Newidiadau dros amser i: Adran 143A
Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 26/11/2015
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/09/2015. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth.![Help about Status](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Statws
Rydych yn edrych ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth fel yr oedd ar bwynt penodol mewn amser. Mae fersiwn ddiweddarach o hyn neu ddarpariaeth, gan gynnwys newidiadau ac effeithiau dilynol, yn disodli'r fersiwn hon.
Sylwer bod y term darpariaeth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – fel Rhan, Pennod neu adran.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran 143A yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 16 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[143ASwyddogaethau sy’n ymwneud â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedigLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—
(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod;
(b)unrhyw newid arfaethedig i gyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.
(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).
(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid cyflog pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw’n gymesur â newid i gyflogau staff arall yr awdurdod—
(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a
(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.
(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.
(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod perthnasol cymwys” (“qualifying relevant authority”) yw awdurdod perthnasol (yn ystyr y Rhan hon) y mae’n ofynnol iddo lunio datganiad ar bolisïau tâl;
mae “cyflog” (“salary”) yn cynnwys, yn achos pennaeth gwasanaeth cyflogedig y mae awdurdod perthnasol cymwys yn ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau, daliadau gan yr awdurdod i bennaeth y gwasanaeth cyflogedig am y gwasanaethau hynny;
ystyr “datganiad ar bolisïau tâl” (“pay policy statement”) yw datganiad ar bolisïau tâl a lunnir gan awdurdod perthnasol (yn ystyr adran 43(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) o dan adran 38 o’r Ddeddf honno;
ystyr “pennaeth gwasanaeth cyflogedig”(“head of paid service”) yw pennaeth gwasanaeth cyflogedig a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.]
Yn ôl i’r brig