- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
15.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.
(2) Rhaid iʼr canllaw—
(a)cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru fel y bo angen,
(b)bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,
(c)cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael gofal a chymorth, ac i’w rieni a’i ofalwyr,
(d)cael ei roi i unrhyw awdurdod lleoli, ac
(e)cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.
(3) Rhaid iʼr canllaw gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn;
(b)gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn, a rhieni a gofalwyr unigolion, yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.
16.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio a rhoi i’r unigolyn gytundeb ysgrifenedig sy’n nodi—
(a)y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu i’r unigolyn, a
(b)unrhyw wasanaethau eraill sydd i’w darparu i’r unigolyn.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copi o’r cytundeb—
(a)i riant neu ofalwr yr unigolyn, a
(b)i unrhyw awdurdod lleoli.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion, a rhieni a gofalwyr unigolion, yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y cytundeb.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: