Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 416 (Cy. 135)

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

Gwnaed

24 Mawrth 2021

Yn dod i rym

10 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 13(2), (7), (8) a (10) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(2), a Rhannau 1 a 3 o Atodlen 1 iddi.

Yn unol ag adran 13(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr ymddengys iddynt hwy eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy fel yr oeddent yn ystyried ei bod yn briodol.

Yn unol ag adran 61(2) o’r Ddeddf honno(3), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

PART 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 10 Medi 2021.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac eithrio paragraff 2 o Atodlen 5 sy’n gymwys o ran Cymru a Lloegr.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amod cyffredinol” (“general condition”) yw’r amodau a nodir yn Atodlen 2;

ystyr “amodau penodol perthnasol” (“relevant specific conditions”) mewn perthynas â’r gweithgaredd o werthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes (neu gyda’r bwriad o’u hailwerthu’n ddiweddarach fel anifeiliaid anwes) fel a ddisgrifir ym mharagraff 2 o Atodlen 1, yw’r amodau a nodir yn Atodlen 3;

ystyr “amodau trwydded” (“licence conditions”) yw—

(a)

yr amodau cyffredinol, a

(b)

yr amodau penodol perthnasol;

ystyr “anifail anwes” (“pet”) yw anifail a gedwir yn bennaf neu’n barhaol, neu y bwriedir ei gadw’n bennaf neu’n barhaol, gan berson ar gyfer—

(a)

diddordeb personol,

(b)

cwmnïaeth,

(c)

dibenion addurnol, neu

(d)

unrhyw gyfuniad o baragraffau (a) i (c);

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “cath fach” (kitten”) yw cath sy’n iau na 6 mis oed;

ystyr “ci bach” (“puppy”) yw ci sy’n iau na 6 mis oed;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006;

ystyr “gweithgaredd trwyddedadwy” (“licensable activity”) yw gweithgaredd a ddisgrifir ym mharagraff 2 o Atodlen 1;

ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw unigolyn—

(a)

sy’n cynnal y gweithgaredd trwyddedadwy, sy’n ceisio cynnal y gweithgaredd trwyddedadwy, neu sy’n caniatáu yn fwriadol i’r gweithgaredd trwyddedadwy gael ei gynnal, neu

(b)

pan fo trwydded wedi ei rhoi neu ei hadnewyddu, sy’n ddeiliad y drwydded;

ystyr “ci llawndwf” (“adult dog”) yw ci nad ydyw’n iau na 6 mis oed;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrir yn y gofrestr milfeddygon neu yn y gofrestr filfeddygol atodol, a gedwir o dan Ddeddf Milfeddygon 1996(4);

ystyr “trwydded” (“licence”), ac eithrio fel y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall yn rheoliad 10(1)(b) neu pan ddarperir yr ystyr yn fwy penodol, yw trwydded i gynnal gweithgaredd trwyddedadwy a roddir neu a adnewyddir o dan y Rheoliadau hyn, ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.

Trwyddedu gweithredwyr

3.—(1Mae pob gweithgaredd trwyddedadwy yn weithgaredd penodedig at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf.

(2Yr awdurdod lleol yw’r awdurdod trwyddedu ar gyfer unrhyw weithgaredd trwyddedadwy a gynhelir mewn mangre yn ei ardal.

RHAN 2Rhoi, adnewyddu ac amrywio trwydded â chydsyniad ac arolygu mangre

Amodau rhoi neu adnewyddu trwydded

4.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo awdurdod lleol wedi cael cais ysgrifenedig oddi wrth weithredwr i roi neu adnewyddu trwydded i gynnal gweithgaredd trwyddedadwy ar fangre yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)pan fo’r cais yn rhoi’r wybodaeth honno sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)penodi un neu ragor o arolygwyr sy’n meddu ar gymwysterau addas i arolygu unrhyw fangre y mae’r gweithgaredd trwyddedadwy, neu unrhyw ran ohono, yn cael ei gynnal neu i’w gynnal arni, a

(b)yn dilyn yr arolygiad hwnnw, roi trwydded i’r gweithredwr, neu adnewyddu trwydded y gweithredwr, yn unol â’r cais, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)y caiff amodau’r drwydded eu bodloni,

(ii)bod unrhyw ffi briodol wedi ei thalu yn unol â rheoliad 12, a

(iii)bod rhoi neu adnewyddu’r drwydded yn briodol ar ôl ystyried yr adroddiad a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 9.

(3Rhaid i awdurdod lleol atodi i bob trwydded a roddir neu a adnewyddir—

(a)yr amodau cyffredinol, a

(b)yr amodau penodol perthnasol.

(4Wrth ystyried pa un a gaiff amodau’r drwydded eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol ystyried ymddygiad y ceisydd fel gweithredwr y gweithgaredd trwyddedadwy y mae’r cais am roi neu adnewyddu trwydded yn ymwneud ag ef, pa un a yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn weithredwr y gweithgaredd hwnnw ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.

(5Ni chaniateir i awdurdod lleol roi trwydded i weithredwr, neu adnewyddu trwydded gweithredwr, o dan unrhyw amgylchiadau ac eithrio’r rhai a ddisgrifir yn y Rheoliadau hyn.

(6Mae pob trwydded a roddir neu a adnewyddir mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau trwyddedadwy hyn yn ddarostyngedig i amodau’r drwydded.

Cyfnod trwydded

5.  Caiff awdurdod lleol roi neu adnewyddu trwydded am unrhyw gyfnod hyd at 1 flwyddyn.

Pŵer i gymryd samplau o anifeiliaid

6.  Caiff arolygydd, at ddibenion sicrhau y cydymffurfir ag amodau’r drwydded, gymryd samplau ar gyfer profion labordy o unrhyw anifeiliaid ar fangre a feddiennir gan weithredwr.

Dyletswydd i gynorthwyo o ran cymryd samplau o anifeiliaid

7.  Rhaid i weithredwr gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan arolygydd i hwyluso adnabod ac archwilio anifail a chymryd samplau yn unol â rheoliad 6 ac, yn benodol, rhaid iddo drefnu i anifail gael ei atal mewn ffordd addas os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd.

Amrywio neu ddirymu trwydded ar gais deiliad trwydded, neu â chydsyniad deiliad trwydded

8.  Caiff awdurdod lleol ar unrhyw adeg amrywio neu ddirymu trwydded—

(a)ar gais ysgrifenedig deiliad y drwydded, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun, gyda chydsyniad ysgrifenedig deiliad y drwydded.

Adroddiad yr arolygydd

9.—(1Pan fo awdurdod lleol yn trefnu arolygiad yn unol â rheoliad 4(2)(a), rhaid iddo drefnu i’r arolygydd gyflwyno adroddiad iddo.

(2Rhaid i adroddiad yr arolygydd—

(a)cynnwys gwybodaeth am y gweithredwr, unrhyw fangre berthnasol, unrhyw gofnodion perthnasol, cyflwr unrhyw anifeiliaid, ac unrhyw faterion perthnasol eraill, a

(b)datgan pa un a yw’r arolygydd yn ystyried y caiff amodau’r drwydded eu bodloni ai peidio.

Personau na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded

10.—(1Ni chaniateir i’r personau a ganlyn wneud cais am drwydded mewn cysylltiad ag unrhyw weithgaredd trwyddedadwy—

(a)person a restrir yn berson anghymwys ym mharagraffau 2 i 8 o Atodlen 4 pan fo’r terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl yn erbyn yr anghymwyso hwnnw wedi dod i ben neu, os cyflwynwyd apêl, pan fo’r apêl honno wedi ei gwrthod;

(b)person a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 4 yn berson a oedd yn ddeiliad trwydded a ddirymwyd pan fo’r terfyn amser ar gyfer unrhyw apêl yn erbyn y dirymu hwnnw wedi dod i ben neu, os cyflwynwyd apêl, pan fo’r apêl honno wedi ei gwrthod.

(2Mae unrhyw drwydded a roddir neu a adnewyddir, neu a ddelir, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) wedi ei dirymu yn awtomatig.

Marwolaeth deiliad trwydded

11.—(1Os bydd deiliad trwydded yn marw, bernir bod y drwydded wedi ei rhoi i gynrychiolwyr personol y deiliad trwydded blaenorol hwnnw, neu wedi ei hadnewyddu mewn cysylltiad â chynrychiolwyr personol y deiliad trwydded blaenorol hwnnw.

(2O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1), mae’r drwydded i barhau mewn grym am 3 mis gan ddechrau â dyddiad marwolaeth deiliad blaenorol y drwydded neu am ba hyd bynnag yr oedd i barhau mewn grym oni bai am y farwolaeth (pa gyfnod bynnag yw’r byrraf) ond mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn Rhan 2.

(3Rhaid i’r cynrychiolwyr personol hysbysu yn ysgrifenedig yr awdurdod lleol a roddodd neu a adnewyddodd y drwydded mai hwy yw deiliaid y drwydded bellach o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad marwolaeth deiliad blaenorol y drwydded.

(4Os yw’r cynrychiolwyr personol yn methu â hysbysu’r awdurdod lleol yn unol â hynny o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3), bydd y drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben.

(5Caiff yr awdurdod lleol a roddodd neu a adnewyddodd y drwydded, ar gais y cynrychiolwyr personol, estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2) am hyd at 3 mis os yw wedi ei fodloni bod angen yr estyniad at ddiben dirwyn i ben ystad deiliad blaenorol y drwydded a bod hynny’n briodol o dan yr holl amgylchiadau.

Ffioedd

12.—(1Caiff awdurdod lleol godi’r ffioedd hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol am—

(a)ystyried cais i roi, adnewyddu neu amrywio trwydded gan gynnwys unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw, ac ar gyfer rhoi, adnewyddu neu amrywio trwydded,

(b)costau disgwyliedig rhesymol ystyried cydymffurfedd deiliad y drwydded â’r Rheoliadau hyn ac amodau’r drwydded y mae deiliad y drwydded yn ddarostyngedig iddynt o dan amgylchiadau ac eithrio’r rhai a ddisgrifir yn is-baragraff (a) gan gynnwys unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw,

(c)costau disgwyliedig rhesymol gorfodi mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd trwyddedadwy gan weithredwr didrwydded, a

(d)costau disgwyliedig rhesymol cydymffurfio â rheoliad 26.

(2Ni chaniateir i’r ffi a godir am ystyried cais i roi, adnewyddu neu amrywio trwydded ac ar gyfer unrhyw arolygiad sy’n ymwneud â’r ystyried hwnnw fod yn fwy na chostau rhesymol yr ystyried hwnnw a’r arolygiad cysylltiedig.

Canllawiau

13.  Rhaid i awdurdod lleol, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 3Gorfodi a hysbysiadau

Seiliau dros atal trwydded dros dro, amrywio trwydded heb gydsyniad neu ddirymu trwydded

14.  Caiff awdurdod lleol, heb unrhyw ofyniad i sicrhau cydsyniad deiliad y drwydded, benderfynu atal dros dro, amrywio neu ddirymu trwydded ar unrhyw adeg os yw wedi ei fodloni—

(a)na chydymffurfir ag amodau’r drwydded,

(b)y torrwyd y Rheoliadau hyn,

(c)bod gwybodaeth a roddir gan ddeiliad y drwydded yn ffug neu’n gamarweiniol,

(d)bod hynny’n angenrheidiol i ddiogelu lles anifail, neu

(e)na fyddai deiliad y drwydded wedi gallu gwneud cais am drwydded newydd yn unol â rheoliad 10.

Y weithdrefn ar gyfer atal dros dro neu amrywio heb gydsyniad

15.—(1Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae atal dros dro neu amrywio trwydded yn dilyn penderfyniad o dan reoliad 14 yn cael effaith ar ddiwedd cyfnod o 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir hysbysiad am y penderfyniad i ddeiliad y drwydded neu, os nad yw’r dyddiad hwnnw yn ddiwrnod gwaith, y diwrnod gwaith nesaf.

(2Os yw hynny’n angenrheidiol i ddiogelu lles anifail, caiff yr awdurdod lleol bennu yn yr hysbysiad am ei benderfyniad bod yr atal dros dro neu’r amrywio yn cael effaith ar unwaith.

(3Mewn perthynas â phenderfyniad i atal dros dro neu amrywio trwydded, rhaid—

(a)hysbysu deiliad y drwydded yn ysgrifenedig amdano,

(b)datgan seiliau’r awdurdod lleol dros yr atal dros dro neu’r amrywio,

(c)datgan pa bryd y bydd yn cael effaith,

(d)pennu mesurau y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i unioni’r seiliau hynny, ac

(e)esbonio hawl deiliad y drwydded i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (4) a rhoi manylion y person y caniateir cyflwyno’r sylwadau hynny iddo, ac erbyn diwedd pa ddyddiad y mae rhaid i’r sylwadau hynny ddod i’w law.

(4Caiff deiliad y drwydded gyflwyno sylwadau ysgrifenedig y mae rhaid iddynt ddod i law’r awdurdod lleol o fewn cyfnod o 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â dyddiad dyroddi’r hysbysiad am y penderfyniad o dan reoliad 14 i atal dros dro neu amrywio’r drwydded neu, os nad yw’r dyddiad hwnnw yn ddiwrnod gwaith, y diwrnod gwaith nesaf.

(5Ac eithrio mewn perthynas â hysbysiadau o dan baragraff (2), pan fo deiliad trwydded yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig sy’n dod i law’r awdurdod lleol o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4), nid yw’r atal dros dro neu’r amrywio i gael effaith oni bai bod yr awdurdod lleol, ar ôl ystyried y sylwadau, yn atal y drwydded dros dro neu’n ei hamrywio yn unol â pharagraff (6)(a).

(6O fewn 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) yn dod i law, rhaid i’r awdurdod lleol, ar ôl ystyried y sylwadau—

(a)atal dros dro neu amrywio’r drwydded,

(b)canslo ei benderfyniad o dan reoliad 14 i atal dros dro neu amrywio’r drwydded,

(c)cadarnhau atal dros dro neu amrywio’r drwydded o dan baragraff (2), neu

(d)adfer y drwydded os yw wedi ei hatal dros dro, neu ganslo amrywio’r drwydded os yw wedi ei hamrywio, o dan baragraff (2).

(7Rhaid i’r awdurdod lleol ddyroddi i ddeiliad y drwydded hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad o dan baragraff (6) a’r rhesymau drosto o fewn 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (4) yn dod i law neu, os nad yw’r dyddiad hwnnw yn ddiwrnod gwaith, sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith nesaf.

(8Mae penderfyniad yr awdurdod lleol o dan baragraff (6) i gael effaith pan fo’n cyflwyno ei hysbysiad o dan baragraff (7).

(9Mae paragraff (10) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio â pharagraff (6) neu (7).

(10Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ar ôl 7 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (4) yn dod i law neu, os nad yw’r dyddiad hwnnw yn ddiwrnod gwaith, sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith nesaf—

(a)bernir bod trwydded a ataliwyd dros dro o dan baragraff (2) wedi ei hadfer;

(b)bernir bod trwydded a amrywiwyd o dan baragraff (2) yn cael effaith fel pe na bai wedi ei hamrywio;

(c)bernir bod trwydded a ataliwyd dros dro o dan baragraff (6)(a) wedi ei hadfer;

(d)bernir bod trwydded a amrywiwyd o dan baragraff (6)(a) yn cael effaith fel pe na bai wedi ei hamrywio;

(e)bernir bod unrhyw drwydded a ddelir gan ddeiliad y drwydded ac eithrio trwydded a ataliwyd dros dro neu a amrywiwyd o dan baragraff (2) neu (6)(a) y penderfynodd yr awdurdod lleol ei hatal dros dro neu ei hamrywio o dan reoliad 14 yn parhau mewn grym ac nad yw wedi ei hamrywio felly.

(11Unwaith y mae trwydded wedi ei hatal dros dro am 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r awdurdod lleol, ar y diwrnod gwaith nesaf—

(a)adfer y drwydded heb ei hamrywio,

(b)amrywio’r drwydded a’i hadfer wedi ei hamrywio, neu

(c)dirymu’r drwydded.

(12Os yw’r awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio â pharagraff (11), bernir bod y drwydded wedi ei hadfer heb ei hamrywio gan gael effaith ar unwaith.

Adfer trwydded a ataliwyd dros dro gan awdurdod lleol

16.—(1Rhaid i awdurdod lleol adfer trwydded a ataliwyd dros dro drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig unwaith y mae wedi ei fodloni bod y seiliau a bennwyd yn yr hysbysiad atal dros dro wedi eu hunioni, neu y cânt eu hunioni.

(2Pan fo awdurdod lleol yn adfer trwydded o dan baragraff (1), caiff lleihau’r cyfnod y mae wedi ei hadfer ar ei gyfer.

Hysbysiad dirymu

17.—(1Mewn perthynas â phenderfyniad dirymu, rhaid—

(a)hysbysu deiliad y drwydded yn ysgrifenedig amdano,

(b)datgan seiliau’r awdurdod lleol dros ddirymu, ac

(c)rhoi hysbysiad am hawl deiliad y drwydded i apelio i lys ynadon a’r cyfnod o dan reoliad 23 y caniateir cyflwyno apêl o’r fath o’i fewn.

(2Mae’r penderfyniad yn cael effaith pan gyflwynir yr hysbysiad.

Rhwystro arolygwyr

18.  Ni chaniateir i berson rwystro yn fwriadol arolygydd a benodir at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn wrth arfer unrhyw bwerau a roddir gan y Ddeddf neu oddi tani.

Troseddau

19.—(1Mae’n drosedd i berson, heb awdurdod cyfreithlon neu esgus cyfreithlon—

(a)torri amod trwydded;

(b)methu â chydymffurfio â rheoliad 7 neu 18.

(2Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

Pwerau mynediad

20.  Rhaid trin torri amod trwydded fel trosedd berthnasol at ddibenion adran 23 o’r Ddeddf (mynd i fangre a’i chwilio o dan warant mewn cysylltiad â throseddau).

Pwerau ar ôl euogfarnu

21.  Mae’r pwerau perthnasol ar ôl euogfarnu sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 34 a 42 o’r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas ag euogfarn am drosedd o dan reoliad 19.

Hysbysiadau

22.—(1Caniateir i’r awdurdod lleol ddiwygio, atal dros dro neu ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg unrhyw hysbysiad a ddyroddir ganddo o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caniateir cyflwyno hysbysiad i berson—

(a)drwy ei draddodi i’r person,

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad post cyfredol neu hysbys diwethaf y person neu ei anfon drwy’r post i’r cyfeiriad post hwnnw, neu

(c)drwy ei anfon mewn neges e-bost i gyfeiriad e-bost cyfredol neu hysbys diwethaf y person.

RHAN 4Apelau

Apelau

23.—(1Caiff unrhyw weithredwr sydd wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad gan awdurdod lleol i wrthod rhoi neu adnewyddu trwydded, neu’r penderfyniad i ddirymu trwydded, apelio i lys ynadon.

(2Mae’r weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(5) yn gymwys i’r achos.

(3Y cyfnod pan ganiateir dwyn apêl yw 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod drannoeth y dyddiad y cyflwynir hysbysiad am y penderfyniad.

RHAN 5Diddymiadau, diwygiadau canlyniadol a darpariaeth arbed

Diddymiadau a diwygiadau canlyniadol

24.  Mae Atodlen 5 (diddymiadau a diwygiadau canlyniadol) i gael effaith.

Darpariaeth arbed

25.  Bydd unrhyw drwydded sydd heb ddod i ben a roddir yn unol â darpariaethau Deddf Anifeiliaid Anwes 1951(6) yn parhau mewn grym am weddill ei chyfnod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf honno fel yr oedd yn cael effaith ar y dyddiad perthnasol.

RHAN 6Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru

Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru

26.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu’r wybodaeth a ganlyn yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru—

(a)nifer y trwyddedau mewn grym yn ei ardal ar bob dyddiad cyfeirio, a

(b)lefel gyfartalog y ffioedd a godwyd gan yr awdurdod lleol am drwyddedau a roddwyd neu a adnewyddwyd ganddo ym mhob cyfnod cyfeirio.

(2Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu’r wybodaeth i Weinidogion Cymru—

(a)ar ffurf electronig, neu sicrhau ei bod yn hygyrch i Weinidogion Cymru ar ffurf electronig, a

(b)heb fod yn hwyrach na’r 31 Mai nesaf yn dilyn y dyddiad cyfeirio perthnasol.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod cyfeirio” (“reference period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â 10 Medi 2021 ac sy’n gorffen â 31 Mawrth 2022 a phob cyfnod dilynol o 12 mis sy’n dechrau â 1 Ebrill;

ystyr “dyddiad cyfeirio” (“reference date”) yw 31 Mawrth.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2021

Rheoliad 2

ATODLEN 1Gweithgareddau trwyddedadwy

RHAN 1Prawf busnes

1.  Mae’r amgylchiadau y mae rhaid i awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu pa un a yw gweithgaredd yn cael ei gynnal wrth gynnal busnes at ddibenion yr Atodlen hon yn cynnwys, er enghraifft, pa un a yw’r gweithredwr—

(a)yn gwneud unrhyw werthiant drwy’r gweithgaredd, neu fel arall yn cynnal y gweithgaredd gyda’r bwriad o wneud elw, neu

(b)yn ennill unrhyw gomisiwn neu ffi o’r gweithgaredd.

RHAN 2Gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes

2.  Mae gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes (neu gyda’r bwriad o’u hailwerthu yn ddiweddarach fel anifeiliaid anwes) wrth gynnal busnes yn cynnwys cadw anifeiliaid wrth gynnal busnes gyda’r bwriad o’u gwerthu neu eu hailwerthu.

3.  Nid yw gweithgaredd a ddisgrifir ym mharagraff 2 yn cynnwys—

(a)gwerthu anifeiliaid wrth gynnal busnes cynhyrchu dyframaethol a awdurdodir o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009(7), neu

(b)person sydd yn dal trwydded dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 sydd yn gwerthu:

(i)ci bach y mae’r person wedi ei fridio ei hunain o’r fangre ble magwyd y ci bach hwnnw; neu

(ii)ci llawndwf y mae’r person wedi ei fridio eu hunain.

Rheoliad 2

ATODLEN 2Amodau cyffredinol

Arddangos trwydded

1.—(1Rhaid i gopi o’r drwydded fod wedi ei arddangos yn glir ac yn amlwg ar unrhyw fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.

(2Rhaid i enw deiliad y drwydded, wedi ei ddilyn gan rif trwydded deiliad y drwydded, fod wedi eu harddangos yn glir ac yn amlwg ar unrhyw wefan a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r gweithgaredd trwyddedadwy.

Cofnodion

2.—(1Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl gofnodion y mae’n ofynnol i ddeiliad y drwydded eu cadw fel un o amodau’r drwydded ar gael ar unrhyw adeg i’w harolygu gan arolygydd ar ffurf weladwy a darllenadwy neu, pan fo unrhyw gofnodion o’r fath yn cael eu storio ar ffurf electronig, ar ffurf y gellir cyflwyno’r cofnodion ar ffurf weladwy a darllenadwy yn rhwydd ohoni.

(2Rhaid i ddeiliad y drwydded gadw’r holl gofnodion o’r fath am 3 blynedd o leiaf, gan ddechrau â’r dyddiad y crëwyd y cofnod.

Defnyddio anifeiliaid, nifer yr anifeiliaid a’r mathau o anifeiliaid

3.—(1Ni chaniateir defnyddio unrhyw anifeiliaid, neu unrhyw fathau o anifeiliaid, ac eithrio’r anifeiliaid hynny a’r mathau hynny o anifeiliaid a bennir yn y drwydded, mewn perthynas â’r gweithgaredd trwyddedadwy perthnasol.

(2Ni chaniateir i nifer yr anifeiliaid a gedwir ar gyfer y gweithgaredd trwyddedadwy ar unrhyw adeg fod yn fwy na’r uchafswm sy’n rhesymol gan ystyried y cyfleusterau a’r staffio ar unrhyw fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.

Staffio

4.—(1Rhaid i niferoedd digonol o bobl sy’n gymwys at y diben fod ar gael i ddarparu lefel o ofal sy’n sicrhau y diwellir anghenion lles pob anifail.

(2Rhaid i ddeiliad y drwydded neu reolwr dynodedig ac unrhyw staff a gyflogir i ofalu am yr anifeiliaid feddu ar gymhwysedd i adnabod ymddygiad arferol y rhywogaethau o dan eu gofal ac i adnabod arwyddion poen, dioddefaint, anaf, clefyd neu ymddygiad annormal, ac i gymryd camau priodol i liniaru neu atal yr effeithiau hynny.

(3Rhaid i ddeiliad y drwydded ddarparu polisi hyfforddiant ysgrifenedig, sy’n cydymffurfio â gofynion paragraff 9 ar gyfer yr holl staff, a sicrhau y rhoddir y polisi hwnnw ar waith.

Amgylchedd addas

5.—(1Rhaid i bob ardal, cyfarpar ac offer y mae gan yr anifeiliaid fynediad iddynt beri’r risgiau lleiaf posibl o achosi anaf, salwch a dianc, a rhaid iddynt fod wedi eu hadeiladu o ddeunydd cadarn, diogel a gwydn, bod mewn cyflwr da a bod wedi eu cynnal a’u cadw’n dda.

(2Rhaid cadw anifeiliaid ar bob adeg mewn amgylchedd sy’n addas i’w rhywogaeth a’u cyflwr (gan gynnwys statws iechyd ac oedran) mewn cysylltiad ag—

(a)eu hanghenion ymddygiadol;

(b)ei sefyllfa, faint o le sydd ar gael, ansawdd yr aer, glendid a’r tymheredd;

(c)ansawdd y dŵr (pan fo’n berthnasol);

(d)lefelau sŵn;

(e)lefelau goleuni;

(f)awyriad.

(3Rhaid i staff sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw’n lân ac yn gyfforddus.

(4Pan fo’n briodol i’r rhywogaeth, rhaid darparu ardal doiled a chyfleoedd i’r anifeiliaid fynd i’r toiled.

(5Rhaid i weithdrefnau fod yn eu lle i sicrhau bod y llety ac unrhyw gyfarpar ynddo yn cael eu glanhau mor aml ag y bo’n angenrheidiol, ac y cynhelir safonau hylendid da, a rhaid bod yn bosibl i lanhau a diheintio’r llety yn drwyadl.

(6Rhaid cludo a thrin yr anifeiliaid mewn modd (gan gynnwys, er enghraifft, mewn perthynas â llety, tymheredd, awyru ac amlder) sy’n eu diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau.

(7Rhaid i’r holl anifeiliaid fod yn hygyrch i’r staff ac ar gyfer arolygu a rhaid bod digon o oleuni i’r staff weithio’n effeithiol ac arsylwi ar yr anifeiliaid.

(8Rhaid darparu’r holl adnoddau mewn ffordd (er enghraifft o ran amlder, lleoliad a mynedfeydd) sy’n lleihau ymddygiad cystadleuol neu oruchafiaeth anifeiliaid unigol.

(9Ni chaniateir gadael yr anifeiliaid heb neb i ofalu amdanynt mewn unrhyw sefyllfa, nac am unrhyw gyfnod, sy’n debygol o beri gofid iddynt.

Deiet addas

6.—(1Rhaid darparu deiet i’r anifeiliaid sy’n addas o ran ansawdd, maint ac amlder, a rhaid cyflwyno unrhyw fwydydd anifeiliaid newydd yn raddol er mwyn caniatáu i’r anifeiliaid ddod i arfer â hwy.

(2Rhaid monitro cymeriant bwyd anifeiliaid a (pan fo’n briodol) dŵr, a rhaid cofnodi unrhyw broblemau a mynd i’r afael â hwy.

(3Rhaid i’r bwyd anifeiliaid â’r dŵr yfed a ddarperir i’r anifeiliaid fod heb ei ddifetha a heb ei halogi.

(4Rhaid gallu glanhau a diheintio daliedyddion bwyd anifeiliaid a dŵr yfed, neu rhaid iddynt fod yn rhai untro.

(5Rhaid darparu mynediad parhaus i ddŵr yfed ffres a glân mewn daliedydd addas i’r rhywogaethau sydd ei angen.

(6Pan fo bwyd anifeiliaid yn cael ei baratoi ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy, rhaid bod cyfleusterau hylan ar gael ar gyfer ei baratoi, gan gynnwys arwyneb gwaith, dŵr rhedegog poeth ac oer a chyfleusterau storio.

Monitro ymddygiad a hyfforddi anifeiliaid

7.—(1Rhaid cyfoethogi’r amgylchedd mewn ffordd weithredol ac effeithiol i’r anifeiliaid sydd yn unrhyw amgylcheddau dan do ac yn yr awyr agored.

(2O ran rhywogaethau y mae eu lles yn dibynnu’n rhannol ar ymarfer corff, rhaid darparu cyfleoedd ymarfer corff sy’n llesol i iechyd corfforol a meddyliol yr anifeiliaid, oni bai bod cyngor gan filfeddyg yn awgrymu fel arall.

(3Rhaid monitro ymddygiad yr anifeiliaid ac unrhyw newidiadau o ran eu hymddygiad a rhaid gofyn am gyngor, fel y bo’n briodol ac yn ddi-oed, gan filfeddyg neu, yn achos pysgod, gan unrhyw berson sy’n gymwys i roi cyngor o’r fath, os canfyddir ymddygiad andwyol neu annormal.

(4Pan fônt yn cael eu defnyddio, ni chaniateir i ddulliau hyfforddi neu gyfarpar hyfforddi achosi poen, dioddefaint neu anaf.

(5Rhaid rhoi cyfleoedd addas a digonol i bob anifail anaeddfed—

(a)dysgu sut i ryngweithio â phobl, â’i rywogaeth ei hun ac ag anifeiliaid eraill pan fo rhyngweithio o’r fath yn fuddiol i’w les, a

(b)ymgynefino â seiniau, gwrthrychau a gweithgareddau yn ei amgylchedd.

Trin anifeiliaid a rhyngweithio ag anifeiliaid

8.—(1Rhaid i’r holl bobl sy’n gyfrifol am ofalu am yr anifeiliaid fod yn gymwys o ran trin pob anifail yn briodol i’w ddiogelu rhag poen, dioddefaint, anaf neu glefyd.

(2Rhaid cadw’r anifeiliaid ar wahân neu mewn grwpiau cymdeithasol cydnaws addas sy’n briodol i’r rhywogaeth ac i’r anifeiliaid unigol ac ni chaniateir i unrhyw anifeiliaid o rywogaeth gymdeithasol gael eu hynysu na’u cadw ar wahân oddi wrth anifeiliaid eraill o’r un rywogaeth am unrhyw gyfnod sy’n hwy nag y bo’n angenrheidiol.

(3Rhaid i anifeiliaid gael cyfleoedd o leiaf bob dydd i ryngweithio â phobl pan fo’r rhyngweithio hwnnw yn llesol iddynt.

Diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau

9.—(1Rhaid i weithdrefnau ysgrifenedig—

(a)bod yn eu lle ac ar waith o ran—

(i)cyfundrefnau bwydo;

(ii)cyfundrefnau glanhau;

(iii)cludiant;

(iv)atal clefydau a rheoli eu lledaeniad;

(v)monitro a sicrhau iechyd a lles yr holl anifeiliaid;

(vi)anifail yn marw neu yn dianc (gan gynnwys storio carcasau);

(b)bod yn eu lle o ran gofalu am yr anifeiliaid yn dilyn atal dros dro neu ddirymu’r drwydded neu yn ystod argyfwng ac ar ôl argyfwng.

(2Rhaid sicrhau bod yr holl bobl sy’n gyfrifol am ofalu am yr anifeiliaid yn llwyr ymwybodol o’r gweithdrefnau hyn.

(3Rhaid i gyfleusterau ynysu priodol, mewn cyfleusterau hunangynhwysol ar wahân, fod ar gael i ofalu am anifeiliaid sâl, anifeiliaid a anafwyd neu anifeiliaid a all fod yn heintus.

(4Rhaid cymryd pob rhagofal rhesymol i atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus, pathogenau a pharasitiaid ymhlith yr anifeiliaid ac ymhlith pobl.

(5Rhaid storio a gwaredu’r holl garthion a’r holl wasarn budr mewn modd hylan ac yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol.

(6Rhaid i anifeiliaid sy’n sâl neu wedi eu hanafu gael sylw prydlon gan filfeddyg neu, yn achos pysgod, gan berson cymwys priodol, a rhaid dilyn cyngor y milfeddyg hwnnw neu, yn achos pysgod, y person cymwys hwnnw.

(7Pan fo’n angenrheidiol, rhaid i anifeiliaid dderbyn triniaeth ataliol gan berson cymwys priodol.

(8Rhaid i ddeiliad y drwydded gofrestru â milfeddyg sy’n meddu ar lefel briodol o brofiad ym maes gofynion iechyd a lles unrhyw anifeiliaid a bennir yn y drwydded, a rhaid i fanylion cyswllt y milfeddyg hwnnw fod ar gael yn rhwydd i’r holl staff ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy.

(9Rhaid storio meddyginiaethau ar brescripsiwn yn saff ac yn ddiogel er mwyn eu diogelu rhag mynediad heb awdurdod, ar y tymheredd cywir, a rhaid iddynt gael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r milfeddyg.

(10Rhaid i feddyginiaethau ac eithrio meddyginiaethau ar brescripsiwn gael eu storio, eu defnyddio a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr neu’r milfeddyg.

(11Rhaid i gynnyrch glanhau fod yn addas, yn ddiogel ac yn effeithiol yn erbyn pathogenau sy’n peri risg i’r anifeiliaid, a rhaid iddynt gael eu defnyddio, eu storio a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’u defnyddio mewn ffordd sy’n atal gofid neu ddioddefaint i’r anifeiliaid.

(12Ni chaniateir i unrhyw berson ewthaneiddio anifail ac eithrio milfeddyg neu berson a awdurdodwyd gan filfeddyg yn berson cymwys at y diben hwnnw neu yn achos pysgod, person sy’n gymwys at y diben hwnnw.

(13Rhaid archwilio pob anifail o leiaf unwaith bob dydd, ac yn fwy rheolaidd fel y bo’n angenrheidiol i chwilio am unrhyw arwyddion poen, dioddefaint, anafiadau, clefydau neu ymddygiad annormal, a rhaid archwilio anifeiliaid hyglwyf yn fwy aml.

(14Rhaid cofnodi unrhyw arwyddion poen, dioddefaint, anafiadau, clefydau neu ymddygiad annormal, a rhaid gofyn am gyngor, a chyngor pellach (os oes angen) gan filfeddyg (neu yn achos pysgod, gan berson cymwys priodol) a dilyn y cyngor hwnnw.

Argyfyngau

10.—(1Rhaid i gynllun argyfwng ysgrifenedig sy’n dderbyniol i’r awdurdod lleol fod yn ei le, yn hysbys ac ar gael i’r holl staff ar y fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy, a rhaid dilyn y cynllun hwnnw pan fo’n angenrheidiol i sicrhau y cymerir camau priodol i ddiogelu yr holl bobl ac anifeiliaid ar y fangre yn achos tân neu pe bai systemau gwresogi, awyru ac awyriad neu hidlo hanfodol yn torri i lawr, neu argyfyngau eraill yn codi.

(2Rhaid i’r cynllun gynnwys manylion y camau sydd i’w cymryd mewn argyfwng i fynd â’r anifeiliaid ymaith pe bai’r fangre yn mynd i gyflwr nad yw’n addas i fyw ynddo, a rhestr o rifau ffôn mewn argyfwng sy’n cynnwys y gwasanaeth tân a’r heddlu.

(3Rhaid i ddrysau a gatiau allanol fod yn gloadwy.

(4Rhaid i ddeiliad allweddi dynodedig sydd â mynediad i’r holl fannau i anifeiliaid ar bob adeg fod o fewn pellter teithio rhesymol i’r fangre ac ar gael i fod yn bresennol mewn argyfwng.

Rheoliad 2

ATODLEN 3Amodau penodol: gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “darpar berchennog” (“prospective owner”) yw person sy’n prynu anifail i’w gadw neu i gael ei gadw fel anifail anwes;

ystyr “mangre” (“premises”) yw’r fangre lle y cynhelir y gweithgaredd trwyddedadwy o werthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes (neu gyda’r bwriad o’u hailwerthu’n ddiweddarach fel anifeiliaid anwes);

ystyr “prynwr” (“purchaser”) yw person sy’n prynu anifail i’w gadw fel anifail anwes neu gyda’r bwriad o’i ailwerthu’n ddiweddarach fel anifail anwes.

Cofnodion a hysbysebion

2.—(1Rhaid cadw cofrestr o’r holl anifeiliaid, neu yn achos pysgod, yr holl grwpiau o bysgod, ar y fangre, a rhaid iddi gynnwys—

(a)enw llawn cyflenwr yr anifail,

(b)rhyw yr anifail (pan fo’n hysbys),

(c)(ac eithrio yn achos pysgod) oedran yr anifail (pan fo’n hysbys),

(d)manylion unrhyw driniaeth filfeddygol (pan fo’n hysbys),

(e)dyddiad geni’r anifail neu, os caffaelwyd yr anifail gan ddeiliad y drwydded, dyddiad ei gaffael,

(f)dyddiad gwerthu’r anifail gan ddeiliad y drwydded, ac

(g)dyddiad marwolaeth yr anifail (os yw’n gymwys).

(2Pan fo anifail yn cael unrhyw driniaeth feddygol—

(a)rhaid nodi’r ffaith honno yn glir—

(i)yn ysgrifenedig nesaf ato, neu

(ii)(pan fo’n briodol) drwy ei labelu yn unol â hynny, a

(b)ni chaniateir ei werthu.

(3Rhaid i unrhyw hysbyseb ar gyfer gwerthu anifail—

(a)cynnwys rhif trwydded deiliad y drwydded,

(b)pennu’r awdurdod lleol a ddyroddodd y drwydded,

(c)cynnwys ffotograff adnabyddadwy o’r anifail sy’n cael ei hysbysebu,

(d)(ac eithrio yn achos pysgod) dangos oedran yr anifail sy’n cael ei hysbysebu,

(e)datgan ym mha wlad y mae’r anifail yn byw ac y mae’n cael ei werthu ohoni, ac

(f)datgan y wlad y mae’r anifail yn tarddu ohoni.

Darpar werthiannau: gofal anifeiliaid anwes a chyngor ynghylch hynny

3.—(1Rhaid i ddeiliad y drwydded a’r holl staff sicrhau bod unrhyw gyfarpar ac ategolion sy’n cael eu gwerthu gydag anifail yn addas i’r anifail.

(2Rhaid i ddeiliad y drwydded a’r holl staff sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i’r darpar berchennog ar ofal priodol yr anifail gan gynnwys mewn perthynas â—

(a)bwydo,

(b)llety,

(c)trin,

(d)hwsmonaeth,

(e)disgwyliad oes ei rywogaeth,

(f)darparu ategolion addas, ac

(g)gofal milfeddygol.

(3Rhaid i ddeunyddiau cyfeirio priodol ynghylch gofal yr holl anifeiliaid sydd ar werth gael eu harddangos a’u darparu i’r darpar berchennog.

(4Rhaid bod deiliad y drwydded a’r holl staff wedi cael hyfforddiant addas i roi cyngor i ddarpar berchnogion ynghylch yr anifeiliaid sy’n cael eu gwerthu.

(5Rhaid i ddeiliad y drwydded a’r holl staff sicrhau bod y prynwr yn cael ei hysbysu ynghylch y wlad y mae’r anifail yn tarddu ohoni a’i rywogaeth, a phan fo’n hysbys, oedran, rhyw a chofnod milfeddygol yr anifail sy’n cael ei werthu.

Llety addas

4.—(1Rhaid cadw anifeiliaid mewn llety sy’n lleihau straen, gan gynnwys straen a achosir gan anifeiliaid eraill a’r cyhoedd.

(2Pan fo aelodau o’r cyhoedd yn gallu gweld yr anifeiliaid neu ddod i gysylltiad â hwy, rhaid bod arwyddion wedi eu gosod i annog pobl i beidio ag aflonyddu ar yr anifeiliaid.

(3Rhaid cadw anifeiliaid gwyllt peryglus (os oes rhai) mewn caetsys sy’n ddiogel ac y gellir eu cloi ac sy’n addas ar gyfer y rhywogaeth.

(4At ddibenion is-baragraff (3), ystyr “anifail gwyllt peryglus” yw anifail o fath a bennir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976(8).

Gwerthu anifeiliaid

5.—(1Ni chaniateir i unrhyw anifail o’r disgrifiadau a ganlyn gael ei werthu fel anifail anwes, neu ei werthu gyda’r bwriad o’i ailwerthu fel anifail anwes, gan ddeiliad y drwydded neu ar ei ran—

(a)mamaliaid heb eu diddyfnu;

(b)mamaliaid a ddiddyfnwyd ar oedran na ddylent fod wedi eu diddyfnu arno;

(c)anifeiliaid nad ydynt yn famaliaid nad ydynt yn gallu bwydo eu hunain;

(d)cŵn bach, cathod bach, ffuredau neu gwningod iau nag 8 wythnos oed;

(e)cŵn bach neu gathod bach nad oeddent wedi eu bridio gan ddeiliad y drwydded yn y fangre.

(2Rhaid cwblhau gwerthiant ci yng ngŵydd y prynwr ar y fangre.

Diogelu rhag poen, dioddefaint, anafiadau a chlefydau

6.—(1Rhaid i’r holl anifeiliaid sydd ar werth fod mewn cyflwr da o ran eu hiechyd.

(2Ni chaniateir i unrhyw anifail sydd â chyflwr sy’n debygol o effeithio ar ansawdd ei fywyd gael ei symud, ei drosglwyddo neu ei gynnig ar werth, ond caniateir ei symud i gyfleuster ynysu neu gyfleuster gofal milfeddygol os yw hynny’n angenrheidiol hyd nes i’r anifail wella.

(3Wrth drefnu i dderbyn anifeiliaid, rhaid i ddeiliad y drwydded wneud ymdrechion rhesymol i sicrhau y cânt eu cludo mewn dull addas.

(4Rhaid cludo anifeiliaid neu eu traddodi i brynwyr mewn cynwysyddion addas ar gyfer y rhywogaeth a hyd disgwyliedig y daith.

Rheoliad 10

ATODLEN 4Personau na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded

1.  Person a oedd ar unrhyw adeg yn ddeiliad trwydded a ddirymwyd o dan reoliad 14 o’r Rheoliadau hyn.

2.  Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 33 o Ddeddf Llesiant Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011(9).

3.  Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 34 o’r Ddeddf.

4.  Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 40(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006(10).

5.  Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 6(2) o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976(11) rhag cadw anifail gwyllt peryglus.

6.  Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 5(3) o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951(12) rhag cadw siop anifeiliaid anwes.

7.  Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 1(1) o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954(13) rhag cael gwarchodaeth anifail.

8.  Person sydd wedi ei anghymwyso o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid 1911(14) rhag bod yn berchen ar anifail.

Rheoliad 24

ATODLEN 5Diddymiadau a diwygiadau canlyniadol

Deddf Anifeiliaid Anwes 1951

1.  Mae adran 1(1) o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (cyfyngiad ar gadw siop anifeiliaid anwes) yn peidio â chael effaith o ran Cymru.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Lloegr) 2018

2.  Yn Atodlen 6(1)(c)(ii) i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Lloegr) 2018(15), yn lle “the Pet Animals Act 1951 to keep the shop” rhodder “regulations 2 and 4 of the Animal Welfare (Licensing of Activities Involving Animals) (Wales) Regulations 2021”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy’n ymwneud yng Nghymru â gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r gweithgareddau hyn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (“Deddf 2006”) ac yn darparu i awdurdodau lleol fod yr awdurdodau trwyddedu. Canlyniad y pennu hwn, yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwyso, yw bod rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno cynnal unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hyn yng Nghymru gael trwydded oddi wrth yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae’r gofynion hyn yn disodli’r gofynion, yng Nghymru, i gael trwydded o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.

Mae person sy’n cynnal unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hyn yng Nghymru heb drwydded o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd o dan adran 13(6) o Ddeddf 2006 ac yn agored i gael ei garcharu am gyfnod hyd at 6 mis, neu i gael dirwy, neu’r ddau. O dan adran 30 o Ddeddf 2006, caiff awdurdodau lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Ddeddf honno.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn nodi sut y caiff person wneud cais i’r awdurdod lleol am drwydded ac yn nodi materion y mae rhaid i awdurdod lleol fod wedi ei fodloni mewn cysylltiad â hwy wrth ystyried rhoi trwydded neu adnewyddu trwydded. Mae’n darparu i awdurdod lleol godi ffioedd i dalu’r costau y mae’n mynd iddynt wrth gyflawni’r swyddogaeth hon, gan ystyried cydymffurfedd deiliad trwydded â’r Rheoliadau hyn, gorfodi a gweinyddu. Mae’n pennu bod rhaid i awdurdod lleol osod amodau trwydded penodol ar bob trwydded a roddir neu a adnewyddir. Mae’n darparu bod rhaid i awdurdod lleol benodi arolygydd pan fydd yn ystyried bod hynny’n briodol, at ddiben sicrhau cydymffurfedd ag amodau’r drwydded. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn. Mae’n darparu pwerau i arolygwyr gymryd samplau o anifeiliaid.

Mae Rhan 3 yn nodi’r amgylchiadau a’r gweithdrefnau y caniateir atal dros dro, amrywio neu ddirymu trwydded oddi tanynt. Mae hefyd yn darparu bod torri amod trwydded neu rwystro unrhyw arolygydd a benodir at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn yn drosedd ac mae’n cymhwyso pwerau perthnasol yn dilyn euogfarn sydd wedi eu cynnwys yn Neddf 2006.

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau trwyddedu gan awdurdodau lleol.

Mae Rhan 5 yn gwneud diddymiadau, diwygiadau canlyniadol a darpariaeth arbed.

Mae Rhan 6 yn nodi bod rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth benodol i Weinidogion Cymru.

Mae Atodlen 1 yn disgrifio pob math o weithgaredd trwyddedadwy.

Mae Atodlen 2 yn nodi’r amodau cyffredinol sy’n gymwys i’r holl weithgareddau trwyddedadwy.

Mae Atodlen 3 yn nodi’r amodau penodol sy’n gymwys i bob gweithgaredd trwyddedadwy.

Mae Atodlen 4 yn rhestru personau na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded.

Mae Atodlen 5 yn darparu ar gyfer diddymiadau a diwygiadau canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu drwy e-bostio cais i: LlesAnifeiliaidAnwes@llyw.cymru.

(1)

Mae “the appropriate national authority” (“yr awdurdod cenedlaethol priodol”) wedi ei ddiffinio yn adran 62(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p. 45). Mae’r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 34 o Atodlen 11 iddi, mae’r cyfeiriad yn adran 61(2) at “House of Parliament” yn cynnwys Senedd Cymru.

(6)

1951 p. 35 (14 & 15 Geo 6).

(8)

1976 p. 38. Amnewidiwyd yr Atodlen o ran Cymru a Lloegr gan erthygl 2 o O.S. 2007/2465.

(11)

1976 p. 38; diwygiwyd adran 6(2) ond nid yw’r diwygiadau yn berthnasol.

(12)

Diwygiwyd adran 5(3) gan baragraff 3(2) o Atodlen 3 i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

(13)

1954 p. 40 (2 & 3 Eliz 2); diddymwyd adran 1 gan Atodlen 4 i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

(14)

1911 p. 27 (1 & 2 Geo 5); diddymwyd adran 3 gan Atodlen 4 i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources