- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
11 Ebrill 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Ebrill 2024
Yn dod i rym
8 Mai 2024
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Mai 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 13.
3. Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 9A, hepgorer y geiriau o “ac eithrio” hyd at y diwedd.
4. Yn rheoliad 17(3), ar ôl “reoliad 36” mewnosoder “neu 36A”.
5. Yn rheoliad 18(2)(d), yn lle “datgan” rhodder “mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024, ddatgan”.
6. Yn rheoliad 19(1), ar ôl “reoliad 31(4)” mewnosoder “neu 31ZA(4)”.
7.—(1) Yn rheoliad 24 (y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau), ar ôl “dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”.
(2) Yn rheoliad 24A (amodau cymhwyso i gael grant sylfaenol)—
(a)ar ôl “chwrs dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
(b)hepgorer “oni bai bod y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
(3) Yn rheoliad 26 (amodau cymhwyso i gael grant cyfrannu at gostau)—
(a)ar ôl “chwrs dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
(b)hepgorer “neu’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
8. Yn rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau)—
(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
(b)o flaen paragraff (1) mewnosoder—
“(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.”;
(c)ym mharagraff (1) hepgorer “nad yw’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
9. Ar ôl rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau) mewnosoder—
31ZA.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yw £18,950.
(3) Pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at gostau, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, a
(b)£18,950.
(4) Ac eithrio pan fo rheoliad 36A(6) a (7) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—
(a)nad yw cyfanred symiau’r benthyciad cyfrannu at gostau y gwneir cais amdanynt yn fwy na’r symiau cymwys a nodir ym mharagraffau (2) a (3);
(b)bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 18(2).”
10. Hepgorer rheoliad 31A.
11. Yn rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys)—
(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
(b)o flaen paragraff (1) mewnosoder—
“(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.”
12. Ar ôl rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys) mewnosoder—
36A.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael benthyciad cyfrannu at gostau yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)addasu taliad o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn y dyfodol neu daliadau yn y dyfodol o randaliadau’r benthyciad cyfrannu at gostau, fel nad yw cyfanswm y cymorth a geir gan y myfyriwr cymwys yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 31ZA(3), a
(b)gwneud unrhyw daliadau yn y dyfodol o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn unol â rheoliad 33(4).
(4) Mae paragraffau (5) i (7) yn gymwys pan fo carcharor cymwys sy’n cael benthyciad cyfrannu at gostau yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw daliadau o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn y dyfodol yn unol â rheoliad 33(2).
(6) Pan fo myfyriwr cymwys (“P”) yn peidio â bod yn garcharor cymwys caiff P, yn ddarostyngedig i baragraff (7), wneud cais i swm y benthyciad cyfrannu at gostau gael ei gynyddu.
(7) Cyfrifir yr uchafswm cynnydd ym menthyciad cyfrannu at gostau P y caiff P wneud cais amdano o dan baragraff (6) drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—
pan fo—
Q yn gyfwerth â £18,950;
F yn gyfwerth â swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae P yn cymhwyso i’w gael fel carcharor cymwys;
T yn gyfwerth â chyfanswm nifer y diwrnodau y mae’r cwrs dynodedig yn para;
R yn gyfwerth â nifer y diwrnodau o’r cwrs dynodedig sy’n weddill pan fydd P yn peidio â bod yn garcharor cymwys.”
13. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(1), hepgorer y diffiniad o “myfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
11 Ebrill 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2019 i ddarparu na fydd y grant sylfaenol na’r grant cyfrannu at gostau ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyrwyr o’r fath o dan Reoliadau 2019, sy’n cyfateb i gyfanswm y cymorth sy’n daladwy i garfanau blaenorol o fyfyrwyr.
Mae rheoliad 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Rheoliadau hyn i rym a’u cymhwyso.
Mae rheoliad 7 yn diwygio’r amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau er mwyn darparu na fydd myfyrwyr cymwys ond yn cymhwyso i gael cymorth o’r fath mewn perthynas â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.
Mae rheoliad 9 yn mewnosod rheoliad newydd 31ZA yn Rheoliadau 2019 i ddarparu ar gyfer swm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau cyrsiau dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu ac yn cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael.
Mae rheoliad 12 yn mewnosod rheoliad newydd 36A yn Rheoliadau 2019 i ddarparu ar gyfer yr effaith ar hawlogaeth myfyriwr cymwys i gael cymorth wrth iddo ddod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu a’r cynnydd yn uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau.
Mae rheoliadau 3, 7(2)(b) a (3)(b), 8(c), 10 a 13 yn hepgor darpariaethau diangen sy’n ymwneud â myfyrwyr gofal cymdeithasol ôl-raddedig. Mae swm y cymorth a roddir i fyfyrwyr o’r fath neu a delir iddynt o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn fwy nag uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyrwyr o’r fath o dan reoliad 31A o Reoliadau 2019. Mae rheoliad 31A a darpariaethau cysylltiedig eraill o’r herwydd yn ddiangen.
Mae rheoliadau 4 a 6 yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a wneir gan reoliadau 12 a 9 yn y drefn honno. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ddeilliadol i adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu. Mae rheoliadau 8 ac 11 yn datgymhwyso rheoliadau 31 ac 36 o Reoliadau 2019 yn y drefn honno mewn perthynas â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146(2)(a). Diwygiwyd adran 22(2)(i) gan Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 43(2). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1)(a) a (2)(b) ac (i) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44 o’r Ddeddf honno hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) ac (c) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2019/895 (Cy. 161); y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2021/73 (Cy. 19); O.S. 2022/403 (Cy. 100) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: