Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 11 Medi 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a'r môr cyfagos at Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn –

  • mae “cwch pysgota” (“fishing boat”) yn cynnwys cwch derbyn a chwch trydedd wlad, y naill a'r llall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93;

  • mae “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fisheries products”) yn cynnwys pysgod;

  • ystyr “mesur Cymunedol penodedig” (“specified Community measure”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen wedi'i darllen ym mhob achos ynghyd ag unrhyw eiriau amodi sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth honno yn y golofn honno;

  • ystyr “y môr cyfagos at Gymru” (“the sea adjacent to Wales”) yw y môr cyfagos at Gymru allan cyn belled â ffin y môr tiriogaethol â'r môr ac fe'i dehonglir yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo(1);

  • ystyr “pwyllgor pysgodfeydd lleol” (“local fisheries committee”) yw pwyllgor pysgodfeydd lleol a gyfansoddwyd gan orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan adran 1 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(2);

  • mae “pysgod” (“fish”) yn cynnwys cramenogion, molysgiaid a rhannau o bysgod;

  • ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 a sefydlodd gyfundrefn reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin(3);

  • ystyr “Rheoliad 894/97” (“Regulation 894/97”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 894/97 a bennodd fesurau technegol penodol ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd(4));

  • ystyr “Rheoliad 850/98” (“Regulation 850/98”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc(5) fel y'i cywirwyd gan y Cywiriad i Atodiad XII o Reoliad 850/98(6)) a'i ddiwygio gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999(7), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/99(8) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999(9));

  • ystyr “Rheoliad 2742/99” (“Regulation 2742/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2742/99(10) a bennodd y cyfleoedd pysgota a'r amodau cysylltiedig ar gyfer stociau pysgod penodol a grwpiau o stociau pysgod ar gyfer 2000 sy'n gymwysadwy yn nyfroedd y Gymuned ac, yn achos cychod y Gymuned, mewn dyfroedd lle mae'n ofynnol cyfyngu ar yr haldiad a'r Rheoliad diwygio sef Rheoliad (EC) Rhif 66/98, fel y'i cywirwyd gan Gywiriad(11);

  • ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw tramgwydd o dan:

    (a)

    erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn; neu

    (b)

    unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, sef darpariaeth y gellir dwyn achos mewn perthynas â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(12).

(2Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen, coflyfr neu ddatganiad yn cynnwys, yn ogystal â dogfen, coflyfr neu ddatganiad mewn ysgrifen –

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;

(ii)unrhyw ffotograff;

(iii)unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir drwy gyfrwng system loeren ar gyfer monitro cychod a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;

(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (nad ydynt yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall neu hebddo);a

(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn, bernir bod ardal pwyllgor pysgodfeydd lleol yn ymestyn ledled ardal unrhyw gyngor yng Nghymru sy'n atebol i dalu costau'r pwyllgor, neu i gyfrannu at eu talu, ac eithrio na fydd unrhyw un o'r pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn i unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n codi o fewn terfynau unrhyw farchnad sydd o dan reolaeth unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn –

(a)at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a

(b)at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

(5Rhaid peidio â darllen colofn 2 o'r Atodlen (sy'n rhoi awgrym mewn perthynas â phob mesur Cymunedol penodedig o bwnc y ddarpariaeth) fel pe bai'n cyfyngu ar gwmpas unrhyw fesur Cymunedol penodedig a chaiff ei hanwybyddu mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn ynghylch dehongli'r Gorchymyn hwn.

Tramgwyddau

3.—(1Pan fydd unrhyw fesur Cymunedol penodedig yn cael ei dorri, neu pan fethir â chydymffurfio ag ef mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota yn y môr cyfagos at Gymru neu drwy i unrhyw gwch pysgota ddod i'r môr cyfagos at Gymru, bydd meistr, perchennog, a siartrwr (os oes un) y cwch pysgota hwnnw bob un yn euog o dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, bydd unrhyw berson sydd, yng Nghymru, yn glanio, yn cludo, yn storio, yn gwerthu, yn arddangos neu yn cynnig gwerthu –

(a)unrhyw bysgodyn yn groes i unrhyw fesur Cymunedol penodedig, neu

(b)unrhyw eog (Salmo salar) neu frithyll môr (Salmo trutta) yn groes i Erthyglau 26(1) neu 36 o Reoliad 850/98,

yn euog o dramgwydd.

(3Ni fydd paragraff (2) uchod yn gymwys i berson sy'n glanio pysgodyn, eog neu frithyll môr os yw'r person hwnnw yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod mewn perthynas â glanio'r pysgodyn, yr eog neu'r brithyll môr hwnnw.

