Cyflwyniad
1.Mae‘r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 a basiwyd gan Senedd Cymru ar 09 Mawrth 2021 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2021. Fe’u lluniwyd gan Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
2.Yn y Nodiadau Esboniadol hyn, mae “Deddf 1996” yn cyfeirio at Ddeddf Addysg 1996 ac mae “Deddf 1998” yn cyfeirio at Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae cyfeiriadau at awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir, ysgolion arbennig, lleoliadau a gyllidir ond nas cynhelir a darparwyr addysg eraill yn gyfeiriadau at y rheini yng Nghymru oni nodir fel arall. Mae cyfeiriadau at adrannau a Rhannau yn gyfeiriadau at y rheini o’r Ddeddf, oni nodir fel arall.
3.Hefyd, yn y Nodiadau Esboniadol hyn, mae cyfeiriadau at addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn gyfeiriadau at addysg feithrin a ddarperir ac eithrio mewn ysgol feithrin a gynhelir, o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol drwy arfer ei ddyletswydd i sicrhau addysg feithrin o dan adran 118 o Ddeddf 1998. Mae cyfeiriadau at addysg ôl-orfodol yn gyfeiriadau at addysg a ddarperir i bobl ifanc sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.
4.Byrfoddau a ddefnyddir yn gyffredin:
ACRh | Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb |
Cgm | Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg |
Ag | Addysg Grefyddol |
Ucd | Uned Cyfeirio Disgyblion |
Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf
5.Mae saith Rhan iʼr Ddeddf syʼn cynnwys 85 o adrannau a dwy Atodlen. Mae Rhan 2 wedi ei rhannuʼn bedair pennod.
6.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau cwricwlwm ac asesu:
i ddisgyblion o dan 16 oed mewn ysgolion a gynhelir;
i ddisgyblion mewn ysgolion meithrin a gynhelir;
i blant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
i ddisgyblion a phlant y mae’r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau (o dan Ddeddf 1996) i addysg gael ei darparu ar eu cyfer ac eithrio mewn ysgol, er enghraifft, mewn UCD; ac
mae hefyd yn gwneud darpariaeth benodol sy’n ymwneud â’r cwricwlwm ar gyfer addysg ôl-orfodol mewn ysgolion a gynhelir.
7.Mae’r Ddeddf yn diddymu Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) a oedd, cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym, yn nodiʼr gofynion cwricwlwm ar gyfer ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir yng Nghymru.
8.Maeʼn gwneud darpariaeth ynghylch datblygu, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ac ar gyfer datblygu a gweithredu cwricwlwm yn y cyd-destunau eraill y mae’r Ddeddf yn gymwys ynddynt. Mae hefyd yn rhoi dyletswyddau a phwerau i Weinidogion Cymru i lunio Codau a chanllawiau i helpu ymarferwyr addysg i fod yn broffesiynol ac yn greadigol wrth ddiwallu anghenion pob dysgwr.
9.Y bwriad yw sicrhau y gall pob disgybl a phob plentyn y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt gael profiadau, gwybodaeth a sgiliau syʼn eu galluogi i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben. I’r perwyl hwn, mae’r Ddeddf yn gwneud yn ofynnol addysgu a dysgu sy’n galluogi’r disgyblion hynny a’r plant hynny i ddatblygu yn y ffyrdd hynny; syʼn eang ac yn gytbwys; syʼn addas ar gyfer eu hoedrannau, eu galluoedd aʼu doniau; ac syʼn cynnig cynnydd priodol.
10.Wrth ei wraidd, maeʼr Ddeddf yn ceisio sicrhau addysgu a dysgu syʼn helpu dysgwyr i ddatblygu safonau uwch mewn llythrennedd a rhifedd, i fod yn gymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, i dyfu yn bobl syʼn meddwl mewn ffordd fentrus, greadigol a beirniadol ac i fod yn ddinasyddion hyderus, galluog a gofalgar.
11.Defnyddir ymadroddion penodol yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a ddiffinnir yn Neddf Addysg 1996 (neu y rhoddir ystyr iddynt ganddi):
Ymadrodd | Darpariaeth |
---|---|
anghenion dysgu ychwanegol (“additional learning needs”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
awdurdod lleol (“local authority”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
awdurdod lleol yng Nghymru (“local authority in Wales”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
blwyddyn ysgol (“school year”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
cynllun AIG (“EHC plan”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
cynllun datblygu unigol (“individual development plan”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
darpariaeth ddysgu ychwanegol (“additional learning provision”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
disgybl (“pupil”) | adran 3 o Ddeddf 1996 |
disgybl cofrestredig (“registered pupil”) | adran 434(5) o Ddeddf 1996 |
gweithred ymddiriedolaeth (“trust deed”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
oedran ysgol gorfodol (“compulsory school age”) | adran 8 o Ddeddf 1996 |
pennaeth (“head teacher”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
person ifanc (“young person”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
plentyn (“child”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
rhiant (“parent”) | adran 576 o Ddeddf 1996 |
swyddogaethau (“functions”) | adran 579(1) o Ddeddf 1996 |
ysgol arbennig (“special school”) | adran 337(2) o Ddeddf 1996 |
ysgol feithrin (“nursery school”) | adran 6(1) o Ddeddf 1996 |
Sylwebaeth Ar Yr Adrannau
Rhan 1 – Cysyniadau Sylfaenol a Dogfennau Allweddol
Adran 1 – Cyflwyniad
12.Maeʼr adran hon yn disgrifio cynnwys Rhan 1 ac yn pennu’r cwricwla y mae’r Rhan yn gymwys mewn perthynas â hwy.
Adrannau 2 i 4 – Cysyniadau sylfaenol
13.Maeʼr adrannau hyn yn nodi cysyniadau sylfaenol syʼn cael effaith mewn perthynas â chwricwlwm i’r disgyblion a’r plant a ddisgrifir yn adran 1.
14.Mae adran 3 yn rhestru’r meysydd dysgu a phrofiad a’r elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny. Yr elfennau mandadol yw Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh); Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM); Cymraeg a Saesneg. Ond mae is-adran (3) yn darparu nad yw Saesneg i’w thrin fel elfen fandadol o gwricwlwm:
ar gyfer dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo o dan saith oed, neu
ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, neu
i ddisgyblion a phlant o dan saith oed y darperir addysg ar eu cyfer mewn uned cyfeirio disgyblion neu fel arall o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (trafodir hyn ymhellach isod).
Adrannau 6 i 8 - Codau
15.Maeʼr adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Codau a ganlyn:
Cod yr Hyn syʼn Bwysig – sy’n nodi cysyniadau allweddol ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad;
y Cod Cynnydd – sy’n nodi sut y mae rhaid i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant;
y Cod ACRh – sy’n nodi themâu a materion y mae rhaid i elfen fandadol ACRh eu cwmpasu.
16.Rhaid i gwricwlwm i’r disgyblion a’r plant a ddisgrifir yn adran 1 gyd-fynd â’r Codau.
17.Rhaid i Weinidogion Cymru gadw Cod yr Hyn syʼn Bwysig aʼr Cod Cynnydd o dan adolygiad a chânt ddiwygioʼr Codau hynny.
Rhan 2 – Cwricwlwm Mewn Ysgolion a Gynhelir, Ysgolion Meithrin a Gynhelir Ac Addysg Feithrin a Gyllidir Ond Nas Cynhelir
Pennod 1 - Cynllunio a Mabwysiadu Cwricwlwm
Adran 9 – Cyflwyniad a dehongli
18.Mae’r adran hon yn disgrifio cynnwys Pennod 1 ac yn pennu ei bod yn gymwys i gwricwlwm:
i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol;
i ddisgyblion mewn ysgol feithrin a gynhelir;
i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
19.Mae hyn yn golygu nad yw Pennod 1 yn gymwys i gwricwlwm ar gyfer addysg ac eithrio yn yr ysgol, gan gynnwys UCDau, nac i gwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir
Adran 10 – Cynllunio cwricwlwm
20.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir gynllunio cwricwlwm.
21.Rhaid i’r cwricwlwm gydymffurfio â’r gofynion a nodir ym Mhennod 2 o Ran 2 (gweler adrannau 20 i 24 ac adran 25). Trafodir y gofynion hyn ymhellach isod. Mae’n bwysig nodi bod y gofynion ar gyfer cynnwys cwricwlwm yn achos disgyblion 14 i 16 oed yn wahanol i’r gofynion i ddisgyblion iau. Bydd y gofynion gwahanol hyn yn treiddio i gynllunio cwricwlwm.
Adran 11 – Mabwysiadu cwricwlwm
22.Maeʼr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir fabwysiaduʼr cwricwlwm sydd wedi ei gynllunio o dan adran 10 fel y cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi crynodeb oʼu cwricwlwm mabwysiedig.
23.Bydd angen i’r pennaeth a’r corff llywodraethu gytuno i fabwysiadu’r cwricwlwm.
Adran 12 – Adolygu a diwygio cwricwlwm
24.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir gadw cwricwlwm mabwysiedig yr ysgol o dan adolygiad. Rhaid iddynt sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion a grybwyllir uchod, os oes angen drwy ei ddiwygio.
25.Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion hynny, rhaid i’r pennaeth a’r corff llywodraethu ystyried yr hyn sydd wedi ei ddangos gan unrhyw drefniadau asesu a wneir ganddynt o dan y Ddeddf. (Gallai canlyniadau’r trefniadau asesu, er enghraifft, ddangos nad yw’r cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol ac felly fod angen ei ddiwygio er mwyn ymdrin â hyn).
Adrannau 13 a 14 – Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi cwricwlwm ar gyfer lleoliadau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir
26.Mae adran 13 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cwricwlwm y maent yn ystyried ei fod yn addas ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir. Mae’r dull hwn – sy’n wahanol i’r dull ar gyfer ysgolion – yn adlewyrchu’r ffaith na fydd gan bob darparwr addysg a gyllidir ond nas cynhelir yr adnoddau neu’r profiad i gynllunio ei gwricwlwm ei hun.
27.Rhaid i’r cwricwlwm a gynllunnir gan Weinidogion Cymru gydymffurfio â’r gofynion ym Mhennod 2 o Ran 2.
28.Mae adran 14 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gadw’r cwricwlwm addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir y maent wedi ei gyhoeddi o dan adolygiad a’i ddiwygio os oes angen i sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion a grybwyllir uchod. Os ydynt yn diwygio eu cwricwlwm addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi eu cwricwlwm diwygiedig.
Adrannau 15 ac 16 – Mabwysiadu, adolygu a diwygio cwricwlwm
29.Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fabwysiadu cwricwlwm a chyhoeddi crynodeb ohono. Rhaid i’r cwricwlwm mabwysiedig fodloni’r gofynion ym Mhennod 2 o Ran 2.
30.Caiff y cwricwlwm a fabwysiedir gan y darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir fod yr un a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 13 neu’n gwricwlwm addas arall.
31.Mae adran 16 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir gadw ei gwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad. Rhaid iddo sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion a grybwyllir uchod, os oes angen drwy ei ddiwygio.
32.Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion hynny, rhaid i’r darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ystyried yr hyn sydd wedi ei ddangos gan unrhyw drefniadau asesu a wneir ganddo o dan y Ddeddf. (Gallai canlyniadau’r trefniadau asesu, er enghraifft, ddangos nad yw’r cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol ac felly fod angen ei ddiwygio er mwyn ymdrin â hyn).
33.Os yw’r darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir wedi mabwysiadu’r cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 13, a bod Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cwricwlwm hwnnw, rhaid i’r darparwr ystyried pa un ai i ddiwygio ei gwricwlwm mabwysiedig er mwyn adlewyrchu’r diwygiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Adran 17 – Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch mabwysiadu a diwygio cwricwlwm
34.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch materion gweithdrefnol penodol, gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid mabwysiadu cwricwlwm.
Adran 18 – Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch crynodebau cwricwlwm
35.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig, ac ynghylch ei gyhoeddi.
Pennod 2 – Gofynion Cwricwlwm
Adran 19 – Cyflwyniad
36.Mae’r adran hon yn disgrifio cynnwys Pennod 2 ac yn pennu ei bod yn gymwys i gwricwlwm:
i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol;
i ddisgyblion mewn ysgol feithrin a gynhelir;
i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
37.Mae hyn yn golygu nad yw Pennod 2 yn gymwys i gwricwlwm ar gyfer addysg ac eithrio yn yr ysgol, gan gynnwys UCDau, nac i gwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.
Adrannau 20 i 24 – Gofynion cwricwlwm
38.Maeʼr adrannau hyn yn nodiʼr gofynion y mae rhaid i gwricwlwm eu bodloni ar gyfer ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir. Ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm oni bai ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hyn, fel y’u trafodir uchod.
39.Rhaid i gwricwlwm:
alluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben (adran 20);
darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddisgyblion i ddisgyblion a phlant (adran 21);
bod yn addas i ddisgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol (adran 22);
bod yn eang ac yn gytbwys (adran 23);
darparu ar gyfer addysgu a dysgu syʼn cwmpasu pob un oʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad) ac sy’n datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol (adran 24).
40.Mae adran 24 hefyd yn gosod gofyniad pellach sy’n gymwys mewn perthynas â chwricwlwm i ddisgyblion dros 14 oed ond o dan yr oedran ysgol gorfodol (blynyddoedd 10 ac 11). Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm i’r disgyblion hynny gynnig iddynt ddewis o addysgu a dysgu o fewn pob maes dysgu a phrofiad. Mae’r gofyniad hwn yn adlewyrchu anghenion gwahanol y grŵp oedran hwn. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddatblygu eu pecyn eu hunain o ddewisiadau i’r disgyblion hyn, a gaiff gynnwys cyrsiau astudio neu ddysgu arall.
41.Mae adran 24(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu ACRh fod yn briodol yn ddatblygiadol.
42.Mae adran 24(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu CGM gyd-fynd â Rhan 1 o Atodlen 1. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys i gwricwlwm:
i ddisgyblion sydd mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol; neu
i blant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir.
Adran 25 – Pŵer i osod gofynion pellach cwricwlwm
43.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gosod gofynion ychwanegol cwricwlwm mewn perthynas â disgyblion 14-16 oed (Blynyddoedd 10 – 11).
Pennod 3 – Gweithredu Cwricwlwm
Adran 26 – Cyflwyniad a dehongli
44.Mae’r adran hon yn disgrifio cynnwys Pennod 3 ac yn pennu ei bod yn gymwys i gwricwlwm:
i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol;
i ddisgyblion mewn ysgol feithrin a gynhelir;
i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
45.Mae hyn yn golygu nad yw Pennod 3 yn gymwys i gwricwlwm ar gyfer addysg ac eithrio yn yr ysgol, gan gynnwys UCDau, nac i gwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.
46.Mewn termau cyffredinol, mae’r Bennod hon yn nodi gofynion sy’n ymwneud â’r ffordd y mae cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei roi ar waith mewn ysgol neu leoliad addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir.
Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir
Adran 27 – Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedig
47.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu yn unol ag adrannau 28, 29 a 30. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu yn y ffordd honno. Mae’r gwahaniaeth rhwng y gofynion hyn yn adlewyrchu rolau gwahanol y pennaeth a’r corff llywodraethu.
Adran 28 – Gofynion gweithredu cyffredinol
48.Mae’r adran hon yn nodi gofynion cyffredinol ynghylch y ffordd y mae rhaid gweithredu cwricwlwm mabwysiedig ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir.
Adran 29 – Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 3 i 14 oed
49.Mae’r adran hon yn nodi gofynion ychwanegol sy’n gymwys wrth weithredu cwricwlwm mabwysiedig ar gyfer y grŵp oedran 3-14 oed (o dan Flwyddyn 10 yn yr ysgol). Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm gael ei weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl sy’n cwmpasu’r meysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr elfennau mandadol. Wedi ei gymryd ar y cyd ag adran 6, yr effaith yw bod rhaid i’r addysgu a dysgu a ddarperir ar gyfer pob disgybl gwmpasu’r cysyniadau allweddol a nodir ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad yng Nghod yr Hyn sy’n Bwysig.
50.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm mabwysiedig gael ei weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl sy’n datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
51.Mae adran 29(3)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol ACRh fod yn addas ar gyfer cyfnod datblygu’r disgybl.
52.Mae adran 29(3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol CGM gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1. Fodd bynnag, nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys i addysgu a dysgu i ddisgyblion sydd mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.
Adran 30 – Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 14 i 16 oed
53.Mae’r adran hon yn nodi gofynion ychwanegol sy’n gymwys wrth weithredu cwricwlwm mabwysiedig i ddisgyblion 14-16 oed (Blynyddoedd 10 ac 11 yn yr ysgol).
54.Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm gael ei weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl sy’n cwmpasu’r elfennau mandadol.
55.Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm gael ei weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau rhywfaint o addysgu a dysgu arall i bob disgybl ym mhob maes dysgu a phrofiad. Felly, er enghraifft, bydd angen i’r cwricwlwm gael ei weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau rhywfaint o addysgu a dysgu ychwanegol i bob disgybl, yn y maes dysgu a phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, yn ogystal ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfennau mandadol Cymraeg a Saesneg. Ond yn achos y grŵp oedran hwn, yn annhebyg i’r grŵp oedran iau yr ymdrinnir ag ef yn adran 29, nid oes gofyniad i sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl sy’n “cwmpasu” pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.
56.Rhaid i’r addysgu a dysgu a sicrheir i bob disgybl ddatblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol. Rhaid iddo hefyd gynnwys yr addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24 (ond gweler adran 31) ac unrhyw addysgu a dysgu sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 25.
57.Rhaid i’r addysgu a dysgu a sicrheir i ddisgybl mewn cysylltiad ag elfen fandadol ACRh fod yn addas ar gyfer cyfnod datblygu’r disgybl. Rhaid i’r addysgu a dysgu a sicrheir i ddisgybl mewn cysylltiad ag elfen fandadol CGM fod yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1.
Adran 31 – Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl
58.Fel y’i disgrifir uchod, mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir weithredu’r cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd sy’n rhoi effaith i’r dewisiadau a wneir gan ddisgybl 14 i 16 oed yn rhinwedd adran 24. Mae adran 31 yn rhoi pŵer i’r pennaeth i ddatgymhwyso’r ddyletswydd hon, mewn perthynas â dewis disgybl penodol, drwy wneud penderfyniad.
59.Mae is-adrannau (3) a (4) yn pennu’r seiliau y caiff pennaeth wneud penderfyniad arnynt:
Mae’r seiliau a bennir yn is-adran (3) yn gymwys pan fo’r penderfyniad i’w wneud cyn i’r disgybl ddechrau’r flwyddyn ysgol y bydd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 15 oed ynddi (h.y. cyn i’r disgybl ddechrau blwyddyn 10).
Mae’r seiliau a bennir yn is-adran (4) yn gymwys pan fo’r penderfyniad i’w wneud ar ddyddiad diweddarach. Mae’r seiliau hyn yn fwy cyfyngedig, gan fod effaith datgymhwyso dewis disgybl yn fwy pan fo’r disgybl eisoes wedi dechrau ar yr addysgu a dysgu a ddewiswyd.
60.Mae is-adran (6) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio’r seiliau y caniateir gwneud penderfyniad arnynt.
61.Pan fo penderfyniad yn cael ei wneud o dan yr adran hon, bydd y pennaeth yn parhau i fod o dan ddyletswydd i ddarparu i’r disgybl yr addysgu a dysgu a bennir yn adran 30(2). Hynny yw, bydd rhaid i’r pennaeth sicrhau bod addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau i’r disgybl ym mhob maes dysgu a phrofiad, yn ychwanegol at yr addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r elfennau mandadol. Ond ni fydd angen cynnig dewis pellach o addysgu a dysgu i’r disgybl.
Adran 32 – Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl: atodol
62.Mae’r adran hon yn gosod gofyniad i ddarparu gwybodaeth benodol i’r disgybl a rhiant y disgybl pan fo penderfyniad wedi ei wneud o dan adran 31 i beidio â darparu dewis y disgybl o addysgu a dysgu.
63.Nid oes dyletswydd i ddarparu’r wybodaeth hon i’r disgybl os yw’r pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr wybodaeth a fyddai’n cael ei rhoi neu’r hyn y byddai’n ei olygu i arfer yr hawl i apelio yn adran 33.
64.Yn ychwanegol, mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach mewn rheoliadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir o dan adran 31.
Adran 33 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dewis disgybl
65.Mae’r adran hon yn galluogi disgybl, neu riant i ddisgybl, y rhoddir gwybodaeth iddo am benderfyniad a wneir o dan adran 31 i’w gwneud yn ofynnol i’r pennaeth adolygu’r penderfyniad hwnnw. Os yw adolygiad yn ofynnol, rhaid i’r pennaeth naill ai cadarnhau, amrywio neu ddirymu (h.y. tynnu’n ôl) y penderfyniad, a rhaid iddo roi hysbysiad o’r penderfyniad i’r disgybl a rhiant y disgybl.
66.Os yw’r disgybl neu’r rhiant yn anfodlon ar ganlyniad yr adolygiad, caiff y disgybl neu riant y disgybl apelio i gorff llywodraethu’r ysgol.
67.Os gwneir apêl, rhaid i’r corff llywodraethu naill ai cadarnhau, amrywio neu ddirymu (h.y. tynnu’n ôl) penderfyniad y pennaeth, a rhaid iddo roi hysbysiad o’i benderfyniad i’r disgybl a rhiant y disgybl.
68.Nid oes dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r disgybl am ganlyniad adolygiad neu apêl os yw’r penderfynwr yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr wybodaeth a fyddai’n cael ei rhoi neu (yn achos penderfyniad ar adolygiad) yr hyn y byddai’n ei olygu i arfer yr hawl i apelio.
Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir
Adran 34 – Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedig
69.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr addysg a gyllidir ond nas cynhelir sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu yn unol ag adrannau 35 ac 36. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy’n sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig ar gyfer yr addysg feithrin honno yn cael ei weithredu yn y ffordd honno. Gallai awdurdod lleol, er enghraifft, gydymffurfio â’r ddyletswydd hon drwy ei drefniadau contractiol â’i ddarparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir.
Adran 35 – Gofynion gweithredu cyffredinol
70.Mae’r adran hon yn nodi gofynion cyffredinol ynghylch y ffordd y mae rhaid i gwricwlwm mabwysiedig gael ei weithredu ar gyfer plant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir.
Adran 36 – Gofynion sy’n ymwneud â meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaidd
71.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm mabwysiedig gael ei weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau addysgu a dysgu i bob plentyn sy’n cwmpasu’r meysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr elfennau mandadol. Wedi ei gymryd ar y cyd ag adran 6, yr effaith yw bod rhaid i’r addysgu a dysgu a ddarperir ar gyfer pob plentyn gwmpasu’r cysyniadau allweddol a nodir ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad yng Nghod yr Hyn sy’n Bwysig.
72.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm mabwysiedig gael ei weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau addysgu a dysgu i bob plentyn sy’n datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
73.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i addysgu a dysgu i blentyn mewn cysylltiad ag elfen fandadol ACRh fod yn addas ar gyfer cyfnod datblygu’r plentyn.
Pennod 4 – Gweithredu Cwricwlwm: Eithriadau
Adran 37 - Cyflwyniad
74.Mae adran 37 yn esbonio bod Pennod 4 yn nodi eithriadau i’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm ym Mhennod 3.
Adran 38 – Gwaith datblygu ac arbrofion
75.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd i ysgolion a meithrinfeydd a gyllidir ond nas cynhelir i’w galluogi i gymryd rhan mewn gwaith datblygu neu arbrofion.
76.Caiff cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon addasu neu ddatgymhwyso rhai neu bob un o’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm yn adrannau 27, 28, 29 a 30 (mewn perthynas ag ysgolion) ac adrannau 34, 35 ac 36 (mewn perthynas â meithrinfeydd a gyllidir ond nas cynhelir) am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd, fel y gall y gwaith datblygu neu’r arbrawf ddigwydd. Gellid defnyddio cyfarwyddyd, felly, er enghraifft, i ganiatáu i ysgolion gymryd rhan mewn cynllun peilot ar gyfer maes dysgu a phrofiad newydd arfaethedig.
Adran 39 – Gwaith datblygu ac arbrofion: amodau
77.Mae’r adran hon yn pennu amodau y mae rhaid eu bodloni er mwyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 38.
78.Bwriedir i’r amod a bennir yn is-adran (2) sicrhau bod disgyblion neu blant y mae’r cyfarwyddyd yn effeithio arnynt yn parhau i gael cwricwlwm addas.
Adran 40 – Gwaith datblygu ac arbrofion: atodol
79.Mae’r adran hon yn nodi gofynion atodol mewn perthynas â chyfarwyddydau a roddir o dan adran 38.
80.Pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi mewn perthynas ag ysgol, neu mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, mae is-adrannau (4) a (5) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol, neu ddarparwr yr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, gyhoeddi crynodeb o’r cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad i’r cyfarwyddyd. Mae’r is-adrannau hyn hefyd yn addasu’r dyletswyddau a osodir gan adrannau 12 ac 16 mewn cysylltiad ag adolygu a diwygio cwricwlwm mabwysiedig, fel nad ydynt ond yn gymwys i’r graddau sy’n gydnaws â’r cyfarwyddyd.
Adran 41 – Disgyblion a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol
81.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm ym Mhennod 3 gael eu datgymhwyso neu eu haddasu mewn perthynas â disgyblion neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”).
82.Mae is-adran (1) yn caniatáu i Gynlluniau Datblygu Unigol (“CDUau”) a lunnir ar gyfer disgybl neu blentyn o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gynnwys darpariaeth sy’n datgymhwyso neu’n addasu rhai neu bob un o’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm ym Mhennod 3. Llunnir y cynlluniau hynny gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
83.Mae is-adran (2) yn caniatáu i Gynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal (“Cynlluniau AIG”) a lunnir ar gyfer disgybl neu blentyn o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 gynnwys darpariaeth debyg. Llunnir cynlluniau AIG gan awdurdodau lleol yn Lloegr, ond efallai y bydd angen iddynt gynnwys darpariaeth o’r math hwn os yw disgybl neu blentyn sy’n preswylio fel arfer yn Lloegr yn mynychu lleoliad addysgol yng Nghymru.
84.Mae is-adran (3) yn gosod cyfyngiad ar bwerau awdurdodau lleol i ddatgymhwyso neu addasu dyletswyddau gweithredu cwricwlwm drwy ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn CDUau neu gynlluniau AIG. Nid yw’n caniatáu i CDUau neu gynlluniau AIG gynnwys darpariaeth o’r math hwn ond os yw’r amodau yn yr is-adran honno wedi eu bodloni. Nod yr amodau hyn yw sicrhau y bydd y disgyblion a’r plant y mae eu CDUau neu eu cynlluniau AIG yn cynnwys y ddarpariaeth honno yn parhau i gael cwricwlwm addas.
85.Mae is-adran (4) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y gall CDU neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adrannau (1) a (2).
Adran 42 – Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigol
86.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n caniatáu i bennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir benderfynu bod rhai neu bob un o’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm ym Mhennod 3 i’w datgymhwyso neu eu haddasu dros dro mewn perthynas â disgybl unigol.
87.Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n caniatáu i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir benderfynu bod rhai neu bob un o’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm ym Mhennod 3 i’w datgymhwyso neu eu haddasu dros dro mewn perthynas â phlentyn unigol.
88.Rhaid i’r rheoliadau ddarparu na chaiff person wneud penderfyniad ond os yw’r person wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei ddarparu ar gyfer y disgybl neu’r plentyn yn cydymffurfio â’r gofynion yn is-adran (3). Bwriedir i’r gofynion hyn sicrhau y bydd y cwricwlwm a gaiff ei ddarparu yn un addas.
89.Mae is-adran (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, drwy reoliadau, amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir i benderfyniad gael ei wneud.
Adran 43 – Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigol: atodol
90.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rheoliadau o dan adran 42.
91.Mae is-adran (2) yn darparu na chaiff rheoliadau o’r fath ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud ar y sail bod gan ddisgybl neu blentyn, neu y gall fod ganddo, anghenion dysgu ychwanegol. Os yw unrhyw ddyletswyddau gweithredu cwricwlwm i’w datgymhwyso neu eu haddasu ar sail anghenion dysgu ychwanegol disgybl neu blentyn, y cam gweithredu priodol yw cynnwys darpariaeth i’r perwyl hwnnw yn y cynlluniau datblygu unigol neu’r cynlluniau AIG (gweler adran 41).
92.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheoliadau sicrhau nad yw cyfnod gweithredol penderfyniad yn hwy na 6 mis. Fodd bynnag, caiff y rheoliadau ganiatáu i benderfyniadau olynol gael cyfnod gweithredol cyfunol o hwy na 6 mis.
Adran 44 – Darparu gwybodaeth am eithriadau dros dro
93.Mae’r adran hon yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei darparu gan bennaeth neu ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir sy’n gwneud, yn amrywio neu’n dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42. Mae hefyd yn rhestru’r personau y mae rhaid darparu’r wybodaeth honno iddynt.
94.Rhaid i bennaeth ddarparu’r wybodaeth a nodir yn is-adran (3) (ac, os yw’n briodol, yr wybodaeth a nodir yn is-adran (4)) i’r disgybl y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef, rhiant y disgybl, corff llywodraethu’r ysgol, a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol. Fodd bynnag, mae is-adran (5) yn datgymhwyso’r ddyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i’r disgybl pan fo’r pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr wybodaeth, neu’r hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl i apelio a roddir gan adran 45.
95.Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ddarparu’r wybodaeth a nodir yn is-adran (3) (ac, os yw’n briodol, yr wybodaeth a nodir yn is-adran (4)) i riant y plentyn y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef, ac i’r awdurdod lleol sy’n sicrhau’r addysg honno.
Adran 45 – Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion unigol
96.Mae’r adran hon yn galluogi disgybl, neu riant y disgybl, i apelio i gorff llywodraethu’r ysgol pan fo’r pennaeth yn gwneud, yn dirymu neu’n amrywio penderfyniad sy’n ymwneud â’r disgybl o dan reoliadau a wneir o dan adran 42. Mae hefyd yn caniatáu i’r disgybl, neu riant y disgybl, ddwyn apêl pan fônt wedi gofyn i’r pennaeth wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny ond na fo penderfyniad wedi ei wneud (er enghraifft, am fod y pennaeth wedi gwrthod gwneud y penderfyniad neu nad yw wedi ymateb i’r cais).
97.Fodd bynnag, ni chaiff y disgybl apelio os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr hyn y mae’n ei olygu i ddwyn apêl.
98.Os yw apêl yn cael ei gwneud, caiff y corff llywodraethu gadarnhau penderfyniad y pennaeth neu gyfarwyddo’r pennaeth i gymryd y camau gweithredu y mae’n ystyried eu bod yn briodol. Rhaid iddo hefyd hysbysu’r disgybl a rhiant y disgybl am ei benderfyniad, oni bai ei fod yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr wybodaeth a fyddai’n cael ei rhoi.
99.Mae’r adran yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach, drwy reoliadau, mewn cysylltiad â’r apelau hyn.
Adran 46 – Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer plant unigol
100.Mae’r adran hon yn galluogi’r rhiant i blentyn y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar ei gyfer i apelio i’r awdurdod lleol sy’n sicrhau’r addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir os yw’r darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn gwneud, yn dirymu neu’n amrywio penderfyniad sy’n ymwneud â’r plentyn o dan reoliadau a wneir o dan adran 42. Mae hefyd yn caniatáu i riant y plentyn ddwyn apêl pan fo wedi gofyn i’r darparwr wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny ond na fo penderfyniad wedi ei wneud.
101.Os yw apêl yn cael ei gwneud, caiff yr awdurdod lleol gadarnhau penderfyniad y darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir neu gyfarwyddo’r darparwr i gymryd y camau gweithredu y mae’n ystyried eu bod yn briodol. Rhaid iddo hefyd hysbysu rhiant y disgybl am ei benderfyniad.
102.Mae’r adran yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach, drwy reoliadau, mewn cysylltiad â’r apelau hyn.
Adran 47 – Eithriad ar gyfer disgyblion y mae trefniadau wedi eu gwneud ar eu cyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996
103.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn glir nad yw’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm yn adrannau 27, 28, 29 a 30 yn gymwys i ddisgyblion y gwneir trefniadau iddynt o dan adran 19A o Ddeddf 1996 (disgyblion sy’n cael addysg ac eithrio yn yr ysgol, gan gynnwys mewn UCDau).
Adran 48 – Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer eithriadau pellach
104.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu achosion neu amgylchiadau ychwanegol pan ganiateir i rai neu bob un o’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm yn adrannau 27, 28, 29 a 30, neu yn adrannau 34, 35 ac 36, gael eu datgymhwyso neu eu haddasu.
105.Mae is-adran (2) yn caniatáu i’r rheoliadau roi disgresiwn i berson i benderfynu a ddylid datgymhwyso neu addasu rhai neu bob un o’r dyletswyddau gweithredu cwricwlwm mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau. Felly, gallai’r rheoliadau, er enghraifft, ganiatáu i benaethiaid benderfynu a ddylid datgymhwyso dyletswyddau gweithredu cwricwlwm penodol mewn perthynas â disgyblion y mae darpariaeth allanol wedi ei chomisiynu iddynt (h.y. darpariaeth nas darperir gan yr ysgol).
Rhan 3 - Cwricwlwm Ar Gyfer Darpariaeth Eithriadol O Addysg Mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion Neu Mewn Mannau Eraill
Adran 49 - Cyflwyniad
106.Mae’r adran hon yn disgrifio cynnwys Rhan 3. Mae’r Rhan yn gwneud darpariaeth ynghylch y cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir ar gyfer plant o’r oedran ysgol gorfodol o dan adran 19A o Ddeddf 1996:
mewn unedau cyfeirio disgyblion, neu
ac eithrio mewn unedau cyfeirio disgyblion.
107.Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg addas o dan adran 19A o Ddeddf 1996 ar gyfer plant o’r oedran ysgol gorfodol na fyddent yn cael addysg addas oni bai bod y trefniadau hynny yn cael eu gwneud: er enghraifft, ar gyfer plant sy’n sâl neu sydd wedi eu gwahardd o’r ysgol.
108.Mae adran 19A wedi ei mewnosod yn Neddf 1996 gan baragraff 4 o Atodlen 2; mae adran 19 o Ddeddf 1996 (a oedd yn gosod gofynion tebyg yn flaenorol) yn peidio â chael effaith mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru pan ddaw’r Ddeddf hon i rym.
Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau)
Adran 50 – Gofynion cwricwlwm
109.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol, y pwyllgorau rheoli (os oes un*) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD arfer eu swyddogaethau er mwyn sicrhau bod gan yr UCD gwricwlwm syʼn cydymffurfio â gofynion a nodir yn is-adrannau (2) i (5). Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr UCD gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm hwnnw, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.
110.*O dan baragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau syʼn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgorau rheoli ar gyfer UCDau. Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaethau ynghylch aelodaeth a swyddogaethauʼr pwyllgorau. Er bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau syʼn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgorau rheoli, nid yw Deddf 1996 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw pwyllgorau rheoli. Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, yn y dyfodol, ddirymu’r rheoliadau heb eu disodli, a fydd yn golygu na fydd gan UCDau bwyllgorau rheoli mwyach. Mae’r cyfeiriadau drwy’r Rhan hon at “y pwyllgor rheoli (os oes un)” yn caniatáu ar gyfer y posibilrwydd hwn.
111.Mewn ysgol a gynhelir, rhaid i’r pennaeth gynllunio cwricwlwm ar gyfer yr ysgol ac yna rhaid i’r pennaeth a’r corff llywodraethu ei fabwysiadu. Yna cyfrifoldeb y pennaeth yw gweithredu’r cwricwlwm hwnnw i bob disgybl yn yr ysgol.
112.Mae is-adran (1) yn defnyddio dull gwahanol ar gyfer UCDau. Yma, rhaid i’r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD i gyd arfer eu swyddogaethau er mwyn sicrhau bod cwricwlwm ar gyfer yr uned sy’n cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn is-adrannau (2) i (5). Yna cyfrifoldeb yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned yw gweithredu’r cwricwlwm hwnnw i bob disgybl yn yr uned.
113.Mae gwahaniaethau penodol rhwng y gofynion cwricwlwm ar gyfer ysgolion a gynhelir ac UCDau. Mae’r rhain yn adlewyrchu’r heriau penodol o ddarparu addysgu a dysgu mewn UCDau, o’u cymharu ag ysgolion a gynhelir, ac anghenion penodol disgyblion sy’n mynychu’r unedau hyn.
114.Mae ystod o resymau pam y caiff plant fynychu UCDau, yn hytrach nag ysgolion a gynhelir. Caiff y rhesymau hyn gynnwys salwch, gwrthod mynd i’r ysgol neu ymddygiad heriol iawn sy’n gysylltiedig ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae disgyblion mewn UCDau yn aml wedi colli cyfnodau estynedig o addysg ac mae ganddynt fylchau yn eu dysgu. Mae ganddynt o bosibl hunan-dyb isel a diffyg hyder, ac mae gan lawer ohonynt ddyheadau isel ar gyfer eu dyfodol. Am y rhesymau hyn, nid yw’r gofynion cwricwlwm i ddisgyblion mewn UCDau yr un fath ag i’r rheini mewn ysgolion a gynhelir. Er bod UCDau yn ymwneud â chynnydd addysgol, rhaid i’r addysgu a dysgu mewn UCDau hefyd ganolbwyntio ar helpu’r disgyblion hyn i fynd i’r afael â rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad i ddarpariaeth brif ffrwd a rhag cymryd rhan mewn addysg a’u helpu i oresgyn y rhwystrau hyn.
115.Felly, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD arfer eu swyddogaethau er mwyn sicrhau bod cwricwlwm:
sy’n galluogi disgyblion i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben;
sy’n darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddisgyblion;
sy’n addas i ddisgyblion o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol;
sy’n eang ac yn gytbwys i’r graddau y mae’n briodol i ddisgyblion;
sy’n darparu ar gyfer addysgu a dysgu:
sy’n cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles;
sy’n cwmpasu elfen fandadol ACRh mewn ffordd sy’n briodol yn ddatblygiadol; ac
sy’n datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd; ac
os yw’n rhesymol bosibl a phriodol, sy’n darparu ar gyfer addysgu a dysgu yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill a’r elfennau mandadol eraill.
116.Nid oes rhaid i gwricwlwm UCD gwmpasu pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad a’r holl elfennau mandadol. Rhaid iddo gwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles ac elfen fandadol ACRh, ond y bwriad yw caniatáu i UCDau benderfynu ar yr hyn y mae’n rhesymol bosibl ac yn briodol ei ddarparu yn nhermau addysgu a dysgu mewn meysydd dysgu a phrofiad eraill ac elfennau mandadol eraill.
Adran 51 – Adolygu a diwygio cwricwlwm
117.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD gadw cwricwlwm yr uned o dan adolygiad. Rhaid iddynt sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn adran 50(2), (3) a (4), os oes angen drwy ei ddiwygio. Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion hynny, rhaid iddynt ystyried gwybodaeth a gesglir o drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan y Ddeddf (gweler adran 56).
118.Os caiff cwricwlwm UCD ei ddiwygio, rhaid i’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned gyhoeddi’r cwricwlwm diwygiedig neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.
Adran 52 – Gweithredu cwricwlwm
119.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD sicrhau y gweithredir cwricwlwm yr uned yn unol âʼr gofynion a nodir yn is-adrannau (1) i (4). Mae’r gofynion hyn yn cynnwys gofyniad i weithredu’r cwricwlwm mewn ffordd sy’n ystyried ADY pob disgybl (os oes rhai).
120.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol a’r pwyllgor rheoli ar gyfer UCD arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y gweithredir y cwricwlwm yn unol âʼr gofynion hyn.
Addysg arall a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996
Adran 53 – Gofynion cwricwlwm
121.Mae’r adran hon yn gymwys i awdurdodau lleol syʼn gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf 1996 i ddarparu addysg ar gyfer plant ac eithrio mewn UCDau. Gwneir trefniadau o’r math hwn ar gyfer grŵp amrywiol o ddysgwyr y mae eu hamgylchiadau yn unigryw yn aml. Er enghraifft, gall dysgwr fynychu ysgol a gynhelir fel arfer ond oherwydd salwch ni all fynychu am gyfnod o amser ac mae angen iddo gael ei addysgu gartref neu yn yr ysbyty.
122.Mae’r ystod o amgylchiadau y gall fod angen mynd i’r afael â hwy o dan y trefniadau hyn yn ei gwneud yn amhriodol ac yn anymarferol ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynllunio un cwricwlwm cyffredin ar gyfer yr addysg a ddarperir i’r garfan hon o ddysgwyr. Yn lle hynny, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau y mae’n eu rhoi yn eu lle ar gyfer addysg plentyn o dan adran 19A o Ddeddf 1996 yn sicrhau cwricwlwm pwrpasol i’r plentyn hwnnw sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn is-adrannau (2) i (5).
123.Y gofynion yn is-adrannau (2) i (5) yw bod rhaid i’r cwricwlwm i bob plentyn:
galluogi’r plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben;
darparu ar gyfer cynnydd priodol i’r plentyn;
bod yn addas ar gyfer gallu a dawn y plentyn;
bod yn eang ac yn gytbwys i’r graddau y mae’n briodol i’r plentyn;
darparu, i’r graddau y mae’n briodol i’r plentyn, ar gyfer addysgu a dysgu:
sy’n cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles;
sy’n cwmpasu elfen fandadol ACRh mewn ffordd sy’n briodol yn ddatblygiadol; a
sy’n datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol; ac
darparu, i’r graddau y mae’n rhesymol bosibl a phriodol, ar gyfer addysgu a dysgu yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill a’r elfennau mandadol eraill.
124.Nid oes rhaid i’r trefniadau sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cwmpasu’r holl feysydd dysgu a phrofiad a’r holl elfennau mandadol. Rhaid i gwricwlwm y plentyn gwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles ac elfen fandadol ACRh, ond y bwriad yw caniatáu i’r awdurdod lleol benderfynu ar yr hyn y mae’n rhesymol bosibl ac yn briodol ei ddarparu ar gyfer y plentyn yn nhermau addysgu a dysgu yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill a’r elfennau mandadol eraill.
Adran 54 – Adolygu a diwygio
125.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf 1996 i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn UCD gadw’r trefniadau hynny o dan adolygiad. Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn adran 53, os oes angen drwy ddiwygio’r trefniadau hynny. Wrth ystyried a yw’r trefniadau yn parhau i sicrhau cwricwlwm o’r math hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried gwybodaeth a gesglir o drefniadau asesu a weithredir mewn perthynas â’r plentyn o dan y Ddeddf (gweler adran 56).
Adran 55 – Gweithredu cwricwlwm
126.Mae’r adran hon, unwaith eto, yn gymwys i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf 1996 i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn UCD. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau yn gwneud yn siŵr bod y cwricwlwm i’r plentyn yn cael ei weithredu yn unol â’r gofynion a nodir yn is-adrannau (1) a (2).
127.Mae’r gofynion hyn yn cynnwys gofyniad i weithredu’r cwricwlwm mewn ffordd sy’n ystyried ADY y plentyn (os oes rhai).
Rhan 4 Asesu a Chynnydd
Adran 56 – Dyletswydd i wneud darpariaeth ynghylch trefniadau asesu
128.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch trefniadau asesu. Mae’r rhain yn drefniadau ar gyfer asesu (drwy gyfeirio at y cwricwla a lunnir o dan Rannau 2 a 3):
y cynnydd a wneir gan ddisgyblion a phlant,
y camau nesaf yn eu cynnydd, ac
yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
129.Bydd gan Weinidogion Cymru yr hyblygrwydd i benderfynu ar y trefniadau asesu mwyaf priodol ar gyfer ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir, lleoliadau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, UCDau ac addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, ac ar gyfer y disgyblion a’r plant y darperir addysgu a dysgu ar eu cyfer. Fel y’i crybwyllir uchod, rhaid ystyried canlyniadau unrhyw asesiadau wrth ystyried a oes angen diwygio cwricwlwm.
Adran 57 – Hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd
130.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddydau i unrhyw un neu ragor o’r “personau perthnasol” a restrir yn adran 56(4) i gymryd camau penodedig i hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd.
Rhan 5 Addysg Ôl-Orfodol Mewn Ysgolion a Gynhelir
131.Cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym, nodwyd y trefniadau cwricwlwm i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”). Roedd Rhan 7 o Ddeddf 2002 yn gymwys mewn perthynas â disgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (16 - 18 oed), yn ogystal ag mewn perthynas â disgyblion 3 - 16 oed.
132.Mae’r Ddeddf hon yn diddymu Rhan 7 o Ddeddf 2002. Nodir y trefniadau cwricwlwm newydd i ddisgyblion sy’n 3 – 16 oed yn Rhan 2, a nodir y rheini i ddisgyblion sy’n 16 – 18 oed yn y Rhan hon.
Adran 58 – Cyflwyniad a dehongli
133.Mae’r adran hon yn disgrifio cynnwys Rhan 5. Nid yw’r Rhan ond yn gymwys mewn perthynas â disgyblion mewn ysgolion a gynhelir sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.
Adran 59 – Gofyniad cwricwlwm cyffredinol
134.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir sicrhau bod y cwricwlwm i ddisgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol yn gwricwlwm cytbwys ac eang—
sy’n hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol y disgyblion a’r gymdeithas, ac
sy’n paratoi’r disgyblion ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd yn ddiweddarach.
135.Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau cwricwlwm o’r math hwn i ddisgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ym mhob ysgol y mae’r awdurdod yn ei chynnal. Ac mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau cwricwlwm o’r math hwn i ddisgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Adran 60 – Gofyniad cwricwlwm: Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
136.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ddarparu addysgu a dysgu mewn ACRh pan fo disgybl sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol wedi gofyn amdano. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y darperir yr addysgu a dysgu hwn os gofynnir amdano.
Adran 61 – Gofyniad cwricwlwm: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
137.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ddarparu addysgu a dysgu mewn CGM pan fo disgybl sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol wedi gofyn amdano. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y darperir yr addysgu a dysgu hwn os gofynnir amdano.
138.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r addysgu a dysgu a ddarperir o dan yr adran hon adlewyrchu’r ffaith mai Cristnogol yn bennaf yw’r traddodiadau crefyddol yng Nghymru, ond hefyd ystyried prif grefyddau eraill (nad ydynt yn rhai Cristnogol) yng Nghymru. Rhaid i’r addysgu a dysgu hefyd adlewyrchu’r ffaith y delir ystod o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol (megis anffyddiaeth) yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu gofynion y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (yr “CEHD”).
139.Nid yw adran 61 o’r Ddeddf yn atal ysgol rhag gosod gofyniad bod pob disgybl yn ei chweched dosbarth yn ymgymryd â dosbarthiadau CGM gorfodol; nid yw ychwaith yn atal ysgol sy’n mabwysiadu’r dull hwn rhag darparu CGM gorfodol i’r chweched dosbarth sy’n cyd-fynd â gweithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol, neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol (“CGM enwadol”). Mater i’r ysgol o hyd yw cynnwys CGM enwadol o’r fath.
Adran 62 – Gofynion cwricwlwm pellach
140.Mae’r adran hon yn nodi bod darpariaethau eraill ynghylch y cwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol yn adrannau 33A-33O o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae’r darpariaethau hynny yn ei gwneud yn ofynnol creu cwricwla lleol i’r disgyblion hynny.
Rhan 6 Atodol
Adran 63 – Dyletswydd i roi sylw i iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc
141.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar y personau a restrir yn is-adran (2). Y ddyletswydd yw rhoi sylw i iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc, wrth arfer swyddogaethau a roddir iddynt gan neu o dan y Ddeddf, er enghraifft mewn perthynas â threfniadau asesu. Mae’r ddyletswydd yn gymwys mewn perthynas â phlant a phobl ifanc y mae arfer y swyddogaeth o dan sylw yn debygol o effeithio arnynt.
142.Bydd y ddyletswydd hon yn sicrhau y bydd angen gwneud pob penderfyniad sy’n ymwneud â datblygu a gweithredu cwricwlwm gan roi sylw i’r effaith ar iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr. Bydd y penderfyniadau hyn yn cynnwys, er enghraifft, benderfyniadau ynghylch cynnwys y cwricwlwm, a chynnydd.
143.Mae’r ddyletswydd yn gymwys mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy’n cael addysg ac eithrio yn yr ysgol yn ogystal ag mewn perthynas â phlant a phobl ifanc mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir, a phlant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir.
Adran 64 – Dyletswydd i hybu gwybodaeth am Gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant a hawliau pobl ag anableddau a dealltwriaeth o’r Confensiynau hynny
144.Mae adran 64 yn gosod gofynion amrywiol mewn cysylltiad ag CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn) ac CCUHPA (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau).
145.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir hybu gwybodaeth am CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith pobl sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â chwricwlwm yr ysgol. Byddai hyn yn cynnwys (ond heb fod o reidrwydd yn gyfyngedig i) athrawon sydd wedi eu cyflogi yn yr ysgol.
146.Ond ni fydd y ddyletswydd hon yn gymwys mewn perthynas (er enghraifft) â phobl sy’n darparu addysgu a dysgu yn yr ysgol nad yw’n ymwneud o gwbl â’r cwricwlwm, megis mewn dosbarthiadau nos sydd ar agor i’r gymuned leol.
147.Mae is-adran (2) yn gosod dyletswydd gyfatebol yng nghyd-destun addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir; yn y cyd-destun hwn gosodir y ddyletswydd ar ddarparwr yr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir.
148.Mae is-adrannau (3) a (4) yn gosod dyletswyddau cyfatebol mewn cysylltiad ag UCDau ac addysg arall ac eithrio yn yr ysgol. Yng nghyd-destun UCD, gosodir y ddyletswydd ar yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr UCD. Yng nghyd-destun addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD, gosodir y ddyletswydd ar yr awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau ar gyfer yr addysg ac eithrio yn yr ysgol.
Adran 65 – Dyletswydd i gydweithredu
149.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r personau a bennir yn is-adran (2) geisio ymrwymo i “drefniadau cydweithredu”, naill ai â pherson arall a bennir yn is-adran (2), neu â chorff llywodraethu sefydliad addysg bellach. Nid yw’r ddyletswydd ond yn gymwys os yw’r person o dan sylw yn ystyried y byddai gwneud y trefniadau yn hwyluso arfer swyddogaeth a roddir i’r person gan neu o dan y Ddeddf. Os yw person yn ceisio gwneud trefniadau â pherson arall drwy gydymffurfio â’r adran hon, rhaid i’r ail berson ystyried y cais.
150.Gallai trefniadau cydweithredu o dan yr adran hon, er enghraifft, ymwneud â darparu cymorth ariannol, neu rannu gwybodaeth, neu arfer swyddogaethau ar y cyd (gweler adran 5 o Fesur Addysg (Cymru) 2011).
Adran 66 – Dyletswydd Gweinidogion Cymru i hwyluso cyflawni swyddogaethau
151.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau mewn ffordd sy’n helpu’r personau a restrir yn is-adran (2) i gyflawni swyddogaethau a roddir iddynt gan neu o dan Rannau 2 i 4 o’r Ddeddf.
152.Mae’r cyfeiriad at Rannau 2 i 4 yn golygu nad yw’r ddyletswydd hon yn gymwys mewn perthynas â swyddogaethau a roddir i berson gan neu o dan y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud ag addysg ôl-orfodol mewn ysgolion a gynhelir, neu o dan Ran 6 ei hun.
Adran 67 – Dyletswydd awdurdodau lleol i hwyluso cyflawni swyddogaethau
153.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy’n helpu’r personau a restrir yn is-adran (2) i gyflawni’r swyddogaethau a roddir iddynt gan neu o dan Rannau 2 i 4 o’r Ddeddf. Yn achos ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir, UCD neu addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, diffinnir y personau a restrir yn is-adran (2) drwy gyfeirio at ba un a gynhelir yr ysgol neu’r UCD gan yr awdurdod lleol, neu a sicrheir yr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ganddo.
154.Mae’r adran hefyd yn gosod dyletswydd bellach ar awdurdod lleol sy’n gymwys pan fo’r awdurdod yn gwneud trefniadau i addysg ac eithrio yn yr ysgol gael ei darparu i blentyn, ond nid mewn ysgol a gynhelir, nac ysgol feithrin a gynhelir, nac UCD, a gynhelir gan yr awdurdod. Mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau mewn ffordd sy’n helpu’r personau a restrir yn is-adran (5) i gyflawni eu swyddogaethau a roddir gan neu o dan Rannau 2 i 4. Mae’r ddyletswydd bellach hon yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn bosibl na chaiff addysg ac eithrio yn yr ysgol ei darparu mewn ysgol a gynhelir nac UCD o gwbl, neu ei bod yn bosibl y caiff ei darparu mewn ysgol a gynhelir neu UCD a gynhelir gan awdurdod lleol arall.
Adran 68 – Dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu mynediad etc at gyrsiau astudio cyfrwng Cymraeg
155.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hybu mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg, a hybu argaeledd y cyrsiau astudio hynny. “Cwrs astudio” at y diben hwn yw cwrs addysg, er enghraifft mathemateg, neu hyfforddiant, sy’n arwain at gymhwyster neu set o gymwysterau a gymeradwyir neu a ddynodir o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015. Mae’r ddyletswydd yn gymwys mewn perthynas â’r plant hynny y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt, h.y. y rheini a bennir yn adran 1 o’r Ddeddf. (Yn ymarferol, dilynir “cwrs astudio” fel y’i diffinnir yn gyffredinol gan blant 14-16 oed, ond gall plant iau eraill ddilyn un weithiau.)
Adran 69 – Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer plant sy’n cael addysg mewn mwy nag un lleoliad etc
156.Mae adran 69 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer plant sydd o’r oedran ysgol gorfodol ac yn dod o fewn categori a bennir yn yr adran. Caiff y rheoliadau gymhwyso darpariaethau yn y Ddeddf mewn perthynas â’r plant hynny, gydag addasiadau neu hebddynt.
157.Mae is-adran (2) yn darparu bod y pŵer yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, os darperir i’r plentyn addysg mewn ysgol arall a gynhelir, neu mewn ysgol feithrin a gynhelir, hefyd. Mae hefyd yn gymwys os yw’r plentyn, yn ogystal â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, yn cael addysg mewn UCD; neu addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf 1996, ond nid mewn UCD, ysgol a gynhelir nac ysgol feithrin a gynhelir. Felly, byddai hyn yn cwmpasu, er enghraifft, blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ond y darperir rhywfaint o addysg iddo mewn UCD hefyd, efallai oherwydd bod y plentyn yn cael ei ailgyflwyno’n raddol i addysg brif ffrwd. Byddai hefyd yn cwmpasu plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ond sy’n cael rhywfaint o addysg ac eithrio yn yr ysgol gartref.
158.Mae is-adran (3) yn dyblygu’r dull hwn mewn perthynas â phlentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir.
159.Mae is-adran (4) yn darparu bod y pŵer yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn UCD, os yw’r plentyn hefyd yn cael addysg mewn UCD arall, neu (yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf 1996) mewn man ac eithrio UCD, ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir. Enghraifft bosibl fyddai plentyn sy’n cael addysg ran-amser mewn UCD fel disgybl cofrestredig yno, a hefyd addysg ac eithrio yn yr ysgol yn rhan-amser gartref, efallai oherwydd nad yw’r plentyn yn barod i ymgymryd ag addysg lawnamser yn yr UCD eto.
160.Y bwriad y tu ôl i is-adrannau (2) i (4) yw galluogi rheoliadau i wneud darpariaeth ynghylch addysgu a dysgu ar gyfer plant sy’n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir, neu UCD, ond sydd hefyd yn cael addysg mewn man arall, sef gartref neu mewn lleoliad arall efallai.
161.Mae is-adran (5) yn rhoi’r pŵer i bennu disgrifiadau pellach o blant y mae adran 69 i fod yn gymwys iddynt.
162.Mae angen y pŵer hwn i wneud darpariaeth ar gyfer categori pellach o blant: y rheini sy’n cael addysg mewn un lleoliad yn unig (boed yn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir, UCD, neu o dan adran 19A o Ddeddf 1996, ond nid mewn UCD nac ysgol) ond nad yw eu haddysg yn y lleoliad hwnnw yn llawnamser. (Gallai hyn fod, er enghraifft, oherwydd salwch, neu oherwydd bod plentyn yn cael ei ailgyflwyno’n raddol i addysg.)
163.Mae’r pŵer a roddir gan yr adran hon yn adlewyrchu’r ffaith y byddai’n amhriodol, pan fo plentyn yn cael addysg mewn mwy nag un lleoliad, neu addysg ran-amser yn unig mewn un lleoliad, i’r dyletswyddau cyffredin o ran dylunio a gweithredu cwricwlwm fod yn gymwys mewn perthynas ag ysgol neu UCD neu addysg ac eithrio yn yr ysgol neu ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir mewn cysylltiad â’r plentyn. Mae hyn oherwydd na fydd y plentyn yn cael addysg lawnamser gydag unrhyw ysgol nac UCD na darparwr addysg ac eithrio yn yr ysgol.
164.O dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen hyblygrwydd i sicrhau bod y cwricwlwm a ddarperir ar gyfer y plentyn yn briodol, gan ystyried anghenion ac amgylchiadau’r plentyn, a’r ystod o ddarparwyr sydd o dan sylw – o bosibl unrhyw un neu ragor o ysgol, UCD, darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, uned cyfeirio disgyblion, a darparwr addysg arall o dan adran 19A o Ddeddf 1996. Caiff hyn ei gyflawni drwy ddarpariaeth yn y rheoliadau. Gallai’r rheoliadau, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir a pherson sy’n darparu addysg drwy addysg ac eithrio yn yr ysgol o dan adran 19A yng nghartref y plentyn gydweithio i sicrhau y gweithredir cwricwlwm sy’n bodloni gofynion penodol ar gyfer y plentyn.
Adran 70 – Pŵer i gymhwyso’r Ddeddf i blant sy’n cael eu cadw’n gaeth a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth
165.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n cymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, ddarpariaethau yn y Ddeddf i blant sy’n cael eu cadw’n gaeth a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth yng Nghymru. (Mae’r rhain yn blant a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth drwy orchymyn llys, neu drwy orchymyn adalw a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae gorchymyn adalw yn orchymyn sy’n adalw person ifanc i’w gadw’n gaeth ar ôl ei ryddhau ar drwydded yn y lle cyntaf.)
Adran 71 – Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau
166.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r personau a bennir yn is-adran (3), wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer swyddogaethau a roddir gan neu o dan y Ddeddf.
167.Gall canllawiau a roddir fel y’u disgrifir yn yr adran hon ymwneud ag unrhyw swyddogaeth a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon.
Rhan 7 Cyffredinol
Adran 72 – Statws y Ddeddf hon fel Deddf Addysg
168.Mae’r adran hon yn darparu bod y Ddeddf wedi ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf 1996.
169.Effaith hyn yw y bydd pwerau a dyletswyddau sy’n gymwys drwy’r llyfr statud mewn perthynas â’r “Deddfau Addysg” yn gymwys mewn perthynas â’r Ddeddf. Er enghraifft, mae’n golygu bod gan Weinidogion Cymru y pŵer, o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, i ymyrryd yn ymddygiad ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir os bydd ei chorff llywodraethu yn methu â chydymffurfio â dyletswyddau o dan y Ddeddf neu’n gweithredu’n afresymol yng nghwrs unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf. Mae hefyd yn golygu bod gan Weinidogion Cymru bŵer, o dan Ddeddf 2013, i ymyrryd ag arfer swyddogaeth a roddir i awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon, os bydd yr awdurdod yn methu â chydymffurfio â dyletswyddau o dan y Ddeddf neu’n gweithredu’n afresymol wrth arfer swyddogaeth o dan y Ddeddf.
Adran 73 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau
170.Mae adran 73 yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Adran 74 – Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon etc
171.Mae adran 74 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol i roi effaith i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf. Gall hon fod yn ddarpariaeth atodol, yn ddarpariaeth gysylltiedig neu’n ddarpariaeth ganlyniadol, neu’n ddarpariaeth drosiannol, yn ddarpariaeth ddarfodol neu’n ddarpariaeth arbed.
172.Caiff y rheoliadau ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth (gan gynnwys y Ddeddf ei hun).
Adran 75 - Rheoliadau
173.Mae adran 75 yn nodi’r gweithdrefnau deddfwriaethol sy’n gymwys i reoliadau o dan y Ddeddf. Bydd rheoliadau o dan adran 5, adran 31 ac adran 48 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, yn ogystal â rheoliadau o dan adran 74 sy’n diwygio neu’n diddymu deddfwriaeth sylfaenol. Bydd pob rheoliad arall (gan gynnwys rheoliadau o dan adran 74 nad ydynt yn diwygio nac yn diddymu deddfwriaeth sylfaenol) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.
Adran 76 – Cod yr Hyn sy’n Bwysig a’r Cod Cynnydd: y weithdrefn
174.Mae adran 76 yn nodi’r weithdrefn y mae rhaid ei dilyn wrth wneud neu ddiwygio’r Codau sy’n ofynnol o dan adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf (Cod yr Hyn sy’n Bwysig a’r Cod Cynnydd). Yn y naill achos neu’r llall, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, cyn gwneud neu ddiwygio’r Cod. Rhaid iddynt hefyd osod gerbron Senedd Cymru ddrafft o’r Cod (neu o ddiwygiadau arfaethedig i’r Cod, pan fo’n briodol). Rhaid i’r Cod drafft gael ei osod gerbron y Senedd am gyfnod nad yw’n llai na 40 niwrnod. Os yw’r Senedd yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r Cod (neu’r Cod diwygiedig) ni all gael ei ddyroddi (neu ei ddiwygio). Os nad oes penderfyniad o’r fath rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (neu’r Cod diwygiedig) ar ffurf y drafft fel y’i gosodwyd gerbron y Senedd.
175.Mae is-adran (6) yn caniatáu ymgynghori ar God, sy’n ofynnol gan is-adran (2)(a), cyn y daw adran 76 i rym.
Adran 77 – Y Cod ACRh: y weithdrefn
176.Mae adran 77 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud neu ddiwygio’r Cod ACRh o dan adran 8 o’r Ddeddf. Cyn gwneud neu ddiwygio’r Cod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol. Rhaid iddynt hefyd osod y Cod arfaethedig (neu’r Cod diwygiedig) gerbron y Senedd. Os caiff y Cod arfaethedig (neu’r diwygiad) ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cod fel y’i cymeradwywyd gan y Senedd. Os na chaiff y Cod arfaethedig (neu’r diwygiad) ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Senedd, ni chaiff Gweinidogion Cymru ei ddyroddi.
177.Mae is-adran (4) yn caniatáu ymgynghori ar y Cod, sy’n ofynnol gan is-adran (1)(a), cyn y daw adran 77 i rym.
Adran 78 – Gwybodaeth, hysbysiadau a chyfarwyddydau ysgrifenedig
178.Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi i bersonau penodol yn ysgrifenedig, neu’n ei gwneud yn ofynnol i hysbysiadau ysgrifenedig gael eu rhoi i bersonau penodol, neu’n awdurdodi rhoi cyfarwyddydau i bersonau penodol (neu’n galluogi i ddarpariaeth o’r fath gael ei gwneud mewn rheoliadau):
Adran 32 (pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl: atodol)
Adran 33 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dewis disgybl)
Adran 38 (eithriadau ar gyfer gwaith datblygu ac arbrofion), gweler hefyd y gofyniad yn adran 40(2))
Adran 44 (darparu gwybodaeth am eithriadau dros dro)
Adran 45 (apelau am eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion unigol)
Adran 46 (apelau am eithriadau dros dro ar gyfer plant unigol)
Adran 56 (dyletswydd i wneud trefniadau asesu)
Adran 57 (hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd)
179.Mae adran 78 yn pennu’r ffordd y caniateir i’r wybodaeth honno, a’r hysbysiadau neu’r cyfarwyddydau hynny, gael eu rhoi i’r personau hynny. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo’n electronig ac ar gyfer y ffordd y caniateir i’r wybodaeth (neu’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd) gael ei throsglwyddo i gorff corfforedig neu bartneriaeth.
Adran 79 – Ystyr “ysgol a gynhelir”, “ysgol feithrin a gynhelir” ac ymadroddion cysylltiedig
180.Mae adran 79 yn darparu bod ysgol yn ysgol a gynhelir, at ddibenion y Ddeddf, os yw’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol (fel y disgrifir “community school”, “foundation school” a “voluntary school” yn Neddf 1998: gweler adrannau 20 ac 21 o’r Ddeddf honno), yn ysgol arbennig gymunedol (ac eithrio un a sefydlir mewn ysbyty) neu’n ysgol feithrin a gynhelir. Mewn unrhyw un o’r achosion hyn, rhaid i’r ysgol gael ei chynnal gan awdurdod lleol yng Nghymru.
Adran 80 – Ystyr “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” ac ymadroddion cysylltiedig
181.Mae adran 80 yn diffinio “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” a thermau cysylltiedig.
Adran 81 – Ystyr “uned cyfeirio disgyblion” ac ymadroddion cysylltiedig
182.Mae adran 81 yn diffinio “uned cyfeirio disgyblion” fel bod iddo yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19A(2) o Ddeddf 1996 (gweler paragraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf hon). Mae’r adran hon hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr y termau “awdurdod lleol” a “pwyllgor rheoli” pan y’u defnyddir mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion.
Adran 82 – Dehongli cyffredinol
183.Mae adran 82 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Ddeddf. Mae hefyd yn darparu y bydd i’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf a ddiffinnir yn Neddf 1996 yr ystyr a roddir yn Neddf 1996. O ganlyniad, mae i dermau amrywiol a ddefnyddir yn y Ddeddf yr ystyr a nodir yn Neddf 1996 (er enghraifft, ‘ysgol’ a ‘rhiant’).
184.Ond os rhoddir ystyr arall i derm a ddefnyddir yn y Ddeddf, a ddiffinnir yn Neddf 1996, gan y Ddeddf ei hun, neu gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, yr ystyr arall hwnnw, yn hytrach na’r diffiniad yn Neddf 1996, a fydd yn gymwys at ddibenion y Ddeddf.
Adran 83 – Mynegai o ymadroddion a ddiffinnir yn y Ddeddf hon
185.Mae adran 83 yn darparu mynegai o dermau a ddiffinnir gan y Ddeddf a’r darpariaethau perthnasol sy’n eu diffinio.
Adran 84 – Dod i rym
186.Mae adran 84 yn darparu i Ran 7 ddod i rym drannoeth diwrnod y Cydsyniad Brenhinol. Mae’n darparu i’r darpariaethau sy’n weddill yn y Ddeddf ddod i rym ar ba ddiwrnod bynnag a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru. Caiff y gorchymyn bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, felly gallai, er enghraifft, ddarparu i ddarpariaethau gwahanol ddod i rym ar ddiwrnodau gwahanol, neu i’r un ddarpariaeth ddod i rym ar ddiwrnodau gwahanol mewn perthynas â disgyblion o oedrannau gwahanol, er enghraifft.
187.Caiff gorchymyn o dan yr adran hon wneud darpariaethau darfodol, darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed sy’n gysylltiedig â chychwyn.
188.Nid yw gorchymyn o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ddeddfwriaethol.
Adran 85 – Enw byr
189.Mae’r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Atodlen 1 - Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
190.Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol CGM.
191.Mae adran 24 yn ei gwneud yn ofynnol i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu, mewn cysylltiad ag elfen fandadol CGM, sy’n cyd-fynd â Rhan 1 o’r Atodlen. Yn yr un modd, mae adran 29 (cwricwlwm i ddisgyblion 3 i 14 oed) ac adran 30 (cwricwlwm i ddisgyblion 14 i 16 oed) yn ei gwneud yn ofynnol i gwricwlwm gael ei weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau addysgu a dysgu sy’n cyd-fynd â Rhan 2 o’r Atodlen.
Rhannau 1 a 2 – Cynllunio a gweithredu cwricwlwm
192.Mae’r gofynion a osodir gan Rannau 1 a 2 o’r Atodlen yn amrywio o ran eu cymhwyso i gategorïau gwahanol o ysgolion.
Ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol
193.Yn achos ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol, mae paragraff 2 o’r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol bod y ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu CGM wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig. (Y “maes llafur cytunedig” yng nghyd-destun yr Atodlen yw’r maes llafur CGM a fabwysiedir gan yr awdurdod lleol o dan adran 375A o Ddeddf 1996 i’w ddefnyddio mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.)
194.Mae paragraff 6 o’r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth CGM hon gael ei gweithredu ar gyfer pob disgybl.
Ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol
195.Yn achos ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol, mae paragraff 3 o’r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol bod y ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu CGM wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.
196.Fodd bynnag, yn achos yr ysgolion hyn, mae gofyniad ychwanegol (gweler paragraff 3(3) a (4) o’r Atodlen). Nid yw’r gofyniad ychwanegol hwn ond yn gymwys os nad yw’r ddarpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig yn cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol, neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.
197.(Y cam cyntaf wrth benderfynu a yw’r gofyniad ychwanegol hwn yn gymwys fydd ystyried a yw’r ddarpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig yn cyd-fynd ag unrhyw ddarpariaeth yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag CGM. Os nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag CGM, y cam nesaf fydd ystyried a yw’r ddarpariaeth yn cyd-fynd â daliadau’r grefydd neu’r enwad a bennir mewn perthynas â’r ysgol gan orchymyn o dan adran 68A o Ddeddf 1998. Dim ond os nad yw’r ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth na’r daliadau perthnasol y bydd y gofyniad ychwanegol yn gymwys.)
198.Os yw’r gofyniad ychwanegol hwn yn gymwys, rhaid i gwricwlwm yr ysgol hefyd gynnwys darpariaeth ar gyfer CGM sydd yn cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol, neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.
199.Mae paragraff 7(2) o’r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i’r addysgu a dysgu a sicrheir i ddisgyblion fod yn addysgu a dysgu y mae darpariaeth wedi ei gwneud ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(2) o’r Atodlen (h.y. y ddarpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
200.Ond mae eithriad i’r gofyniad cyffredinol hwn. Mae paragraff 7(4) o’r Atodlen yn galluogi rhieni disgybl i ofyn, yn lle hynny, i’r addysgu a dysgu y mae’r cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar ei gyfer o dan baragraff 3(4) o’r Atodlen (h.y. y ddarpariaeth ychwanegol sy’n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol, neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad) gael ei ddarparu i’w plentyn. Os yw cais o’r math hwn yn cael ei wneud, rhaid cydymffurfio ag ef.
Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol
201.Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol, mae paragraff 4(2) o’r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag CGM sy’n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad.
202.Eto, mae gofyniad ychwanegol (gweler paragraff 4(3) a 4(4) o’r Atodlen). Ar gyfer ysgolion o’r math hwn, nid yw’r gofyniad ychwanegol ond yn gymwys os nad yw’r ddarpariaeth sydd wedi ei chynllunio o dan baragraff 4(2) (h.y. sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth neu ddaliadau crefydd neu enwad yr ysgol) yn cyd-fynd â’r maes llafur cytunedig. Yn yr achos hwn, rhaid i gwricwlwm yr ysgol hefyd gynnwys darpariaeth ar gyfer CGM sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.
203.Mae paragraff 8(2) o’r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i’r addysgu a dysgu a sicrheir i ddisgyblion fod yn addysgu a dysgu y mae darpariaeth wedi ei gwneud ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 4(2) o’r Atodlen (h.y. y ddarpariaeth sy’n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ei chrefydd neu ei henwad).
204.Ond eto mae eithriad i’r gofyniad cyffredinol hwn. Mae paragraff 8(3) a (4) o’r Atodlen yn galluogi rhieni disgybl i ofyn, yn lle hynny, i’r addysgu a dysgu y mae’r cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar ei gyfer o dan baragraff 4(4) (h.y. y ddarpariaeth ychwanegol sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig) gael ei ddarparu i’w plentyn. Os yw cais o’r math hwn yn cael ei wneud, rhaid cydymffurfio ag ef.
Rhan 3 – Dehongli
205.Mae Rhan 3 yn esbonio’r hyn a olygir gan ysgolion sydd â “cymeriad crefyddol” (gan fod hwn yn gysyniad a gymhwysir yn yr Atodlen) ac at y diben hwn yn cyfeirio at adran 68A o Ddeddf 1998 fel y’i mewnosodir gan Atodlen 2 i’r Ddeddf.
Atodlen 2 – Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol a Diddymiadau
Deddf Addysg 1996
206.Mae paragraffau 2-4, 21, 25, 47-50, 52-55 a 64-65 o Atodlen 2 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â darparu addysg ac eithrio yn yr ysgol, gan gynnwys mewn UCDau.
207.Mae paragraff 3 yn diwygio adran 19 o Ddeddf 1996 (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill) fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
208.Mae paragraff 4 yn mewnosod adran 19A yn Neddf 1996. Mae’r adran hon yn gymwys o ran Cymru yn unig. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru wneud trefniadau ar gyfer addysg addas yn yr ysgol neu ac eithrio yn yr ysgol i blant o’r oedran ysgol gorfodol o fewn ardal yr awdurdod lleol na allant gael addysg addas am gyfnod oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, oni bai bod trefniadau o’r fath yn cael eu gwneud iddynt.
209.Mae paragraff 6 yn diwygio adran 375 o Ddeddf 1996 (meysydd llafur cytunedig addysg grefyddol) fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
210.Mae paragraff 7 yn mewnosod adran 375A yn Neddf 1996. Mae’r adran hon yn gymwys o ran Cymru yn unig. Mae’n gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i fabwysiadu maes llafur ar gyfer CGM i’w ddefnyddio yn yr ysgolion a gynhelir ganddo. Mae’r adran newydd hefyd yn cyflwyno, o ran Cymru, Atodlen 31 i Ddeddf 1996, sy’n sefydlu cyfansoddiad a swyddogaethau cynadleddau maes llafur cytunedig a gynullir gan awdurdodau lleol.
211.Mae adran 375A o Ddeddf 1996 yn caniatáu i’r maes llafur cytunedig ar gyfer CGM wneud darpariaeth wahanol ar gyfer mathau gwahanol o ysgolion a dysgwyr. Rhaid i’r maes llafur adlewyrchu’r ffaith bod traddodiad crefyddol yng Nghymru yn Gristnogol yn bennaf. Rhaid iddo hefyd roi sylw i ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru a’r ffaith bod ystod o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol yn cael eu harddel yng Nghymru.
212.Mae paragraffau 8 i 11 yn gwneud diwygiadau i adrannau 390-392 o Ddeddf 1996, sy’n ymwneud â chyfansoddiad a swyddogaethau cynghorau ymgynghorol sefydlog, fel eu bod yn gymwys mewn perthynas â darparu CGM yng Nghymru (yn ogystal ag mewn perthynas â darparu AG yn Lloegr).
213.Mae paragraff 9 yn diwygio adran 390 o Ddeddf 1996 (cyfansoddiad cynghorau ymgynghorol). Yr effaith yw, pan fo awdurdod lleol yng Nghymru yn cyfansoddi cyngor ymgynghorol sefydlog ar CGM, fod rhaid iddo benodi grŵp o bersonau i gynrychioli enwadau Cristnogol, crefyddau ac enwadau eraill, ac argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol i’w gyngor ymgynghorol sefydlog. Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod aelodaeth y grŵp yn gymesur o ran niferoedd â chryfder pob crefydd, enwad neu argyhoeddiad yn ei ardal leol (gweler yr is-adran newydd (6A) a (6B) o adran 390, a fewnosodir gan baragraff 9(8) o’r Atodlen).
214.Yn ogystal, bydd angen i’r awdurdod lleol benodi grwpiau o bersonau i’r cyngor ymgynghorol sefydlog i gynrychioli’r awdurdod lleol ac athrawon: darperir ar gyfer y gofyniad hwn eisoes yn Neddf 1996 ac ni newidir hyn gan y Ddeddf.
215.Mae paragraff 9 o’r Atodlen yn diwygio ymhellach adran 390 o Ddeddf 1996 er mwyn cynnwys dyletswydd ar awdurdod lleol yng Nghymru i roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 390.
216.Mae paragraff 10 yn mewnosod is-adran (1A) yn adran 391 o Ddeddf 1996 (swyddogaethau cynghorau ymgynghorol). Mae’r is-adran hon yn nodi’r dibenion y mae rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru gyfansoddi cyngor ymgynghorol sefydlog atynt. Mae’r rhain yn cynnwys darparu cyngor i’r awdurdod lleol ynghylch yr addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu mewn cysylltiad ag elfen fandadol CGM, ac mewn cysylltiad ag CGM a ddarperir ar gais i’r grŵp oedran addysg ôl-orfodol (blynyddoedd ysgol 12 a 13) o dan adran 60. (Mater i’r ysgol o hyd yw cynnwys CGM a ddarperir gan ysgolion sydd â chymeriad crefyddol yn unol ag Atodlen 1 i’r Ddeddf hon ac sy’n cyd-fynd â’u gweithredoedd ymddiriedolaeth, daliadau eu crefydd neu eu henwad crefyddol.)
217.Mae paragraff 13 yn diwygio adran 396 o Ddeddf 1996 (pŵer i gyfarwyddo cyngor ymgynghorol i ddirymu penderfyniad neu gyflawni dyletswydd) fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
218.Mae paragraff 14 yn mewnosod adran 396A yn Neddf 1996. Mae’r adran hon yn gymwys o ran Cymru yn unig. Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo cyngor ymgynghorol sefydlog a gyfansoddir gan awdurdod lleol yng Nghymru i ddirymu penderfyniad a wneir o dan adran 394 neu 395 o Ddeddf 1996, neu i gyflawni dyletswydd a osodir ar gyngor ymgynghorol sefydlog o dan yr adrannau hynny. Mae adran 394 o Ddeddf 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ymgynghorol sefydlog benderfynu ceisiadau a wneir gan bennaeth ysgol gymunedol, neu ysgol wirfoddol heb gymeriad crefyddol, i’r gofyniad ar gyfer addoli Cristnogol ar y cyd beidio â bod yn gymwys i’r ysgol (neu i ddosbarth neu ddisgrifiad o ddisgyblion yn yr ysgol); ac mae adran 395 o Ddeddf 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ymgynghorol sefydlog adolygu’r penderfyniadau hynny.
219.Mae paragraff 15 yn diwygio adran 397 o Ddeddf 1996 (addysg grefyddol: mynediad at gyfarfodydd a dogfennau) er mwyn ei gwneud yn glir mai Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cyfarfodydd a dogfennau cynghorau ymgynghorol sefydlog a gyfansoddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru a chynadleddau maes llafur cytunedig a gynullir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
220.Mae paragraff 16 yn diwygio adran 399 o Ddeddf 1996 (penderfynu a yw addysg grefyddol yn unol â’r weithred ymddiriedolaeth) fel bod yr adran yn gymwys mewn perthynas â darparu CGM mewn ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yng Nghymru yn yr un modd ag y mae’n gymwys mewn perthynas ag AG mewn ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn Lloegr.
221.Mae paragraffau 17 i 20 o Atodlen 1 yn diwygio adrannau 403 – 405, sy’n ymwneud ag addysg rhyw, fel eu bod yn gymwys i Loegr yn unig.
222.Mae paragraff 22 yn mewnosod cyfeiriadau at adran 397 o Ddeddf 1996, a pharagraffau 6B a 6C o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, yn adran 569 o’r Ddeddf honno. Mae adran 569 yn nodi’r gweithdrefnau deddfwriaethol ar gyfer rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1996.
223.Mae paragraffau 23 a 24 yn gwneud diwygiadau technegol i adran 579 (dehongli cyffredinol) ac adran 580 (mynegai). Mae hynny yn cynnwys diweddaru’r cofnod ar gyfer “agreed syllabus” yn y mynegai o dermau wedi eu diffinio fel ei fod yn rhestru ar wahân y ddarpariaeth Cymru yn unig yn adran 375A(7) a’r ddarpariaeth Lloegr yn unig yn adran 375(2) a (4).
224.Mae paragraff 25 yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 1996, sy’n ymwneud ag UCDau. Mae’n mewnosod paragraffau 6A-6D yn yr Atodlen honno: mae’r paragraffau hyn yn gymwys mewn perthynas ag UCDau a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru.
225.Mae paragraff 6B(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 yn gosod dyletswyddau ar yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD mewn perthynas â’r cwricwlwm i ddisgyblion cofrestredig yn yr UCD. Yn benodol, mae’n ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â disgyblion o’r oedran ysgol gorfodol yn unol ag adrannau 50 i 52 o’r Ddeddf hon. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â disgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm i’r disgyblion hynny yn bodloni’r gofynion a bennir ym mharagraff 6B(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 1996.
226.Mae paragraffau 6B(3) a 6C o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch darparu cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol mewn UCDau, a hefyd reoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, pwyllgorau rheoli ac athrawon sydd â chyfrifoldeb am UCDau arfer swyddogaethau penodedig mewn perthynas â’r cwricwlwm, gan gydweithredu neu fel arall.
227.Mae paragraff 6D o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion penodol sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, gan gynnwys cwynion sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau o dan adran 50, 51 neu 52 o’r Ddeddf hon. Mae paragraff 6D(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer eu pwerau ymyrryd o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 mewn perthynas â chwynion o’r fath oni bai bod y cwynion wedi eu gwneud, ac onid ymdriniwyd â’r cwynion, o dan drefniadau’r awdurdod lleol.
228.Mae paragraff 25(5) yn diwygio paragraff 8 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 fel ei fod yn gymwys i Loegr yn unig. Mae hefyd yn mewnosod is-baragraff newydd sy’n darparu bod adrannau 406 a 407 o Ddeddf 1996 yn gymwys mewn perthynas ag UCDau yng Nghymru. Mae’r adrannau hynny yn gwneud darpariaeth i wahardd egwyddori gwleidyddol ac i sicrhau triniaeth gytbwys o faterion gwleidyddol.
229.Mae paragraff 26 yn diwygio Atodlen 31 i Ddeddf 1996. Mae’r Atodlen, fel y’i diwygiwyd, yn gwneud darpariaeth ynghylch meysydd llafur cytunedig AG (yn Lloegr) ac CGM (yng Nghymru).
230.Mae paragraff 26(4) yn diwygio Atodlen 31 i Ddeddf 1996 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sy’n cynnull cynhadledd maes llafur cytunedig benodi pwyllgor o bersonau i’r gynhadledd i gynrychioli enwadau Cristnogol, crefyddau ac enwadau eraill, ac argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol. Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod aelodaeth y pwyllgor yn gymesur o ran niferoedd â chryfder pob crefydd, enwad neu argyhoeddiad yn ei ardal leol (gweler y paragraff newydd 4(5) a (6) yn Atodlen 31 i Ddeddf 1996, a fewnosodir gan baragraff 26(6)).
231.Mae paragraff 26(9) yn mewnosod paragraff 9A yn Atodlen 31 i Ddeddf 1996. Mae paragraff 9A yn nodi’r amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadu ei faes llafur cytunedig cyntaf ar gyfer CGM o dan adran 375A o Ddeddf 1996. Mae’n pennu’r amgylchiadau pan fyddai’n ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau gweithredu (gweler paragraff 12 o Atodlen 31) pe na bai’r amodau hynny ar gyfer mabwysiadu wedi eu bodloni.
232.Mae paragraff 26(10) yn mewnosod is-baragraffau (2A) i (2D) ym mharagraff 10 o Atodlen 31 i Ddeddf 1996. Mae is-baragraffau (2B) a (2C) yn nodi’r amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff awdurdod lleol yng Nghymru roi effaith i’r argymhellion a wneir gan gynhadledd maes llafur cytunedig sydd wedi ei chynnull i ailystyried maes llafur cytunedig.
233.Mae paragraff 26(11) yn mewnosod is-baragraff (1A) ym mharagraff 12 o Atodlen 31 i Ddeddf 1996. Mae’r is-baragraff hwn yn datgan, pan fo’n ofynnol gan baragraff 9A neu 10 o’r Atodlen honno, fod rhaid i Weinidogion Cymru benodi grŵp o bobl a chanddynt brofiad perthnasol i lunio eu maes llafur ar gyfer CGM.
234.Mae paragraff 26(12) a (13) yn diwygio paragraffau 13 a 14 o Atodlen 31 i Ddeddf 1996 i ystyried y gofynion gwahanol ar gyfer meysydd llafur cytunedig yng Nghymru ac yn Lloegr.
235.Mae paragraff 26(14) yn mewnosod paragraff 14A yn Atodlen 31 i Ddeddf 1996. Mae paragraff 14A yn ei gwneud yn ofynnol i’r personau a bennir yn y paragraff hwnnw roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr Atodlen.
Deddf Addysg 1997
236.Mae paragraffau 27 ac 28 yn diwygio adran 56 o Ddeddf Addysg 1997 er mwyn egluro’r amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan y Ddeddf honno odanynt.
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
237.Mae paragraff 33 yn mewnosod adran 68A ym Mhennod 6 o Ddeddf 1998. Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddynodi ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol yng Nghymru yn rhai sydd â chymeriad crefyddol. Yn flaenorol, roedd gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud hynny o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998, ond mae’r adran honno bellach yn gymwys o ran Lloegr yn unig.
238.Mae adran 68A o Ddeddf 1998 yn darparu i ddynodiadau presennol a wnaed o dan adran 69(3) o’r Ddeddf honno barhau i gael effaith, ond i gael eu trin fel pe baent wedi eu gwneud o dan yr adran newydd. Mae hyn er mwyn sicrhau eglurder a pharhad ar gyfer yr ysgolion hynny sydd eisoes wedi eu dynodi yn rhai sydd â chymeriad crefyddol.
239.Mae adran 68A(3) o Ddeddf 1998 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n nodi’r weithdrefn ar gyfer dynodi.
240.Mae paragraffau 34 a 35 yn diwygio adran 69 o Ddeddf 1998 (a’r pennawd italig o’i blaen) fel eu bod yn gymwys i Loegr yn unig.
241.Mae paragraff 36 yn diwygio adran 71(1) o Ddeddf 1998 fel bod hawl rhiant i dynnu plentyn yn ôl o AG yn gymwys i Loegr yn unig. Ni wneir unrhyw ddiwygiad i adran 71(1A) ac (1B) o’r Ddeddf honno, sy’n rhoi hawl rhiant i dynnu plentyn o’r oedran ysgol gorfodol yn ôl o addoliad crefyddol a hawl i ddisgyblion ôl-16 i’w tynnu eu hunain yn ôl o addoliad crefyddol.
242.Nid yw’r Ddeddf yn gwneud unrhyw ddiwygiad i adran 71(3) o Ddeddf 1998. O ganlyniad, os yw disgybl yng Nghymru yn cael ei dynnu’n ôl o addoliad crefyddol caniateir i’r disgybl hefyd gael ei dynnu’n ôl o’r ysgol fel y’i disgrifir yn adran 71(3) o’r Ddeddf honno. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, os yw disgybl yn cael ei dynnu’n ôl o fynychu addoliad crefyddol, ac os yw’r amodau yn adran 71(3)(a) i (c) wedi eu bodloni, y caniateir i’r disgybl hwnnw hefyd gael ei dynnu’n ôl o’r ysgol er mwyn cael AG mewn man arall (yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad yn adran 71(4)).
243.Nid yw darparu AG ar gyfer disgybl o dan adran 71(3) o Ddeddf 1998 yn effeithio ar y gofyniad o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon i ddarparu addysgu a dysgu ar gyfer y disgybl sy’n cwmpasu CGM. Mae’r gofyniad i ddarparu’r addysgu a dysgu hwnnw yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r disgybl, a rhaid i unrhyw AG a ddarperir ar gyfer y disgybl o dan adran 71(3) o Ddeddf 1998 fod yn ychwanegol at yr addysgu a dysgu a ddarperir mewn cysylltiad ag CGM (yn hytrach nag yn lle hynny).
244.Mae paragraff 36(5) yn mewnosod is-adran (7A) yn adran 71 o Ddeddf 1998. Mae’r is-adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i sicrhau bod pob disgybl mewn ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig yng Nghymru, i’r graddau y mae’n ymarferol, yn mynychu addoliad crefyddol oni bai ei fod yn cael ei dynnu’n ôl yn unol â dymuniadau rhiant y disgybl neu, yn achos disgybl ôl-16, yn unol â dymuniadau’r disgybl ei hun. Mae’r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol o ganlyniad i’r diwygiad a wneir i adran 138A o Ddeddf 1998 gan baragraff 38 o’r Atodlen hon.
245.Mae paragraff 37 yn diwygio adran 124B o Ddeddf 1998 sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â dynodi bod i ysgolion annibynnol gymeriad crefyddol. Mae’n mewnosod is-adran newydd (A1) yn adran 124B o Ddeddf 1998, er mwyn cymhwyso is-adrannau 68A(1) a (3) o’r Ddeddf honno i ysgolion annibynnol yn yr un ffordd ag y mae’r is-adrannau hynny yn gymwys i ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y caniateir i ysgolion annibynnol gael eu dynodi drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru yn ysgolion annibynnol sydd â chymeriad crefyddol. Ni chymhwysir adran 68A(2) o Ddeddf 1998 i ysgolion annibynnol gan baragraff 37, am fod yr un effaith yn cael ei chyflawni gan adran 124B(2) o Ddeddf 1998 (fel y’i diwygir gan baragraff 37(4)) mewn perthynas â gorchmynion dynodi sy’n dynodi ysgolion annibynnol.
246.Mae paragraffau 12, 29-32, 34, 38-43, 51, 62-65 ac 68-69 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â dynodi ysgolion sydd â chymeriad crefyddol. Mae’r rhan fwyaf o’r paragraffau hyn yn diwygio darpariaethau mewn deddfwriaeth sylfaenol er mwyn rhoi cyfeiriadau at y darpariaethau a fewnosodir gan ddarpariaethau cyfatebol yn Atodlen 2 i’r Ddeddf hon yn lle cyfeiriadau at ddarpariaethau sydd wedi eu diddymu neu eu diwygio.
247.Mae paragraff 42 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 19 i Ddeddf 1998 fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
Deddf Addysg 2002
248.Mae paragraffau 45 ac 46 yn diddymu Rhan 7 o Ddeddf 2002 ac yn gwneud newidiadau canlyniadol i’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r diddymiad hwnnw.
249.Mae paragraffau 46, 57 ac 61 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ofynnol o ganlyniad i ddiddymu Rhan 7 o Ddeddf 2002.
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
250.Mae adran 14 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio a chynnal cynllun datblygu unigol (CDU) ar gyfer plentyn neu berson ifanc y mae’r awdurdod wedi penderfynu bod ganddo anghenion dysgu ychwanegol. Pan fo gan ddisgybl mewn ysgol a gynhelir CDU wedi ei lunio gan yr awdurdod lleol sy’n cynnwys darpariaeth sy’n datgymhwyso neu’n addasu unrhyw ofynion gweithredu cwricwlwm o dan y Ddeddf (gweler adran 41), mae paragraff 74 o’r Atodlen hon yn gwahardd yr awdurdod lleol rhag cyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i lunio neu gynnal CDU ar gyfer y disgybl.
251.Mae paragraff 75 o Atodlen 2 yn gwneud mân ddiwygiad i Atodlen 1 i Ddeddf 2018 drwy ddiddymu diwygiad i adran 19 o Ddeddf 1996. Nid oes angen y diwygiad hwn mwyach o ganlyniad i’r diwygiadau a wneir gan baragraff 3, sy’n cyfyngu ar gymhwyso adran 19 o Ddeddf 1996 i Loegr yn unig.
Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru
252.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 6 Gorffennaf 2020 |
Cyfnod 1 - Dadl | 15 Rhagfyr 2020 |
Cyfnod 2 – Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 29 Ionawr 2021 |
Cyfnod 3 – Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 2 Mawrth 2021 |
Cyfnod 4 – Cymeradwywyd gan y Senedd | 9 Mawrth 2021 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 29 Ebrill 2021 |
- Previous
- Explanatory Notes Table of contents
- Next