Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

(a gyflwynir gan adrannau 27 a 49)

ATODLEN 1LL+CCOSBAU PENODEDIG

DehongliLL+C

1Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “awdurdod dyroddi” (“issuing authority”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 27, awdurdod gorfodi sydd wedi ei awdurdodi yn rhinwedd adran 18, a

    (b)

    mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 49, awdurdod lleol;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 27, swyddog awdurdodedig o fewn yr ystyr a roddir gan adran 18(5), a

    (b)

    mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan adran 49, swyddog awdurdodedig o fewn yr ystyr a roddir gan adran 39.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I3Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Cynnwys hysbysiad cosb benodedigLL+C

2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)datgan y drosedd honedig, a

(b)rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I5Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I6Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

3Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod dyroddi y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;

(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;

(c)y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;

(d)effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);

(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);

(f)y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;

(g)y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;

(h)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I8Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I9Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

4Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—

(a)hysbysu’r person y’i rhoddir iddo am hawl y person hwnnw i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, a

(b)esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I11Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I12Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

5Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach o ran cynnwys a ffurf hysbysiad cosb benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I14Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I15Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thaluLL+C

6Y gosb yw’r swm hwnnw a bennir mewn rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I17Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I18Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

7Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb yw’r cyfnod o 29 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I20Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I21Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei daluLL+C

8(1)Mae swm gostyngol yn daladwy, yn lle’r swm a bennir mewn rheoliadau o dan baragraff 6, os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol.

(2)Y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod o 15 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, oni bai nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith.

(3)Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac sy’n dod i ben pan ddaw’r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y 15fed diwrnod i ben.

(4)Yn y paragraff hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p.80).

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I23Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I24Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

9Y swm gostyngol yw’r swm hwnnw a bennir mewn rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I26Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I27Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Effaith hysbysiad a thaluLL+C

10(1)Ni chaniateir i achos am y drosedd y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â hi gael ei ddwyn cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi gofyn yn unol â pharagraffau 15 ac 16 am gael sefyll prawf am y drosedd honedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I29Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I30Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

11Os telir y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 10(1), ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I32Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I33Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

12Os telir y swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol, ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I35Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I36Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

13Os yw achos wedi ei ddwyn yn unol â chais o dan baragraff 15, ond yna telir y gosb neu’r swm gostyngol fel y’i crybwyllir ym mharagraff 11 neu 12, rhaid peidio â pharhau â’r achos hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I38Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I39Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—

(a)os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod dyroddi yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd yr hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a

(b)os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I41Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I42Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

TreialLL+C

15Os yw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo yn gofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I44Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I45Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

16Rhaid i unrhyw gais i sefyll prawf gael ei wneud—

(a)drwy hysbysiad a roddir i’r awdurdod dyroddi o dan sylw cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(b)yn y modd a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I47Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I48Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Tynnu hysbysiadau yn ôlLL+C

17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod dyroddi yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi cael ei roi.

(2)Caiff yr awdurdod dyroddi roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

(3)Os yw’n gwneud hynny—

(a)rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

(b)ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I50Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I51Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Derbyniadau cosb benodedigLL+C

18(1)Ni chaiff awdurdod gorfodi sy’n awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 27 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau Pennod 1 o’r Rhan hon a rheoliadau a wneir odani.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 49 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau Pennod 2 o’r Rhan hon a rheoliadau a wneir odani.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I53Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)

I54Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2

(a gyflwynir gan adran 29)

ATODLEN 2LL+CYSMYGU: DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Iechyd 2006 (p.28)LL+C

1Mae Deddf Iechyd 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I56Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

2Ym mhennawd Pennod 1 o Ran 1 ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

3Yn adran 1 (cyflwyniad), yn is-adran (1) ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I59Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

4Yn adran 2 (mangreoedd di-fwg)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “Premises” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (2) ar ôl “Premises” mewnosoder “in England”;

(c)yn is-adran (5) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I61Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

5Yn adran 3 (mangreoedd di-fwg (esemptiadau)), yn is-adran (1)—

(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(b)ar ôl “premises” yn y ddau le mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I63Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

6Yn adran 4 (mannau di-fwg ychwanegol)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(ii)ar ôl “place” yn y ddau le mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (3)—

(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(ii)yn lle “authority’s” rhodder “Secretary of State’s”.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I65Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

7Yn adran 5 (cerbydau), yn is-adran (1)—

(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(b)ar ôl “vehicles” mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I67Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

8Yn adran 6 (arwyddion dim ysmygu), yn is-adrannau (2), (3) a (4) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I69Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

9Yn adran 8 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn man di-fwg), yn is-adran (3) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I71Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

10Yn adran 9 (cosbau penodedig), yn is-adran (1A) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I73Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

11Yn adran 10 (gorfodi)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(b)yn is-adran (4) yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I75Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

12Yn adran 11 (rhwystro etc swyddogion), yn is-adran (5) yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I77Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

13Yn adran 12 (dehongli a’r môr tiriogaethol)—

(a)yn is-adran (2) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(b)hepgorer is-adran (3)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I79Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

14Yn adran 82 (dehongli), yn is-adran (1) hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I81Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

15Yn Atodlen 1 (cosbau penodedig), ym mharagraffau 4 a 17 yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I83Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

16Yn Atodlen 2 (pwerau mynediad, etc), ym mharagraff 10 yn lle “appropriate national authority” yn y ddau le rhodder “Secretary of State”.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I85Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p.6)LL+C

17Yn adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (prynu tybaco, cynhyrchion nicotin etc ar ran personau o dan 18 oed), yn is-adran (5), ar ôl paragraff (b), mewnosoder—

(c)in relation to Wales—

(i)the reference to the Secretary of State in paragraph 4 of Schedule 1 to the Health Act 2006 is to be read as a reference to the Welsh Ministers;

(ii)the power of the Welsh Ministers to make regulations under paragraph 4 of Schedule 1 as so applied is to be exercised by statutory instrument;

(iii)a statutory instrument containing such regulations made by the Welsh Ministers is to be subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I87Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.3.2021 gan O.S. 2021/202, ergl. 2

(a gyflwynir gan adran 59)

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETH BELLACH MEWN CYSYLLTIAD Â THRWYDDEDAU TRINIAETH ARBENNIG

Cais am drwydded triniaeth arbennigLL+C

1Caiff cais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig ymwneud ag un driniaeth arbennig, neu fwy nag un.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I89Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

2Mae cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi i gael ei wneud⁠—

(a)os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardal un awdurdod lleol yn unig, i’r awdurdod lleol hwnnw;

(b)os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, i un o’r awdurdodau lleol hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I91Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

3(1)Rhaid i gais—

(a)pennu â pha driniaeth y mae’n ymwneud;

(b)rhoi pa fanylion bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo ynghylch y sail ar gyfer rhoi’r driniaeth (er enghraifft, pa un a yw’r driniaeth i gael ei rhoi ar sail beripatetig, ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall);

(c)datgan pa un a yw’n gais am drwydded dros dro ai peidio.

(2)O ran cais—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod y gwneir y cais iddo;

(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

(3)Yr awdurdod sydd i osod y ffi honno (os oes un) gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad â delio â cheisiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I93Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

4(1)Rhaid i gais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad preswylio arferol y ceisydd;

(b)unrhyw enw masnachu arfaethedig;

(c)rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (os oes un) y ceisydd;

(d)yn achos cais i ddyroddi trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn mangre o fewn adran 59(3) (mangre neu gerbyd a feddiennir neu a reolir gan bersonau penodol, neu sydd o dan eu rheolaeth), cyfeiriad pob un o’r mangreoedd y mae rhoi’r driniaeth i gael ei awdurdodi gan y drwydded;

(e)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) sydd â rhif cofrestru, rhif cofrestru’r cerbyd;

(f)yn achos cais am drwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol;

(g)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a gaiff, er enghraifft, gynnwys gwybodaeth am unrhyw drosedd y mae’r ceisydd wedi ei euogfarnu ohoni (pa un a’i cyflawnwyd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ai peidio).

(2)Ar unrhyw adeg ar ôl cael cais ond cyn dyfarnu arno, caiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu iddo unrhyw wybodaeth bellach y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i ddyfarnu ar y cais.

(3)Caiff yr wybodaeth bellach honno gynnwys unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gwirio hunaniaeth y ceisydd.

(4)Caiff rheoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm y ffi sydd i ddod gyda chais a wneir iddo;

(b)gwneud darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch y ffordd y mae cais i gael ei wneud, yr wybodaeth sydd i gael ei darparu, a’r ffordd y mae awdurdod i ddelio â chais).

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I95Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Cynnwys trwydded triniaeth arbennigLL+C

5(1)Rhaid i drwydded triniaeth arbennig—

(a)datgan enw deiliad y drwydded;

(b)bod â ffotograff o ddeiliad y drwydded;

(c)pennu cyfeiriad preswyl neu gyfeiriad busnes ar gyfer deiliad y drwydded;

(d)enwi’r awdurdod y dyroddir y drwydded ganddo;

(e)pennu pob triniaeth y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;

(f)pennu cyfnod y drwydded ac, yn achos trwydded dros dro, ddatgan ei bod yn drwydded dros dro.

(2)Rhaid i drwydded y mae’n ofynnol iddi, gan adran 59(3), nodi mangre neu gerbyd (yn ôl y digwydd)—

(a)pennu cyfeiriad y fangre;

(b)yn achos cerbyd sydd â rhif cofrestru, ddatgan y rhif cofrestru;

(c)yn achos cerbyd nad oes ganddo rif cofrestru, nodi’r cerbyd ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod sy’n dyroddi’r drwydded yn ystyried ei bod yn briodol.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys trwyddedau triniaeth arbennig (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ynghylch cynnwys gwybodaeth am yr amodau trwyddedu mandadol cymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I97Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Copi o’r drwyddedLL+C

6(1)Os yw trwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, caiff deiliad y drwydded wneud cais am gopi i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.

(2)O ran cais o dan is-baragraff (1)—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a

(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

(3)Rhaid i’r awdurdod ganiatáu’r cais os yw wedi ei fodloni—

(a)bod y drwydded ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difrodi, a

(b)pan fo’r drwydded ar goll neu wedi ei dwyn, bod yr heddlu wedi ei hysbysu am hyn.

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl caniatáu cais o dan is-baragraff (1), mae awdurdod i ddyroddi copi o’r drwydded i’r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I99Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

7Mae copi o drwydded a ddyroddir gan awdurdod o dan baragraff 6—

(a)i gael ei ardystio gan yr awdurdod fel copi gwir, a

(b)i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon ac unrhyw ofynion a osodir gan y Rhan hon neu o dan y Rhan hon fel y drwydded wreiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I101Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Trwydded yn dod i benLL+C

8(1)Mae trwydded triniaeth arbennig i gael ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—

(a)diwedd cyfnod y drwydded;

(b)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae dirymu’r drwydded yn cael effaith;

(c)y dyddiad, pan ddaw i ben, y mae’r drwydded yn peidio â chael effaith o dan baragraff 14(3) (terfynu trwydded yn wirfoddol);

(d)yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi gan unigolyn sydd wedi ei ddynodi o dan adran 61 mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, y dyddiad y mae tynnu’r dynodiad yn ôl yn cymryd effaith.

(2)Ond mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I103Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Adnewyddu trwyddedLL+C

9(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais gan ddeiliad y drwydded, adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.

(2)Mae cais i adnewyddu trwydded i gael ei wneud i’r awdurdod a roddodd y drwydded.

(3)O ran cais i adnewyddu trwydded—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw,

(b)mae i gynnwys pa wybodaeth bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, ac

(c)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I105Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

10Os ceir cais i adnewyddu trwydded cyn y byddai’r drwydded oni bai am y paragraff hwn yn cael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben, nid yw’r drwydded i gael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben—

(a)tra bo’r cais i adnewyddu yn yr arfaeth;

(b)tra caniateir i apêl gael ei dwyn o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â’r cais;

(c)tra bo apêl a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r cais o dan baragraff 18 neu 19, o fewn y cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan y paragraff hwnnw, eto i gael ei phenderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I107Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Amrywio trwyddedLL+C

11(1)Caiff awdurdod lleol, ar gais i’r perwyl hwn gan ddeiliad trwydded, amrywio trwydded triniaeth arbennig a ddyroddwyd ganddo.

(2)Caiff effaith amrywiad (ymhlith pethau eraill)—

(a)ychwanegu, diwygio neu ddileu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;

(b)yn ddarostyngedig i adran 59(4) (gofyniad bod mangre neu gerbyd wedi ei nodi mewn trwydded, ac wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo), awdurdodi i driniaeth arbennig gael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd nas nodwyd cyn hynny yn y drwydded at y diben hwn;

(c)dileu cyfeiriad at fangre neu gerbyd a nodwyd cyn hynny yn y drwydded.

(3)Ni chaniateir i drwydded gael ei hamrywio o dan y paragraff hwn er mwyn—

(a)trosglwyddo’r drwydded o ddeiliad y drwydded i unigolyn arall;

(b)estyn cyfnod y drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I109Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

12(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig—

(a)mae i gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw, a

(b)mae pa ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod i ddod gydag ef.

(2)Rhaid i gais gynnwys—

(a)manylion y newidiadau arfaethedig sydd i gael eu gwneud i’r drwydded, a

(b)unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I111Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

13(1)O ran cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig drwy ychwanegu disgrifiad o driniaeth arbennig y mae’r drwydded i awdurdodi iddi gael ei rhoi—

(a)rhaid iddo bennu’r driniaeth o dan sylw, a

(b)mae i gael ei drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n gais i ddyroddi trwydded triniaeth arbennig sy’n awdurdodi i’r driniaeth honno gael ei rhoi (ac mae dyddiad yr amrywio i gael ei drin, ar gyfer cymhwyso’r Rhan hon mewn cysylltiad â’r driniaeth honno, fel dyddiad dyroddi trwydded sy’n awdurdodi i’r driniaeth gael ei rhoi).

(2)Ond nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys at ddibenion dyfarnu ar gyfnod y drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I113Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Terfynu trwydded yn wirfoddolLL+C

14(1)Pan fo deiliad trwydded yn dymuno i drwydded triniaeth arbennig beidio â chael effaith, caiff deiliad y drwydded roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod a ddyroddodd y drwydded.

(2)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y dyddiad y mae’r drwydded i beidio â chael effaith ag ef.

(3)Os nad yw’r drwydded wedi dod i ben yn gynharach o dan baragraff 8(1)(a), (b) neu (d), mae’r drwydded yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a ddatgenir o dan is-baragraff (2) i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I115Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Yr hawl i gyflwyno sylwadauLL+C

15(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn bwriadu—

(a)rhoi hysbysiad i geisydd o dan adran 65(2) neu 66(6) fod cais wedi ei wrthod (gan gynnwys o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)),

(b)rhoi hysbysiad i ddeiliad trwydded o dan adran 68 fod trwydded wedi ei dirymu (gan gynnwys o dan yr adran honno fel y mae’n gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13(1)(b)), neu

(c)rhoi hysbysiad i unigolyn o dan adran 61(1), sy’n dynodi’r unigolyn hwnnw mewn cysylltiad â triniaeth arbennig.

(2)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 16 a 17, cyfeirir at y ceisydd neu ddeiliad y drwydded fel “A”.

(3)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad i A (“hysbysiad rhybuddio”) sy’n nodi’r hyn y mae’r awdurdod yn bwriadu ei wneud a phaham.

(4)Rhaid i hysbysiad rhybuddio ddatgan y caiff A, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, naill ai—

(a)cyflwyno sylwadau ynghylch y cynnig, neu

(b)hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau.

(5)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio fod yn llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.

(6)Caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod nad yw A yn dymuno cyflwyno sylwadau, neu

(b)os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio yn dod i ben ac nad yw A wedi cyflwyno sylwadau na hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno gwneud hynny.

(7)Os yw A, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, yn hysbysu’r awdurdod bod A yn dymuno cyflwyno sylwadau—

(a)rhaid i’r awdurdod ganiatáu cyfnod rhesymol pellach i A i gyflwyno sylwadau, a

(b)caiff yr awdurdod gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio, os yw A yn methu â chyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod pellach hwnnw.

(8)Os yw A yn cyflwyno sylwadau (naill ai o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio neu o fewn y cyfnod pellach a ganiateir o dan is-baragraff (7)(a)), rhaid i’r awdurdod ystyried y sylwadau.

(9)Caniateir i’r sylwadau a gyflwynir gan A o dan y paragraff hwn gael eu cyflwyno ar lafar neu fel arall; ac yn achos sylwadau ar lafar, caiff A neu gynrychiolydd A eu cyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I117Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Hysbysiad o benderfyniadLL+C

16(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15 mewn cysylltiad â hysbysiad arfaethedig o dan adran 65(2), 66(6) neu 68, yn penderfynu cymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio.

(2)Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan adran 65, 66 neu 68 (yn ôl y digwydd) nodi rhesymau’r awdurdod dros roi’r hysbysiad.

(3)Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddatgan—

(a)y caiff A apelio o dan baragraff 18 yn erbyn y penderfyniad,

(b)y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo, ac

(c)yn achos dirymiad o dan adran 68, y dyddiad (yn absenoldeb apêl o dan baragraff 18) y mae’r dirymiad i gymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I119Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

17Os yw awdurdod lleol, ar ôl cydymffurfio â gofynion paragraff 15, yn penderfynu peidio â chymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’r penderfyniad i A.

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I121Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

ApelauLL+C

18(1)Caiff ceisydd apelio i lys ynadon yn erbyn—

(a)gwrthod cais am drwydded triniaeth arbennig;

(b)gwrthod cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig;

(c)gwrthod cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig.

(2)Caiff deiliad trwydded apelio i lys ynadon yn erbyn dirymiad o dan adran 68.

(3)Caiff unigolyn y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58) apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad i roi’r hysbysiad.

(4)Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad—

(a)yn achos apêl o dan is-baragraff (1) neu (2), yr hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod y cais neu o’r penderfyniad i ddirymu;

(b)yn achos apêl o dan is-baragraff (3), yr hysbysiad o dan adran 61(1).

(5)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43).

(6)At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i gael ei drin fel gwneud yr apêl.

(7)Ar apêl, caiff y llys ynadon—

(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yr apelir yn ei erbyn, neu

(b)diddymu neu amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn,

a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.

(8)Os yw’r llys ynadon yn diddymu neu’n amrywio’r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn, caiff anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys.

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I123Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

19(1)Caniateir i apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad llys ynadon o dan baragraff 18 gael ei dwyn gerbron Llys y Goron.

(2)Ar apêl i Lys y Goron, caiff Llys y Goron—

(a)cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon;

(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon neu’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 3 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I125Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

20(1)Pan fo llys, ar apêl o dan baragraff 18 neu 19, yn amrywio neu’n gwrth-droi penderfyniad awdurdod lleol, caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd, deiliad y drwydded, neu berson o fewn paragraff 18(3) (yn ôl y digwydd) am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i’r penderfyniad.

(2)Nid yw dwyn apêl o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â phenderfyniad a wneir gan awdurdod lleol neu hysbysiad a roddir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith y penderfyniad neu’r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 3 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I127Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Dirprwyo swyddogaethauLL+C

21(1)Mae swyddogaethau awdurdod lleol o dan y darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon wedi eu dirprwyo, yn rhinwedd yr is-baragraff hwn, i bwyllgor trwyddedu’r awdurdod a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17)

(a)adran 65(2) a 66(3) (gan gynnwys fel y’u cymhwysir yn rhinwedd adran 67 a pharagraff 13(1)), mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;

(b)adran 68, mewn achos pan fo sylwadau yn cael eu cyflwyno o dan baragraff 15;

(c)paragraff 15(8);

(d)paragraffau 16 a 17.

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17) i fod yn gymwys mewn perthynas â swyddogaeth awdurdod a ddirprwyir i bwyllgor trwyddedu yn rhinwedd is-baragraff (1) fel y maent yn gymwys i swyddogaeth a ddirprwyir o dan y Ddeddf honno, ac fel pe bai cyfeiriadau ynddynt at awdurdod trwyddedu yn gyfeiriadau at yr awdurdod o dan sylw—

(a)adran 7(9) (atgyfeirio’n ôl i awdurdod), a

(b)adran 10 (isddirprwyo).

(3)Wrth gymhwyso adran 10(4) o’r Ddeddf honno yn rhinwedd is-baragraff (2), mae’r rhestr o swyddogaethau yn is-baragraff (1)(a) i (d) wedi ei rhoi yn lle’r rhestr o swyddogaethau yn yr adran honno.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sy’n gymwys i bwyllgorau trwyddedu a’u his-bwyllgorau at ddiben arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth o ran⁠—

(a)dilysrwydd a chworwm;

(b)mynediad y cyhoedd;

(c)cyhoeddusrwydd;

(d)cofnodion.

(5)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y rheoliadau, caiff pob pwyllgor trwyddedu, at ddibenion arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4), reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn ei is-bwyllgorau.

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 3 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I129Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

Diwygiadau canlyniadolLL+C

22(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 13(11) (ystyr “local authority” yn Rhan 8), ym mharagraff (a) ar ôl “district” mewnosoder “in England”.

(3)Yn adran 14 (aciwbigo)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a

(b)yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.

(4)Yn adran 15 (tatŵio etc)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”, a

(b)yn is-adran (2) ar ôl “any area” mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 3 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I131Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

23Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2), ym mhob tabl yn Atodlen 1 (pwerau i wneud is-ddeddfau) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud—

(a)ag adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30);

(b)ag adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 3 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I133Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)

(a gyflwynir gan adran 118)

ATODLEN 4LL+CDARPARU TOILEDAU: DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49)LL+C

1(1)Mae adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (darparu cyfleusterau cyhoeddus) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)yn lle “A county council, a local authority” rhodder “A county council in England, a local authority in England”;

(b)hepgorer “or community”.

(3)Yn y pennawd, ar ôl “conveniences”, mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I134Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I135Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 31.5.2018 gan O.S. 2018/605, ergl. 2(b)

Deddf Priffyrdd 1980 (p.66)LL+C

2Yn adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darparu cyfleusterau cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr ffyrdd), yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)The powers in subsection (1) are without prejudice to—

(a)section 87 of the Public Health Act 1936 (provision of public conveniences in England);

(b)section 116 of the Public Health (Wales) Act 2017 (local authority power to provide public toilets in Wales).

Gwybodaeth Cychwyn

I136Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I137Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 31.5.2018 gan O.S. 2018/605, ergl. 2(b)

Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2)LL+C

3(1)Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, mae Atodlen 1 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mhob tabl, hepgorer y cofnod sy’n ymwneud ag adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936.

(3)Ym mhob tabl, yn y lle priodol mewnosoder—

Adran 117 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017Rheoleiddio ymddygiad personau mewn toiledauCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned

Gwybodaeth Cychwyn

I138Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)

I139Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 31.5.2018 gan O.S. 2018/605, ergl. 2(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Help