Search Legislation

Rheoliadau Tenantiaethau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau) (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 797 (Cy. 126)

Landlord A Thenant, Cymru

Rheoliadau Tenantiaethau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau) (Cymru) 2024

Gwnaed

16 Gorffennaf 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

18 Gorffennaf 2024

Yn dod i rym

8 Awst 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 8A(7) o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Rhagarweiniol

Teitl a dod i rym

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau) (Cymru) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Awst 2024.

RHAN 2Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cymorth ariannol perthnasol” (“relevant financial support”) yw cymorth ariannol o dan—

(a)

adran 8 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth),

(b)

cynllun oʼr fath a grybwyllir yn adran 9(7) o Ddeddf 2023 (ystyr “cynllun trydydd parti” at ddibenion pŵer i ddarparu cymorth),

(c)

cynllun y taliad sylfaenol, fel yʼi diffinnir yn adran 16 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol),

(d)

deddfwriaeth syʼn ymwneud ag ariannu, rheoli a monitroʼr polisi amaethyddol cyffredin, fel yʼi diffinnir yn adran 17 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn ymwneud âʼr polisi amaethyddol cyffredin),

(e)

deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth, fel yʼi diffinnir yn adran 18 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth),

(f)

deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig, fel yʼi diffinnir yn adran 19 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig),

(g)

adran 22 o Ddeddf 2023 (pwerau Gweinidogion Cymru i roi cynhorthwy ariannol pan fo amodau eithriadol yn y farchnad);

mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn adran 38 o Ddeddf 1995;

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995;

ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023(2);

ystyr “dyletswydd statudol” (“statutory duty”) yw dyletswydd a osodir gan neu o dan—

(a)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,

(b)

Deddf gan Senedd Cymru neu Fesur gan y Cynulliad, neu

(c)

deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir;

mae i “landlord” yr ystyr a roddir i “landlord” yn adran 38 o Ddeddf 1995;

mae i “tenant” yr ystyr a roddir i “tenant” yn adran 38 o Ddeddf 1995;

mae i “tenantiaeth” yr ystyr a roddir i “tenancy” yn adran 38 o Ddeddf 1995;

mae i “tenantiaeth busnes fferm” yr ystyr a roddir i “farm business tenancy” yn adran 1 o Ddeddf 1995.

Cais am gydsyniad y landlord neu amrywio telerau

3.—(1Caiff tenant tenantiaeth busnes fferm atgyfeirio cais cymwys i’w gymrodeddu o dan Ddeddf 1995.

(2Yn y Rhan hon, cais cymwys yw cais syʼn bodloniʼr amodau a ganlyn—

(a)maeʼn cais am—

(i)cydsyniad y landlord i fater y mae cydsyniad oʼr fath yn ofynnol ar ei gyfer o dan delerauʼr denantiaeth, neu

(ii)amrywiad i delerauʼr denantiaeth;

(b)maeʼn cael ei wneud at ddibenion—

(i)galluogi tenant i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath, neu

(ii)cydymffurfio â dyletswydd statudol syʼn gymwys iʼr tenant;

(c)ni ddaethpwyd i gytundeb âʼr landlord ar y cais.

(3Ni chaniateir atgyfeirio cais cymwys i’w gymrodeddu o dan baragraff (1) oni bai bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)rhaid iʼr tenant fod wedi talu unrhyw rent syʼn ddyledus o dan y denantiaeth y maeʼr cais yn ymwneud â hi yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb ysgrifenedig rhwng y landlord aʼr tenant iʼr gwrthwyneb;

(b)rhaid iʼr tenant fod wedi codiʼr cais gydaʼr landlord mewn ysgrifen;

(c)ni chaiff y denantiaeth fod yn destun hysbysiad ymadael dilys o dan adrannau 5 i 7 o Ddeddf 1995 na ellir ei herio gan y tenant mwyach o dan ddarpariaethauʼr Ddeddf honno.

(4I wneud atgyfeiriad am gymrodeddu mewn cysylltiad â chais yn unol âʼr rheoliad hwn, rhaid iʼr tenant gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig iʼr landlord, ar ben yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (3)(b), yn gofyn am gydsyniad y landlord i fater y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer o dan delerauʼr denantiaeth neu i amrywiad i delerauʼr denantiaeth.

(5Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (4) gynnwys y canlynol—

(a)manylion y cais syʼn cael ei wneud o dan baragraff (1);

(b)datganiad ynghylch at ba un neu ragor oʼr dibenion a ganlyn y maeʼr cais yn cael ei wneud—

(i)galluogi tenant i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath;

(ii)cydymffurfio â dyletswydd statudol syʼn gymwys iʼr tenant;

(c)pan foʼr cais yn gais am amrywiad i delerauʼr denantiaeth—

(i)telerau newydd arfaethedig y denantiaeth, a

(ii)prawf bod yr amrywiad i delerauʼr denantiaeth y gofynnir amdano yn cynrychioliʼr newid lleiaf syʼn rhesymol angenrheidiol i alluogiʼr tenant i ofyn am y cymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am y cymorth hwnnw neu i gyflawniʼr ddyletswydd statudol;

(d)pan foʼr cais yn cael ei wneud er mwyn cael mynediad at gymorth ariannol perthnasol—

(i)disgrifiad oʼr gweithgareddau y cynigir eu cynnal ar y daliad os caniateir y cais ac os yw unrhyw gais am gymorth ariannol perthnasol yn llwyddiannus, a

(ii)tystiolaeth i gefnogi disgwyliad rhesymol y bydd y tenant yn gymwys i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath os caniateir y cais;

(e)datganiad bod darpariaethau yn y Rheoliadau hyn y caniateir atgyfeirio ceisiadau odanynt i’w cymrodeddu os na fydd cytundeb.

(6Caiff y cymrodeddwr a benodir addasu hysbysiad y tenant wedyn o dan baragraff (4) os ywʼn angenrheidiol gwneud hynny, ac os oes cyfiawnhad dros wneud hynny, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol.

(7O fewn y cyfnod o 2 fis ar ôl iʼr tenant roi hysbysiad syʼn bodloniʼr gofynion ym mharagraff (5), caiff y landlord gyflwyno gwrth-hysbysiad sydd—

(a)yn cydsynio iʼr cais,

(b)yn cydsynio iʼr cais yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn y gwrth-hysbysiad, neu

(c)yn gwrthod y cais.

(8Caiff y tenant atgyfeirioʼr cais i’w gymrodeddu o fewn y cyfnod o 2 fis ar ôl i hysbysiad y tenant gael ei gyflwyno—

(a)os nad ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad;

(b)os ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad syʼn cydsynio iʼr cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt yn dderbyniol iʼr tenant;

(c)os ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad yn gwrthod y cais.

Dyfarniadau neu benderfyniadau gan y cymrodeddwr

4.—(1Pan wneir atgyfeiriad at gymrodeddwr i benderfynu cais yn unol â rheoliad 3, caiff y cymrodeddwr orchymyn iʼr landlord gydymffurfio âʼr cais (naill ai yn llawn neu iʼr graddau a bennir yn y dyfarniad neuʼr penderfyniad) neu wneud unrhyw ddyfarniad arall neu unrhyw benderfyniad arall y maeʼr cymrodeddwr yn ystyried ei fod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant.

(2Fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1), caiff y cymrodeddwr gynnwys unrhyw ddyfarniadau neu unrhyw benderfyniadau y maeʼn ystyried eu bod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant mewn cysylltiad ag—

(a)talu costau;

(b)pan wneir cais at ddibenion galluogiʼr tenant i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath, amodau syʼn ymwneud â gwneud cais llwyddiannus;

(c)amodau syʼn cyfyngu ar allu tenant i wneud unrhyw atgyfeiriad dilynol am gymrodeddu o dan y Rhan hon mewn cysylltiad âʼr un cais ac mewn perthynas âʼr un denantiaeth;

(d)amodau syʼn ymwneud â materion eraill gan gynnwys yr adeg y maeʼr dyfarniad yn cymryd effaith.

(3Ni chaiff y cymrodeddwr wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad syʼn cynnwys amrywiad i rent y daliad fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).

(4Ni chaiff y cymrodeddwr wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigollediad syʼn daladwy iʼr landlord neuʼr tenant fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).

(5Mae dyfarniad neu benderfyniad gan gymrodeddwr o dan y Rhan hon yn cael effaith fel pe baiʼr telerau aʼr darpariaethau a bennir ac a wneir yn y dyfarniad neuʼr penderfyniad wedi eu cynnwys mewn cytundeb ysgrifenedig yr ymrwymwyd iddo gan y landlord aʼr tenant ac syʼn cael effaith (drwy amrywioʼr cytundeb a oedd mewn grym yn flaenorol mewn cysylltiad âʼr denantiaeth) fel o’r adeg y gwnaed y dyfarniad neuʼr penderfyniad neu, os ywʼr dyfarniad neuʼr penderfyniad yn darparu hynny, o unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir.

RHAN 3Adolygiad

Adolygiad

5.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd iʼw gilydd—

(a)cynnal adolygiad oʼr Rheoliadau hyn,

(b)nodi casgliadauʼr adolygiad mewn adroddiad, ac

(c)cyhoeddi’r adroddiad.

(2Rhaid iʼr adroddiad cyntaf o dan y rheoliad hwn gael ei gyhoeddi cyn 13 Mehefin 2031.

(3Rhaid i adroddiadau dilynol o dan y rheoliad hwn gael eu cyhoeddi ar ysbeidiau heb fod yn hwy na phum mlynedd.

Huw Irranca-Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

16 Gorffennaf 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch datrys anghydfodau mewn perthynas â chydsyniad y landlord ac amrywiadau i delerau contract tenantiaeth ar gyfer tenantiaeth busnes fferm o dan Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8) (“Deddf 1995”).

Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol.

Mae Rhan 2 yn darparu i denant atgyfeirio cais i’w gymrodeddu pan fo cydsyniad y landlord neu amrywiad i delerau contract tenantiaeth ar gyfer tenantiaeth busnes fferm o dan Ddeddf 1995 yn ofynnol naill ai i alluogi tenant i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth o’r fath o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (dsc 4) fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 neu er mwyn cyflawni dyletswydd statudol.

Mae rheoliad 3 yn nodi cwmpas y ceisiadau y caniateir eu gwneud o dan y Rhan hon, y gofynion y mae rhaid eu bodloni cyn y gellir gwneud cais a’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad ffurfiol i’r landlord fod cais am gymrodeddu yn cael ei wneud.

Mae rheoliad 4 yn darparu y caiff cymrodeddwr, wrth ystyried cais, orchymyn i’r landlord gydymffurfio â’r cais, yn llawn neu’n rhannol, neu wneud unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad y mae’n ystyried ei fod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord a’r tenant.

Mae rheoliad 4(5) yn darparu bod unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad yn cymryd effaith fel pe bai’r telerau a’r darpariaethau ynddo wedi eu cynnwys mewn cytundeb ysgrifenedig yr ymrwymwyd iddo gan y landlord a’r tenant drwy amrywio’r cytundeb a oedd ar waith yn flaenorol mewn cysylltiad â’r denantiaeth o’r adeg y gwnaed y dyfarniad neu’r penderfyniad neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach penodedig.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer adolygiad o’r Rheoliadau hyn erbyn 13 Mehefin 2031 ac ar ysbeidiau heb fod yn hwy na 5 mlynedd wedi hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources