Datgymhwyso ac addasu: ceisiadau gan awdurdod cynllunio i ddymchwel adeilad rhestredig
19.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gais gan awdurdod cynllunio—
(a)am gydsyniad adeilad rhestredig i ddymchwel adeilad rhestredig;
(b)i amrywio neu ddileu amodau cydsyniad adeilad rhestredig i ddymchwel adeilad rhestredig.
(2) Rhaid i gais gael ei wneud i Weinidogion Cymru (gweler adran 90(1)(a) o Ddeddf 2023).
(3) Mae penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais yn derfynol.
(4) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)mae rheoliad 3 (gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig) i’w ddarllen fel pe bai—
(i)paragraff (1) yn cynnwys gofyniad i’r cais ddod gydag unrhyw sylwadau a geir cyn i’r ddau gyfnod yn rheoliad12(2)(a) ddod i ben;
(ii)ym mharagraff (3), y geiriau “os yw Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “os yw’r awdurdod cynllunio y gwneir y cais iddo”;
(b)mae rheoliad 7 (cydnabod cais am gydsyniad adeilad rhestredig) i’w ddarllen fel pe bai—
(i)ym mharagraff (1), y geiriau “Pan fo Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “Pan fo’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal”;
(ii)ym mharagraff 7(4), y geiriau “Os yw Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “Os yw’r awdurdod cynllunio”;
(iii)pob cyfeiriad arall at awdurdod cynllunio yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru;
(c)mae rheoliad 8 (hysbysebu ceisiadau) i’w ddarllen fel pe bai paragraff (1) o’r rheoliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio gydymffurfio â pharagraffau (3) a (4) cyn i’r awdurdod cynllunio anfon cais am gydsyniad adeilad rhestredig at Weinidogion Cymru;
(d)mae rheoliad 9 (hysbysu’r cymdeithasau amwynder etc.) i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (1), y gair “gwneud” wedi ei roi yn lle “cael”;
(e)mae rheoliad 12 (penderfyniad ar gais) i’w ddarllen fel pe bai—
(i)ym mharagraff (1), y cyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru;
(ii)ym mharagraff (2)—
(aa)yn is-baragraff (a), y geiriau “ni chaiff anfon” wedi eu rhoi yn lle “ni chaiff benderfynu”;
(bb)y ddyletswydd yn is-baragraff (b) yn ddyletswydd ar Weinidogion Cymru ac nid ar yr awdurdod cynllunio;
(f)mae rheoliad 15 (cais i amrywio neu ddileu amodau) i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (1), y cyfeiriad at reoliadau “3 i 14” yn gyfeiriad at reoliadau “3 i 9, 12 a 14”;
(g)nid yw rheoliad 16 (apelau) yn gymwys.