Cosbau

4.—(1Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas â'r tramgwydd yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen mewn perthynas â'r mesur Cymunedol penodedig y bu ei dorri neu fethiant i gydymffurfio ag ef yn sail i'r tramgwydd;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas â'r tramgwydd yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(3Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn yr erthygl hon, caiff y llys y caiff person ei gollfarnu am dramgwydd perthnasol ganddo neu ger ei fron orchymyn –

(a)fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy; a

(b)mewn perthynas â thramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd.

(4Bydd unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd perthnasol, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol, yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy.

(5Ni fydd person yn agored i ddirwy o dan baragraff (4) mewn perthynas â thramgwydd perthnasol os yw'r llys, o dan baragraff (3), yn gorchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy; ac os caiff dirwy ei gosod o dan baragraff (4) mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd perthnasol, ni fydd gan y llys bŵ er o dan baragraff (3) i orchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd perthnasol mewn perthynas â hwy.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (5), bydd unrhyw ddirwy y mae person yn agored iddi o dan baragraff (4) mewn perthynas â thramgwydd perthnasol yn ychwanegol at unrhyw gosb arall (boed yn gosb ariannol neu fel arall) y mae'r person hwnnw'n agored iddi mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw o dan yr erthygl hon neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Casglu dirwyon

5.—(1Pan osodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog, siartrwr, neu aelod criw cwch pysgota a gollfernir am dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 11 o'r Gorchymyn hwn, fe gaiff y llys –

(a)cyhoeddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r tramgwydd, ei offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo sydd gan y person a gollfarnwyd er mwyn casglu swm y ddirwy; a

(b)gorchymyn cadw'r cwch a'i offer a'i haldiad am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

(2Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(13) (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy o dan erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981(14) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(15) mewn perthynas â dirwy ynglŷn â thramgwydd perthnasol yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi'i gosod gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

6.—(1Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota yn y môr cyfagos at Gymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

(3Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol –

(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)er mwyn canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;

(ch)caiff archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch;

(d)heb ragfarn i is-baragraffau (c) ac (ch), caiff ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn trosi'r holl ddogfennau o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol i ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(dd)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond nid oes dim yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(4Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni ar unrhyw amser, caiff y swyddog —

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y credir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar y tir

7.—(1Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu unrhyw fesur Cymunedol penodedig, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru—

(a)mynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg resymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg unrhyw fusnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithrediadau sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol iddynt neu mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod;

(b)cymryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;

(c)archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw bersonau sydd yno yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;

(ch)cyflawni yn yr adeiladau hynny unrhyw archwiliadau neu brofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson beidio a symud na pheri symud unrhyw bysgod o'r adeiladau hynny yn ystod unrhyw gyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol i sefydlu a gyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;

(dd)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau yn ei gadwraeth neu ei feddiant mewn perthynas â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod;

(e)er mwyn canfod a oes unrhyw berson yn yr adeiladau wedi cyflawni tramgwydd perthnasol, chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd yn yr adeiladau yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;

(f)archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau;

(ff)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson priodol neu gyfrifol yn trosi unrhyw ddogfen o'r fath i ffurf weladawy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(g)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu iddi neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd.

(2Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo cynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adeiladau ac, yn achos cerbyd, byddant yn cynnwys y pŵer i'w gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg fod cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.

(3Os oes ynad heddwch, ar ôl derbyn hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni –

(a)bod yna sail resymol dros gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig beŵ r o dan yr erthygl hon i'w harchwilio mewn unrhyw adeiladau a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a

(b)naill ai –

(i)bod mynediad i'r adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai gwneud cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad, neu nad yw'r adeiladau yn cael eu meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros i'r meddiannydd ddychwelyd rwystro bwriad y mynediad;

fe gaiff yr ynad drwy gyfrwng gwarant a lofnodir ganddo ac a fydd yn ddilys am fis, awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd i'r adeiladau, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, ac i fynd â'r personau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol gydag ef.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i gipio pysgod ac offer pysgota

8.  Yng Nghymru ac yn y môr cyfagos at Gymru, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig gipio –

(a)unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal y pysgod) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy; a

(b)unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros amau eu bod wedi'u defnyddio wrth gyflawni tramgwydd perthnasol.

Pwerau swyddogion eraill

9.—(1Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, i'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth o'r fath yn gymwys i bysgod sy'n rhy fach, caiff unrhyw un o'r swyddogion a restrir ym mharagraff (2) isod, wrth weithredu yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru, ar bob adeg resymol –

(a)mynd ar fwrdd unrhyw gwch pysgota Prydeinig,

(b)mynd i mewn i unrhyw dir neu adeiladau (heblaw annedd) a ddefnyddir ar gyfer rhedeg unrhyw fusnes mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod,

(c)chwilio am unrhyw bysgod a'u harchwilio mewn unrhyw le, boed ar fwrdd cwch pysgota neu mewn man arall, a boed mewn cynhwysydd neu beidio; ac

(ch)cipio unrhyw bysgod y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod tramgwydd perthnasol mewn perthynas â physgod rhy fach wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy.

(2Dyma'r swyddogion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o'r erthygl hon –

(a)unrhyw swyddog a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)unrhyw swyddog i awdurdod marchnadoedd yng Nghymru, yn gweithredu o fewn terfynau unrhyw farchnad y mae gan yr awdurdod hwnnw bŵ er i'w rheoleiddio; ac

(c)unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol yn gweithredu o fewn unrhyw ran o ardal y pwyllgor sydd yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru.

(3Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhwydi ac offer pysgota arall, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol, mewn unrhyw ran o ardal y pwyllgor sydd yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru, fynd ar fwrdd unrhyw gwch pysgota Prydeinig a chwilio am bob rhwyd neu offer pysgota arall ac unrhyw bysgod sy'n cael eu cario yn y cwch hwnnw a'u harchwilio, a chaiff gipio unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod tramgwydd perthnasol yn ymwneud â rhwydi neu offer pysgota arall wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy.

Amddiffyn swyddogion

10.  Ni fydd swyddog na pherson sy'n ei helpu yn rhinwedd erthglau 6(2), 7(1)(b) neu 7(3) o'r Gorchymyn hwn yn atebol mewn unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Rhwystro swyddogion

11.  Bydd unrhyw berson sydd –

(a)heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddwyd i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig gan erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu'n ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath; neu

(c)yn ymosod ar swyddog sydd wrthi yn arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn neu yn fwriadol yn llesteirio unrhyw swyddog o'r fath sydd wrthi yn arfer unrhyw un o'r pwerau hynny;

yn euog o drosedd, ac yn agored –

(i)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol; neu

(ii)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Darpariaethau ynglŷn â thramgwyddau

12.—(1Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforedig, neu berson yn cymryd arno neu'n ymddangos fel pe bai'n gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(3Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o'r gymdeithas neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r gymdeithas, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

Achosion

13.—(1Caiff pwyllgor pysgodfeydd lleol ddwyn achos o dan unrhyw un o'r darpariaethau a restrir ym mharagraff (2) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd sy'n digwydd o fewn unrhyw ran o ardal y pwyllgor sydd yng Nghymru neu yn y mô r cyfagos at Gymru.

(2Dyma'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) –

(a)erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, pan yw'r tramgwydd wedi'i seilio ar dorri'r canlynol, neu ar fethu â chydymffurfio â hwy –

(i)Erthyglau 4, 6, 7, 8, 9, 11, 14 i 16, 18, 19, 26 a 30 i 34 o Reoliad 850/98, neu

(ii)paragraffau 4, 6 a 9 o Atodiad V i Reoliad 2742/99; neu

(b)erthygl 3(2)(a) o'r Gorchymyn hwn.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth

14.—(1Bydd unrhyw —

(a)coflyfr a gedwir o dan Erthyglau 6, 17.2 neu 28c;

(b)datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f;

(c)adroddiad ymdrech a gwblheir o dan Erthyglau 19b a 19c;

(ch)dogfen a lunnir o dan Erthyglau 9 neu 13; a

(d)dogfen yn cynnwys gwybodaeth a fynnwyd a ddaeth i law canolfan monitro pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3.7,

o Reoliad 2847/93 mewn unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd perthnasol, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “gwybodaeth a fynnwyd” yw –

(a)adnabyddiaeth cwch pysgota;

(b)lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota wedi'i fynegi mewn graddau a munudau o hydred a lledred; ac

(c)dyddiad ac amser pennu'r lleoliad hwnnw;

fel y maent wedi'u cyfathrebu drwy gyfrwng system loeren ar gyfer monitro cychod a sefydlwyd o dan Erthyg 3(1) o Reoliad 2847/93.

Diddymu

  • 15.  Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) 1997(16) a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Diwygio) 1997(17) drwy hyn wedi'u diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru a'r môr cyfagos at Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(18).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Awst 2000

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill