Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 2230 (Cy. 148 )

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

10 Awst 2000

Yn dod i rym

11 Medi 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1) a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 11 Medi 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a'r môr cyfagos at Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn –

  • mae “cwch pysgota” (“fishing boat”) yn cynnwys cwch derbyn a chwch trydedd wlad, y naill a'r llall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93;

  • mae “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fisheries products”) yn cynnwys pysgod;

  • ystyr “mesur Cymunedol penodedig” (“specified Community measure”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen wedi'i darllen ym mhob achos ynghyd ag unrhyw eiriau amodi sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth honno yn y golofn honno;

  • ystyr “y môr cyfagos at Gymru” (“the sea adjacent to Wales”) yw y môr cyfagos at Gymru allan cyn belled â ffin y môr tiriogaethol â'r môr ac fe'i dehonglir yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo(2);

  • ystyr “pwyllgor pysgodfeydd lleol” (“local fisheries committee”) yw pwyllgor pysgodfeydd lleol a gyfansoddwyd gan orchymyn wedi'i wneud, neu sydd ag effaith fel petai wedi'i wneud, o dan adran 1 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(3);

  • mae “pysgod” (“fish”) yn cynnwys cramenogion, molysgiaid a rhannau o bysgod;

  • ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 a sefydlodd gyfundrefn reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin(4);

  • ystyr “Rheoliad 894/97” (“Regulation 894/97”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 894/97 a bennodd fesurau technegol penodol ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd(5));

  • ystyr “Rheoliad 850/98” (“Regulation 850/98”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc(6) fel y'i cywirwyd gan y Cywiriad i Atodiad XII o Reoliad 850/98(7)) a'i ddiwygio gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999(8), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/99(9) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999(10));

  • ystyr “Rheoliad 2742/99” (“Regulation 2742/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2742/99(11) a bennodd y cyfleoedd pysgota a'r amodau cysylltiedig ar gyfer stociau pysgod penodol a grwpiau o stociau pysgod ar gyfer 2000 sy'n gymwysadwy yn nyfroedd y Gymuned ac, yn achos cychod y Gymuned, mewn dyfroedd lle mae'n ofynnol cyfyngu ar yr haldiad a'r Rheoliad diwygio sef Rheoliad (EC) Rhif 66/98, fel y'i cywirwyd gan Gywiriad(12);

  • ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw tramgwydd o dan:

    (a)

    erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn; neu

    (b)

    unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, sef darpariaeth y gellir dwyn achos mewn perthynas â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(13).

(2Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen, coflyfr neu ddatganiad yn cynnwys, yn ogystal â dogfen, coflyfr neu ddatganiad mewn ysgrifen –

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun;

(ii)unrhyw ffotograff;

(iii)unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir drwy gyfrwng system loeren ar gyfer monitro cychod a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93;

(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (nad ydynt yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall neu hebddo);a

(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn, bernir bod ardal pwyllgor pysgodfeydd lleol yn ymestyn ledled ardal unrhyw gyngor yng Nghymru sy'n atebol i dalu costau'r pwyllgor, neu i gyfrannu at eu talu, ac eithrio na fydd unrhyw un o'r pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn i unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n codi o fewn terfynau unrhyw farchnad sydd o dan reolaeth unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn –

(a)at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a

(b)at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

(5Rhaid peidio â darllen colofn 2 o'r Atodlen (sy'n rhoi awgrym mewn perthynas â phob mesur Cymunedol penodedig o bwnc y ddarpariaeth) fel pe bai'n cyfyngu ar gwmpas unrhyw fesur Cymunedol penodedig a chaiff ei hanwybyddu mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn ynghylch dehongli'r Gorchymyn hwn.

Tramgwyddau

3.—(1Pan fydd unrhyw fesur Cymunedol penodedig yn cael ei dorri, neu pan fethir â chydymffurfio ag ef mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota yn y môr cyfagos at Gymru neu drwy i unrhyw gwch pysgota ddod i'r môr cyfagos at Gymru, bydd meistr, perchennog, a siartrwr (os oes un) y cwch pysgota hwnnw bob un yn euog o dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, bydd unrhyw berson sydd, yng Nghymru, yn glanio, yn cludo, yn storio, yn gwerthu, yn arddangos neu yn cynnig gwerthu –

(a)unrhyw bysgodyn yn groes i unrhyw fesur Cymunedol penodedig, neu

(b)unrhyw eog (Salmo salar) neu frithyll môr (Salmo trutta) yn groes i Erthyglau 26(1) neu 36 o Reoliad 850/98,

yn euog o dramgwydd.

(3Ni fydd paragraff (2) uchod yn gymwys i berson sy'n glanio pysgodyn, eog neu frithyll môr os yw'r person hwnnw yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod mewn perthynas â glanio'r pysgodyn, yr eog neu'r brithyll môr hwnnw.

Cosbau

4.—(1Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas â'r tramgwydd yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen mewn perthynas â'r mesur Cymunedol penodedig y bu ei dorri neu fethiant i gydymffurfio ag ef yn sail i'r tramgwydd;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn, neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y dygwyd achos mewn perthynas â'r tramgwydd yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(3Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn yr erthygl hon, caiff y llys y caiff person ei gollfarnu am dramgwydd perthnasol ganddo neu ger ei fron orchymyn –

(a)fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy; a

(b)mewn perthynas â thramgwydd o dan erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd.

(4Bydd unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd perthnasol, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol, yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy.

(5Ni fydd person yn agored i ddirwy o dan baragraff (4) mewn perthynas â thramgwydd perthnasol os yw'r llys, o dan baragraff (3), yn gorchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy; ac os caiff dirwy ei gosod o dan baragraff (4) mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd perthnasol, ni fydd gan y llys bŵ er o dan baragraff (3) i orchymyn fforffedu'r pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd perthnasol mewn perthynas â hwy.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (5), bydd unrhyw ddirwy y mae person yn agored iddi o dan baragraff (4) mewn perthynas â thramgwydd perthnasol yn ychwanegol at unrhyw gosb arall (boed yn gosb ariannol neu fel arall) y mae'r person hwnnw'n agored iddi mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw o dan yr erthygl hon neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Casglu dirwyon

5.—(1Pan osodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog, siartrwr, neu aelod criw cwch pysgota a gollfernir am dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 11 o'r Gorchymyn hwn, fe gaiff y llys –

(a)cyhoeddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r tramgwydd, ei offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo sydd gan y person a gollfarnwyd er mwyn casglu swm y ddirwy; a

(b)gorchymyn cadw'r cwch a'i offer a'i haldiad am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

(2Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(14) (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy o dan erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981(15) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(16) mewn perthynas â dirwy ynglŷn â thramgwydd perthnasol yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi'i gosod gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

6.—(1Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota yn y môr cyfagos at Gymru.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

(3Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol –

(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)er mwyn canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;

(ch)caiff archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch;

(d)heb ragfarn i is-baragraffau (c) ac (ch), caiff ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn trosi'r holl ddogfennau o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol i ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(dd)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond nid oes dim yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

(4Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni ar unrhyw amser, caiff y swyddog —

(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y credir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar y tir

7.—(1Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu unrhyw fesur Cymunedol penodedig, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru—

(a)mynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg resymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg unrhyw fusnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithrediadau sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol iddynt neu mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod;

(b)cymryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;

(c)archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw bersonau sydd yno yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;

(ch)cyflawni yn yr adeiladau hynny unrhyw archwiliadau neu brofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson beidio a symud na pheri symud unrhyw bysgod o'r adeiladau hynny yn ystod unrhyw gyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol i sefydlu a gyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;

(dd)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau yn ei gadwraeth neu ei feddiant mewn perthynas â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod;

(e)er mwyn canfod a oes unrhyw berson yn yr adeiladau wedi cyflawni tramgwydd perthnasol, chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd yn yr adeiladau yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;

(f)archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau;

(ff)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson priodol neu gyfrifol yn trosi unrhyw ddogfen o'r fath i ffurf weladawy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(g)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu iddi neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd.

(2Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo cynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adeiladau ac, yn achos cerbyd, byddant yn cynnwys y pŵer i'w gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg fod cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.

(3Os oes ynad heddwch, ar ôl derbyn hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni –

(a)bod yna sail resymol dros gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig beŵ r o dan yr erthygl hon i'w harchwilio mewn unrhyw adeiladau a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a

(b)naill ai –

(i)bod mynediad i'r adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai gwneud cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad, neu nad yw'r adeiladau yn cael eu meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros i'r meddiannydd ddychwelyd rwystro bwriad y mynediad;

fe gaiff yr ynad drwy gyfrwng gwarant a lofnodir ganddo ac a fydd yn ddilys am fis, awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd i'r adeiladau, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, ac i fynd â'r personau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol gydag ef.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i gipio pysgod ac offer pysgota

8.  Yng Nghymru ac yn y môr cyfagos at Gymru, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig gipio –

(a)unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal y pysgod) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy; a

(b)unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros amau eu bod wedi'u defnyddio wrth gyflawni tramgwydd perthnasol.

Pwerau swyddogion eraill

9.—(1Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, i'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth o'r fath yn gymwys i bysgod sy'n rhy fach, caiff unrhyw un o'r swyddogion a restrir ym mharagraff (2) isod, wrth weithredu yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru, ar bob adeg resymol –

(a)mynd ar fwrdd unrhyw gwch pysgota Prydeinig,

(b)mynd i mewn i unrhyw dir neu adeiladau (heblaw annedd) a ddefnyddir ar gyfer rhedeg unrhyw fusnes mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod,

(c)chwilio am unrhyw bysgod a'u harchwilio mewn unrhyw le, boed ar fwrdd cwch pysgota neu mewn man arall, a boed mewn cynhwysydd neu beidio; ac

(ch)cipio unrhyw bysgod y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod tramgwydd perthnasol mewn perthynas â physgod rhy fach wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy.

(2Dyma'r swyddogion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o'r erthygl hon –

(a)unrhyw swyddog a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)unrhyw swyddog i awdurdod marchnadoedd yng Nghymru, yn gweithredu o fewn terfynau unrhyw farchnad y mae gan yr awdurdod hwnnw bŵ er i'w rheoleiddio; ac

(c)unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol yn gweithredu o fewn unrhyw ran o ardal y pwyllgor sydd yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru.

(3Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol penodedig, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhwydi ac offer pysgota arall, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd i bwyllgor pysgodfeydd lleol, mewn unrhyw ran o ardal y pwyllgor sydd yng Nghymru neu yn y môr cyfagos at Gymru, fynd ar fwrdd unrhyw gwch pysgota Prydeinig a chwilio am bob rhwyd neu offer pysgota arall ac unrhyw bysgod sy'n cael eu cario yn y cwch hwnnw a'u harchwilio, a chaiff gipio unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros gredu bod tramgwydd perthnasol yn ymwneud â rhwydi neu offer pysgota arall wedi'i gyflawni mewn perthynas â hwy.

Amddiffyn swyddogion

10.  Ni fydd swyddog na pherson sy'n ei helpu yn rhinwedd erthglau 6(2), 7(1)(b) neu 7(3) o'r Gorchymyn hwn yn atebol mewn unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Rhwystro swyddogion

11.  Bydd unrhyw berson sydd –

(a)heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a roddwyd i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig gan erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu'n ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath; neu

(c)yn ymosod ar swyddog sydd wrthi yn arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn neu yn fwriadol yn llesteirio unrhyw swyddog o'r fath sydd wrthi yn arfer unrhyw un o'r pwerau hynny;

yn euog o drosedd, ac yn agored –

(i)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol; neu

(ii)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Darpariaethau ynglŷn â thramgwyddau

12.—(1Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforedig, neu berson yn cymryd arno neu'n ymddangos fel pe bai'n gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(3Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o'r gymdeithas neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r gymdeithas, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

Achosion

13.—(1Caiff pwyllgor pysgodfeydd lleol ddwyn achos o dan unrhyw un o'r darpariaethau a restrir ym mharagraff (2) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd sy'n digwydd o fewn unrhyw ran o ardal y pwyllgor sydd yng Nghymru neu yn y mô r cyfagos at Gymru.

(2Dyma'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) –

(a)erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, pan yw'r tramgwydd wedi'i seilio ar dorri'r canlynol, neu ar fethu â chydymffurfio â hwy –

(i)Erthyglau 4, 6, 7, 8, 9, 11, 14 i 16, 18, 19, 26 a 30 i 34 o Reoliad 850/98, neu

(ii)paragraffau 4, 6 a 9 o Atodiad V i Reoliad 2742/99; neu

(b)erthygl 3(2)(a) o'r Gorchymyn hwn.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth

14.—(1Bydd unrhyw —

(a)coflyfr a gedwir o dan Erthyglau 6, 17.2 neu 28c;

(b)datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f;

(c)adroddiad ymdrech a gwblheir o dan Erthyglau 19b a 19c;

(ch)dogfen a lunnir o dan Erthyglau 9 neu 13; a

(d)dogfen yn cynnwys gwybodaeth a fynnwyd a ddaeth i law canolfan monitro pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3.7,

o Reoliad 2847/93 mewn unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd perthnasol, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “gwybodaeth a fynnwyd” yw –

(a)adnabyddiaeth cwch pysgota;

(b)lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota wedi'i fynegi mewn graddau a munudau o hydred a lledred; ac

(c)dyddiad ac amser pennu'r lleoliad hwnnw;

fel y maent wedi'u cyfathrebu drwy gyfrwng system loeren ar gyfer monitro cychod a sefydlwyd o dan Erthyg 3(1) o Reoliad 2847/93.

Diddymu

  • 15.  Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) 1997(17) a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Diwygio) 1997(18) drwy hyn wedi'u diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru a'r môr cyfagos at Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Awst 2000

Erthyglau 2(1)a 4(1)

ATODLENUCHAFSWM DIRWYON AR GOLLFARNIAD DIANNOD (HEBLAW DIRWYON SY'N GYSYLLTIEDIG Å GWERTH PYSGOD)

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Y Ddarpariaeth GymunedolY PwncUchafswm y ddirwy ar gollfarniad diannod
Rhan I
Rheoliad 894/97
Erthygl 11Darpariaethau ynghylch rhwydi drifft.Yr uchafswm statudol
Rhan II
Rheoliad 850/981

1.  Erthygl 4, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 5 a 10

Darpariaethau ynghylch maint rhwyllau, y rhywogaethau a dargedir, a'r haldiad sy'n gyfreithiol wrth ddefnyddio offer sy'n cael eu tynnu.Yr uchafswm statudol

2.  Erthygl 5(3)

Gwaharddiad ar drawslwytho heb lenwi coflyfr yn unol â darpariaethau Erthygl 6 o Reoliad 2847/93.£50,000

3.  Erthygl 6

Cyfyngiad ar uchafswm y rhwyllau mewn offer penodol sy'n cael ei dynnu.Yr uchafswm statudol

4.  Erthygl 7

Darpariaethau ynghylch cynnwys panelau sgwâr o rwyllau mewn offer penodedig sy'n cael ei dynnu, a lleoliad y panelau hynny.Yr uchafswm statudol

5.  Erthygl 8(1) a (2), fel y'i darllenir gydag Erthygl 8(3)

Cyfyngiad ar drwch y llinyn mewn offer sy'n cael ei dynnu.Yr uchafswm statudol

6.  Erthygl 9(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 9(2)

Gwaharddiad ar gario neu ddefnyddio offer sy'n cael ei dynnu a wnaed yn llwyr neu yn rhannol o rwydi heblaw'r mathau a bennwyd.Yr uchafswm statudol

7.  Erthygl 11, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 12 a 13

Cyfyngiadau ar ddefnyddio offer sefydlog penodedig neu eu cadw ar fwrdd y cwch.Yr uchafswm statudol

8.  Erthygl 14

Gofyniad i ddidoli haldiadau yn union ar ôl eu tynnu o'r rhwydi.Yr uchafswm statudol

9.  Erthygl 15

Gwaharddiad ar lanio neu gadw pysgod uwchlaw canrannau penodedig.Yr uchafswm statudol

10.  Erthygl 16

Gwaharddiad ar ddyfeisiau sy'n llesteirio rhwydi.Yr uchafswm statudol

11.  Erthygl 18(3)

Gwaharddiad ar gadw a glanio cimychiaid, cimychiaid yr afon, a molysgiaid deufalf a gastropod oni bai eu bod yn gyfan.Yr uchafswm statudol

12.  Erthygl 18(4)

Gwaharddiad ar gadw a glanio crancod bwytadwy oni bai eu bod yn gyfan, yn ddarostyngedig i uchafswm wedi'i fynegi fel canran ar gyfer cadw a glanio crafangau sydd wedi'u datod.Yr uchafswm statudol

13.  Erthygl 19(1), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17, 18(1)-(2), 19(2)- (3) a 35

Gwaharddiad ar gadw, trawslwytho, glanio, cludo, storio, gwerthu, cynnig gwerthu ac arddangos pysgod sy'n rhy fach.Yr uchafswm statudol

14.  Erthygl 20(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 20(2) a (3)

Gwaharddiad ar bysgota am benwaig mewn dyfroedd penodedig yn ystod adegau penodedig.£50,000

15.  Erthygl 21(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 21(2)

Gwaharddiad ar bysgota am gorbenwaig mewn dyfroedd penodedig yn ystod adegau penodedig.£50,000

16.  Erthygl 22(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 22(2) a (3)

Gwaharddiad ar bysgota am fecryll mewn dyfroedd penodedig yn ystod adegau penodedig.£50,000

17.  Erthygl 23(1)

Gwaharddiad ar bysgota am frwyniaid â threillrwydi cefnforol yn Adran VIIIc ICES, a'u cadw ar fwrdd y cwch.£50,000

18.  Erthygl 23(2)

Gwaharddiad ar gario treillrwydi cefnforol a rhwydi crychu sân ar fwrdd y cwch ar yr un pryd yn Adran VIIIc ICES.Yr uchafswm statudol

19.  Erthygl 24

Gwaharddiad ar bysgota am diwna sgipjac a thiwna llygadfawr drwy ddefnyddio offer penodedig, a chadw'r rhywogaethau hyn ar fwrdd y cwch os cawsant eu dal â'r offer hyn, mewn ardaloedd penodedig o dan awdurdodaeth Sbaen a Phortiwgal.£50,000

20.  Erthygl 25(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 25(2) a (3)

Gwaharddiad ar gadw berdys ar fwrdd y cwch os cawsant eu dal ag offer penodedig.£50,000

21.  Erthygl 26(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 26(2)

Gwaharddiad ar gadw, trawslwytho, glanio, cludo, storio, gwerthu, cynnig gwerthu ac arddangos eogiaid a brithyllod môr a ddaliwyd drwy ddefnyddio offer yn cael ei dynnu neu o fewn dyfroedd penodedig.Yr uchafswm statudol

22.  Erthygl 27(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 27(2)

Gwaharddiad ar gadw ar fwrdd y cwch swtaniaid Norwy a ddaliwyd drwy ddefnyddio offer yn cael ei dynnu mewn dyfroedd penodedig.£50,000

23.  Erthygl 28(1)

Gwaharddiad ar bysgota am gegdduod mewn dyfroedd penodedig yn ystod adegau penodedig.£50,000

24.  Erthygl 28(2)

Gwaharddiad ar gario offer penodedig mewn dyfroedd penodedig oni bai ei fod wedi'i rwymo ac wedi'i roi i gadw yn unol â'r darpariaethau a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad 2847/93.Yr uchafswm statudol

25.  Erthygl 29

Cyfyngiadau ar bysgota am ledod gan gychod penodol drwy ddefnyddio offer penodedig mewn dyfroedd penodedig.£50,000

26.  Erthygl 30(1)

Darpariaethau ynghylch defnyddio offer dyfnforol yn cael ei dynnu.Yr uchafswm statudol

27.  Erthygl 30(2) a (3)

Gwaharddiad ar ddefnyddio offer penodol sy'n cael ei dynnu mewn dyfroedd penodedig oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain y Deyrnas Unedig ac yn Adran Vb ICES ac is-ardal VI ICES. Gwaharddiad ar gario offer penodol sy'n cael ei dynnu mewn dyfroedd penodedig oni bai ei fod wedi'i rwymo ac wedi'i roi i gadw yn unol â'r darpariaethau a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad 2847/93.Yr uchafswm statudol

28.  Erthygl 31(1) a (2), fel y'i darllenir gydag Erthygl 41

Gwaharddiad ar ddefnyddio ffrwydron, sylweddau cysgbeiriol neu gerrynt trydan i bysgota. Gwaharddiad ar werthu, arddangos neu gynnig gwerthu unrhyw organeddau morol a ddaliwyd drwy ddefnyddio dulliau sy'n cynnwys defnyddio unrhyw fath o daflegryn.Yr uchafswm statudol

29.  Erthygl 32(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 32(2) a (3)

Darpariaethau ynghylch defnyddio offer graddio awtomatig.Yr uchafswm statudol

30.  Erthygl 33(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 33(2) a 33(3)

Cyfyngiadau ar ddefnyddio treillrwydi trawst o fewn 12 milltir i arfordiroedd y Deyrmas Unedig ac Iwerddon.Yr uchafswm statudol

31.  Erthygl 34

Gwaharddiad ar amgylchynu mamaliaid morol â rhwydi crychu sân.Yr uchafswm statudol

32.  Erthygl 35

Cyfyngiadau ar gadw ar fwrdd y cwch, trawslwytho, storio, cludo, arddangos neu gynnig gwerthu organeddau rhy fach a ddaliwyd yn y Skagerrak a'r Kattegat.£50,000

33.  Erthygl 36

Gwaharddiad ar lanio, cadw ar fwrdd y cwch, trawslwytho, storio, cludo, gwerthu, arddangos neu gynnig gwerthu eogiaid a brithyllod môr a ddaliwyd o fewn unrhyw ran o'r Skagerrak a'r Kattegat y tu allan i'r ffin pedair-milltir wedi'i mesur o waelodlinau'r Aelod-wladwriaethau.£50,000

34.  Erthygl 37(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 37(2)

Cyfyngiadau ar ddefnyddio treillrwydi penodol o fewn 3 milltir o'r gwaelodlinau yn y Skagerrak a'r Kattegat rhwng 1 Gorffennaf a 15 Medi.£50,000

35.  Erthygl 38

Gwaharddiad ar gadw ar fwrdd y cwch benwaig, mecryll a chorbenwaig a ddaliwyd drwy ddefnyddio rhwydi crychu sân neu dreillrwydi rhwng amserau penodedig yn y Skagerrak neu'r Kattegat.£50,000

36.  Erthygl 39

Gwaharddiad ar ddefnyddio treillrwydi trawst yn y Kattegat.£50,000

37.  Erthygl 40

Gwaharddiad, yn ystod y cyfnodau ac yn yr ardaloedd y cyfeirir atynt yn Erthyglau 37, 38 a 39 lle na chaniateir defnyddio treillrwydi na threillrwydi trawst, ar gario'r rhwydi hyn ar fwrdd y cwch oni bai eu bod wedi'u rhwymo ac wedi'u rhoi i gadw yn unol â'r darpariaethau a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad 2847/93.Yr uchafswm statudol

38.  Erthygl 42(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 42(2)

Gwaharddiad ar brosesu pysgod (ac eithrio offal) yn gorfforol neu yn gemegol, neu eu trawslwytho i'w prosesu ar fwrdd cwch neu long pysgota er mwyn cynhyrchu blawd pysgod, olew pysgod, neu gynhyrchion tebyg.Yr uchafswm statudol
Rhan III
Rheoliad 2742/99
Erthygl 9, fel y'i darllenir gydag:

(a)paragraff 3 o Atodiad V

Gwaharddiad ar bob pysgota yn Nyfnfor Bornholm o 15 Mai i 31 Awst 2000 yn gynwysedig.£50,000

(b)paragraff 4 o Atodiad V

Gwaharddiad yn ystod y flwyddyn 2000 ar lanio neu gadw ar fwrdd y cwch lymrïaid a ddaliwyd o fewn ardal a ffinnir gan arfordir dwyrain Lloegr a'r Alban.£50,000

(c)paragraff 6 o Atodiad V

Defnyddio rhwyllau o 90mm o leiaf ar gyfer pysgota am ledod chwithig yn Adrannau IVc a VIId ICES yn ystod y flwyddyn 2000.Yr uchafswm statudol

(d)paragraff 8 o Atodiad V

Gofynion ynghylch sgil-haldiadau a maint rhwyllau yn y Skagerrak a'r Kattegat yn ystod y flwyddyn 2000.Yr uchafswm statudol

(e)paragraff 9 o Atodiad V

Lledod i fod yn 27cm o leiaf i gael eu glanio yn ystod y flwyddyn 2000.Yr uchafswm statudol

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) 1997 (O.S. 1997/1949) a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/2841) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (erthygl 15).

Mae'r Gorchymyn yn ail-ddeddfu darpariaethau ar gyfer gorfodi Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 894/97 (OJ Rhif L132, 23.5.97, t.1) sy'n pennu mesurau technegol penodol ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd (“Rheoliad 894/97”).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi cyfyngiadau a rhwymedigaethau a gynhwysir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1), ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc, fel y'i diwygiwyd (“Rheoliad 850/98”).

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri: Erthygl 11 o Reoliad 894/97; darpariaethau Rheoliad 850/98 y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yn fyr yng ngholofn 2) o'r Atodlen i'r Gorchymyn; darpariaethau Rheoliad 850/98 y cyfeirir atynt yn erthygl 3(2) ; a mesurau technegol sy'n gymwys yn 2000 yn rhinwedd Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EC) 2742/99 (OJ Rhif L341, 31.12.99, t.1). Pennir cosbau, a all gynnwys fforffedu pysgod, rhwydi ac offer pysgota arall, ar gyfer y tramgwyddau hyn (erthygl 4).

Mae'r Gorchymyn yn rhoi pwerau gorfodi, mewn perthynas â chychod pysgota ac ar y tir, i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig sy'n gweithredu yng Nghymru ac yn y môr cyfagos at Gymru. Mae'r pwerau hynny yn ymestyn i gipio pysgod ac offer pysgota (erthyglau 6, 7 ac 8). Rhoddir pwerau i swyddogion eraill hefyd mewn perthynas â physgod sy'n rhy fach a rhwydi ac offer pysgota (erthygl 9). Gwneir darpariaeth ar gyfer cosbi unrhyw un a geir yn euog o rwystro swyddog neu ymosod ar swyddog (erthygl 11).

Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn troseddwyr ac ar gyfer achosion gan bwyllgorau pysgodfeydd lleol (erthygl 13). £5,000 yw uchafswm statudol y gosb y cyfeirir ati yn y Gorchymyn ar hyn o bryd.

Mae'r Gorchymyn yn darparu pwerau ar gyfer casglu dirwyon a osodir gan lys ynadon (erthygl 5).

Yn erthyglau 10, 12 a 14 ceir darpariaethau atodol.

(1)

1981 p.29. Gweler adran 30(3) i gael y diffiniadau o “enforceable Community restriction”, “enforceable Community obligation” ac “the Ministers” fel y'u diwygiwyd gan Atodlen 2 paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Yn rhinwedd Erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

1966 p.38. Dirymwyd adran 1 yn rhannol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran 272(1) ac Atodlen 30; a'i hamnewid yn rhannol, mewn perthynas â Chymru, gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), adran 66(6) ac Atodlen 16, paragraff 26(1).

(4)

OJ Rhif L261, 20.10.93, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2846/98 (OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5).

(5)

OJ Rhif L132, 23.5.97, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1239/98 (OJ Rhif L171, 17.6.98, t.1). Ac eithrio Erthyglau 11, 18, 19 ac 20, mae Rheoliad 894/97 wedi'i ddirymu gan Erthygl 49 o Reoliad y Cyngor o 1 Ionawr 2000 ymlaen.

(6)

OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1.

(7)

OJ Rhif L318, 27.11.98, t.63.

(8)

OJ Rhif L038, 12..2.99, t.6.

(9)

OJ Rhif L168, 3.7.99, t.1.

(10)

OJ Rhif L328, 22.12.99, t.9.

(11)

OJ Rhif L341, 31.12.99, t.1.

(12)

OJ Rhif L31, 5.2.2000, t.89.

(13)

Mewnosodwyd adran 30(2A) gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999.

(14)

1980 p.43; troswyd yr uchafsymiau dirwyon yn adran 78 yn lefelau ar y raddfa safonol gan adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48).

(16)

1995 p.46.

(19)

1998 p.38.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill