Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 1CYDLYNU GWAITH GWEINYDDU ETHOLIADOL

1Bwrdd Rheoli Etholiadol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

(1)Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl Rhan 2 mewnosoder—

RHAN 2ACYDLYNU GWAITH GWEINYDDU ETHOLIADOL
Swyddogaethau cyffredinol
20ASwyddogaethau gweinyddu etholiadol

(1)Swyddogaeth gyffredinol y Comisiwn yw cydlynu’r gwaith o weinyddu etholiadau a refferenda Cymreig.

(2)Mae’r swyddogaeth gyffredinol yn is-adran (1) yn cynnwys—

(a)cynorthwyo swyddogion canlyniadau, awdurdodau lleol a phersonau eraill wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda Cymreig;

(b)hybu arferion gorau o ran gweinyddu etholiadau a refferenda Cymreig drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu hyfforddiant (neu fel arall).

(3)Caiff y Comisiwn ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth arall i Weinidogion Cymru ynghylch gweinyddu etholiadau a refferenda Cymreig.

(4)Yn y Rhan hon ystyr “etholiadau a refferenda Cymreig” yw—

(a)etholiadau Senedd Cymru;

(b)etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru;

(c)refferenda datganoledig.

Cyfarwyddiadau
20BCyfarwyddiadau i swyddogion canlyniadau

(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i swyddogion canlyniadau ynghylch arfer swyddogaethau’r swyddogion mewn perthynas—

(a)ag etholiadau Senedd Cymru yn gyffredinol,

(b)ag etholiad penodol i Senedd Cymru,

(c)ag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn gyffredinol,

(d)ag etholiad llywodraeth leol penodol yng Nghymru,

(e)â refferenda datganoledig yn gyffredinol, neu

(f)â refferendwm datganoledig penodol.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i swyddog canlyniadau ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i swyddog canlyniadau—

(a)arfer unrhyw ddisgresiwn sydd gan y swyddog wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog, neu

(b)arfer y disgresiwn mewn ffordd benodol.

(4)Rhaid i swyddog canlyniadau y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-adran (1) gydymffurfio â’r cyfarwyddyd i’r graddau y mae’n cyfarwyddo’r swyddog—

(a)i arfer unrhyw ddisgresiwn a fyddai gan y swyddog fel arall wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog (neu i’w arfer mewn ffordd benodol), neu

(b)i ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn.

(5)Nid yw’n ofynnol i swyddog canlyniadau gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)os byddai cydymffurfio â’r cyfarwyddyd yn anghyson ag un o ddyletswyddau’r swyddog o dan unrhyw ddeddfiad,

(b)i’r graddau y mae arfer swyddogaethau’r swyddog yn ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag etholiad a gedwir yn ôl mewn pôl sydd wedi ei gyfuno ag etholiad neu refferendwm Cymreig, neu

(c)i’r graddau y mae arfer swyddogaethau’r swyddog yn ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd yn ymwneud â’r cyfuniad—

(i)o bôl mewn etholiad a gedwir yn ôl â’r pôl mewn etholiad neu refferendwm Cymreig;

(ii)o bôl mewn etholiad Senedd Cymru â’r pôl mewn etholiad cyffredin llywodraeth leol yng Nghymru.

(6)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi pob cyfarwyddyd y mae’n ei roi o dan is-adran (1).

20CCyfarwyddiadau i swyddogion cofrestru etholiadol

(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i swyddogion cofrestru etholiadol ynghylch arfer swyddogaethau’r swyddogion mewn perthynas—

(a)ag etholiad penodol i Senedd Cymru,

(b)ag etholiad llywodraeth leol penodol yng Nghymru, neu

(c)â refferendwm datganoledig penodol.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol—

(a)arfer unrhyw ddisgresiwn sydd gan y swyddog wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog, neu

(b)arfer y disgresiwn mewn ffordd benodol.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn.

(4)Rhaid i swyddog cofrestru etholiadol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-adran (1) gydymffurfio â’r cyfarwyddyd i’r graddau y mae’n cyfarwyddo’r swyddog—

(a)i arfer unrhyw ddisgresiwn a fyddai gan y swyddog fel arall wrth gyflawni swyddogaethau’r swyddog (neu i’w arfer mewn ffordd benodol), neu

(b)i ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn.

(5)Nid yw’n ofynnol i swyddog cofrestru etholiadol gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)os yw’n anghyson—

(i)ag un o ddyletswyddau’r swyddog o dan unrhyw ddeddfiad, neu

(ii)â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 52 o Ddeddf 1983;

(b)i’r graddau y mae arfer swyddogaethau’r swyddog yn ymwneud â phôl mewn etholiad a gedwir yn ôl sydd wedi ei gyfuno â phôl mewn etholiad neu refferendwm Cymreig.

(6)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi pob cyfarwyddyd y mae’n ei roi o dan is-adran (1).

20DYmgynghori â’r Comisiwn Etholiadol

(1)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 20B neu 20C, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol.

(2)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol roi ymateb ysgrifenedig i’r Comisiwn ar y materion yr ymgynghorwyd ag ef yn eu cylch.

Y Bwrdd
20EY Bwrdd Rheoli Etholiadol

(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu bwrdd o’r enw y Bwrdd Rheoli Etholiadol (“y Bwrdd”).

(2)Mae swyddogaethau’r Comisiwn o dan y darpariaethau a bennir yn is-adran (3) wedi eu dirprwyo i’r Bwrdd ac ni chaniateir iddynt gael eu harfer ond gan y Bwrdd.

(3)Y darpariaethau yw—

(a)adrannau 20A i 20D;

(b)pennod 3 o Ran 1 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholiadol (Cymru) 2024 (peilota a diwygio etholiadau Cymreig);

(c)darpariaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caniateir i’r pwerau yn adran 12 gael eu harfer gan y Bwrdd neu’r Comisiwn mewn perthynas â’r swyddogaethau sydd wedi eu dirprwyo gan is-adran (2).

(5)Nid yw is-adran (2) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer y swyddogaethau dirprwyedig.

20FAelodaeth o’r Bwrdd

(1)Mae’r Bwrdd i gynnwys—

(a)aelod o’r Comisiwn sy’n gyn-swyddog etholiadau i gadeirio’r Bwrdd,

(b)un aelod arall o’r Comisiwn, ac

(c)aelodau sy’n swyddogion etholiadau neu’n gyn-swyddogion etholiadau (ac mae un ohonynt i fod yn ddirprwy gadeirydd y Bwrdd).

(2)Mae aelodau’r Bwrdd i’w penodi gan y Comisiwn.

(3)Rhaid i’r Comisiwn benodi o leiaf bedwar aelod i’r Bwrdd o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1)(c).

(4)Mae’r cadeirydd i’w ddewis gan y Comisiwn ac mae’r dirprwy gadeirydd i’w ddewis gan y Bwrdd.

(5)Mae aelodau o’r Bwrdd sydd hefyd yn aelodau o’r Comisiwn i’w penodi ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(6)Mae aelodau eraill y Bwrdd i’w penodi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(7)Mae’r telerau a’r amodau y caniateir iddynt gael eu penderfynu o dan is-adrannau (5) a (6) yn cynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau.

(8)Rhaid i berson a benodir o dan is-adran (1)(c) beidio â bod—

(a)yn aelod o‍ un o ddeddfwrfeydd y DU;‍

(b)yn aelod o staff‍ y Senedd (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the staff of the Senedd” gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(c)yn berson‍ a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(d)yn aelod o awdurdod lleol;

(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru;

(g)yn Gomisiynydd neu’n Gomisiynydd Cynorthwyol;

(h)yn aelod o staff y Comisiwn;

(i)yn berson a gyflogir yng ngwasanaeth sifil y wladwriaeth.

(9)Yn yr adran hon ystyr “swyddog etholiadau” yw—

(a)swyddog canlyniadau, neu

(b)swyddog cofrestru etholiadol.

20GDeiliadaeth

Mae aelodau’r Bwrdd yn dal swydd ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

20HTrafodion y Bwrdd

(1)Rhaid bod gan aelodau’r Bwrdd bleidleisiau sy’n gyfwerth â’i gilydd at ddiben penderfyniadau’r Bwrdd, ond mae gan y cadeirydd (neu’r dirprwy gadeirydd os yw’r cadeirydd yn absennol) bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.

(2)Caiff y Bwrdd fel arall reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm).

(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Bwrdd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn.

(4)Caiff y cadeirydd neu’r dirprwy gadeirydd (gyda chytundeb aelodau eraill y Bwrdd) wahodd person i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Bwrdd at ddiben darparu cyngor neu gynorthwyo’r Bwrdd fel arall.

Cyffredinol
20IDehongli’r Rhan hon

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2);

  • ystyr “etholiad a gedwir yn ôl” (“reserved election”) yw—

    (a)

    etholiad ar gyfer aelodaeth o Dŷ’r Cyffredin;

    (b)

    etholiad ar gyfer swydd comisiynydd heddlu a throsedd;

  • ystyr “etholiadau llywodraeth leol” (“local government elections”) yw ethol—

    (a)

    cynghorwyr i ward etholiadol sir neu fwrdeistref sirol,

    (b)

    cynghorwyr i ward gymunedol neu, yn achos cymuned lle nad oes wardiau, i’r gymuned, neu

    (c)

    maer etholedig neu aelod gweithredol etholedig o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

  • ystyr “refferenda datganoledig” (“devolved referendums”) yw refferenda a gynhelir o dan—

    (a)

    adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wneir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

    (b)

    adran 40 o Fesur 2011;

    (c)

    unrhyw ddeddfiad arall (pryd bynnag y caiff ei basio neu ei wneud) a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai mewn darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru (pa un a fyddai’n ofynnol cael cydsyniad un o Weinidogion y Goron ar gyfer y ddarpariaeth ai peidio);

  • ystyr “swyddog canlyniadau” (“returning officer”) yw—

    (a)

    swyddog canlyniadau (sut bynnag y’i disgrifir)—

    (i)

    a benodir o dan adran 35(1A) o Ddeddf 1983,

    (ii)

    a ddynodir yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”), neu

    (iii)

    a benodir o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd adran 44 neu 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

    (b)

    unrhyw berson a gaiff arfer swyddogaethau swyddog canlyniadau sy’n dod o fewn paragraff (a);

  • ystyr “swyddog cofrestru etholiadol” (“electoral registration officer) yw swyddog a benodir o dan adran 8(2A) o Ddeddf 1983 neu unrhyw berson a gaiff arfer swyddogaethau’r swyddog.

2Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r Bennod hon.

PENNOD 2COFRESTRU ETHOLIADOL HEB GEISIADAU

3Dyletswydd i gofrestru etholwyr llywodraeth leol

(1)Mae adran 18 (cofrestru etholwyr llywodraeth leol heb gais) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) wedi ei hepgor.

(2)Ar ôl adran 9 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (“Deddf 1983”) (cofrestrau etholwyr), mewnosoder—

9ZADuty to register eligible local government electors in Wales

(1)This section applies to the registration of local government electors for an area in Wales.

(2)The duty in subsection (3) applies if—

(a)a registration officer is aware of a person’s name and address,

(b)the person is not registered in the register of local government electors maintained by the officer, and

(c)the officer is satisfied that the person is entitled to be registered in that register.

(3)The registration officer must notify the person in writing of—

(a)the officer’s duty under subsection (5) to register the person after the end of the notice period,

(b)the exceptions to the duty under subsection (5) in paragraphs (a) to (c) of that subsection,

(c)the person’s right to request exclusion from the edited register of local government electors, if provision is made for an edited register in regulations under section 53,

(d)the person’s right to apply for anonymous registration,

(e)the type of elections in which the person will be entitled to vote following registration under this section, and

(f)the type of elections in which the person will not be entitled to vote following registration under this section unless an application for registration is made.

(4)In this section “the notice period” is the period of‍ 60 days beginning with the day on which the notice under subsection (3) is given.

(5)After the end of the notice period the registration officer must register the person in the register of local government electors, unless—

(a)the person has notified the officer in writing that the person does not wish to be registered,

(b)the officer is no longer satisfied that the person is entitled to be registered in the register of local government electors (whether because of information provided by the person or otherwise), or

(c)the person has notified the officer that the person wishes to make an application for an anonymous entry in the local government register under section 9B in conjunction with an application for registration in that register under section 10ZC or the person has made such an application.

(6)The Welsh Ministers may by regulations make provision about giving notice for the purpose of this section, including (but not limited to) provision—

(a)about the form of the notice;

(b)about how the notice is given;

(c)requiring or authorising the registration officer to give a copy of the notice to a person other than the person to be registered.

(7)The registration officer must keep a separate list of the persons registered under this section.

(8)The power to make regulations under this section is exercisable by statutory instrument.

(9)A statutory instrument containing regulations under this section is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.

4Darpariaeth sy’n gysylltiedig â’r ddyletswydd i gofrestru etholwyr llywodraeth leol cymwys

(1)Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 9 (cofrestrau etholwyr), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Subject to any other provision of this Act, each register of local government electors for an area in Wales must also contain the names of persons who are registered in accordance with section 9ZA(5) along with the information mentioned in paragraphs (b) and (c) of subsection (2) relating to those persons.

(3)Yn adran 9E (cadw cofrestrau: gwahoddiadau i gofrestru ym Mhrydain Fawr), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)The duty of a registration officer under subsection (1) does not apply in relation to the registration of a person in a register of local government electors for an area in Wales if—

(a)the registration officer has yet to complete any steps prescribed under section 53 in connection with the duty in section 9ZA(3) as it relates to the person or is otherwise yet to decide whether the duty in section 9ZA applies to the person,

(b)the duty in section 9ZA(3) applies in relation to the person and the notice period under that section has not ended, or

(c)the duty in section 9ZA(5) applies in relation to the person.

(4)Yn adran 13A(1) (gwneud newidiadau i gofrestrau), ar ôl paragraff (zb) mewnosoder—

(zc)in the case of a registration officer for a local government area in Wales, is required by section 9ZA(5) to enter a person in the register;.

(5)Yn adran 13AB(1) (gwneud newidiadau i gofrestrau: dyddiadau cyhoeddi interim), ym mharagraff (a) ar ôl “(zb),” mewnosoder “(zc),”.

(6)Yn adran 13B(2) (gwneud newidiadau i gofrestrau: etholiadau sydd yn yr arfaeth), ym mharagraff (a) ar ôl “(zb),” mewnosoder “(zc),”.

(7)Yn adran 53 (pŵer i wneud rheoliadau o ran cofrestru etc.), ar ôl is-adran (8) mewnosoder—

(8A)Provision made by regulations relating to the matters specified in paragraph 1A(1)(aa) of Schedule 2—

(a)may only be made by the Welsh Ministers;

(b)may not include provision that would require the consent of the appropriate Minister under paragraph 8(1)(a) or (c), 10 or 11 of Schedule 7B to the Government of Wales Act 2006 (c. 32) if the provision were included in an Act of Senedd Cymru;

(c)may not include provision that would require consultation of the appropriate Minister under paragraph 11(2) of Schedule 7B to that Act if the provision were included in an Act of Senedd Cymru.

(8)Yn adran 56(1) (apelau cofrestru: Cymru a Lloegr), ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—

(azaa)from any decision of a registration officer for a local government area in Wales to register a person under section 9ZA(5);

(9)Yn Atodlen 2 (darpariaethau y caniateir eu cynnwys mewn rheoliadau o ran cofrestru etc.)—

(a)ym mharagraff 1A(1), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)to decide whether a person is eligible to be included in the register for the purpose of section 9ZA,;

(b)ar ôl paragraff 1B mewnosoder—

1CProvision authorising or requiring a registration officer maintaining a register of local government electors for an area in Wales to take specified steps for the purpose of deciding whether a person is eligible to be included in the register for the purpose of section 9ZA.

(c)ym mharagraff 10, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3)This paragraph does not apply to a register of local government electors for an area in Wales.

(d)ym mharagraff 10B, ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(4)Paragraph (b) of sub-paragraph (1) does not apply to a register of local government electors for an area in Wales.

PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG

Peilotau etholiadau Cymreig

5Rheoliadau peilot: pwerau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth peilota etholiadau Cymreig (“rheoliadau peilot”).

(2)Mae darpariaeth peilota etholiadau Cymreig yn ddarpariaeth—

(a)sy’n ymwneud ag un neu ragor o faterion etholiadol perthnasol,

(b)sy’n cael effaith am gyfnod penodedig neu ar gyfer etholiad Cymreig penodedig,

(c)sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal etholiadol neu ddwy neu ragor o ardaloedd etholiadol, a

(d)naill ai—

(i)nad yw mewn deddfwriaeth etholiadau,

(ii)sy’n wahanol i ddarpariaeth mewn deddfwriaeth etholiadau, neu

(iii)sy’n gysylltiedig â darpariaeth o’r math a bennir yn is-baragraff (i) neu (ii).

(3)Y materion etholiadol perthnasol yw—

(a)cofrestru personau sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiad Cymreig, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(i)hawliau a dyletswyddau unigolion o ran cofrestru,

(ii)gweinyddu’r broses gofrestru a’r gofrestr etholwyr,

(iii)mynediad at y gofrestr etholwyr a chyhoeddi’r gofrestr honno,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw amod cymhwystra ar gyfer cofrestru y darperir ar ei gyfer mewn deddfwriaeth sylfaenol;

(b)pryd, ble a sut y mae pleidleisio mewn etholiad Cymreig i ddigwydd;

(c)sut y mae’r pleidleisiau a fwrir mewn etholiad Cymreig i’w cyfrif;

(d)cyfathrebu â phleidleiswyr ynghylch etholiad Cymreig;

(e)y prosesau a’r gweithdrefnau cyn pleidleisio, wrth bleidleisio neu ar ôl pleidleisio mewn etholiad Cymreig.

(4)Mae darpariaeth peilota etholiadau Cymreig hefyd yn cynnwys darpariaeth a wneir at ddiben profi sut y mae’r newidiadau a wneir gan‍ adrannau 3 a 4yn gweithio yn ymarferol—

(a)sy’n cael effaith am gyfnod penodedig neu ar gyfer etholiad Cymreig penodedig,

(b)sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal etholiadol neu ddwy neu ragor o ardaloedd etholiadol, ac

(c)y mae ei heffaith yn cyfateb i effaith y diwygiadau a wneir gan‍ adrannau 3 a 4 (neu’r is-ddeddfwriaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd yr adrannau hynny).

(5)Caiff rheoliadau peilot roi ar waith gynigion ar gyfer rheoliadau peilot a wneir o dan y Ddeddf hon gydag addasiadau i’r cynnig neu hebddynt.

(6)Caiff rheoliadau peilot greu, dileu neu addasu troseddau.

(7)Ni chaiff rheoliadau peilot greu trosedd y caniateir ei chosbi (nac addasu trosedd fel y daw’n drosedd y caniateir ei chosbi)—

(a)ar euogfarn ar dditiad, drwy garcharu am gyfnod sy’n hwy nag un flwyddyn;

(b)ar euogfarn ddiannod, drwy garcharu am gyfnod sy’n hwy na’r terfyn cymwys ar gyfer trosedd ddiannod neu drosedd neillffordd (yn ôl y digwydd) o dan adran 224(1A) o’r Cod Dedfrydu (fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd).

(8)Yn yr adran hon—

  • ystyr “ardal etholiadol” (“electoral area”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â dychwelyd aelod o Senedd Cymru, un o etholaethau’r Senedd;

    (b)

    mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol, ardal cyngor y mae’r etholiad yn gymwys iddo neu unrhyw ran o ardal cyngor o’r fath;

  • ystyr “deddfwriaeth etholiadau” (“elections legislation”) yw deddfiad (pryd bynnag y caiff ei basio neu ei wneud) sy’n gymwys mewn perthynas—

    (a)

    ag etholiad Cymreig, neu

    (b)

    â chofrestru personau sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiad Cymreig;

  • ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “etholiad Cymreig” (“Welsh election”) yw etholiad ar gyfer dychwelyd aelod o—

    (a)

    Senedd Cymru;

    (b)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

    (c)

    cyngor cymuned yng Nghymru;

  • ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau peilot.

6Rheoliadau peilot: gofynion

(1)Rhaid i reoliadau peilot bennu—

(a)amcan y peilot y maent yn gwneud darpariaeth ar ei gyfer;

(b)y diwrnod cyn yr hwn y mae rhaid i’r Comisiwn Etholiadol anfon ei adroddiad o dan adran 17.

(2)Ni chaiff rheoliadau peilot wneud darpariaeth sy’n gymwys i ardal prif gyngor (neu unrhyw rhan ohoni) oni bai—

(a)bod y prif gyngor yn cydsynio iddi, neu

(b)os nad yw’r cyngor yn cydsynio iddi, fod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw argymhellion a wnaed gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ynghylch a ddylai’r rheoliadau gael eu gwneud heb gydsyniad y prif gyngor.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i reoliadau peilot nad ydynt ond yn cynnwys darpariaeth o’r math a bennir yn adran 5(4) os ydynt wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(4)Ni chaiff rheoliadau peilot addasu adran 9D o Ddeddf 1983 (canfasiad blynyddol) nac unrhyw ddarpariaeth arall sy’n ymwneud â chanfasiad o dan yr adran honno oni bai bod y rheoliadau yn rhoi cynnig ar waith (gydag addasiadau neu hebddynt) gan swyddog cofrestru o dan adran 11.

(5)Cyn gwneud unrhyw reoliadau peilot o dan adran 5 sy’n ymwneud â chofrestru etholiadol heb gais, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw randdeiliaid y maent yn ystyried eu bod yn briodol, ond yn benodol, â’r rheini y maent yn barnu eu bod yn cynrychioli grwpiau hyglwyf.

7Rheoliadau peilot: y weithdrefn

(1)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau peilot yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Pan osodir offeryn statudol neu offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau peilot gerbron Senedd Cymru at ddibenion yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod gerbron y Senedd gopi o’r adroddiad ar y rheoliadau a lunnir gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o dan adran 14.

(3)Os yw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau peilot a osodir gerbron Senedd Cymru yn gwneud darpariaeth sy’n gymwys i ardal prif gyngor (neu unrhyw ran ohoni) nad yw’r cyngor wedi rhoi ei gydsyniad iddi, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod datganiad gerbron y Senedd sy’n egluro pam y maent yn ystyried y dylai’r ddarpariaeth gael ei gwneud heb gydsyniad y cyngor.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)Mae is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau peilot sy’n gwneud darpariaeth—

(a)sy’n gymwys i ardal prif gyngor (neu unrhyw ran ohoni) ac nad yw’r cyngor wedi rhoi ei gydsyniad iddi,

(b)ar gyfer peilot etholiad Cymreig sy’n dod o fewn adran 5(4), neu

(c)sy’n creu trosedd, neu’n ehangu cwmpas trosedd.

(6)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau peilot nad yw is-adran (5) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.‍

Cynigion ar gyfer peilotau

8Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan Weinidogion Cymru

(1)Cyn gwneud rheoliadau peilot nad ydynt wedi bod yn destun cynnig o dan adrannau 9 i 11, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob swyddog canlyniadau ar gyfer ardal y bydd y rheoliadau yn gymwys iddi ynghylch eu cynigion ar gyfer y peilot y mae’r rheoliadau i ddarparu ar ei gyfer.

(2)Ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (1) a chyn gwneud rheoliadau peilot sy’n ymwneud ag unrhyw fater etholiadol perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyflwyno cynigion i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer y peilot y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, a

(b)rhoi sylw i adroddiad y Comisiwn ar y cynigion o dan adran 14.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau peilot nad ydynt ond yn cynnwys darpariaeth o’r math a bennir yn adran 5(4) os ydynt wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

9Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan brif gynghorau

(1)Caiff prif gyngor gynnig i Weinidogion Cymru fod rheoliadau peilot yn cael eu gwneud mewn perthynas ag unrhyw fater etholiadol perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol.

(2)Cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r prif gyngor ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)Ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (2) a chyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r prif gyngor—

(a)cyflwyno’r cynnig i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer y peilot y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, a

(b)rhoi sylw i adroddiad y Comisiwn ar y cynnig o dan adran 14.

(4)Os yw prif gyngor yn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid iddo anfon copi o adroddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar y cynigion o dan adran 14 at Weinidogion Cymru.

10Cynigion ar gyfer peilotau a wneir ar y cyd gan y Comisiwn Etholiadol a phrif gynghorau

(1)Caiff y Comisiwn Etholiadol ac un neu ragor o brif gynghorau (“cynghorau perthnasol”), gan weithredu ar y cyd, gynnig i Weinidogion Cymru fod rheoliadau peilot yn cael eu gwneud mewn perthynas ag unrhyw fater etholiadol perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol.

(2)Cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn Etholiadol a phob cyngor perthnasol sy’n gweithredu ar y cyd ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)Ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (2) a chyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn Etholiadol a phob cyngor perthnasol sy’n gweithredu ar y cyd—

(a)cyflwyno’r cynnig i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer y peilot y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, a

(b)rhoi sylw i adroddiad y Comisiwn ar y cynnig o dan adran 14.

(4)Os yw’r Comisiwn Etholiadol a phob cyngor perthnasol sy’n gweithredu ar y cyd yn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid iddynt anfon copi o adroddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar y cynnig o dan adran 14 at Weinidogion Cymru.

11Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan swyddogion cofrestru etholiadol

(1)Caiff swyddog cofrestru etholiadol gynnig i Weinidogion Cymru fod rheoliadau peilot yn cael eu gwneud mewn perthynas â chanfod—

(a)enwau a chyfeiriadau personau nad ydynt wedi eu cofrestru mewn cofrestr ond y mae ganddynt hawlogaeth i fod yn gofrestredig;

(b)y personau hynny sydd wedi eu cofrestru mewn cofrestr ond nad oes ganddynt hawlogaeth i fod yn gofrestredig.

(2)Cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i swyddog cofrestru etholiadol ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)Ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (2) a chyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r swyddog cofrestru etholiadol—

(a)cyflwyno’r cynnig i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer y peilot y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, a

(b)rhoi sylw i adroddiad y Comisiwn ar y cynnig o dan adran 14.

(4)Os bydd swyddog cofrestru etholiadol yn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r swyddog anfon copi o adroddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar y cynnig o dan adran 14 at Weinidogion Cymru.

12Cynigion ar y cyd ar gyfer peilotau

(1)Caiff person y caniateir iddo wneud cynnig o dan unrhyw un o adrannau 9 i 11 wneud y cynnig ar y cyd ag un neu ragor o bersonau eraill sy’n gwneud cynnig o dan unrhyw un o’r adrannau hynny.

(2)Nid yw unrhyw ddyletswydd i ymgynghori â pherson y mae’r person yn gwneud cynnig ar y cyd ag ef yn gymwys.

(3)Os yw’r cynnig ar y cyd yn ymwneud â materion nad oes gan y person y pŵer i’w cynnig, caiff y person wneud y cynnig o hyd, i’r graddau y mae gan y person y pŵer i wneud hynny.

13Argymhellion y Comisiwn Etholiadol

Caiff y Comisiwn Etholiadol argymell cynigion ar gyfer rheoliadau peilot i berson y caniateir iddo wneud cynnig o dan unrhyw un o adrannau 9 i 11.

Gwerthuso cynigion ar gyfer peilot

14Gwerthuso cynigion ar gyfer peilot

(1)Pan fydd cynigion ar gyfer rheoliadau peilot yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o dan adrannau 8 i 11, rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad ar y cynigion.

(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys asesiad o’r canlynol—

(a)pa un a yw amcan y peilot arfaethedig yn ddymunol;

(b)costau tebygol y peilot arfaethedig a’i ddichonoldeb.

(3)Wrth wneud ei asesiad at ddibenion yr adroddiad, rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru roi sylw i unrhyw ffactorau perthnasol a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caiff yr adroddiad gynnwys argymhellion ar unrhyw fater y mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ystyried ei fod yn berthnasol i’r peilot arfaethedig.

(5)Rhaid i awdurdod cyhoeddus sy’n cyflwyno cynigion i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o dan unrhyw un o adrannau 8 i 11 roi i’r Comisiwn unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol gan y Comisiwn mewn cysylltiad â llunio’r adroddiad.

(6)Rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru anfon ei adroddiad at y person a gyflwynodd y cynnig cyn diwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael y cynigion.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad a anfonir atynt o dan yr adran hon neu adrannau 9 i 11 pan fyddant yn gwneud y rheoliadau peilot.

(8)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (3) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(9)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (3) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

15Fforymau peilotau etholiadau Cymreig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi llunio adroddiad ar un neu ragor o gynigion ar gyfer rheoliadau peilot o dan adran 14,

(b)os yw’r cynigion ar gyfer—

(i)peilot yn ardal mwy nag un prif gyngor, neu

(ii)peilotau gwahanol yn ardaloedd prif gynghorau gwahanol i ddigwydd yn yr un etholiad cyffredinol i Senedd Cymru neu yn yr un etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorwyr, ac

(c)os yw’r Comisiwn yn ystyried ei bod yn debygol y bydd y peilot neu’r peilotau yn digwydd.

(2)Rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sefydlu fforwm ar gyfer trafod materion sy’n ymwneud â’r peilot neu’r peilotau, gyda golwg ar ddarparu gwybodaeth a chyngor i bersonau sy’n rhoi’r peilot neu’r peilotau ar waith.

(3)Rhaid i fforwm a sefydlir o dan is-adran (2) gynnwys—

(a)swyddogion canlyniadau pob prif gyngor sy’n cymryd rhan yn y peilot neu’r peilotau;

(b)cynrychiolaeth o blith gweinyddwyr etholiadol o bob prif gyngor sy’n cymryd rhan yn y peilot neu’r peilotau;

(c)un neu ragor o aelodau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a chanddynt brofiad perthnasol.

(4)Caiff Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wahodd unrhyw berson y maent yn ystyried ei fod yn briodol i gymryd rhan mewn fforwm.

Canllawiau ar beilotau

16Canllawiau ar beilotau

(1)Mewn perthynas â phob offeryn sy’n cynnwys rheoliadau peilot, rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru roi canllawiau ysgrifenedig i bersonau sy’n gyfrifol am roi’r rheoliadau ar waith.

(2)Rhaid i’r canllawiau gynnwys cyngor ynghylch—

(a)y trefniadau y mae eu hangen ar gyfer y peilot;

(b)yr hyfforddiant staff sy’n ofynnol ar gyfer y peilot;

(c)rhedeg y peilot yn unol â’r rheoliadau peilot.

(3)Caiff y canllawiau gynnwys gwybodaeth neu gyngor ar unrhyw fater arall y mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ystyried ei fod yn berthnasol i’r peilot.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu materion pellach y mae rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu cynnwys yn y canllawiau.

(5)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (4) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(6)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (4) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

Gwerthuso peilotau

17Gwerthuso’r rheoliadau peilot

(1)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol lunio adroddiad ar weithrediad y rheoliadau peilot cyn y diwrnod a bennir o dan adran 6(1)(b).

(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys, yn benodol—

(a)disgrifiad—

(i)o’r ffordd yr oedd y ddarpariaeth a wnaed gan y rheoliadau peilot yn wahanol i’r darpariaethau a fyddai wedi bod yn gymwys fel arall, neu

(ii)yn achos rheoliadau peilot sy’n cynnwys darpariaeth o’r math a bennir yn adran 5(4), y darpariaethau sy’n cael eu profi;

(b)copi o’r rheoliadau peilot;

(c)asesiad o lwyddiant y rheoliadau peilot, neu fel arall, wrth gyflawni’r amcan a bennir yn y rheoliadau peilot;

(d)asesiad o ran a ddylai darpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno a wnaed gan y rheoliadau peilot fod yn gymwys yn gyffredinol, ac ar sail barhaol, mewn perthynas ag etholiadau Cymreig neu unrhyw fath o etholiad Cymreig.

(3)Rhaid i’r prif gyngor ar gyfer unrhyw ardal neu unrhyw ran o ardal y mae rheoliadau peilot yn gymwys iddi roi i’r Comisiwn unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol gan y Comisiwn mewn cysylltiad â llunio’r adroddiad.

(4)Caiff y cymorth gynnwys—

(a)gwneud trefniadau ar gyfer canfod safbwyntiau etholwyr ynghylch sut y gweithredwyd darpariaethau’r rheoliadau peilot;

(b)adrodd i’r Comisiwn honiadau o droseddau etholiadol neu gamymarfer arall.

(5)Rhaid i’r Comisiwn anfon copi o’r adroddiad—

(a)at Weinidogion Cymru,

(b)at bob swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholiad yr oedd y rheoliadau peilot yn gymwys iddo, oni bai nad yw’r adroddiad ond yn ymwneud â chynigion a wneir o dan adran 11, ac

(c)os yw’r adroddiad yn ymwneud â chynigion a wneir o dan adran 11, at bob swyddog cofrestru etholiadol ar gyfer ardal yr oedd y rheoliadau peilot yn gymwys iddi,

cyn y diwrnod a bennir yn y rheoliadau peilot.

(6)Rhaid i swyddog canlyniadau sy’n cael adroddiad o dan is-adran (5) gyhoeddi’r adroddiad cyn diwedd y cyfnod o un mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r swyddog yn cael yr adroddiad gan y Comisiwn, oni bai nad yw’r adroddiad ond yn ymwneud â chynigion a wneir o dan adran 11.

(7)Rhaid i swyddog cofrestru etholiadol sy’n cael adroddiad o dan is-adran (5) gyhoeddi’r adroddiad cyn diwedd y cyfnod o un mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r swyddog yn cael yr adroddiad gan y Comisiwn.

Diwygio yn dilyn peilotau

18Rheoliadau diwygio etholiadol

(1)Mae’r pŵer yn is-adran (3) yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, yng ngoleuni adroddiad a wneir o dan adran 17 ar weithrediad rheoliadau peilot, y byddai’n ddymunol cyflawni’r canlyniad diwygio yn is-adran (2) (“y canlyniad diwygio”), a

(b)os yw’r Comisiwn Etholiadol yn argymell gwneud rheoliadau o dan yr adran hon i gyflawni’r canlyniad diwygio.

(2)Y canlyniad diwygio yw bod darpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno a wneir gan y rheoliadau peilot yn gymwys yn gyffredinol, ac ar sail barhaol, mewn perthynas ag etholiadau Cymreig neu unrhyw fath o etholiad Cymreig.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer materion etholiadol perthnasol, neu mewn cysylltiad â hwy, er mwyn cyflawni’r canlyniad diwygio (“rheoliadau diwygio etholiadol”).

(4)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar bwerau eraill Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer materion etholiadol perthnasol, neu mewn cysylltiad â hwy, er mwyn cyflawni’r canlyniad diwygio.

(5)Caiff rheoliadau diwygio etholiadol greu, dileu neu addasu troseddau.

(6)Ni chaiff rheoliadau diwygio etholiadol greu trosedd y caniateir ei chosbi (neu addasu trosedd fel y daw’n drosedd y caniateir ei chosbi)—

(a)ar euogfarn ar dditiad, drwy garcharu am gyfnod sy’n hwy nag un flwyddyn;

(b)ar euogfarn ddiannod, drwy garcharu am gyfnod sy’n hwy na’r terfyn cymwys ar gyfer trosedd ddiannod neu drosedd neillffordd (yn ôl y digwydd) o dan adran 224(1A) o’r Cod Dedfrydu (fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd).

(7)Caiff rheoliadau diwygio etholiadol roi, dileu neu addasu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth.

(8)Os bydd rheoliadau diwygio etholiadol yn creu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, rhaid i’r rheoliadau ddarparu—

(a)bod yr is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud drwy offeryn statudol, a

(b)na chaniateir gwneud yr offeryn oni bai bod drafft ohono wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

19Rheoliadau diwygio etholiadol: y weithdrefn

(1)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau diwygio etholiadol yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Pan fydd offeryn statudol neu offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau diwygio etholiadol yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru at ddibenion yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod gerbron y Senedd gopi o’r adroddiad ar y rheoliadau sydd wedi ei lunio gan y Comisiwn Etholiadol o dan adran 17.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau diwygio etholiadol sy’n gwneud darpariaeth—

(a)i addasu deddfwriaeth sylfaenol,

(b)i greu trosedd neu ehangu ei chwmpas, neu

(c)i greu neu ddiwygio pŵer i ddeddfu.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau diwygio etholiadol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(6)Mae is-adran (7) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn mai’r weithdrefn briodol ar gyfer offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau diwygio etholiadol yw iddo fod yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(7)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud yr offeryn fel ei fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn honno oni bai—

(a)bod amod 1 wedi ei fodloni, a

(b)bod naill ai amod 2 neu 3 wedi ei fodloni.

(8)Amod 1 yw bod Gweinidogion Cymru—

(a)wedi gwneud datganiad ysgrifenedig i’r perwyl y dylai’r offeryn yn eu barn hwy fod yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, a

(b)wedi gosod gerbron y Senedd—

(i)drafft o’r offeryn, a

(ii)memorandwm sy’n cynnwys y datganiad a rhesymau Gweinidogion Cymru dros eu barn.

(9)Amod 2 yw bod pwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o wneud hynny wedi gwneud argymhelliad o ran y weithdrefn briodol ar gyfer yr offeryn.

(10)Amod 3 yw bod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod y gosodwyd yr offeryn drafft gerbron Senedd Cymru fel y’i crybwyllir yn is-adran (8) wedi dod i ben heb i unrhyw argymhelliad gael ei wneud fel y’i crybwyllir yn is-adran (9).

(11)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n atal Gweinidogion Cymru rhag penderfynu ar unrhyw adeg cyn gwneud offeryn statudol y mae is-adran (5) yn gymwys iddo y dylai gweithdrefn arall fod yn gymwys i’r offeryn.

(12)Os yw’r rheoliadau drafft a osodwyd o dan yr adran hon, ar ôl i’r cyfnod o 40 o ddiwrnodau ddod i ben, wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft, yn ddarostyngedig i is-adran (13).

(13)Mae’r weithdrefn yn is-adrannau (14) i (19) yn gymwys i’r rheoliadau drafft yn lle’r weithdrefn yn is-adran (12)—

(a)os yw naill ai Senedd Cymru yn penderfynu felly o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau, neu

(b)os yw pwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft yn argymell felly o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau ac nad yw Senedd Cymru drwy benderfyniad yn gwrthod yr argymhelliad o fewn y cyfnod hwnnw.

(14)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw—

(a)i unrhyw sylwadau,

(b)i unrhyw benderfyniad gan Senedd Cymru, ac

(c)i unrhyw argymhellion gan bwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,

a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau mewn cysylltiad â’r rheoliadau drafft.

(15)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yn dymuno bwrw ymlaen â’r rheoliadau drafft heb newidiadau o sylwedd pan fo newidiadau o sylwedd wedi eu hargymell gan bwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad sy’n egluro eu rhesymau dros beidio â derbyn argymhellion y pwyllgor (pa un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol), a

(b)os yw’r rheoliadau drafft wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn ddiweddarach, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft.

(16)Os‍ yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yn dymuno bwrw ymlaen â’r rheoliadau drafft heb newidiadau o sylwedd pan na fo unrhyw newidiadau o sylwedd wedi eu hargymell gan bwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft ac os yw’r rheoliadau drafft wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft.

(17)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yn dymuno bwrw ymlaen â’r rheoliadau drafft ond gyda newidiadau o sylwedd, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru—

(a)rheoliadau drafft diwygiedig, a

(b)datganiad sy’n rhoi crynodeb o’r newidiadau a gynigir ac, os yw is-adran (18) yn gymwys, sy’n egluro rhesymau Gweinidogion Cymru dros beidio â derbyn (pa un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol) argymhellion gan bwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft.

(18)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r newidiadau o sylwedd yn y rheoliadau drafft diwygiedig yn sylweddol wahanol i’r newidiadau sydd wedi eu hargymell gan y pwyllgor, neu

(b)os nad yw’r rheoliadau drafft diwygiedig yn cynnwys newidiadau o sylwedd sydd wedi eu hargymell gan y pwyllgor.

(19)Os yw’r rheoliadau drafft diwygiedig wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft diwygiedig.

(20)At ddibenion yr adran hon mae rheoliadau wedi eu gwneud gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig os nad ydynt yn cynnwys newidiadau o sylwedd i’w darpariaethau.

(21)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at y cyfnodau “30 o ddiwrnodau”, “40 o ddiwrnodau” a “60 o ddiwrnodau” mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft yn gyfeiriadau at y cyfnodau o 30, 40 a 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y rheoliadau drafft gerbron Senedd Cymru.

(22)At ddibenion is-adrannau (10) a (21) nid oes unrhyw ystyriaeth i gael ei rhoi i unrhyw adeg pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(23)Nid yw adran 6(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36) fel y’i cymhwysir gan adran 11A o’r Ddeddf honno (gweithdrefn amgen ar gyfer offerynnau penodol a osodir ar ffurf ddrafft gerbron Senedd Cymru) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

Cyffredinol

20Cyhoeddi

(1)Pan fo’r Bennod hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi unrhyw beth, rhaid iddo gael ei gyhoeddi—

(a)yn electronig, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Mae’r ddyletswydd i gyhoeddi yn electronig—

(a)yn ddyletswydd i ddarparu mynediad yn rhad ac am ddim, a

(b)yn ddyletswydd i gyhoeddi ar wefan y person, os oes gan y person un.

(3)Caniateir i gopïau o unrhyw beth a gyhoeddir o dan is-adran (1) gael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu unrhyw ffi, nad yw’n fwy na chost cyflenwi’r copi, a benderfynir gan y person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gyhoeddi.

21Rheoliadau: darpariaeth ategol

Caiff rheoliadau peilot a rheoliadau diwygio etholiadol—

(a)gwneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;

(b)addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y caiff ei basio neu ei wneud);

(c)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.

22Dehongli’r Bennod hon

Yn y Bennod hon—

  • mae “addasu” (“modify”) yn cynnwys diddymu, dirymu a diwygio;

  • mae i “mater etholiadol perthnasol” (“relevant electoral matter”) yr ystyr a roddir gan adran 5;

  • ystyr “rheoliadau diwygio etholiadol” (“electoral reform regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 18;

  • ystyr “rheoliadau peilot” (“pilot regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 5;

  • ystyr “swyddog canlyniadau” (“returning officer”) yw swyddog canlyniadau (sut bynnag y’i disgrifir)—

    (a)

    a benodir o dan adran 35(1A) o Ddeddf 1983,

    (b)

    a ddynodir yn unol â gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), neu

    (c)

    a benodir o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd adran 44 neu 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

  • ystyr “swyddog cofrestru etholiadol” (“electoral registration officer”) yw swyddog a benodir o dan adran 8(2A) o Ddeddf 1983.

23Diwygiadau canlyniadol

Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r Bennod hon.

PENNOD 4HYGYRCHEDD AC AMRYWIAETH: ETHOLIADAU CYMREIG

Adroddiadau ar gymorth ar gyfer pleidleiswyr anabl

24Adroddiadau gan y Comisiwn Etholiadol

(1)Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) (“Deddf 2000”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 5, mewnosoder—

5AFurther provision about reports on Welsh elections

(1)After an ordinary election of councillors for counties and county boroughs in Wales or communities in Wales, the Electoral Commission must prepare and publish (in such manner as the Commission may determine) a report on the administration of the election.

(2)Subsection (3) applies to—

(a)a report under section 5 relating to a Senedd Cymru general election;

(b)a report under subsection (1).

(3)The report must include a description of the steps taken by returning officers to assist persons with disabilities that would otherwise adversely affect their right to vote at the election.

(4)In subsection (3)—

  • disability”, in relation to doing a thing, includes a short term inability to do it;

  • “returning officer”—

    (a)

    in the case of a Senedd Cymru general election, means a returning officer (however described) designated in accordance with an order made under section 13 of the Government of Wales Act 2006 (c. 32);

    (b)

    in the case of an ordinary election of councillors for local government areas, means an officer who is appointed under section 35(1A) of the Representation of the People Act 1983 (c. 2).

(3)Hyd nes y daw adrannau 8 (etholiadau cyffredinol y Senedd) a 9 (seddi gwag) o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (dsc 4) i rym, mae adran 5A(3) o Ddeddf 2000 hefyd yn gymwys i adroddiad o dan adran 5 o’r Ddeddf honno sy’n ymwneud ag etholiad a gynhelir o dan adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (etholiad i Senedd Cymru yn achos sedd etholaethol wag).

Arolwg ymgeiswyr: etholiadau llywodraeth leol

25Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau lleol

(1)Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (dyletswydd i gynnal arolwg)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “rheoliadau” rhodder “chyfarwyddyd”;

(b)yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol sydd—

(a)yn pennu’r cwestiynau y mae rhaid eu gofyn mewn arolwg;

(b)yn pennu gofynion ynghylch—

(i)ffurf yr arolwg;

(ii)sut y mae’r arolwg i’w gynnal;

(iii)crynhoi gwybodaeth o’r arolwg.;

(c)yn is-adran (3A), yn lle “ateb y cwestiynau rhagnodedig” rhodder “ymateb i’r arolwg”;

(d)ar ôl is-adran (3A), mewnosoder—

(3B)Caiff awdurdod lleol gynnwys cwestiynau mewn arolwg, neu drefnu i gwestiynau gael eu cynnwys mewn arolwg, yn ychwanegol at y cwestiynau sy’n ofynnol drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.;

(e)yn is-adran (4), yn lle “rhagnodi” rhodder “pennu mewn cyfarwyddyd”.

(3)Yn adran 2 (cwblhau arolwg a chyhoeddi gwybodaeth), yn is-adran (2), yn lle “ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig” rhodder “ar y ffurf neu yn y dull a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru”.

(4)Ar ôl adran 3 (canllawiau ynghylch arolygon), mewnosoder—

3ACyhoeddi cyfarwyddiadau ynghylch arolygon

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a roddir o adran 1(3) neu 2(2).

Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig

26Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer sefydlu a gweithredu platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig.

(2)Cyfleuster electronig (megis gwefan, rhan o wefan neu gymhwysiad meddalwedd) yw platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig er mwyn darparu gwybodaeth gyfredol, neu fynediad at wybodaeth gyfredol o ffynonellau electronig eraill, i etholwyr ynghylch etholiadau penodedig.

(3)At ddibenion is-adran (2), o ran rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)rhaid iddynt bennu—

(i)etholiadau i Senedd Cymru;

(ii)etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru;

(b)cânt bennu etholiadau llywodraeth leol eraill yng Nghymru.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth—

(a)sy’n rhoi swyddogaethau i bersonau neu gategorïau o bersonau a bennir yn y rheoliadau;

(b)ynghylch cyhoeddi gwybodaeth ar y platfform, gan gynnwys—

(i)cyhoeddi datganiadau gan ymgeiswyr a gwybodaeth arall am ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol cofrestredig;

(ii)gwybodaeth am y trefniadau hygyrchedd sydd ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio;

(c)sy’n rhoi esemptiad rhag atebolrwydd sifil a throseddol mewn cysylltiad â chyhoeddi datganiadau gan ymgeiswyr a gwybodaeth arall am ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol cofrestredig;

(d)sy’n sicrhau bod yr wybodaeth ar y platfform ar gael drwy ddulliau ac eithrio rhai electronig.

(5)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol—

(a)i adroddiad gael ei gyhoeddi ynghylch arfer swyddogaethau a roddir gan y rheoliadau—

(i)yn achos swyddogaethau a arferir mewn cysylltiad ag etholiadau Senedd Cymru, cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad hwnnw;

(ii)yn achos swyddogaethau a arferir mewn cysylltiad ag etholiadau cyffredin prif gynghorau, cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiadau hynny;

(b)i’r adroddiadau gael eu gosod gerbron Senedd Cymru.

(6)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(7)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys darpariaeth mewn rheoliadau o’r math a ddisgrifir yn is-adran (4)(c) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(8)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw ddarpariaeth arall mewn rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “etholiadau llywodraeth leol” (“local government elections”) yw etholiadau ar gyfer—

    (a)

    cynghorwyr i ward etholiadol sir neu fwrdeistref sirol,

    (b)

    cynghorwyr i ward gymunedol neu, yn achos cymuned lle nad oes wardiau, i’r gymuned, neu

    (c)

    maer etholedig neu aelod gweithredol etholedig o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

  • ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1).

Amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

27Gwasanaethau i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau i hybu amrywiaeth yn nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol personau sy’n ceisio cael eu hethol yn aelodau o Senedd Cymru ac o gynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1), roi sylw i’r canlynol—

(a)a oes grwpiau o bersonau â’r un nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu tangynrychioli ymhlith aelodaeth Senedd Cymru neu gynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru;

(b)dymunoldeb lleihau’r anghydraddoldeb mewn canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol;

(c)dymunoldeb‍ bod gwasanaethau ar gael i bersonau ni waeth a ydynt (neu nad ydynt) yn aelodau o blaid wleidyddol gofrestredig.

(3)Rhaid i’r cwestiwn ynghylch a yw grŵp yn cael ei dangynrychioli ymhlith aelodau corff gael ei ystyried, at ddibenion is-adran (2)(a), drwy gyfeirio at y boblogaeth a wasanaethir gan y corff.

(4)Nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â phob grŵp a dangynrychiolir a all gael ei nodi at ddibenion is-adran (2)(a).

(5)Y gwasanaethau y caniateir eu darparu o dan is-adran (1) yw darparu—

(a)gwybodaeth;

(b)cyngor;

(c)hyfforddiant;

(d)coetsio a mentora;

(e)profiad gwaith;

(f)cyfarpar;

(g)cymorth â thasgau.

(6)Rhaid i’r trefniadau o dan is-adran (1) sicrhau nad yw Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniadau mewn achosion penodol ynghylch a yw unigolyn i gael gwasanaeth o dan y trefniadau.

(7)Caiff y trefniadau o dan is-adran (1) gynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a)darparu cymorth ariannol i unigolion a gaiff elwa o wasanaethau er mwyn i’r unigolion brynu’r gwasanaethau eu hunain;

(b)darparu cymorth ariannol i bersonau sy’n darparu gwasanaethau;

(c)cynlluniau cymorth ariannol y gwneir darpariaeth ar eu cyfer drwy reoliadau o dan adran 28.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)ychwanegu gwasanaethau eraill at is-adran (5);

(b)diwygio gwasanaethau a ychwanegir o dan baragraff (a);

(c)dileu gwasanaethau a ychwanegir o dan baragraff (a).

(9)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (8) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(10)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (8) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(11)Yn yr adran hon mae i “nodweddion gwarchodedig” yr ystyr a roddir i “protected characteristics” gan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).

(12)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu unrhyw un o bwerau eraill Gweinidogion Cymru.

28Cynlluniau cymorth ariannol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol (o unrhyw fath penodedig) i gynorthwyo ymgeiswyr mewn etholiad Cymreig sydd â nodweddion penodedig neu amgylchiadau penodedig i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad sy’n gysylltiedig â’r nodweddion neu’r amgylchiadau hynny.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer cynllun o gymorth ariannol (o unrhyw fath penodedig) i gynorthwyo ymgeiswyr anabl mewn etholiad Cymreig i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad sy’n gysylltiedig â’u hanabledd.

(3)Caiff y rheoliadau o dan is-adran (2) ddarparu mai i fathau penodedig o ymgeiswyr anabl yn unig y caniateir rhoi cymorth ariannol o dan y cynllun.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) neu (2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i berson sy’n gweithredu cynllun a sefydlir drwy reoliadau o dan yr adran hon, yn ddarostyngedig i delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru, at ddibenion ariannu—

(a)cymorth ariannol a wneir o dan y cynllun, a

(b)costau gweithredu’r cynllun.

(6)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon benodi neu ddarparu ar gyfer penodi person i weithredu’r cynllun y maent yn darparu ar ei gyfer.‍

(7)Ni chaniateir i’r cynllun gael ei weithredu gan bersonau a eithrir (gweler adran 29).

(8)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn) i berson;

(b)darparu ar gyfer dirprwyo swyddogaethau person o dan y cynllun—

(i)i staff y person;

(ii)pan fo’r person yn gorff, i aelodau o’r corff neu bwyllgor i’r corff;

(c)ei gwneud yn ofynnol i berson y rhoddir swyddogaethau iddo gadw cyfrifon a chofnodion eraill, a’u rhoi ar gael i edrych arnynt;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gweithredu’r cynllun gyhoeddi gwybodaeth benodedig ynghylch cymorth ariannol a roddir yn unol â’r cynllun.

(9)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon osod dyletswydd i gyhoeddi gwybodaeth pan fyddai ei chyhoeddi (gan ystyried y ddyletswydd) yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data (o fewn ystyr Deddf Diogelu Data 2018 (p. 12)).

(10)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth—

(a)y rhoddir cymorth ariannol odani yn ddarostyngedig i amodau a bennir gan y cynllun, neu yn unol â’r cynllun;

(b)y mae’n ofynnol i gymorth ariannol gael ei ad-dalu odani mewn amgylchiadau a bennir gan y cynllun, neu yn unol â’r cynllun.

(11)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(12)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(13)Yn yr adran hon—

  • ystyr “anabl” (“disabled”), mewn perthynas â pherson, yw bod ag amhariad corfforol, meddyliol neu ddeallusol neu amhariad ar y synhwyrau (gan gynnwys amhariad dros dro) a all, mewn rhyngweithiad ag unrhyw rwystr, atal y person rhag cymryd rhan lawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill;

  • ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran hon.

(14)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu ar unrhyw un o bwerau eraill Gweinidogion Cymru.

29Personau a eithrir

Y personau a eithrir at ddibenion adran 28 yw—

(a)aelod o Lywodraeth Cymru;‍

(b)un o adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig;‍

(c)person a gyflogir yng ngwasanaeth sifil y wladwriaeth;

(d)aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(e)aelod o Dŷ’r Arglwyddi;

(f)Aelod o’r Senedd;

(g)Comisiwn Senedd Cymru;

(h)aelod o staff y Senedd (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the staff of the Senedd” gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));

(i)cyngor sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru;

(j)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(k)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(l)awdurdod tân ac achub a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(m)comisiynydd heddlu a throseddu;

(n)cwmni y mae person a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (m) (neu ddau neu ragor o’r personau hynny gyda’i gilydd)—

(i)yn berchen arno yn llwyr,

(ii)yn berchen ar fwyafrif syml o’r cyfranddaliadau ynddo, neu

(iii)yn berchen ar fwy o gyfranddaliadau ynddo nag unrhyw gyfranddaliwr arall;

(o)aelod o gorff a grybwyllir ym mharagraffau (i) i‍ (l);

(p)aelod o staff person a grybwyllir ym mharagraffau‍ (i) i (m);

(q)plaid wleidyddol gofrestredig.

30Canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig ynghylch—

(a)casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ynghylch ymgeiswyr sy’n cynrychioli pleidiau gwleidyddol cofrestredig mewn etholiadau ar gyfer dychwelyd aelodau o Senedd Cymru;

(b)datblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau—

(i)i hybu amrywiaeth yn nodweddion penodedig ac amgylchiadau penodedig ymgeiswyr sy’n cynrychioli pleidiau gwleidyddol cofrestredig mewn etholiadau Cymreig, a

(ii)i gynorthwyo ymgeiswyr sy’n cynrychioli pleidiau gwleidyddol cofrestredig mewn etholiadau Cymreig i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan yn yr etholiadau sy’n gysylltiedig â’r ffaith bod ganddynt y nodweddion neu’r amgylchiadau hynny.

(2)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gyhoeddi canllawiau o dan yr adran hon;

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau cyntaf o dan yr adran hon cyn 1 Mai 2025;

(c)rhaid iddynt adolygu’r canllawiau a gyhoeddir o bryd i’w gilydd, gan roi sylw i gylch etholiadau cyffredinol cyffredin i fod yn aelodau o Senedd Cymru ac, mewn perthynas â chanllawiau o dan is-adran (1)(b), i gylch etholiadau cyffredin i fod yn aelodau o gynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru ac i fod yn feiri etholedig;

(d)cânt ddiwygio ar unrhyw adeg ganllawiau a gyhoeddir.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “etholiad Cymreig” (“Welsh election”) yw etholiad ar gyfer dychwelyd—

    (a)

    aelod o Senedd Cymru;

    (b)

    aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

    (c)

    aelod o gyngor cymuned yng Nghymru;

    (d)

    maer etholedig;

  • ystyr “gwybodaeth am amrywiaeth” (“diversity information”) yw gwybodaeth benodedig sy’n ymwneud â nodweddion personol neu amgylchiadau personol sydd gan berson;

  • ystyr “maer etholedig” (“elected mayor”) yw maer etholedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn canllawiau o dan yr adran hon.

Cyffredinol

31Dehongli’r Bennod hon

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw grantiau, benthyciadau neu warantau;

  • ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” (“registered political party”) yw plaid a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.

PENNOD 5CYLLID YMGYRCHU

Gwariant mewn cysylltiad ag etholiadau llywodraeth leol

32Gwariant tybiannol: ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol

Yn adran 90C(1A) o Ddeddf 1983 (gwneud defnydd o eiddo etc. ar ran ymgeisydd), hepgorer “or Wales”.

Gwariant mewn cysylltiad ag etholiadau Senedd Cymru

33Gwariant tybiannol a gwariant gan drydydd parti: etholiadau Senedd Cymru

(1)Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 73(1A) (gwariant ymgyrchu tybiannol: defnydd o eiddo etc. ar ran plaid gofrestredig)—

(a)ar ôl “paragraph 3,” mewnosoder “6,”;

(b)ar ôl “parliamentary general elections” mewnosoder “, ordinary or extraordinary general elections to Senedd Cymru,”.

(3)Yn adran 86(1A) (gwariant tybiannol a reolir: defnydd o eiddo etc. ar ran trydydd parti)—

(a)ar ôl “paragraph 3,” mewnosoder “6,”;

(b)ar ôl “parliamentary general elections” mewnosoder “, ordinary or extraordinary general elections to Senedd Cymru,”.

(4)Yn adran 94(8A) (cyfyngiadau ar wariant a reolir: defnydd o eiddo etc. ar ran trydydd parti)—

(a)ar ôl “paragraph 3,” mewnosoder “6,”;

(b)ar ôl “parliamentary general elections” mewnosoder “, ordinary or extraordinary general elections to Senedd Cymru,”.

(5)Yn Atodlen 8A (gwariant a reolir: treuliau cymhwysol), ym mharagraff 3(11)—

(a)ar ôl “paragraph 3,” mewnosoder “6,”;

(b)ar ôl “parliamentary general elections” mewnosoder “, ordinary or extraordinary general elections to Senedd Cymru,”.

34Codau ymarfer ar dreuliau

(1)Ym mharagraff 14A o Atodlen 4A i Ddeddf 1983 (treuliau etholiad: canllawiau gan y Comisiwn Etholiadol)—

(a)yn is-baragraff (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)guidance relating to the application of Part 2 of this Act in relation to expenses incurred for the purposes of a candidate’s election (whether or not election expenses).;

(b)yn is-baragraff (7)(b), ar ôl “order” mewnosoder “made by statutory instrument”.

(2)Yn adran 156 o Ddeddf 2000 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)daw’r geiriau o “a statutory instrument” hyd at y diwedd yn baragraff (a);

(ii)ar ôl “Parliament” mewnosoder—

(b)a statutory instrument containing any order or regulations made under this Act by the Welsh Ministers shall be subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.;

(c)yn is-adran (3), ym mharagraff (aa), hepgorer “, other than an order of the Welsh Ministers”;

(d)yn is-adran (4), ar ôl “Parliament” mewnosoder “(in the case of an order made by the Secretary of State) or (in the case of an order made by the Welsh Ministers) a draft of the statutory instrument containing the order has been laid before, and approved by a resolution of, Senedd Cymru”;

(e)yn is-adran (4A) ar ôl “Parliament” mewnosoder “(in the case of an order made by the Secretary of State) or (in the case of an order made by the Welsh Ministers) a draft of the statutory instrument containing the order has been laid before, and approved by a resolution of, Senedd Cymru”;

(f)yn is-adran (5)—

(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “State” mewnosoder “, the Welsh Ministers,”;

(ii)ym mharagraff (a), ar ôl “State” mewnosoder “, the Welsh Ministers,”.

35Personau awdurdodedig nad yw’n ofynnol iddynt dalu drwy asiant etholiad

Yn adran 73(5) o Ddeddf 1983 (talu treuliau drwy asiant etholiad), ym mharagraff (ca), hepgorer “, otherwise than in relation to an election in Wales under the local government Act,”.

36Cyfyngu ar ba drydydd partïon a gaiff fynd i wariant a reolir

(1)Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 89A mewnosoder—

89BRestriction on which third parties may incur controlled expenditure: Senedd Cymru elections

(1)No amount of controlled expenditure may be incurred by or on behalf of a third party during a Welsh devolved regulated period unless the third party falls within any paragraph of section 88(2) (third parties eligible to give notification).

(2)Subsection (1) does not apply to any expenses incurred by or on behalf of a third party during a Welsh devolved regulated period which do not in total exceed £700.

(3)Subsections (4) and (5) apply where expenses are incurred by or on behalf of a third party in contravention of subsection (1).

(4)If the third party is not an individual—

(a)any person who authorised the expenses to be incurred by or on behalf of the third party is guilty of an offence if the person knew or ought reasonably to have known that the expenses would be incurred in contravention of subsection (1), and

(b)the third party is also guilty of an offence.

(5)If the third party is an individual, the individual is guilty of an offence if they knew or ought reasonably to have known that the expenses would be incurred in contravention of subsection (1).

(6)A “Welsh devolved regulated period means a period in relation to which any limit is imposed by paragraph 6 of Schedule 10 (periods involving general elections to Senedd Cymru).

(3)Yn Atodlen 20 (cosbau), yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder—

Section 89B(4) and (5) (incurring controlled expenditure in contravention of section 89AA(1))On summary conviction in England and Wales: fine
On indictment: fine.
37Trydydd partïon sy’n gallu rhoi hysbysiad

(1)Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 88 (trydydd partïon a gydnabyddir at ddibenion Rhan 6), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(11)The Welsh Ministers may by order amend subsection (2), as it applies for the purposes of a period in relation to which any limit is imposed by paragraph 6 of Schedule 10 (periods involving general elections to Senedd Cymru), by—

(a)adding a description of third party to the list in that subsection,

(b)removing a description of third party from that list, or

(c)varying the description of a third party in that list.

(12)An order under subsection (11)(b) or (c) may be made only where the order gives effect to a recommendation of the Commission.

(3)Yn adran 156 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (4), ar ôl paragraff (de) mewnosoder—

(df)section 88(11),.

38Cod ymarfer ar reolaethau sy’n ymwneud â thrydydd partïon

(1)Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 100A (cod ymarfer ar wariant a reolir)—

(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)The Commission must prepare a code of practice about the operation of this Part in relation to a Welsh devolved regulated period.;

(b)yn is-adran (2), yn lle “The code” rhodder “A code”;

(c)yn is-adran (3), yn lle “the code” rhodder “a code”;

(d)yn is-adran (4), yn lle “the code” rhodder “a code”;

(e)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)It is a defence for a third party charged with an offence under any provision of this Part, where the offence relates to expenditure incurred or treated as incurred by a third party during a Welsh devolved regulated period to show—

(a)that the code, in the form for the time being issued under section 100C, was complied with by the third party in determining whether the expenditure is controlled expenditure for the purposes of this Part, and

(b)that the offence would not have been committed on the basis of the controlled expenditure as determined in accordance with the code.;

(f)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A)In this section “Welsh devolved regulated period means a period in relation to which any limit is imposed by paragraph 6 of Schedule 10 (regulated period for general elections to Senedd Cymru).;

(g)yn is-adran (7), ar ôl “revised code” mewnosoder “under subsection (1)”;

(h)ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8)Section 100C sets out consultation and procedural requirements relating to the code or any revised code under subsection (1A).

(3)Yn adran 100B (cod ymarfer: gofynion ymgynghori a gofynion gweithdrefnol), yn is-adran (1), ar ôl “100A” mewnosoder “(1)”.

(4)Ar ôl adran 100B mewnosoder—

100CCode of Practice: consultation and procedural requirements on controlled expenditure in Senedd Cymru elections

(1)The Commission must consult the following on a draft of a code under section 100A(1A)—‍

(a)Senedd Cymru (“the Senedd”);

(b)such other persons as the Commission consider appropriate.

(2)After the Commission have carried out the consultation required by subsection (1), the Commission must—

(a)make whatever modifications to the draft code the Commission consider necessary in light of responses to the consultation, and

(b)submit the draft to the Welsh Ministers for approval by the Welsh Ministers.

(3)The Welsh Ministers may approve a draft code either without modifications or with such modifications as the Welsh Ministers may determine.

(4)Once the Welsh Ministers have approved a draft code, they must lay a copy of the draft before‍ the Senedd, whether—

(a)in its original form, or

(b)in a form which incorporates any modifications determined under subsection (3).

(5)If the draft code incorporates modifications, the Welsh Ministers must at the same time lay before the Senedd a statement of their reasons for making them.

(6)If, within the 40-day period, the Senedd resolves not to approve the draft code, the Welsh Ministers must take no further steps in relation to it.

(7)Subsection (6) does not prevent a new draft code from being laid before the Senedd.

(8)If no resolution of the kind mentioned in subsection (6) is made within the 40-day period—

(a)the Welsh Ministers must issue the code in the form of the draft laid before the Senedd,

(b)the code comes into force on the date appointed by the Welsh Ministers by order, and

(c)the Commission must arrange for the code to be published in such manner as the Commission consider appropriate.

(9)References in this section (other than in subsection (1)) to a code or draft code include a revised code or draft revised code.

(10)In this section “the 40-day period”, in relation to a draft code, means the period of 40 days beginning with the day on which the draft is laid before the Senedd, no account being taken of any period during which the Senedd is dissolved or is in recess for more than four days.‍

(5)Yn adran 156 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (za) mewnosoder—

(zb)an order under section 100C(8);.

(6)Yn Atodlen 8A (gwariant a reolir: treuliau cymhwysol), ym mharagraff 3(11), yn lle “and 100B” rhodder “, 100B and 100C”.

Cyffredinol

39Diwygiadau canlyniadol

Mae Rhan 3 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r Bennod hon.

RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

Adolygiadau o drefniadau etholiadol: prif gynghorau

40Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 30 (ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal), yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—

(a)dymunoldeb cael cymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol sydd yr un fath, neu bron yr un fath, ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal;

(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol maint, siâp a hygyrchedd ward etholiadol;

(c)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg) a fyddai’n cael ei dorri gan newidiadau o’r fath.

41Y cyfnod adolygu ar gyfer adolygiadau prif ardal

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 29 (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal)—

(a)yn is-adran (3)—

(i)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau ar 30 Medi 2023, a;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “10” rhodder “12”;

(b)ar ôl is-adran (3), mewnosoder—

(3A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3).

(3)Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir gan baragraff 1(4)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(bb)rheoliadau o dan adran 29(3A),.

(4)Yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), yn adran 138 (adolygiadau o drefniadau etholiadol), hepgorer is-adran (6).

Adolygiadau o ffiniau atfor

42Adolygu ffiniau atfor

Yn adran 28 o Ddeddf 2013 (adolygu ffiniau tua’r môr), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Caiff adolygiad o dan yr adran hon adolygu ffin mwy nag un ardal llywodraeth leol.

Ymgynghori ac ystyried sylwadau

43Argymhellion a phenderfyniadau sy’n deillio o adolygiad etholiadol: dyletswydd i roi sylw i sylwadau

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), yn lle is-adran (3) rhodder—

(3A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.

(3B)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.

(3)Yn adran 38 (gweithredu newid i ffin cymuned), yn lle is-adran (2) rhodder—

(2A)Rhaid i’r Comisiwn beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.

(2B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Comisiwn yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.

(4)Yn adran 39 (gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned), yn lle is-adran (4) rhodder—

(4A)Rhaid i’r Cyngor beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Cyngor.

(4B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Cyngor yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad gan y Cyngor (ar gyfer swyddogaethau yn is-adran (1)) neu’r dyddiad y daw’r argymhellion i law’r Cyngor (ar gyfer swyddogaethau o dan is-adran (3)).

44Enwau wardiau etholiadol

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 36 (adrodd ar yr adolygiad) mewnosoder—

36AEnwau wardiau etholiado‍l

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i adroddiad adolygu o dan y Rhan hon i’r graddau y mae’n ymwneud ag–

(a)ward etholiadol sydd ag enwau gwahanol (mewn unrhyw gyswllt) at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg;

(b)cynnig i ward etholiadol gael enwau gwahanol mewn unrhyw gyswllt at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.

(2)Rhaid i’r Comisiwn neu’r prif gyngor (yn ôl y digwydd) bennu’r ddau enw neu’r ddau enw arfaethedig ar gyfer y ward etholiadol yn nwy fersiwn ieithyddol adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4).

(3)Cyn llunio adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4), rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor (yn ôl y digwydd) roi sylw, yn benodol, i unrhyw sylwadau a gafwyd oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enw ward etholiadol, neu orgraff enw arfaethedig ward etholiadol, y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4)Yn yr adran hon ystyr “dwy fersiwn ieithyddol yw’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg.

45Ymgynghori ar adolygiadau

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 34 (y weithdrefn ragadolygu), yn is-adran (1)(a), ar ôl “sylw” mewnosoder “aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad,”.

(3)Yn adran 35 (ymgynghori ac ymchwilio)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “(“y corff adolygu”)—” mewnosoder—

(za)ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd yn yr ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,;

(b)yn is-adran (3)—

(i)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)rhoi cyhoeddusrwydd i’r ffaith y caniateir cyflwyno sylwadau sy’n ymwneud â’r adolygiad i’r corff adolygu yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus,

(ab)nodi yn y deunydd cyhoeddusrwydd pryd y mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ac yn dod i ben,;

(ii)ym mharagraff (b) yn lle “cyfnod ar gyfer sylwadau” rhodder “cyfnod ymgynghori cyhoeddus”;‍

(iii)ym mharagraff (d) hepgorer “, ac”;

(iv)hepgorer paragraff (e);

(v)yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfnod ymgynghori cyhoeddus yw cyfnod o 6 wythnos o leiaf a dim mwy na 12 wythnos a benderfynir gan y corff adolygu, na chaniateir iddo ddechrau cyn diwedd cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad.

(4)Yn adran 36 (adrodd ar yr adolygiad), yn is-adran (1), yn lle “cyfnod ar gyfer sylwadau” rhodder “cyfnod ymgynghori cyhoeddus”.

46Ystyr “ymgyngoreion gorfodol” yn Rhan 3 o Ddeddf 2013

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 34(3) (y weithdrefn ragadolygu), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,

(cb)yr awdurdod Iechyd Porthladd a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22) ar gyfer rhanbarth iechyd porthladd mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,

(cc)Comisiynydd y Gymraeg,.

Amseriad adolygiadau a gweithredu

47Argymhellion a phenderfyniadau sy’n deillio o adolygiad etholiadol: y cyfnod cyn etholiad lleol

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 29(8) (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal), yn lle “9” rhodder “12”.

(3)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) mewn unrhyw gyfnod o 6 mis cyn diwrnod etholiad cyffredin cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr).

48Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau adolygiadau

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 36A (cynigion ar gyfer enwau wardiau etholiadol: adroddiadau adolygu) (a fewnosodir gan adran 44) mewnosoder—

36BY dyddiad cau ar gyfer cwblhau adolygiadau

(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n pennu’r diwrnod y mae’r adolygiad yn dechrau.

(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 23, 27 neu 29, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).

(3)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 28, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 18 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).

(4)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 2‍6 neu 32, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).

(5)Rhaid i brif gyngor, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 25 neu 31, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).

(6)Os bydd corff adolygu yn methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodir gan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad, nid yw methiant y corff i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd yr adolygiad at ddibenion y Ddeddf hon.

49Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau gweithredu

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru)—

(a)yn is-adran (1)(b), ar ôl “gweithredu” mewnosoder “ar unrhyw argymhelliad”;

(b)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gânt, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (3A).

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu penderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad at ddibenion is-adran (5).

(7)Os bydd Gweinidogion Cymru yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) nac unrhyw benderfyniad i beidio â gweithredu o dan is-adran (1)(b).

(3)Yn adran 38 (gweithredu newid i ffin cymuned), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Rhaid i’r Comisiwn wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (2A).

(6)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.

(7)Os bydd y Comisiwn yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) neu (b) nac unrhyw adolygiad o dan is-adran (1)(c).

(4)Yn adran 39 (gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned)—

(a)ar ôl is-adran (4B) (a fewnosodir gan adran 43(4)) mewnosoder—

(4C)Rhaid i’r prif gyngor wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4A).

(4D)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.

(4E)Os bydd prif gyngor yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (4C), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (3)(a) neu (b) nac unrhyw benderfyniad neu hysbysiad o dan is-adran (3)(c).

(b)yn is-adran (6), ym mharagraff (b), yn lle “6 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd y cyngor argymhellion y Comisiwn” rhodder “3 mis sy’n dechrau gyda diwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4C)”.

50Cyfarwyddydau i oedi adolygiadau

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 48 (cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3)—

(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.;

(b)yn is-adran (5), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.;

(c)ar ôl is-adran (9), mewnosoder—

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â defnyddio’r pwerau cyfarwyddo o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad am fwy na 9 mis, pa un a yw’r oedi am un cyfnod o 9 mis neu am fwy nag un cyfnod sy’n dod i gyfanswm o 9 mis.

(11)Nid yw unrhyw gyfnod pan gyfarwyddir y Comisiwn neu brif gyngor o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad i gael ei ystyried at ddiben cyfrifo hyd y cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) i (5) o adran 36B.

Adolygiadau cymuned a statws fel trefi

51Adolygiadau cymuned a gweithredu

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 22 (dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardal), yn lle is-adrannau (5) a (6) rhodder—

(5)Cyn 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan y Rhan hon ac adran 76 o Ddeddf 1972 (newid enw cymuned) yn y flwyddyn flaenorol, i’r graddau y mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r canlynol—

(a)enwau cymunedau,

(b)newidiadau i ffiniau cymunedau,

(c)newidiadau i gynghorau cymuned, a

(d)trefniadau etholiadol cymunedau.

(6)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob adroddiad y mae’n ei gyhoeddi i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.

(7)Yn is-adran (5), ystyr “blwyddyn yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill.

(3)Yn adran 31 (adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngor)—

(a)o flaen is-adran (1) mewnosoder—

(A1)Rhaid i brif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob cymuned yn ei ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(A2)Yn is-adran (A1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw adran 51 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 12 mlynedd.

(A3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (A2).;

(b)yn is-adran (1), ar ôl “prif gyngor” mewnosoder “hefyd”.

(4)Yn adran 33(3) (ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned)—

(a)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ac;

(b)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “(gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg)”.

(5)Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl adran (bb) (a fewnosodir gan adran 41(3) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(bc)rheoliadau o dan adran 31(A3),.

52Hysbysiad o benderfyniadau ynghylch statws cymunedau fel trefi

(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 245B (cymunedau a chanddynt statws tref), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7A)The community council must give notice electronically in writing of any resolution passed under subsection (1) or (6) to the following bodies—

(a)the Welsh Ministers,

(b)the principal council for the area in which the community is situated, and

(c)the Democracy and Boundary Commission Cymru.

Cyhoeddi gwybodaeth: trefniadau ar gyfer llywodraeth leol

53Cyhoeddi gorchmynion o dan Ran 3 o Ddeddf 2013

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 49 (ymchwiliadau lleol), mewnosoder—

49ZACyhoeddi gorchmynion o dan Ran 3

(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—

(a)copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon;

(b)copi o bob gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan y Comisiwn o dan y Rhan hon;

(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.

(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—

(a)copi o bob gorchymyn a wneir gan brif gyngor o dan y Rhan hon;

(b)copi o bob gorchymyn y mae’r Comisiwn yn ei wneud o dan y Rhan hon;

(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath;

(d)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.

(3)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon i’r Comisiwn.

(4)Rhaid i’r Comisiwn anfon i brif gyngor gopi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu prif gyngor am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor;

(b)hysbysu’r Comisiwn am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon.

(6)Mae’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchmynion a wneir ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

54Cyhoeddi rhestrau cyfredol o gymunedau a chynghorau cymuned

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 49ZA (a fewnosodir gan adran 53), mewnosoder—

49ZBCyhoeddi rhestrau cyfredol o gymunedau a chynghorau cymuned

(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal, gyda’u henwau presennol.

(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yng Nghymru, gyda’u henwau presennol.

(3)Os oes gan gymuned neu gyngor cymuned enwau gwahanol at ddiben cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid cynnwys y ddau enw mewn rhestr y mae’n ofynnol ei chyhoeddi o dan yr adran hon.

Cyffredinol

55Darpariaeth drosiannol

(1)Mae adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 ar yr adeg y daw’r Bennod hon i rym i’w gwblhau fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan y Bennod hon wedi eu gwneud.

(2)Mae darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 2013 (ac unrhyw orchmynion neu unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno) yn parhau i gael effaith at ddiben adolygiadau o’r fath fel yr oedd darpariaethau’r Rhan honno (ac unrhyw orchmynion neu reoliadau a wnaed o dan y Rhan honno) yn cael effaith yn union cyn i’r Bennod hon ddod i rym.

PENNOD 2CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AELODAU ETHOLEDIG

Diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

56Diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) (Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol aelodau), hepgorer adrannau 141 i 159 ac Atodlen 2.

Swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

57Swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 69 mewnosoder—

RHAN 5ASWYDDOGAETHAU SY’N YMWNEUD Â THALIADAU A PHENSIYNAU
Tâl ar gyfer aelodau awdurdod
69ASwyddogaeth sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau

(1)Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol—

(a)y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt;

(b)yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt.

(2)Yn y Rhan hon materion perthnasol yw—

(a)materion sy’n ymwneud â busnes swyddogol aelodau awdurdodau perthnasol;

(b)cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2 o Fesur 2011.

(3)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (1) rhaid i’r Comisiwn osod un o’r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—

(a)y swm y mae rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o’r awdurdod;

(b)yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o’r awdurdod.

(4)Caiff y Comisiwn benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion perthnasol i fwy na chyfran benodedig neu nifer penodedig o aelodau awdurdod perthnasol.

(5)Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Comisiwn o dan is-adran (4) fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.

(6)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Comisiwn o dan is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod perthnasol, fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.

(7)Caiff y Comisiwn osod—

(a)canran uchaf neu gyfradd‍ arall yr addasiad y caniateir i awdurdod perthnasol ei gwneud, ar gyfer blwyddyn ariannol, i’r symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â materion perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn honno;

(b)mynegrif y caniateir i awdurdod perthnasol ei ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â’r materion perthnasol hynny ar gyfer y flwyddyn flaenorol y bydd y Comisiwn yn penderfynu arnynt.

(8)Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (7) er mwyn—

(a)gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â’r un mater;

(b)gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.

(9)Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (7), rhaid i’r Comisiwn ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.

(10)Caiff y Comisiwn wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4), neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (7), mewn perthynas ag awdurdodau perthnasol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag awdurdodau perthnasol gwahanol o’r un disgrifiad.

(11)At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw’n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—

(a)fel aelod o awdurdod perthnasol, neu

(b)fel aelod o gorff y penodir yr aelod iddo gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy’n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy’n cynnwys yr awdurdod perthnasol.

(12)Yn yr adran hon ac yn adran 69E ystyr “blwyddyn ariannol” yw cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

69BSwyddogaethau sy’n ymwneud â phensiynau aelodau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—

(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a

(b)sydd am y tro yn gymwys i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).

(2)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) mewn cysylltiad â hwy.

(3)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff y Comisiwn wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau perthnasol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag awdurdodau perthnasol gwahanol o’r un disgrifiad.

69CAwdurdodau perthnasol, aelodau etc.

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae awdurdod yn awdurdod perthnasol os yw’n—

(a)awdurdod lleol;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(c)awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

(d)cyd-bwyllgor corfforedig;

(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i gael ei ddarllen gydag is-adran (2).

(4)Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—

(a)maer etholedig i’r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),

(b)aelod gweithredol etholedig o’r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o’r Ddeddf honno),

(c)aelod cyfetholedig o’r awdurdod, a

(d)person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig ac a chanddo hawlogaeth i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw.

(5)Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol nad yw’n gyd-bwyllgor corfforedig, yw person nad yw’n aelod o’r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i’r awdurdod neu sy’n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i’r awdurdod ac sy’n cynrychioli’r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu’r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a

(b)y mae ganddo hawlogaeth i bleidleisio ar gwestiynau sydd i’w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwnnw neu’r is-bwyllgor hwnnw.

(6)Ni chaniateir pennu corff yn awdurdod perthnasol mewn rheoliadau o dan is-adran (2)(e) ond—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,

(b)os yw’n arfer swyddogaeth a roddir gan Fesur neu Ddeddf gan Senedd Cymru, neu swyddogaeth a allai gael ei rhoi gan Ddeddf gan Senedd Cymru (gan gynnwys swyddogaeth na allai gael ei rhoi ond gyda chydsyniad un o Weinidogion y Goron), ac

(c)os yw ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).

(7)Nid yw adrannau 69A(4), 69B, 69E(4)(d) a 69O yn gymwys mewn perthynas ag awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran (2)(d) neu (e).

(8)Yn yr adran hon ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” yw pwyllgor a sefydlir drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

69DSwyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau ailsefydlu

(1)Mae taliad ailsefydlu yn daliad i berson—

(a)sy’n peidio â bod yn aelod o awdurdod lleol ar ddiwedd tymor ei swydd,

(b)a oedd, pan oedd yn ei swydd, yn aelod o awdurdod lleol o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru,

(c)sy’n sefyll i gael ei ailethol i fod yn aelod o’r un awdurdod yn etholiad cyffredin yr awdurdod lleol ar gyfer y tymor sy’n dilyn ei dymor yn y swydd, a

(d)nad yw’n cael ei ddychwelyd yn aelod yn yr etholiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud taliad ailsefydlu;

(b)o dan ba amgylchiadau yr awdurdodir awdurdod lleol i wneud taliad ailsefydlu;

(c)y materion y mae taliad ailsefydlu yn daladwy mewn cysylltiad â hwy.

(3)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (2) rhaid i’r Comisiwn osod—

(a)yr amodau cymhwyso i gael taliad;

(b)y swm y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei dalu;

(c)yr uchafswm y caiff awdurdod lleol ei dalu i aelod;

(d)mecanwaith y caniateir ei ddefnyddio i gynyddu neu i leihau swm y taliadau a osodir o dan baragraff (b) neu (c);

(e)gofynion ynghylch sut y mae taliadau i’w gwneud (a pha mor aml y’u gwneir).

(4)Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau i adolygu unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud o dan is-adran (2) ac, os yw’n meddwl ei bod yn briodol, caiff ddiwygio ei benderfyniad.

(5)Wrth wneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid i’r Comisiwn ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniad ar awdurdodau lleol.

(6)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (2) caiff y Comisiwn wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau lleol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag aelodau gwahanol o’r un disgrifiad.

(7)Rhaid i’r Comisiwn wneud penderfyniad o dan is-adran (2) cyn pob un o etholiadau cyffredin yr awdurdod lleol, gan ddechrau gyda’r etholiad sydd i’w gynnal ym mis Mai 2027 a rhaid iddo adolygu’r penderfyniad cyn pob etholiad cyffredin dilynol.

(8)Nid yw is-adran (7) ond yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1)(b).

69EAdroddiadau blynyddol ar dâl mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol

(1)Rhaid i’r Comisiwn lunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol ar dâl”) ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.

(2)Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi’r gofynion a osodir ar awdurdodau perthnasol gan y Comisiwn o dan adrannau 69A, 69B a 69D.

(3)Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl heb fod yn hwyrach nag—

(a)28 Chwefror yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(4)Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi—

(a)y materion perthnasol,

(b)y symiau a osodir o dan adran 69A(3),

(c)y gyfran neu’r nifer a benderfynir o dan adran 69A(4),

(d)yr aelodau neu’r disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy,

(e)y materion perthnasol y mae pensiwn perthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hwy,

(f)unrhyw ganran, unrhyw gyfradd neu unrhyw fynegrif a osodir o dan adran 69A(7) a’r mater perthnasol y mae’n ymwneud ag ef, ac

(g)unrhyw benderfyniad ynghylch taliadau ailsefydlu o dan adran 69D.

69FAdroddiadau atodol ar dâl

(1)Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl ond cyn cyhoeddi’r adroddiad nesaf, caiff y Comisiwn lunio a chyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol ar dâl i’r adroddiad blynyddol ar dâl (“adroddiad atodol ar dâl”).

(2)Caiff yr adroddiad atodol ar dâl—

(a)amrywio’r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol ar dâl o dan adran 69E(4);

(b)gwneud unrhyw ddarpariaeth y gallai’r adroddiad blynyddol ar dâl fod wedi ei gwneud o dan adran 69E(4).

69GDarpariaeth bellach ynghylch adroddiadau blynyddol ar dâl ac adroddiadau atodol ar dâl

(1)Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F, rhaid i’r Comisiwn—

(a)anfon drafft o’r adroddiad y mae’n cynnig ei wneud—

(i)at Weinidogion Cymru,

(ii)i’r awdurdodau perthnasol y mae’r Comisiwn wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau, neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau, i’w haelodau mewn cysylltiad â materion perthnasol, a

(iii)at unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol,

(b)cyhoeddi’r adroddiad drafft cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei anfon.

(2)Wrth lunio adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F, rhaid i’r Comisiwn ystyried—

(a)yr adroddiad blynyddol diwethaf ar dâl ac unrhyw adroddiadau atodol ar dâl sy’n ymwneud â’r adroddiad blynyddol diwethaf ar dâl;

(b)sylwadau sydd wedi dod i law ynghylch yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) a’r adroddiadau drafft y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

(3)Mae’r darpariaethau mewn adroddiad blynyddol neu atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F yn cael effaith ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.

(4)Ond pan fo adroddiad atodol ar dâl yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 69F(2) sy’n amrywio darpariaeth a wneir o dan adran 69E(4)(a), (b) neu (c), caiff yr adroddiad atodol ar dâl bennu bod y ddarpariaeth i gael ei thrin fel pe bai’n cael effaith hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad atodol ar dâl.

69HCyfarwyddiadau i ailystyried adroddiadau drafft

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i ailystyried darpariaeth mewn adroddiad drafft blynyddol neu adroddiad drafft atodol ar dâl.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

(a)y ddarpariaeth,

(b)y rheswm dros roi’r cyfarwyddyd, ac

(c)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymateb.

(3)O ran y Comisiwn—

(a)rhaid iddo ymateb i’r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)rhaid iddo beidio â chyhoeddi’r adroddiad cyn ymateb i’r cyfarwyddyd.

(4)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu peidio ag amrywio’r adroddiad drafft mewn ymateb i’r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.

69IDyletswyddau’r Comisiwn o ran cyhoeddi a hysbysu mewn perthynas ag adroddiadau

(1)Rhaid i’r Comisiwn beidio â chyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl o dan adran 69E cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad o dan adran 69G(1)(a)(i).

(2)Rhaid i’r Comisiwn beidio â chyhoeddi adroddiad atodol ar dâl—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 69G(1)(a)(i), neu

(b)yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 69G(1)(a)(i).

(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 69H(3)(b) (ni chaniateir cyhoeddi’r adroddiad ond os yw’r Comisiwn wedi ymateb i’r cyfarwyddyd).

(4)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi pob adroddiad blynyddol ar dâl, pob adroddiad atodol ar dâl a phob adroddiad drafft a lunnir o dan y Rhan hon ar ei wefan, ac mewn unrhyw ffordd arall y mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol.

(5)Caniateir i gopïau o unrhyw beth a gyhoeddir o dan is-adran (4) gael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu unrhyw ffi, nad yw’n fwy na chost cyflenwi’r copi, a benderfynir gan y Comisiwn.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl, rhaid i’r Comisiwn hysbysu’r personau y mae o’r farn ei fod yn debygol o effeithio arnynt ynghylch sut y gallant gael mynediad at yr adroddiad neu gael copi ohono.

69JGofynion gweinyddol ar gyfer awdurdodau perthnasol mewn adroddiadau

(1)Caiff adroddiad blynyddol ar dâl gynnwys gofynion y Comisiwn er mwyn—

(a)osgoi dyblygu—

(i)taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol, a

(ii)ceisiadau am daliad mewn cysylltiad â’r un materion perthnasol o dan adran 69A(2)(a);

(b)cadw cofnodion—

(i)o geisiadau am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(ii)o daliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(iii)o daliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol;

(iv)o daliadau ailsefydlu a wneir o dan adran 69D.

(2)Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi gofynion y Comisiwn mewn perthynas â sut y mae awdurdod perthnasol yn penderfynu pa awdurdod perthnasol y mae’n ofynnol iddo wneud taliad mewn achos pan fo aelod o awdurdod perthnasol yn gwneud rhywbeth—

(a)y mae rhaid gwneud taliad amdano mewn cysylltiad â mater perthnasol, a

(b)sy’n ymwneud ag awdurdod perthnasol arall (yn ogystal â’r awdurdod y mae’r aelod yn perthyn iddo).

69KGofynion cyhoeddi ar gyfer awdurdodau perthnasol mewn adroddiadau

(1)Caiff adroddiad blynyddol ar dâl nodi gofynion y Comisiwn i awdurdodau perthnasol gyhoeddi gwybodaeth—

(a)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol;

(c)ynghylch taliadau ailsefydlu a wneir o dan adran 69D;

(d)ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau o awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(d), ystyr “corff cyhoeddus” yw—

(a)bwrdd iechyd lleol;

(b)panel heddlu a throsedd;

(c)awdurdod perthnasol;

(d)corff sydd wedi ei ddynodi’n gorff cyhoeddus mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu i awdurdodau gwahanol o’r un disgrifiad wneud trefniadau cyhoeddi gwahanol.

69LMonitro cydymffurfedd â gofynion y Comisiwn

(1)Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a nodir mewn adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl.

(2)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â materion perthnasol; a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo—

(a)ynghylch y materion sy’n faterion perthnasol mewn perthynas â’r awdurdod;

(b)ynghylch ceisiadau i’r awdurdod am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(c)ynghylch taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â materion perthnasol.

(3)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo—

(a)ynghylch aelodau’r awdurdod y mae’n ofynnol i’r awdurdod dalu pensiynau perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;

(b)ynghylch taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

(4)Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau ailsefydlu gan awdurdodau lleol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddo—

(a)ynghylch cyn-aelodau’r awdurdod lleol y mae’n ofynnol i’r awdurdod dalu taliad ailsefydlu iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;

(b)ynghylch taliadau ailsefydlu a wneir gan yr awdurdod lleol.

69MCyfarwyddiadau i orfodi cydymffurfedd â gofynion y Comisiwn

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol ar dâl a wneir o dan y Rhan hon, cânt gyfarwyddo’r awdurdod i gydymffurfio â’r gofyniad.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

(a)y gofyniad;

(b)y rheswm dros roi’r cyfarwyddyd;

(c)y camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod eu cymryd;

(d)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gymryd y camau.

69NAelodau sy’n dymuno ymwrthod â thaliadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod, yn dewis ymwrthod (naill ai’n gyfan gwbl neu i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad) â’r hawlogaeth i gael taliadau mewn cysylltiad â’r materion perthnasol, neu daliad ailsefydlu, a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Nid yw’r gofyniad a osodir ar yr awdurdod gan adran 69A a 69D i wneud taliadau a bennir yn yr hysbysiad yn gymwys yn achos yr aelod hwnnw (neu nid yw’n gymwys i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad).

(3)Yn yr adran hon mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf 1972.

69OCadw taliadau yn ôl

(1)Rhaid i awdurdod perthnasol beidio â gwneud taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol na phensiwn perthnasol i berson—

(a)sydd wedi ei atal dros dro neu wedi ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod o’r awdurdod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) (ymddygiad aelodau llywodraeth leol etc.);

(b)sydd wedi ei rwystro rhag gweithredu yn swydd aelod o awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 80A(6) o Ddeddf 1972 (anghymhwyso).

(2)Rhaid i awdurdod lleol beidio â gwneud taliad ailsefydlu i berson sydd wedi ei rwystro rhag gweithredu yn swydd aelod o awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 80A(6) o Ddeddf 1972.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn achosion y maent o’r farn eu bod yn briodol, gyfarwyddo awdurdod perthnasol i beidio ag—

(a)gwneud taliadau (gan gynnwys mewn cysylltiad â phensiynau) mewn cysylltiad â’r materion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)gwneud taliad ailsefydlu.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

(5)Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i berson ad-dalu taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson mewn cysylltiad â chyfnod pan nad oedd gan y person hawlogaeth i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhesymau a ganlyn—

(a)gwnaed y taliadau yn groes i is-adran (1);

(b)gwnaed y taliadau yn groes i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a);

(c)yr oedd y person wedi peidio â bod yn aelod o’r awdurdod.

(6)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i berson ad-dalu taliad ailsefydlu a wneir o dan adran 69D pan nad oedd gan y person hawlogaeth i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhesymau a ganlyn—

(a)gwnaed y taliad yn groes i is-adran (2);

(b)gwnaed y taliad yn groes i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b).

69PCanllawiau

(1)Caiff y Comisiwn ddyroddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ynghylch sut i gydymffurfio â gofynion a osodir o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r Comisiwn ynghylch swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Rhan hon.

(3)Mae pwerau’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau o dan is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys y pŵer i amrywio neu ddirymu canllawiau a roddir.

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol, neu’r Comisiwn yn ôl y digwydd, roi sylw i ganllawiau a roddir o dan yr adran hon.

69QCyfarwyddiadau o dan y Rhan hon

(1)Mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 69M a 69O yn orfodadwy drwy orchymyn mandadol ar gais gan Weinidogion Cymru.

(2)Nid yw’r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan y Rhan hon yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.

69RPŵer i addasu darpariaeth

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud addasiadau i’r Rhan hon er mwyn ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth sy’n rhoi swyddogaeth i’r Comisiwn neu’n gosod swyddogaeth arno.

58Trosglwyddo eiddo, hawliau ac atebolrwyddau

Mae’r holl eiddo, yr holl hawliau a’r holl atebolrwyddau a freinir ym Mhanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn union cyn iddo gael ei ddiddymu gan adran 56 wedi eu trosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

59Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Rhan 4 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r Bennod hon.

60Arbedion

Mae effaith y darpariaethau a ddiddymir gan adran 56 wedi ei harbed at ddibenion y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, ac eithrio bod pob cyfeiriad at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (sut bynnag y’i mynegir) i’w ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

PENNOD 3ANGHYMHWYSO, DYLANWAD AMHRIODOL A CHYFYNGIADAU GWLEIDYDDOL AR SWYDDFEYDD

Anghymhwyso

61Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd ac yn gynghorydd cymuned

(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 16 (anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd) yn is-adran (1)—

(a)ym mharagraff (za), hepgorer “and 17B”;

(b)yn lle paragraff (zc), rhodder—

(zc)is a member of the council of a county, a county borough or a community in Wales (but see section 17D),.

(3)Hepgorer adran 17B.

(4)Yn adran 17D (eithriad rhag anghymhwyso yn rhinwedd bod yn gynghorydd)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “borough” mewnosoder “or community council”;

(b)yn is-adran (2), ar ôl “borough” mewnosoder “or community council”.

(5)Hepgorer adran 17E.

(6)Hepgorer adran 17F.

(7)Mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn cael effaith at ddibenion etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd pan gynhelir pôl ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.

62Anghymhwysiad am arferion llwgr neu anghyfreithlon: etholiadau llywodraeth leol

Yn adran 80A(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (anghymhwysiad person rhag cael ei ethol neu fod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)the person is incapable of being elected to or holding elective office in a district council in Northern Ireland under Part 10 of the Electoral Law Act (Northern Ireland) 1962 (c. 14) (corrupt or illegal practices);.

63Anghymhwysiad am arferion llwgr neu anghyfreithlon: etholiadau Senedd Cymru

Yn Atodlen 1A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (anghymhwysiad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

5AA person who is incapable of being elected to or holding elective office in a district council in Northern Ireland under Part 10 of the Electoral Law Act (Northern Ireland) 1962 (c. 14) having been reported guilty or convicted of a corrupt or illegal practice.

‍Dylanwad amhriodol

64Dylanwad amhriodol

(1)Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 114A (trosedd o ddylanwad amhriodol a fewnosodir gan adran 8 o Ddeddf Etholiadau 2022), hepgorer “or Wales”.

(3)Yn adran 115 (trosedd o ddylanwad amhriodol: etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a’r Alban)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer “or Wales”;

(b)yn is-adran (2), hepgorer “or Wales”;

(c)yn y pennawd, hepgorer “and Wales”.

Cyfyngiadau gwleidyddol ar swyddfeydd

65Cyfyngiadau gwleidyddol ar swyddogion a staff

(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (anghymhwyso swyddogion a staff penodol a chyfyngiadau gwleidyddol arnynt)—

(a)yn is-adran (1A)—

(i)ar ôl “member of any local authority in Wales” mewnosoder “(including an elected mayor)”;

(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “under a” mewnosoder “community council or”;

(b)yn is-adran (1B), ar ôl “any corporate joint committee” mewnosoder “, community council”;

(c)ar ôl is-adran (1B) mewnosoder—

(1C)A person shall be disqualified from becoming or remaining a member of a community council if that person holds a politically restricted post under any community council, corporate joint committee or local authority in Great Britain.;

(d)ar ôl is-adran (12) mewnosoder—

(13)Subsections (5) and (6) of this section apply to a community council as they apply to a local authority in Wales..

(3)Yn adran 2 (swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol)—

(a)ar ôl is-adran (1B) mewnosoder—

(1C)For the purposes of this Part the following persons are to be regarded as holding politically restricted posts under a community council—

(a)a paid officer having responsibility, for the purposes of section 151 of the Local Government Act 1972, for the administration of the financial affairs of the community council;

(b)a person holding a paid post that is for the time being specified by the community council in the list maintained in accordance with subsection (2) and any directions under section 3.;

(b)ar ôl is-adran (10C) mewnosoder—

(10D)This section, other than subsection (1), applies in relation to a community council as it applies in relation to a local authority in Wales.

(10E)In the application of subsection (4) to a community council, the reference to the coming into force of this section has effect as if it were a reference to 6 May 2027..

(4)Yn adran 3(9) (rhoi a goruchwylio esemptiadau rhag cyfyngiadau gwleidyddol), ar ôl “corporate joint committee” mewnosoder “and a community council”.

(5)Yn adran 10(2) (terfyn ar wyliau â thâl ar gyfer dyletswyddau awdurdod lleol), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “corporate joint committee” mewnosoder “and a community council”.

(6)Yn adran 12(2) (gwrthdaro buddiannau mewn negodiadau staff), yn y diffiniad o “local authority”, ar ôl “corporate joint committee” mewnosoder “and a community council”.

PENNOD 4COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

66Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau etc.

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 4(3) (personau na chaniateir iddynt fod yn gomisiynwyr)—

(a)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “neu’n aelod o staff awdurdod lleol”;

(b)hepgorer paragraff (d);

(c)ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod Parc Cenedlaethol” mewnosoder “, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,”;

(d)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;.

(3)Yn adran 8(4) (personau na chaniateir iddynt fod yn brif weithredwr)—

(a)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “neu’n aelod o staff awdurdod lleol”;

(b)hepgorer paragraff (d);

(c)ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod Parc Cenedlaethol” mewnosoder “, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,”;

(d)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(ea)yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(eb)yn aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;.

(4)Yn adran 11(2) (personau na chaniateir iddynt fod yn gomisiynwyr cynorthwyol)—

(a)ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “neu’n aelod o staff awdurdod lleol”;

(b)hepgorer paragraff (d);

(c)ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod Parc Cenedlaethol” mewnosoder “, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,”;

(d)ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;.

67Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pwyllgor llywodraethu ac archwilio

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y croesbennawd o flaen adran 15 (cyllido), ar ôl “ariannol” mewnosoder “a llywodraethu”.

(3)Yn adran 17 (pwyllgor archwilio)—

(a)yn lle pennawd yr adran, rhodder “Pwyllgor llywodraethu ac archwilio”;

(b)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “(”pwyllgor archwilio”)” rhodder “(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)”;

(ii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)adolygu, asesu a rheoli trefniadau archwilio mewnol ac allanol y Comisiwn,

(bb)adolygu ac asesu sut y mae’r Comisiwn yn ymdrin â chwynion,

(bc)adolygu—

(i)datganiadau o gyfrifon ac adroddiadau a lunnir gan y Comisiwn o dan adrannau 19(1) ac 20,

(ii)adroddiadau a lunnir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 19(4),;

(iii)ym mharagraff (d), ar ôl “(b)” mewnosoder “, (ba), (bb), (bc)”;

(c)yn is-adran (2), yn lle “archwilio” rhodder “llywodraethu ac archwilio”;

(d)yn is-adran (3), yn lle “archwilio” rhodder “llywodraethu ac archwilio”;

(e)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Caiff y Comisiwn roi i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio y swyddogaethau y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn addas i’w harfer gan y pwyllgor.

(4)Yn adran 18 (pwyllgor archwilio: aelodaeth)—

(a)yn lle pennawd yr adran, rhodder “Pwyllgor llywodraethu ac archwilio: aelodaeth a chworwm”;

(b)yn lle is-adrannau (1) a (2) o Ddeddf 2013 rhodder—

(1)Mae aelodau’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio i fod fel a ganlyn—

(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn;

(b)o leiaf ddau aelod lleyg;

(c)dim mwy na phum aelod.

(2)Rhaid penodi aelod lleyg o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio—

(a)i gadeirio’r pwyllgor (y “cadeirydd”);

(b)yn ddirprwy i’r cadeirydd.

(2A)Ni chaiff person fod yn aelod o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio os yw’r person yn aelod o’r Comisiwn a’i fod naill ai’n aelod cadeirio’r Comisiwn neu’n gweithredu fel dirprwy i aelod cadeirio’r Comisiwn.

(2B)Tri aelod yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio, a rhaid i’r cworwm gynnwys o leiaf un aelod lleyg.

68Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pŵer i godi tâl

(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 11 (comisiynwyr cynorthwyol) a’r croesbennawd sy’n dilyn yr adran honno, mewnosoder—

11APŵer i godi tâl

(1)Caiff y Comisiwn godi tâl ar berson am ddarparu nwyddau neu wasanaethau fel a grybwyllir yn is-adran (2) i adennill cost y ddarpariaeth os yw’r person wedi cytuno i’r nwyddau neu’r gwasanaethau gael eu darparu.

(2)Y nwyddau neu’r gwasanaethau yw—

(a)nwyddau y mae’r Comisiwn yn eu darparu neu’n eu sicrhau, neu hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau, wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 20A (swyddogaethau gweinyddu etholiadol);

(b)hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau ar gyfer prif gyngor mewn cysylltiad â swyddogaethau’r cyngor o dan Ran 3.

RHAN 3DARPARIAETH GYFFREDINOL

69Rheoliadau: cyfyngiadau

(1)Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)cynnwys darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y Gweinidog priodol o dan baragraff 8(1)(a) neu (c), 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) pe bai’r ddarpariaeth yn cael ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru;

(b)cynnwys darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol o dan baragraff 11(2) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth yn cael ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

(2)Yn yr adran hon mae i “Gweinidog priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate Minister” gan baragraff 8(5) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

70Dehongli cyffredinol

Yn y Ddeddf hon—

71Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Os yw rheoliadau o dan is-adran (1) yn diwygio, yn diddymu neu fel arall yn addasu darpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru, ni chaniateir i’r offeryn sy’n cynnwys y rheoliadau gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1), nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo, yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

72Dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Pennod 3 o Ran 1 a Rhan 2 o Atodlen 1 (peilota a diwygio etholiadau Cymreig);

(b)adran 61 (anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd ac yn gynghorydd cymuned), ond mae’r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 61(7);

(c)adran 66 (Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau etc.);

(d)y Rhan hon.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Pennod 1 o Ran 2 (trefniadau ar gyfer llywodraeth leol);

(b)adran 25 (arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau lleol);

(c)adran 30 (canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig);

(d)adrannau 62 a 63 (anghymhwysiad am arferion llwgr neu anghyfreithlon).

(3)Daw adran 65 i rym ar 6 Mai 2027.

(4)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Ni chaiff y darpariaethau ym Mhennod 2 o Ran 1 (cofrestru etholiadol heb geisiadau), ac eithrio paragraffau (c) a (d) o adran 4(9), ddod i rym oni bai—

(a)bod darpariaeth peilota etholiadau Cymreig o’r math a ddisgrifir yn adran 5(4) wedi ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 5(1),

(b)bod adroddiad ar weithrediad y rheoliadau wedi ei anfon at Weinidogion Cymru o dan adran 17(5)(a),

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, a

(d)nad yw’r rheoliadau sydd mewn grym o dan adran 53 o Ddeddf 1983 sy’n gymwys i gofrestrau etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardaloedd yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru lunio cofrestrau golygedig o etholwyr llywodraeth leol na chyflenwi cofrestrau o’r fath na rhan ohonynt i unrhyw berson ar ôl talu ffi, i’r graddau y mae gofynion o’r math hwnnw mewn rheoliadau o dan adran 53 wedi eu gwahardd yn rhinwedd paragraffau 10(3) a 10B(4) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno (fel y’u mewnosodir gan adran 4(9)(c) a (d) o’r Ddeddf hon).

(6)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.

73Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill