- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Mae’r Offeryn Statudol hwn, yn rhannol, yn cywiro gwallau yn Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497) (Cy. 114). Mae’n cael ei ddyroddi’n rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offerynnau Statudol hynny.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
8 Mai 2024
Yn dod i rym
9 Mai 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 7 o Atodlen 4 iddi(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024.
(2) Deuant i rym ar 9 Mai 2024.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol o bob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth yw—
(a)yn achos llwyth sy’n tarddu o Liechtenstein sy’n cynnwys unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion sy’n dod o fewn y tabl yn Atodlen 2B a hefyd o fewn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022(4), £5.25;
(b)yn achos llwyth nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo, sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir ac nad yw ond yn cynnwys planhigion neu gynhyrchion planhigion sydd i gyd yn dod o fewn y tabl yn Atodlen 2B, £0.15;
(c)mewn unrhyw achos arall, £5.25.” ;
(b)yn lle paragraff (2E) rhodder—
“(2E) Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag—
(a)unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a gyflwynir i Gymru drwy borthladd perthnasol cyn 31 Hydref 2024, neu
(b)unrhyw blanhigion a restrir yn y tabl yn Atodlen 2A i Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 a gynhwysir mewn unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a gyflwynir i Gymru cyn 31 Hydref 2024.
(2EA) Nid yw paragraff (2E) yn gymwys i unrhyw nwyddau—
(a)mewn llwyth sy’n tarddu o Liechtenstein, a
(b)sy’n dod o fewn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022.”
(c)ym mharagraff (2G), o flaen is-baragraff (a), yn lle “, y tabl ac Atodlen 2A” rhodder “a’r tabl”;
(d)ym mharagraff (3)—
(i)ar ôl is-baragraff (d), mewnosoder—
“(da)ystyr “porthladd perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o’r porthladdoedd môr a ganlyn—
(i)y Barri;
(ii)Caerdydd;
(iii)Abergwaun;
(iv)Caergybi;
(v)Casnewydd;
(vi)Doc Penfro;
(vii)Abertawe;
(viii)Port Talbot;” ;
(ii)hepgorer is-baragraff (g).
(3) Yn lle Atodlen 1 (ffioedd arolygu mewnforio), rhodder —
Rheoliad 3(2A) a (2C)
Colofn 1 Categori a disgrifiad o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall | Colofn 2 Gwlad tarddiad | Colofn 3 Ffi: Gwiriad ffisegol (£) | Colofn 4 Ffi: Gwiriad adnabod (£) | ||
---|---|---|---|---|---|
(1) Ystyr “a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol” yw y’i bwriedir, drwy dystiolaeth o’r pecyn, y label neu drwy ddulliau eraill, i’w gyflenwi yn uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol. | |||||
(2) Ystyr “planhigion prennaidd” yw planhigion sydd â choesyn prennaidd neu rannol brennaidd, ac mae’n cynnwys pob coeden, deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had), llwyni a phalmwydd, a’r gwinwydd a’r perlysiau lluosflwydd hynny sydd â choesynnau prennaidd neu rannol brennaidd; ac at y diben hwn mae “perlysiau lluosflwydd” yn golygu perlysiau y mae eu hoedran cyfartalog yn fwy na dwy flynedd. | |||||
(3) Ystyr “planhigion nad ydynt yn brennaidd” yw planhigion nad ydynt yn blanhigion prennaidd. | |||||
(4) Ystyr “planhigion dan do” yw planhigion yr ymddengys o’u pecyn, eu label neu drwy ddulliau eraill y’u bwriedir i’w cyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol i’w defnyddio o dan do neu i’w defnyddio mewn acwaria. | |||||
(5) Ystyr “trydydd gwledydd Ewropeaidd” yw Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Belarws, Bosnia-Herzegovina, Georgia, Gogledd Macedonia, Gwlad yr Iâ, Moldofa, Monaco, Montenegro, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky federalny okrug)), San Marino, Serbia, Twrci, Wcráin, yr Ynysoedd Dedwydd ac Ynysoedd Ffaro.” | |||||
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws), winwns, sialóts, garlleg, cennin a llysiau garllegaidd eraill, planhigion cwsg, nad ydynt mewn swbstrad | |||||
Pob genws a fwriedir ar gyfer plannu, ac eithrio cynhyrchu blodau masnachol, ac nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol (1) | Unrhyw drydedd wlad | 205.04 | 5.25 | ||
Pob genws a fwriedir ar gyfer plannu, ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu blodau masnachol, neu ar gyfer defnyddwyr terfynol | Unrhyw drydedd wlad | 20.50 | 0.52 | ||
Toriadau, eginblanhigion a fwriedir ar gyfer plannu, nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | |||||
Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Planhigion ar gyfer plannu | |||||
Planhigion prennaidd (2) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu ac a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol (1) . Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Planhigion nad ydynt yn brennaidd (3) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu. Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Planhigion dan do (4) . Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Planhigion eraill (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu. Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Blodau wedi eu torri | |||||
Dendranthema (DC.) Des Moul. (Chrysanthemum L.) | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.28 | 0.15 | ||
Colombia neu Ecuador | 21.37 | 2.62 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.13 | 0.26 | |||
Eryngium Tournier ex Linnaeus. | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, trydedd wlad Ewropeaidd, Liechtenstein neu’r Swistir | 4.27 | 0.52 | ||
Lisianthus L | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, trydedd wlad Ewropeaidd, Liechtenstein neu’r Swistir | 4.27 | 0.52 | ||
Rosa L. | Colombia neu Ecuador | 1.28 | 0.15 | ||
Canada, India, Mecsico neu UDA | 21.37 | 2.62 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Canada, Colombia, Ecuador, India, Liechtenstein, Mecsico, y Swistir neu UDA | 2.13 | 0.26 | |||
Solidago L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.28 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 4.27 | 0.52 | |||
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.28 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.13 | 0.26 | |||
Canghennau â deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri) | |||||
Pob genws | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.01 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.69 | 0.26 | |||
Ffrwythau, llysiau, dail | |||||
Momordica L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 26.55 | 2.62 | |||
Ocimum L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.15 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 35.84 | 2.62 | |||
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L. Solanum lycopersicum L, Solanum melongena L. a Capsicum sp.) | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 26.55 | 2.62 | |||
Solanum lycopersicum L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Morocco | 2.65 | 0.26 | |||
Yr Ynysoedd Dedwydd | 13.27 | 1.31 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ynysoedd Dedwydd, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Morocco neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Solanum melongena L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Twrci | 15.93 | 1.57 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, y Swistir neu Dwrci | 26.55 | 2.62 | |||
Capsicum | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Zea mays | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Ipomoea batatas | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Cameroon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Cameroon | 53.10 | 5.25 | |||
Persea americana | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Vitis | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Malus | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Trydydd gwledydd Ewropeaidd (5) | 7.96 | 0.78 | |||
Yr Ariannin | 18.58 | 1.83 | |||
Chile | 2.65 | 0.26 | |||
Seland Newydd | 5.31 | 0.52 | |||
De Affrica | 7.96 | 0.78 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Seland Newydd, De Affrica, y Swistir neu drydydd gwledydd Ewropeaidd (5) | 53.10 | 5.25 | |||
Pyrus | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Yr Ariannin | 13.27 | 1.31 | |||
Chile | 7.96 | 0.78 | |||
De Affrica | 5.31 | 0.52 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, De Affrica neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Fragaria | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Rubus | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Vaccinium | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Trydydd gwledydd Ewropeaidd (5) | 26.55 | 2.62 | |||
Yr Ariannin | 13.27 | 1.31 | |||
Chile | 5.31 | 0.52 | |||
Periw | 5.31 | 0.52 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Periw, y Swistir neu Drydydd Gwledydd Ewropeaidd (5) | 53.10 | 5.25 | |||
Zingiber officinale | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Cameroon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Cameroon | 53.10 | 5.25 | |||
Asparagus officinalis | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.15 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 3.58 | 0.26 | |||
Hadau (ar gyfer hau), meithriniad meinwe | |||||
Pob genws, ar gyfer treialon neu brofi | Unrhyw drydedd wlad | 12.81 | 0.52 | ||
Brassicaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay | 128.13 | 5.25 | ||
Capsicum spp. L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Unrhyw drydedd wlad | 128.13 | 5.25 | ||
Poaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay | 128.13 | 5.25 | ||
Solanum lycopersicum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Unrhyw drydedd wlad | 128.13 | 5.25 | ||
Solanum tuberosum L. (Gwir had) (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Unrhyw drydedd wlad | 128.13 | 5.25 | ||
Trifolium spp. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay | 128.13 | 5.25 | ||
Genera neu rywogaethau eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | Unrhyw drydedd wlad | 6.40 | 0.26 | ||
Grawn (ac eithrio hadau ar gyfer hau) | |||||
Secale L. | Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA | 142.98 | 5.25 | ||
Triticum L. | Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA | 142.98 | 5.25 | ||
X Triticosecale Wittm. ex A. Camus | Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA | 142.98 | 5.25 | ||
Cloron tatws | |||||
Solanum tuberosum L. (tatws hadyd) | Unrhyw drydedd wlad | 156.69 | 5.25 | ||
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) | Yr Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania | 78.34 | 2.62 | ||
Sbaen | 156.69 | 5.25 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu Sbaen | 4.70 | 0.15 | |||
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder) | |||||
Pob genws | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 3.58 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 5.98 | 0.26 | |||
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth | Unrhyw drydedd wlad | 5.98 | 0.26 |
(4) Hepgorer Atodlen 2A (rhestr o blanhigion a chynhyrchion planhigion sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir sy’n ddarostyngedig i ffioedd ar gyfer gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol).
(5) O flaen Atodlen 3, mewnosoder—
Rheoliad 3(2)(a) a (b)
Categori a disgrifiad o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn |
---|
Blodau wedi eu Torri |
Dendranthema (DC.) Des Moul. ( Chrysanthemum L.) |
Rosa L. |
Solidago L. |
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwysmewn lle arall yn y tabl hwn |
Canghennau â deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri) |
Pob genws |
Ffrwythau, llysiau, dail |
Momordica L. |
Ocimum L. |
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L.) |
Solanum melongena L. |
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn |
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn |
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder) |
Pob genws” |
3. Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(5), yn y tabl yn Atodlen 1 (ffioedd am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad pasbort planhigion), yn rhes gyntaf y golofn gyntaf (math o arolygiad), yn lle “Arolygiad ffisegol” rhodder “Arolygiad”.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019.
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r ffioedd am wiriadau dogfennol sy’n ymwneud â phlanhigion penodol, cynhyrchion planhigion penodol neu wrthrychau eraill penodol sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir. Mae hefyd yn darparu nad yw ffi yn daladwy am wiriadau ffisegol na gwiriadau adnabod sy’n ymwneud â nwyddau penodol o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein a’r Swistir ac yn darparu eithriadau i’r rheol honno.
Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod tabl o blanhigion penodol, cynhyrchion planhigion penodol a gwrthrychau eraill penodol y mae’r ffioedd a ddiwygir gan reoliad 2(2) yn ymwneud â hwy. Mae’r tabl yn diweddaru ac yn cywiro’r ffioedd arolygu mewnforio ar gyfer Solanum lycopersicum o Morocco a’r Ynysoedd Dedwydd.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019. Mae paragraff (2) yn cywiro’r math o arolygiad y gellir codi ffi amdano o dan y Rheoliadau hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
2018 p. 16, gweler paragraff 8 o Atodlen 4 am ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“Deddf 2018”) gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”) a pharagraff 47(5) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf 2020 a pharagraff 53(2) o Atodlen 5 iddi.
Mae paragraff 1(8) o Atodlen 7 yn gymwys i reoliadau o dan Atodlen 4 yn rhinwedd paragraff 12(3) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018. Mae’r cyfeiriadau yn Neddf 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2018/1179 (Cy. 238), a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/804 (Cy. 180); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2022/739, a ddiwygiwyd gan O.S. 2023/959.
O.S. 2019/497 (Cy. 114); a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/838 (Cy. 195). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: