyddio a’u storio mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o halogiad.

(4Ni chaiff deiliad y drwydded byth ailddefnyddio nac ailbrosesu eitemau untro.

(5Ni chaiff deiliad y drwydded ond defnyddio nodwyddau di-haint, untro, tafladwy.

(6Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau, o ran unrhyw gyfarpar nad yw’n dafladwy, na ellir ei sterileiddio, ac sy’n debygol o ddod i gysylltiad â hylifau corfforol neu safle’r driniaeth arbennig, nad yw’n dod i gysylltiad o’r fath. Rhaid glanhau a diheintio cyfarpar o’r fath yn drylwyr ar ôl pob defnydd.

(7Os defnyddir offerynnau nad ydynt yn rhai tafladwy wrth roi triniaeth arbennig a’u bod yn debygol o ddod i gysylltiad â hylifau corfforol neu safle’r driniaeth arbennig, ar ôl eu defnyddio rhaid i ddeiliad y drwydded lanhau a thrin yr offerynnau. Rhaid glanhau a thrin yr offerynnau â chyfarpar glanhau, diheintio a sterileiddio sy’n addas i’r diben megis glanhawyr uwchsain, baddonau offerynnau ac awtoclafau a chydau awtoclaf. Nid yw hyn yn gymwys i nodwyddau (gweler paragraff 7(5)).

(8Rhaid sterileiddio unrhyw offeryn, unrhyw gyfarpar, unrhyw emwaith, neu unrhyw wrthrych sy’n cael ei atodi i groen neu bilen fwcaidd y cleient neu sy’n cael ei fewnblannu neu ei fewnosod yn ei groen neu ei bilen fwcaidd.

(9Rhaid sterileiddio unrhyw offeryn neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i dynnu gemwaith neu wrthrych sydd wedi ei atodi i groen neu bilen fwcaidd y cleient neu sydd wedi ei fewnblannu neu ei fewnosod yn ei groen neu ei bilen fwcaidd.

(10Rhaid i ddeiliad y drwydded allu cael gafael ar becyn cymorth cyntaf sydd wedi ei stocio’n addas, sydd ar gael yn rhwydd, i ddiwallu anghenion cymorth cyntaf y driniaeth arbennig a roddir.

Gwastraff

8.—(1Rhaid gwaredu pob offeryn miniog mewn bin offer miniog. Rhaid cadw a defnyddio’r bin offer miniog yn y man gwaith triniaethau arbennig.

(2Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod gwastraff domestig a gwastraff clinigol nad yw’n beryglus yn cael ei wahanu’n briodol a’i roi yn y bagiau lliw cywir. Rhaid i ddeiliad y drwydded wneud trefniadau ar gyfer gwaredu’r bagiau lliw hynny.

Diffiniadau

9.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “amodau cymeradwyo mandadol” (“mandatory approval conditions”) yw’r amodau y mae tystysgrif gymeradwyo yn ddarostyngedig iddynt;

ystyr “bin offer miniog” (“sharps bin”) yw cynhwysydd anhyblyg, arbenigol sy’n cydymffurfio â Chod CGE 20 01 99(2) ac sydd wedi ei gynllunio i waredu’n ddiogel offer miniog sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig;

ystyr “cleient” (“client”) yw person y rhoddir triniaeth arbennig iddo;

mae i “cyfnod y drwydded” (“licence period”), mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yr ystyr a roddir yn adran 59(8)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;

ystyr “gweithfan” (“workstation”) yw’r rhan o’r man gwaith triniaethau arbennig sy’n cynnwys y canlynol—

(a)

gwely, cadair neu gyffelyb, y mae cleient yn eistedd neu’n gorwedd arno neu arni i gael triniaeth arbennig a roddir gan ddeiliad trwydded,

(b)

cadair neu stôl y mae deiliad y drwydded yn eistedd arni i roi’r driniaeth arbennig (os yw’n gymwys), ac

(c)

arwyneb gwaith a ddefnyddir ar gyfer gosod a storio’r offerynnau a’r cynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded i roi’r driniaeth arbennig;

ystyr “man gwaith triniaethau arbennig” (“special procedures work area”) yw ardal neu ystafell ddynodedig a ddefnyddir at ddiben rhoi triniaeth arbennig, ac o ran man gwaith triniaethau arbennig—

(a)

rhaid iddo gynnwys o leiaf—

(i)

1 weithfan,

(ii)

1 basn golchi dwylo,

(iii)

1 bin gwastraff,

(iv)

1 bin offer miniog (os yw’n gymwys), a

(b)

caiff hefyd gynnwys cyfleusterau eraill a chyfarpar arall i gefnogi’r gwaith o roi’r driniaeth arbennig;

ystyr “mangre neu gerbyd a gymeradwywyd” (“approved premises or vehicle”) yw mangre neu gerbyd a gymeradwyir o dan adran 70(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig, gan yr awdurdod lleol;

ystyr “offer miniog” (“sharps”) yw gwrthrychau neu offerynnau sy’n gallu torri, crafu, pricio neu achosi anaf i’r croen ac mae’n cynnwys pob math o nodwydd a rasel untro;

ystyr “sicrwydd yswiriant” (“insurance cover”) yw polisi yswiriant dilys a ddyroddwyd gan yswiriwr awdurdodedig i yswirio deiliad y drwydded mewn cysylltiad ag atebolrwyddau, mewn cysylltiad â salwch, haint, anaf ac effeithiau andwyol eraill ar iechyd nad ydynt yn heintus (gan gynnwys adweithiau alergaidd), sy’n codi drwy roi triniaeth arbennig;

mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;

ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw trosedd a restrir yn adran 66(8) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;

mae i “tystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate”) yr ystyr a roddir yn adran 70(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;

ystyr “yswiriwr awdurdodedig” (“authorised insurer”), mewn perthynas â pholisi yswiriant, yw person a gaiff gynnal yn y Deyrnas Unedig y busnes o roi effaith i gontractau yswiriant, neu o gyflawni contractau yswiriant, o’r math a ddarperir o dan y polisi yswiriant.

Rheoliad 7(4)

ATODLEN 4Amodau trwyddedu mandadol: aciwbigo

1.  Ni chaiff deiliad trwydded roi triniaeth aciwbigo ar ran bersonol o gorff cleient o dan 18 oed.

2.  Rhaid i ddeiliad trwydded olchi a sychu ei ddwylo’n drylwyr yn union cyn ac ar ôl rhoi triniaeth aciwbigo i bob cleient.

3.  Rhaid i ddeiliad trwydded wisgo menyg untro sy’n ffitio’n dda pan—

(a)bo’r cleient yn gwaedu neu pan fo ganddo friw agored ar ran o’i gorff nad yw wedi ei gorchuddio,

(b)bo gan ddeiliad y drwydded friw agored, croen wedi torri neu haint ar y croen ar ei law, neu

(c)bo deiliad y drwydded yn trin a thrafod eitemau a allai fod wedi eu halogi â gwaed neu hylifau corfforol eraill.

4.  Pan ofynnir i ddeiliad y drwydded roi triniaeth aciwbigo i gleient mewn mangre neu gerbyd a ddefnyddir i unrhyw raddau gan y cleient hwnnw fel annedd, cyn rhoi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded—

(a)cynnal a chofnodi asesiad o’r lleoliad lle y mae’r driniaeth aciwbigo i’w rhoi, gan roi sylw dyladwy i unrhyw risgiau a allai achosi niwed i iechyd dynol,

(b)pan fo’r asesiad yn nodi unrhyw risg a allai achosi niwed i iechyd dynol, cymryd camau gweithredu priodol i liniaru’r niwed cyn rhoi’r driniaeth arbennig, ac

(c)cynnwys copi o’r asesiad yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient.

5.  Pan fo deiliad y drwydded yn rhoi triniaeth aciwbigo i gleient mewn mangre neu gerbyd a ddefnyddir i unrhyw raddau gan y cleient hwnnw fel annedd, os nodir risg o niwed i iechyd dynol wrth roi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded—

(a)dileu’r risg o niwed cyn parhau i roi’r driniaeth arbennig, neu

(b)os na ellir dileu’r risg o niwed, peidio â rhoi’r driniaeth arbennig.

Diffiniadau

6.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “rhan bersonol o’r corff” yw rhan o’r corff a restrir yn adran 96(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Rheoliad 7(4)

ATODLEN 5Amodau trwyddedu mandadol: tyllu’r corff

1.  Gwaherddir deiliad y drwydded rhag defnyddio sgalpel i dyllu’r corff.

2.  Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg wrth roi’r driniaeth arbennig. O ran y menyg a wisgir gan ddeiliad y drwydded, rhaid iddynt fod y rhai sy’n ffitio orau, sy’n cynnig y deheurwydd gorau ac sy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus, a rhaid iddynt gynnig rhwystr amddiffynnol da. Pan fo modd gwisgo menyg latecs, rhaid i’r menyg latecs fod yn rhai protein isel heb eu powdro. Os oes gan y cleient alergedd hysbys i latecs, rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg eraill addas nad ydynt yn cynnwys latecs.

3.  Rhaid tynnu menyg a’u gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu menyg, eu gwaredu a gwisgo rhai eraill yn eu lle pan fo egwyl yn ystod y cyfnod o amser pan roddir y driniaeth arbennig.

4.  Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo ffedog untro, dafladwy wrth roi’r driniaeth arbennig pan fo risg o halogiad gan waed neu hylifau corfforol (neu’r ddau). Rhaid tynnu’r ffedog a’i gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu’r ffedog, ei gwaredu a gwisgo un arall yn ei lle pan fydd egwyl wrth roi’r driniaeth arbennig.

5.  Rhaid i’r holl emwaith, gwrthrychau neu offerynnau a all ddod i gysylltiad â chroen neu bilen fwcaidd wrth dyllu’r corff, neu sy’n dod i gysylltiad agos â chroen wedi ei dyllu neu bilen fwcaidd wedi ei thyllu ar y cleient, gael eu prynu gan gyflenwyr sydd ag enw da a rhaid iddynt fod yn rhai untro a bod wedi eu sterileiddio.

6.  O ran unrhyw nodwydd, canwla, pwnsh biopsi, tapr, pin neu roden gysylltu, tiwb derbyn nodwydd, blanc nodwydd, neu unrhyw offeryn arall a ddefnyddir at ddiben gwneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd y cleient gyda golwg ar alluogi i emwaith neu unrhyw wrthrych gael ei atodi i gorff y cleient, ei fewnblannu yng nghorff y cleient neu ei dynnu o gorff y cleient, rhaid iddynt fod wedi eu prynu gan gyflenwr ag enw da, fod yn rhai untro a bod wedi eu sterileiddio.

7.  Rhaid i’r holl emwaith neu’r holl wrthrychau a ddefnyddir ar gyfer tyllu’r corff fod o radd addas, gan gynnwys dur gwrthstaen llawfeddygol, aur 9, 14 neu 18 carat, niobiwm, titaniwm, platinwm, neu blastig trwchus â mandylledd isel.

8.  Os oes angen marcio’r rhan o’r croen sydd i’w thyllu, rhaid defnyddio pin ysgrifennu dyfrsail untro neu farcwyr untro. Rhaid gwaredu’r teclyn neu’r pin ysgrifennu yn syth ar ôl ei ddefnyddio.

9.  Os yw deiliad y drwydded yn defnyddio system cetris ar gyfer tyllu’r corff—

(a)rhaid iddo ddefnyddio cetrisen ddi-haint,

(b)rhaid iddo ddefnyddio gemwaith neu wrthrychau wedi eu sterileiddio a gyflenwir mewn pecynwaith wedi ei selio sy’n dangos ar ba ran o’r corff y bwriedir iddynt gael eu defnyddio,

(c)rhaid iddo gynnal cofnodion i gadarnhau bod y getrisen ddi-haint a’r gemwaith neu’r gwrthrych sydd wedi ei sterileiddio yn gyflawn,

(d)mewn perthynas â thyllu clustiau a’r trwyn, rhaid iddo ddefnyddio cetris sydd wedi eu selio, cyn y dyddiad dod i ben, a rhaid iddynt fod mewn cyflwr da cyn cael eu defnyddio,

(e)rhaid iddo daflu unrhyw getris o becynnau sydd wedi eu difrodi neu sy’n cynnwys pothelli, ac ni chaiff ddefnyddio’r rhain,

(f)ni chaiff ail-lwytho cetrisen dafladwy a’i defnyddio ar gyfer gwneud amryw o dyllau, pa un ai ar yr un cleient ai peidio,

(g)rhaid iddo sicrhau bod offeryn tyllu y gellir ei ailddefnyddio yn cael ei lanhau ac yna ei ddiheintio a’i sterileiddio cyn ac ar ôl pob defnydd, ac

(h)ni chaiff ddefnyddio offerynnau tyllu y gellir eu hailddefnyddio ac eithrio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr (gan gynnwys y cyfarwyddiadau hynny ynghylch sut i lwytho a dadlwytho’r cetris).

Rheoliad 7(4)

ATODLEN 6Amodau trwyddedu mandadol: electrolysis

1.  Ni chaiff deiliad trwydded roi triniaeth electrolysis ar ran bersonol o gorff cleient o dan 18 oed.

2.  Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg wrth roi’r driniaeth arbennig. O ran y menyg a wisgir gan ddeiliad y drwydded, rhaid iddynt fod y rhai sy’n ffitio orau, sy’n cynnig y deheurwydd gorau ac sy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus, a rhaid iddynt gynnig rhwystr amddiffynnol da. Pan fo modd gwisgo menyg latecs, rhaid i’r menyg latecs fod yn rhai protein isel heb eu powdro. Os oes gan y cleient alergedd hysbys i latecs, rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg eraill addas nad ydynt yn cynnwys latecs.

3.  Rhaid tynnu menyg a’u gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu menyg, eu gwaredu a gwisgo rhai eraill yn eu lle pan fo egwyl yn ystod y cyfnod o amser pan roddir y driniaeth arbennig.

Diffiniadau

4.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “rhan bersonol o’r corff” yw rhan o’r corff a restrir yn adran 96(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Rheoliad 7(4)

ATODLEN 7Amodau trwyddedu mandadol: tatŵio

1.  Gwaherddir deiliad y drwydded rhag rhoi inc neu bigment ym mhelen llygad unrhyw unigolyn.

2.  Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg wrth roi’r driniaeth arbennig. O ran y menyg a wisgir gan ddeiliad y drwydded, rhaid iddynt fod y rhai sy’n ffitio orau, sy’n cynnig y deheurwydd gorau ac sy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus, a rhaid iddynt gynnig rhwystr amddiffynnol da. Pan fo modd gwisgo menyg latecs, rhaid i’r menyg latecs fod yn rhai protein isel heb eu powdro. Os oes gan y cleient alergedd hysbys i latecs, rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg eraill addas nad ydynt yn cynnwys latecs.

3.  Rhaid tynnu menyg a’u gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu menyg, eu gwaredu a gwisgo rhai eraill yn eu lle pan fo egwyl yn ystod y cyfnod o amser pan roddir y driniaeth arbennig.

4.  Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo ffedog untro, dafladwy wrth roi’r driniaeth arbennig. Rhaid tynnu’r ffedog a’i gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu’r ffedog, ei gwaredu a gwisgo un arall yn ei lle pan fydd egwyl wrth roi’r driniaeth arbennig.

5.  Rhaid i’r holl gynhyrchion a ddefnyddir yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig (er enghraifft, jeli petroliwm, jel iro a stensiliau tatŵio) fod yn rhai untro neu rhaid eu rhoi mewn daliedyddion glân, untro gan ddefnyddio offerynnau glân, untro.

6.  Rhaid labelu cynhyrchion a ddefnyddir yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig gyda’r dyddiad y cawsant eu hagor a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

7.  Rhaid i inciau a phigmentau fod wedi eu sterileiddio. Rhaid i unrhyw ddeunydd neu sylwedd a ychwanegir at yr inc neu’r pigment fod wedi ei sterileiddio hefyd.

8.  Rhaid rhoi inciau a phigmentau a ddefnyddir yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig mewn daliedyddion glân, untro neu rhaid iddynt fod wedi eu pacio ymlaen llaw mewn ffiolau untro, a rhaid eu defnyddio a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

9.  Dim ond dŵr di-haint y caniateir ei ddefnyddio i wanhau inciau a phigmentau ac i rinsio offerynnau a chyfarpar wrth roi triniaeth tatŵio.

10.  Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod cyfarpar sydd â cheudodau gwag ynddo, cyfarpar sydd wedi ei lapio neu ei amgáu mewn cydau, neu lwythi mân-dyllog, yn cael eu sterileiddio gan ddefnyddio awtoclaf gwactod priodol y bernir ei fod yn briodol at y diben hwnnw gan y gwneuthurwr.

11.  Rhaid cofnodi brand, cod lliw a chod swp pob inc neu bigment a ddefnyddir ar gleient yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient ar yr adeg y rhoddir y driniaeth arbennig.

(1)

Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn un o Asiantaethau Gweithredol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

(2)

Cod chwe digid yw Cod Catalog Gwastraff Ewropeaidd (“CGE”) a ddefnyddir i nodi gwastraff (gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus) fel y’i rhestrir yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd. Mae Cod CGE yn nodi (ymhlith pethau eraill) y rheolaethau sy’n gymwys i symud a rheoli’r gwastraff. Mae Cod CGE 20 01 99 yn ymwneud â gwastraff clinigol heintus a pheryglus fel y nodir ar dudalen 47, paragraff 4.99 o Femorandwm Technegol Iechyd Cymru. Gwelerhttps://nwssp.nhs.wales/ourservices/specialist-estates-services/specialist-estates-services-documents/whtms-library/whtm-07-01-safe-management-of-healthcare-waste-pdf/ (ar gael yn Saesneg yn unig).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources