Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

Newidiadau dros amser i: Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 18 Gorffennaf 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

RHAN 1LL+CANSAWDD AER

PENNOD 1LL+CTARGEDAU CENEDLAETHOL

1Targedau ansawdd aer: cyffredinolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer y pŵer yn is-adran (1) er mwyn gosod targed hirdymor mewn cysylltiad ag un o’r llygryddion a ganlyn—

(a)amonia;

(b)PM10;

(c)osôn ar lefel y ddaear;

(d)nitrogen deuocsid;

(e)carbon monocsid;

(f)sylffwr deuocsid.

(3)Rhaid i darged a osodir o dan yr adran hon—

(a)pennu safon i’w chyflawni, y mae rhaid gallu ei mesur yn wrthrychol, a

(b)pennu dyddiad erbyn pryd y mae’r safon i’w chyflawni.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch sut y mae mesur y mater y gosodir targed mewn cysylltiad ag ef.

(5)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n gosod y targed sy’n ofynnol o dan is-adran (2) bennu bod y targed wedi ei osod i gydymffurfio â’r is-adran honno.

(6)Mae targed yn “targed hirdymor” os yw’r dyddiad penodedig o leiaf 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y gosodir y targed arno.

(7)Mae targed o dan yr adran hon wedi ei osod pan ddaw’r rheoliadau sy’n ei osod i rym.

(8)Yn y Bennod hon—

(a)ystyr “PM10” yw deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 10 o ficrometrau;

(b)ystyr y “safon benodedig” a’r “dyddiad penodedig”, mewn perthynas â tharged a osodir o dan yr adran hon, yw’r safon a’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

2Targedau ansawdd aer: deunydd gronynnolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau osod o leiaf un targed (“targed ansawdd aer PM2.5”) mewn cysylltiad â’r lefel gymedrig flynyddol o PM2.5 mewn aer amgylchynol yng Nghymru.

(2)Caiff targed ansawdd aer PM2.5 fod yn darged hirdymor ond nid oes angen iddo fod felly.

(3)Yn yr adran hon, ystyr PM2.5 yw deunydd gronynnol sydd â diamedr aerodynamig nad yw’n fwy na 2.5 o ficrometrau.‍

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod “aer amgylchynol” wedi ei ddiffinio at ddibenion pob targed ansawdd aer PM2.5 (a chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol ar gyfer targedau gwahanol at ddibenion yr is-adran hon).

(5)Mae adran 1(3) i(4) a (6) i (8) yn gymwys i dargedau ansawdd aer PM2.5 ac i reoliadau o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys i dargedau a osodir o dan adran 1 ac i reoliadau o dan yr adran honno.

(6)Yn y Bennod hon, ystyr “targed ansawdd aer PM2.5” yw targed a osodir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

3Y broses o osod targedauLL+C

(1)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ceisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol, a

(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n gosod neu’n diwygio targed mewn cysylltiad â llygrydd penodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw ganllawiau ar gyfer y llygrydd hwnnw a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n gosod neu’n diwygio targed, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni y gellir cyflawni’r targed neu’r targed diwygiedig.

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n dirymu neu’n gostwng targed (y “targed presennol”) onid ydynt wedi eu bodloni—

(a)na fyddai cyflawni’r targed presennol o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â chyflawni’r targed neu gyflawni targed is, neu

(b)yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau ers gosod y targed presennol neu ei ddiwygio ddiwethaf, y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill cyflawni’r targed yn anghymesur â’r buddion.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 1 neu 2 sy’n dirymu neu’n gostwng targed, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (4).

(6)Mae rheoliadau yn gostwng targed os ydynt, i unrhyw raddau—

(a)yn gosod safon is yn lle’r safon benodedig, neu

(b)yn pennu dyddiad diweddarach yn lle’r dyddiad penodedig.

(7)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 ddirymu’r targed ansawdd aer sydd wedi ei osod i gydymffurfio ag is-adran (2) o’r adran honno (ond cânt ei ddiwygio yn unol â’r adran hon).

(8)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 2 ddirymu targed ansawdd aer PM2.5 (ond cânt ei ddiwygio yn unol â’r adran hon).

(9)At ddibenion y Bennod hon, mae targed wedi ei gyflawni os yw’r safon benodedig wedi ei chyrraedd erbyn y dyddiad penodedig.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau sy’n ofynnol gan adran 1(2) gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(11)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sy’n gosod targed ansawdd aer PM2.5 gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

4Effaith targedauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod targedau a osodir o dan adran 1 yn cael eu cyflawni, a

(b)bod targedau ansawdd aer PM2.5 yn cael eu cyflawni.

(2)Nid oes dim yn y Bennod ho‍n, heblaw am adran 8, yn cyfyngu ar bŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 87 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas ag asesu neu reoli ansawdd aer).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

5Adrodd ar dargedauLL+C

(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 1 neu 2 bennu dyddiad adrodd ar gyfer unrhyw darged a osodir o dan yr adran honno.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, ar y dyddiad adrodd neu cyn hynny, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol ynghylch y targed.

(3)Yr wybodaeth ofynnol ynghylch targed yw (fel sy’n briodol)—

(a)bod y targed wedi ei gyflawni,

(b)nad yw’r targed wedi ei gyflawni, neu

(c)nad yw Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd yn gallu canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni, y rhesymau dros hynny a’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn canfod pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad yw targed wedi ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, adroddiad.

(5)Rhaid i’r adroddiad—

(a)esbonio pam nad yw’r targed wedi ei gyflawni, a

(b)nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, i sicrhau y cyflawnir y safon benodedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu canfod pa un a yw targed wedi ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir y datganiad, osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad pellach sy’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol.

(7)Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i ddatganiadau pellach o dan is-adran (6) fel y maent yn gymwys i ddatganiad o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

6Adolygu targedauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu targedau o dan adrannau 1 a 2 yn unol â’r adran hon.

(2)Wrth gynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ceisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol, a

(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer.

(3)Os yw targed o dan adran 1 neu 2 mewn cysylltiad â llygrydd y mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ar ei gyfer gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gynnal adolygiad o’r targed, roi sylw i’r canllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd hwnnw.

(4)Ar ôl cynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad ynghylch y camau, os oes rhai, y maent yn bwriadu eu cymryd o dan adran 1 neu 2 mewn perthynas â phob targed o ganlyniad i’r adolygiad.

(5)Pan fo datganiad yn darparu nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymryd unrhyw gamau o dan adrannau 1 neu 2 mewn perthynas â tharged, rhaid i’r datganiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(6)Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y targed cyntaf (pa un ai o dan adran 1 neu 2).

(7)Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad blaenorol.

(8)Mae adolygiad wedi ei gwblhau pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad gerbron Senedd Cymru a’i gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(a)

Rhagolygol

7Monitro hynt cyflawni targedauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu cael gafael ar ddata ynghylch ansawdd aer yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod yn briodol i fonitro hynt cyflawni unrhyw dargedau a osodir o dan adran 1 neu 2.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddata a geir o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

8Cynnal safonau ansawdd aerLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â safon benodedig ar gyfer targed a bennir o dan adran 1 neu 2 pan fo—

(a)y dyddiad penodedig ar gyfer y targed wedi ei gyrraedd, a

(b)y safon benodedig ar gyfer y targed wedi ei chyflawni (boed erbyn y dyddiad penodedig neu erbyn dyddiad diweddarach).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu pwerau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), sicrhau—

(a)bod Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i gynnal y safon honno, a

(b)bod gofynion adrodd ar waith mewn perthynas â chyflawni’r ddyletswydd honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ddisodli’r safon a grybwyllir yn is-adran (2)(a) â safon is, neu i ddirymu’r safon, ond dim ond os ydynt wedi eu bodloni—

(a)na fyddai cyrraedd y safon o unrhyw fudd sylweddol o gymharu â pheidio â chyrraedd y safon neu gyrraedd safon is, neu

(b)yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau ers i’r safon benodedig gael ei gosod neu ers iddi gael ei gostwng ddiwethaf, y byddai costau amgylcheddol, costau cymdeithasol, costau economaidd neu gostau eraill ei chyrraedd yn anghymesur â’r buddion.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 at unrhyw ddiben a grybwyllir yn is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru (yn ogystal â chydymffurfio ag adran 87(7B) o’r Ddeddf honno)—

(a)ceisio cyngor oddi wrth bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol,

(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer,

(c)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd y mae’r safon yn gymwys iddo a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, a

(d)gosod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad sy’n esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni fel y’i crybwyllir yn is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(b)

9Adrodd mewn perthynas ag adran 1LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, osod gerbron Senedd Cymru a chyhoeddi adroddiad ar yr ystyriaeth y maent wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod hwnnw i osod targedau hirdymor o dan adran 1.

(2)Rhaid i’r adroddiad, yn benodol, ymdrin â’r ystyriaeth a roddwyd yn ystod y cyfnod adrodd i osod targedau mewn perthynas â’r llygryddion a ganlyn—

(a)amonia;

(b)PM10;

(c)osôn ar lefel y ddaear;

(d)nitrogen deuocsid;

(e)carbon monocsid;

(f)sylffwr deuocsid.

(3)Ond os yw rheoliadau wedi eu gwneud o dan adran 1 sy’n gosod targed mewn perthynas â llygrydd a grybwyllir yn is-adran (2), nid yw’r gofyniad yn yr is-adran honno bellach yn gymwys mewn perthynas â’r llygrydd hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod adrodd” yw‍—

(a)y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 1 yn dod i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 12 mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(c)

PENNOD 2LL+CDARPARIAETH ARALL

Hybu ymwybyddiaethLL+C

10Hybu ymwybyddiaeth o lygredd aerLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth yng Nghymru o—

(a)y risgiau i iechyd pobl a’r amgylchedd naturiol a achosir gan lygredd aer, a

(b)ffyrdd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(d)

Rhagolygol

Hyrwyddo teithio llesolLL+C

11Hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arnoLL+C

Ar ôl adran 10 o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7) (dyletswydd i arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf i hyrwyddo teithio llesol) mewnosoder—

10AGweinidogion Cymru yn hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yng Nghymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad ynghylch y camau y maent yn cynnig eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r datganiad cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adran hon ddod i rym, a

(b)parhau i adolygu’r datganiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r datganiad ar unrhyw adeg, ac os ydynt yn gwneud hynny rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad ar ei ffurf ddiwygiedig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd sy’n pennu pa gamau y maent wedi eu cymryd yn ystod y cyfnod hwnnw o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).

(6)Yn is-adran (5), ystyr “cyfnod adrodd” yw—

(a)y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r adran hon yn dod i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd.

(7)Nid yw is-adran (5) yn atal Gweinidogion Cymru rhag cyhoeddi adroddiadau ychwanegol sy’n pennu’r camau y maent wedi eu cymryd o ran cyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1).

10BAwdurdodau lleol ac awdurdodau eraill yn hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno

(1)Rhaid i awdurdodau lleol gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno yn eu hardaloedd.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn cyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo o dan adran 4(9)(c), rhaid iddo hefyd gyhoeddi adroddiad sy’n pennu pa gamau y mae wedi eu cymryd o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1) yn ystod—

(a)yn achos yr adroddiad cyntaf sy’n ofynnol gan yr is-adran hon, y cyfnod sy’n dechrau pan fydd is-adran (1) yn dod i rym ac sy’n dod i ben pan gyflwynir y map, a

(b)yn achos pob adroddiad dilynol, y cyfnod ers iddo gyhoeddi adroddiad o dan yr is-adran hon ddiwethaf.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol—

(a)gosod dyletswydd ar unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir yn y rheoliadau i gymryd camau i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gyhoeddi adroddiadau, mewn cysylltiad â chyfnodau a bennir yn y rheoliadau, ynghylch y camau y mae wedi eu cymryd o ran cyflawni ei ddyletswydd.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (3) ond pennu awdurdod cyhoeddus os yw’r awdurdod yn awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(5)Cyn pennu awdurdod cyhoeddus mewn rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod ynghylch y cynnig.

(6)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(7)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

10CCanllawiau i awdurdodau ynghylch eu swyddogaethau o dan adran 10B

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdodau o dan adran 10B.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau hefyd i unrhyw awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 10B(3) ynghylch cyflawni dyletswyddau’r awdurdod o dan y rheoliadau.

(3)Cyn rhoi neu ddiwygio canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)yr awdurdod neu’r awdurdodau y mae’r canllawiau yn ymwneud ag ef neu â hwy, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i awdurdod y rhoddir canllawiau iddo o dan yr adran hon roi sylw iddynt wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 10B neu, yn ôl y digwydd, reoliadau a wneir o dan yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

Strategaeth ansawdd aer genedlaetholLL+C

12Pŵer i newid cyfnod adolygu’r strategaethLL+C

(1)Yn adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (strategaeth ansawdd aer genedlaethol), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8)The Welsh Ministers may by regulations amend this section for the purpose of changing the period within which they must review the strategy.

(2)Yn adran 87 o’r Ddeddf honno (rheoliadau at ddibenion Rhan 4), ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(9A)A statutory instrument containing regulations under section 80(8) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by resolution of, Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(d)

13Ymgynghori wrth adolygu’r strategaethLL+C

Ar ôl adran 80(8) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (fel y’i mewnosodir gan adran 12) mewnosoder—

(9)Subsections (6) and (7) do not apply in relation to the Welsh Ministers.

(10)In reviewing the strategy, the Welsh Ministers must consult—

(a)the Natural Resources Body for Wales;

(b)every local authority in Wales;

(c)every Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006;

(d)every National Health Service trust established under section 18 of the National Health Service (Wales) Act 2006;

(e)every public services board (within the meaning of Part 4 of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015;

(f)the Future Generations Commissioner for Wales;

(g)Transport for Wales; and

(h)the public.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(d)

14Dyletswydd i roi sylw i’r strategaethLL+C

(1)Ar ôl adran 81A o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) mewnosoder—

81BFunctions of relevant Welsh public authorities etc.

(1)The following persons must have regard to the policies published by the Welsh Ministers in the strategy when exercising any function of a public nature that could affect the quality of air in Wales—

(a)local authorities in Wales;

(b)relevant Welsh public authorities.

(2)In this Part, “relevant Welsh public authority” means a person designated in accordance with subsection (3) as a relevant Welsh public authority.

(3)The Welsh Ministers may by regulations designate a person as a relevant Welsh public authority if (and only if) that person is a “devolved Welsh authority” within the meaning of section 157A(1)(a) of the Government of Wales Act 2006.

(4)Before making regulations under subsection (3), the Welsh Ministers must consult—

(a)the person that is proposed to be designated, and

(b)such other persons as the Welsh Ministers consider appropriate.

(2)Yn adran 87 o’r Ddeddf honno (rheoliadau at ddibenion Rhan 4), yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (c), ar ôl “relevant public authorities” mewnosoder “, relevant Welsh public authorities”;

(b)ym mharagraff (j), ar ôl “relevant public authorities,” mewnosoder “relevant Welsh public authorities,”;

(c)ym mharagraff (l), ar ôl “relevant public authorities” mewnosoder “, relevant Welsh public authorities”;

(d)ym mharagraff (m), ar ôl “a relevant public authority” mewnosoder “, a relevant Welsh public authority”.

(3)Yn adran 88 o’r Ddeddf honno (canllawiau at ddibenion Rhan 4)—

(a)yn is-adran (3)—

(i)yn lle “This section” rhodder “Subsections (1) and (2)”;

(ii)yn lle “it applies” rhodder “they apply”;

(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)The Welsh Ministers may issue guidance to relevant Welsh public authorities with respect to, or in connection with, the exercise of any of the powers conferred, or the discharge of any of the duties imposed, on those authorities by section 81B or regulations made by the Welsh Ministers under this Part.

(5)A relevant Welsh public authority, in exercising those powers and discharging those duties, must have regard to any guidance issued under subsection (4).

(4)Yn adran 91 o’r Ddeddf honno (dehongli Rhan 4), yn is-adran (1), ar ôl y cofnod ar gyfer “relevant public authority” mewnosoder—

  • relevant Welsh public authority” has the meaning given by section 81B(2);.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(d)

Rheoliadau ansawdd aerLL+C

15Ymgynghori ar reoliadau ansawdd aerLL+C

Yn adran 87 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (rheoliadau at ddibenion Rhan 4), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7A)Subsection (7) does not apply in relation to the Welsh Ministers.

(7B)Before making any regulations under this Part, the Welsh Ministers must consult—

(a)the Natural Resources Body for Wales;

(b)every local authority in Wales;

(c)the Public Health Wales National Health Service Trust;

(d)every Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006; and

(e)the public.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(e)

Rhagolygol

Rheoli ansawdd aer yn lleolLL+C

16Adolygiadau o ansawdd aer gan awdurdodau lleolLL+C

(1)Mae adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (adolygiadau awdurdodau lleol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), ar ôl “local authority” mewnosoder “, other than a local authority in Wales,”.

(3)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Every local authority in Wales must, in each calendar year, cause a review to be conducted of the quality for the time being, and the likely future quality within the relevant period, of air within the authority’s area.

(4)Yn is-adran (2), ar ôl “subsection (1)” mewnosoder “or (1A)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

17Cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag ardaloedd rheoli ansawdd aerLL+C

(1)Ar ôl adran 83A o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) mewnosoder—

83BDuties of Welsh local authorities in relation to designated areas

(1)This section applies in relation to a local authority in Wales.

(2)A local authority must, for the purpose of securing that air quality standards and objectives are achieved in an air quality management area designated by the authority—

(a)prepare an action plan in relation to that area, and

(b)send a copy of the action plan to the Welsh Ministers for approval.

(3)An action plan is a written plan that—

(a)sets out how the local authority will exercise its functions to secure that air quality standards and objectives are achieved in the area to which the plan relates, and

(b)in relation to each standard and objective, specifies a date by which the local authority will aim to achieve the standard or objective.

(4)An action plan must also set out how the local authority will exercise its functions to secure that air quality standards and objectives are maintained after they have been achieved in the area to which the plan relates.

(5)An action plan must—

(a)set out particular measures the local authority will take to secure the achievement and maintenance of air quality standards and objectives in the area to which the plan relates, and

(b)in relation to each measure, specify a date by which it will be carried out.

(6)A local authority—

(a)may prepare revisions to an action plan at any time, and

(b)must prepare revisions to an action plan if it considers that there is a need for further or different measures to be taken to secure that air quality standards and objectives are achieved by the dates specified under subsection (3)(b), and are maintained, in the area to which the plan relates.

(7)A local authority must send copies of revisions prepared under subsection (6) to the Welsh Ministers for approval.

(8)An action plan, or a revision to an action plan, does not take effect unless the plan or revision is approved (with or without modifications) by the Welsh Ministers.

(2)Yn adran 84 o’r Ddeddf honno—

(a)yn is-adran (1A), hepgorer “or Wales”;

(b)yn y pennawd, hepgorer “and Welsh”.

(3)Yn adran 91 o’r Ddeddf honno, yn y diffiniad o “action plan” yn is-adran (1), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

“(aa)

in relation to Wales, in accordance with section 83B;.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

18Pwerau cyfarwyddo Gweinidogion CymruLL+C

Yn adran 85 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) (pwerau wrth gefn Gweinidogion Cymru), yn is-adran (3)—

(a)hepgorer yr “or” ar ôl paragraff (c);

(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)that a local authority in Wales has failed to carry out a measure specified in an action plan by the date specified in the plan in relation to that measure, or

(f)that an air quality standard or objective has not been achieved, within a designated area in Wales, by the date specified in the action plan for the area as the date by which the standard or objective is expected to be achieved,.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

Rhagolygol

Rheoli mwgLL+C

19Rheoleiddio mwg a thanwydd mewn ardaloedd rheoli mwgLL+C

(1)Mae Deddf Aer Glân 1993 (p. 11) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 19D (dehongli termau at ddibenion adran 19B) mewnosoder—

Regulation of smoke and fuel in smoke control areas in WalesLL+C
19EPenalty for emission of smoke in smoke control area in Wales

Schedule 1A makes provision for financial penalties in relation to the emission of smoke in smoke control areas in Wales.

19FAcquisition and sale of unauthorised fuel: Wales

(1)Any person who—

(a)acquires any solid fuel for use in a building to which a smoke control order in Wales applies;

(b)acquires any solid fuel for use in a fireplace to which a smoke control order in Wales applies;

(c)acquires any solid fuel for use in any fixed boiler or industrial plant to which a smoke control order in Wales applies; or

(d)sells by retail any solid fuel in Wales for delivery by that person, or on that person’s behalf, to—

(i)a building to which a smoke control order in Wales applies; or

(ii)premises in which there is any fixed boiler or industrial plant to which such an order applies,

is guilty of an offence.

(2)In subsection (1), “solid fuel” means any solid fuel other than an authorised fuel.

(3)Subsection (1)(b) does not apply in relation to a fireplace that is‍ an exempt fireplace at the time of the acquisition.

(4)Subsection (1) is subject to any regulations under section 19H(1)(b) (exemptions by regulations for whole or part of smoke control area).

(5)In proceedings for an offence under subsection (1)(d), it is a defence for the person accused to prove that the person believed and had reasonable grounds for believing—

(a)that the building referred to in sub-paragraph (i) of that subsection was not one to which the smoke control order in question applied, or

(b)that the fuel was acquired for use in—

(i)a fireplace that was, at the time of the delivery,‍ an exempt fireplace, or

(ii)a boiler or plant to which the smoke control order did not apply.

(6)A person guilty of an offence under this section is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 3 on the standard scale.‍

19GSection 19F: interpretation

(1)In section 19F, “exempt fireplace” means a fireplace of a type specified in a list published by the Welsh Ministers.

(2)The Welsh Ministers may only specify a type of fireplace in the list if satisfied that such a fireplace can, if used in compliance with any conditions specified in the list, be used for burning solid fuels other than authorised fuels without producing any smoke or a substantial quantity of smoke.

(3)In section 19F and this section, “authorised fuel” means a solid fuel included in a list of authorised fuels published by the Welsh Ministers.

19HExemptions relating to particular areas in Wales

(1)The Welsh Ministers may, if it appears to them to be necessary or expedient to do so, by regulations suspend or relax the operation of—

(a)Schedule 1A (penalty for emission of smoke), or

(b)section 19F(1) (offences relating to acquisition and sale of fuel),

in relation to the whole or any part of a smoke control area in Wales.

(2)Before making regulations under subsection (1), the Welsh Ministers must consult the local authority that declared the smoke control area in question unless satisfied that on account of urgency such consultation is impracticable.

(3)As soon as practicable after the making of such regulations, the local authority must take such steps as appear to them suitable for bringing the effect of the regulations to the notice of persons affected by the regulations.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

20Canllawiau i awdurdodau lleol mewn perthynas ag ardaloedd rheoli mwgLL+C

Ar ôl adran 28A o Ddeddf Aer Glân 1993 (p. 11) mewnosoder—

28BGuidance for local authorities in Wales

A local authority in Wales must have regard to any guidance published by the Welsh Ministers about the exercise of the authority’s functions under this Part.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

21Darpariaeth bellach sy’n ymwneud â rheoli mwgLL+C

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach sy’n ymwneud â rheoli mwg.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(3)

Allyriadau cerbydauLL+C

22Cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrddLL+C

(1)Mae Deddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 167 (cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd)—

(a)yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, ar ôl “road charging scheme” mewnosoder “under subsection (1)(a)”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)A trunk road charging scheme under subsection (1)(b) may only be made in respect of a road if—

(a)the road is carried by a bridge, or passes through a tunnel, of at least 600 metres in length,

(b)the scheme is made for the purpose of reducing or limiting air pollution in the vicinity of the road (which may comprise or include a length of road of the kind described in paragraph (a)), or

(c)a local traffic authority have requested the charging authority to make the scheme in connection with a charging scheme under this Part made or proposed by them.

(4)Subsection (3)(b) does not prevent a scheme made by virtue of subsection (3)(c) from being made for the purpose of reducing or limiting air pollution.

(3)Yn adran 170 (cynlluniau codi tâl: ymgynghori a chynnal ymchwiliadau), yn is-adran (7)(a), ar ôl “section 167(2)(b)” mewnosoder “or (3)(c)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 22 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(f)

23Darpariaeth bellach sy’n ymwneud â chynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrddLL+C

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer, ac mewn cysylltiad â, chymhwyso’r enillion o gynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd a wneir at ddiben lleihau llygredd aer neu gyfyngu arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(f)

24Trosedd segura llonydd: cosb benodedigLL+C

(1)Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 87 (rheoliadau at ddibenion ansawdd aer)—

(a)yn is-adran (2), ym mharagraff (o)—

(i)mae’r geiriau o “by payment of” hyd at y diwedd yn dod yn is-baragraff (i);

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (i) mewnosoder , or

(ii)by payment of a penalty of an amount that falls within a prescribed range, where the prescribed offence is a stationary idling offence prescribed by the Welsh Ministers and such a range is prescribed;;

(b)ar ôl is-adran (2A) mewnosoder—

(2B)In subsection (2)(o)(ii), “stationary idling offence means an offence under section 42 of the Road Traffic Act 1988 that consists of a contravention of, or failure to comply with, so much of regulation 98 of the Road Vehicle (Construction and Use) Regulations 1986 (stopping of engine when stationary) as relates to the prevention of exhaust emissions.

(3)Yn Atodlen 11 (ansawdd aer: darpariaeth atodol), ym mharagraff 5 (troseddau cosb benodedig), yn is-baragraff (6)—

(a)yn y diffiniad o “fixed penalty”—

(i)mae’r geiriau o “a penalty of such amount” hyd at y diwedd yn dod yn baragraff (a);

(ii)ar ddiwedd paragraff (a) mewnosoder , or

(b)a penalty of such amount falling within a range prescribed in regulations as is specified in a fixed penalty notice;;

(b)yn y diffiniad o “fixed penalty notice”, ar y diwedd mewnosoder “or an amount falling within a range prescribed in regulations”.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 24 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(g)

RHAN 2LL+CSEINWEDDAU

Strategaeth seinweddau genedlaetholLL+C

25Strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi strategaeth sy’n cynnwys eu polisïau mewn cysylltiad ag ases‍u, rheoli a dylunio seinweddau yng Nghymru.

(2)Rhaid i’r strategaeth gynnwys polisïau i asesu‍ llygredd sŵn a’i reoli’n effeithiol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gadw eu polisïau mewn cysylltiad â seinweddau o dan adolygiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru addasu’r strategaeth o bryd i’w gilydd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r strategaeth ac, os yw’n briodol, ei haddasu—

(a)o fewn 5 mlynedd i gyhoeddi’r strategaeth, a

(b)o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhaodd Gweinidogion Cymru eu hadolygiad diweddaraf o dan yr is-adran hon.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu adolygu’r strategaeth—

(a)rhoi sylw i—

(i)gwybodaeth wyddonol sy’n berthnasol i seinweddau, a

(ii)y mapiau sŵn strategol diweddaraf a fabwysiadwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629);

(b)ymgynghori â—

(i)Corff Adnoddau Naturiol Cymru,

(ii)pob awdurdod lleol yng Nghymru,

(iii)pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42),

(iv)pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006,

(v)pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)),

(vi)Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru,

(vii)Trafnidiaeth Cymru, ac

(viii)y cyhoedd.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddiben newid y cyfnod y mae rhaid iddynt adolygu’r strategaeth ynddo.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi strategaeth sy’n bodloni gofynion is-adrannau (1) a (2) cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r strategaeth honno i’w thrin fel y strategaeth a luniwyd ac a gyhoeddwyd o dan is-adran (1) (ac nid yw is-adran (6) yn gymwys i lunio’r strategaeth).

(9)Yn yr adran hon ac adran 26, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 25 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(h)

26Dyletswydd i roi sylw i strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddauLL+C

(1)Rhaid i’r personau a ganlyn roi sylw i’r polisïau yn y strategaeth a gyhoeddir o dan adran 25 wrth arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus a allai effeithio ar seinweddau yng Nghymru—

(a)awdurdodau lleol yng Nghymru;

(b)awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” yw person a ddynodir yn unol ag is-adran (3) yn awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddynodi person yn awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol os (a dim ond os) yw’r person hwnnw yn “devolved Welsh authority” o fewn ystyr adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)y person y cynigir ei ddynodi, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 26 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(h)

Mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu ar sŵnLL+C

27Pŵer i newid cylchoedd ar gyfer gwneud mapiau sŵn strategol ac adolygu cynlluniau gweithredu ar sŵnLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio rheoliad 7 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629) (dyletswydd Gweinidogion Cymru i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol) er mwyn newid yr ysbeidiau a bennir am y tro gan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw fel yr ysbeidiau y mae rhaid gwneud a mabwysiadu mapiau sŵn strategol arnynt.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio rheoliad 17 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (dyletswydd Gweinidogion Cymru i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu) er mwyn newid y cyfnod a bennir am y tro gan baragraff (3)(b) o’r rheoliad hwnnw fel y cyfnod y mae rhaid cynnal adolygiadau o gynllun gweithredu ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 27 mewn grym ar 14.4.2024, gweler a. 30(2)(i)

RHAN 3LL+CCYFFREDINOL

28Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 28 mewn grym ar 15.2.2024, gweler a. 30(1)

29RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—

(a)pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)pŵer i wneud—

(i)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(ii)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 1;

(b)adran 2;

(c)adran 25(7);

(d)adran 26(3).

(5)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(6)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur gan y Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 29 mewn grym ar 15.2.2024, gweler a. 30(1)

30Dod i rymLL+C

(1)Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 1 i 6;

(b)adran 8;

(c)adran 9;

(d)adrannau 10‍, 12, 13 a 14;

(e)adran 15;

(f)adrannau 22 ac 23 ac Atodlen 2;

(g)adran 24;

(h)adrannau 25 a 26;

(i)adran 27.

(3)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

(a)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;

(b)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 30 mewn grym ar 15.2.2024, gweler a. 30(1)

31Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 31 mewn grym ar 15.2.2024, gweler a. 30(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill