Search Legislation

Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd sy’n ymwneud â marchnata gwin ac arferion gwinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu a chadw cynhyrchion gwin. Maent yn gymwys yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Erthygl 53 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 dyddiedig 17 Hydref 2018 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad (EUR 2019/33) (“Rheoliad (EU) 2019/33”). Mae’r diwygiad yn mewnosod darpariaeth yn Rheoliad (EU) 2019/33 sy’n gwahardd marchnata cynnyrch gan ddefnyddio’r term “gwin ia” (boed yn Gymraeg neu mewn iaith wahanol) a thermau tebyg (boed yn Gymraeg neu mewn iaith wahanol), onid yw’r cynnyrch yn win sydd wedi ei wneud yn gyfan gwbl o rawnwin sydd wedi rhewi’n naturiol ar y winwydden (rheoliad 2).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934 dyddiedig 12 Mawrth 2019 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ardaloedd tyfu gwin lle y caniateir cynyddu’r cryfder alcoholaidd, arferion gwinyddol awdurdodedig a chyfyngiadau sy’n gymwys i gynhyrchu a chadw cynhyrchion gwinwydd, isafswm y ganran o alcohol ar gyfer sgil-gynhyrchion a’u gwaredu, a chyhoeddi ffeiliau OIV (EUR 2019/934) (“Rheoliad (EU) 2019/934”) (rheoliad 3 a’r Atodlen).

Mae Rheoliad (EU) 2019/934 yn awdurdodi arferion gwinyddol penodedig. Mae’n ategu Erthygl 80(1) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (EUR 2013/1308) (“Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013”). Mae Erthygl 80(1) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 yn gwahardd y defnydd o arferion gwinyddol anawdurdodedig wrth gynhyrchu a chadw gwin a chynhyrchion gwin eraill. Mae’r diwygiadau a wneir i Reoliad (EU) 2019/937 gan yr offeryn hwn yn gwneud newidiadau i’r arferion gwinyddol y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu a chadw gwin a chynhyrchion gwin eraill.

Mae Rheoliadau 10, 11 a 12 o Reoliadau Gwin 2011 (O.S. 2011/2936) (“Rheoliadau 2011”) yn galluogi cyflwyno hysbysiadau rhybudd, hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau gwahardd pan gredir bod Rheoliadau’r UE a ddargedwir, fel y diffinnir “the retained EU Regulations” yn y Rheoliadau hynny, wedi eu torri. Bydd y darpariaethau hysbysu hynny yn gymwys mewn perthynas â thorri’r gwaharddiad gwin iâ etc. newydd yn Erthygl 53 o Reoliad (EU) 2019/33. Maent hefyd yn gymwys mewn perthynas â thorri Erthygl 80(1) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 pan ddefnyddir arfer winyddol anawdurdodedig i gynhyrchu neu i gadw gwin neu gynnyrch gwin arall.

Mae methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi neu wahardd a gyflwynir o dan Reoliadau 2011 yn drosedd o dan reoliad 14(2)(a) o’r Rheoliadau hynny. Mae methiant i gydymffurfio â darpariaeth o Reoliadau’r UE a ddargedwir ar ôl cael hysbysiad rhybudd a gyflwynir o dan Reoliadau 2011 yn drosedd o dan reoliad 14(2)(b) o Reoliadau 2011.

Mae copi electronig o rifyn 2023 o’r Cod Rhyngwladol ar Arferion Gwinyddol (ISBN 978-2-85038-071-6) ar gael ar:

https://www.oiv.int/sites/default/files/publication/2023-04/CPO complet EN 2023.pdf

Mae copi electronig o rifyn 2023 o’r Codecs Gwinyddol Rhyngwladol (ISBN 978-2-85038-063-1) ar gael ar:

https://www.oiv.int/sites/default/files/publication/2023-04/CODEX complet 2023 EN.pdf

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources