- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 2
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “adroddiad” (“report”) yw'r adroddiad a gynhyrchir gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru yn unol ag adran 71(3)(a) neu 72(1) o'r Ddeddf, y mae copi ohono wedi'i anfon neu wedi'i roi i lywydd Panel Dyfarnu Cymru yn unol ag adran 71(3)(c) neu 72(5)(c) o'r Ddeddf;
ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr o ddyfarniadau a phenderfyniadau a gedwir yn unol â'r darpariaethau hyn;
ystyr “cofrestrydd” (“registrar”) yw'r person sydd am y tro yn gweithredu fel cofrestrydd tribiwnlysoedd ac mae'n cynnwys unrhyw berson a awdurdodir at y diben gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
ystyr “person a gyhuddwyd” (“accused person”) yw person sy'n destun yr ymchwiliad a arweiniodd at y cyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru o dan adran 71(3) neu 72(4) o'r Ddeddf;
F1...; ac
ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys achos a sefydlir o dan adran 76(1) o'r Ddeddf neu dribiwnlys achos interim a sefydlir o dan adran 76(2) o'r Ddeddf (yn ôl fel y digwydd).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. para. 1 wedi eu hepgor (19.10.2009 gyda chais yn unol â rhl. 1(2)) yn rhinwedd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2578), rhlau. 1(1), 6(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
2. Yn dilyn cyfeiriad gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan adran 71(3) neu 72(4) o'r Ddeddf, rhaid i'r cofrestrydd—
(a)anfon cydnabyddiaeth at y Comisiynydd Lleol o'r ffaith bod y cyfeiriad wedi dod i law;
(b)nodi manylion y cyfeiriad yn y gofrestr;
(c)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw berson a gyhuddwyd ynghylch y cyfeiriad, rhif yr achos a nodwyd yn y gofrestr (a fydd yn ffurfio teitl y dyfarniad) a'r cyfeiriad lle y mae'n rhaid anfon hysbysiadau a gohebiaeth arall at y tribiwnlys; ac
(ch)anfon gyda'r hysbysiad gopi o'r adroddiad ac unrhyw wybodaeth arall sy'n briodol i'r achos gan gynnwys gwybodaeth ynghylch traddodi ateb.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 2 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
3.—(1) Rhaid i berson a gyhuddwyd draddodi ateb ysgrifenedig i'r cofrestrydd sy'n cydnabod bod yr hysbysiad wedi dod i law ac yn datgan—
(a)a yw'r person hwnnw yn bwriadu
(i)bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, neu
(ii)herio cynnwys yr adroddiad ac, os felly, ar ba sail;
(b)enw a chyfeiriad a phroffesiwn unrhyw berson sydd i'w gynrychioli ac ai'r cyfeiriad hwnnw fydd cyfeiriad y person hwnnw ar gyfer cyflwyno dogfennau at ddibenion y dyfarniad; ac
(c)a yw'r person hwnnw yn dymuno bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Gymraeg neu yn Saesneg.
(2) Rhaid i ateb o'r fath gael ei lofnodi naill ai gan y person a gyhuddwyd neu gan y cynrychiolydd y mae wedi'i enwebu a chael ei draddodi i'r cyfeiriad ar gyfer y tribiwnlys a bennwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan baragraff 2(c) uchod heb fod yn hwyrach nag un diwrnod ar hugain ar ôl y dyddiad y daeth yr hysbysiad i law neu erbyn unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y tribiwnlys yn ei ganiatáu.
(3) Os na chaiff y cofrestrydd ateb o fewn yr amser penodedig neu o fewn unrhyw estyniad amser a ganiateir gan y tribiwnlys, neu os yw'r person a gyhuddwyd yn datgan yn ei ateb nad yw'n bwriadu naill ai bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad na herio cynnwys yr adroddiad, caiff y tribiwnlys benderfynu ar y dyfarniad heb wrandawiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 3 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
4. Caiff person a gyhuddwyd sydd wedi traddodi ateb ysgrifenedig i'r cofrestrydd sy'n datgan nad yw'n bwriadu bod yn bresennol na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad na herio cynnwys yr adroddiad anfon at y cofrestrydd sylwadau ysgrifenedig y mae'n rhaid iddynt gael eu hystyried gan y tribiwnlys cyn i benderfyniad ar yr achos gael ei wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 4 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
5.—(1) Caiff y tribiwnlys ar unrhyw adeg, ar gais person a gyhuddwyd neu o'i ben a'i bastwn ei hun, roi cyfarwyddiadau i alluogi'r person hwnnw i baratoi ar gyfer y gwrandawiad neu i helpu'r tribiwnlys i benderfynu ar y materion.
(2) Rhaid i gais am gyfarwyddiadau gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r cofrestrydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 5 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
6. Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu unrhyw fanylion y mae'n rhesymol gofyn amdanynt er mwyn penderfynu ar y dyfarniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 6 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
7. Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson draddodi i'r tribiwnlys unrhyw ddogfen neu ddeunyddiau eraill y gall y tribiwnlys ofyn amdanynt ac y mae gan y person hwnnw bŵ er i'w traddodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. para. 7 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
8. Caiff y tribiwnlys, drwy wŷs, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y Deyrnas Unedig (ac eithrio Comisiynydd Lleol yng Nghymru ac unrhyw aelod o staff y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru) fod yn bresennol fel tyst yng ngwrandawiad dyfarniad ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw le a bennir yn y wŷs ac ateb unrhyw gwestiynau neu ddangos unrhyw ddogfennau neu ddeunyddiau eraill yn y gwrandawiad sydd yn ei gadwraeth neu o dan ei reolaeth sy'n ymwneud ag unrhyw fater sydd o dan sylw yn y dyfarniad, ar yr amod—
(a)na fydd yn ofynnol i unrhyw berson fod yn bresennol gan ufuddhau i wŷs o'r fath oni bai ei fod wedi cael o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg o hysbysiad am y gwrandawiad neu, o gael llai na phedwar diwrnod ar ddeg, ei fod wedi rhoi gwybod i'r tribiwnlys ei fod yn derbyn unrhyw hysbysiad o'r fath sydd wedi'i roi; a
(b)na fydd yn ofynnol i unrhyw berson, heblaw person a gyhuddwyd, gan ufuddhau i wŷs o'r fath, fod yn bresennol a rhoi tystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen oni bai bod treuliau angenrheidiol bod yn bresennol yn cael eu talu neu eu cynnig iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. para. 8 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yr hawl i fod yn bresennol, a chaniateir i'r tribiwnlys wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod yn bresennol, mewn gwrandawiad dyfarnu at ddibenion—
(a)cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a
(b)fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r tribiwnlys yn y gwrandawiad ag y mae'r tribiwnlys yn ystyried ei bod yn briodol.
(2) Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan is-baragraff (1) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru roi rhesymau ysgrifenedig i'r tribiwnlys am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol mewn gwrandawiad.
(3) Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gael ei gynrychioli gan gwnsler neu gyfreithiwr.]
Diwygiadau Testunol
F2Atod. para. 9 wedi ei amnewid (19.10.2009 gyda chais yn unol â rhl. 1(2)) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2578), rhlau. 1(1), 6(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. para. 9 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
10.—(1) Pan fydd y tribiwnlys yn barnu bod unrhyw gwestiwn yn codi y byddai'n ddymunol cael cymorth arbenigydd yn ei gylch, caiff wneud trefniadau i berson â chymwysterau priodol ymchwilio i'r mater ac adrodd arno ac, os bydd y tribiwnlys yn gofyn iddo wneud hynny, i fod yn bresennol yn y gwrandawiad a rhoi tystiolaeth
(2) Rhaid darparu copi o adroddiad a geir oddi wrth arbenigydd i bob person a gyhuddywd cyn y gwrandawiad neu unrhyw wrandawiad sy'n cael ei ailddechrau.
(3) Rhaid i'r tribiwnlys fod yn gyfrifol am dalu ffioedd arbenigydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. para. 10 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
11. Os na chafodd person y cyfeirir cyfarwyddyd (gan gynnwys unrhyw wŷs) ato gyfle i wrthwynebu gwneud y cyfarwyddyd, caiff wneud cais i'r tribiwnlys am ei amrywio neu ei neilltuo ond rhaid i'r tribiwnlys beidio â gwneud hynny heb yn gyntaf hysbysu'r person a wnaeth y cais am y cyfarwyddyd ac ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. para. 11 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
12.—(1) Os bydd yn ymddangos i'r tribiwnlys y byddai cynnal adolygiad cyn gwrandawiad yn hwyluso dyfarniad, caiff roi cyfarwyddiadau, o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar gais person a gyhuddwyd, i adolygiad o'r fath gael ei gynnal. Rhaid i'r cofrestrydd roi o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg o rybudd ynghylch amser a lle'r adolygiad i bob person a gyhuddwyd.
(2) Rhaid cynnal yr adolygiad yn breifat oni bai bod y tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall ac fe gaiff unrhyw person a gyhuddwyd ymddangos a chael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.
(3) Mewn adolygiad:—
(a)rhaid i'r tribiwnlys neu, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), y cofrestrydd roi pob cyfarwyddyd y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol neu'n ddymunol i sicrhau bod y dyfarniad yn cael ei gynnal yn gyfiawn, yn fuan ac yn ddarbodus;
(b)rhaid i'r tribiwnlys neu,yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), y cofrestrydd ymdrechu i sicrhau bod unrhyw berson a gyhuddwyd yn gwneud pob addefiad a chytundeb a ddylai gael eu gwneud yn rhesymol mewn perthynas â'r dyfarniad; ac
(c)fe gaiff y tribiwnlys, os bydd pob person a gyhuddwyd yn cytuno, benderfynu ar y dyfarniad yn ôl y dogfennau a'r datganiadau sydd ger ei fron ar y pryd heb unrhyw wrandawiad pellach.
(4) Rhaid i'r cofrestrydd arfer y pwerau a roddir iddo gan is-baragraff (3)(a) a (b) yn unol â chyfarwyddiadau'r tribiwnlys a gall unrhyw gyfarwyddyd sy'n cael ei roi gan y cofrestrydd gael ei neilltuo neu ei amrywio gan y tribiwnlys o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar gais person a gyhuddwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. para. 12 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
13.—(1) Rhaid i'r cofrestrydd bennu dyddiad, amser a lle y gwrandawiad ac anfon hysbysiad am y gwrandawiad at unrhyw berson a gyhuddwyd heb fod yn llai nag un diwrnod ar hugain cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Yn hysbysiad y gwrandawiad neu gydag ef rhaid i'r cofrestrydd gynnwys—
(a)gwybodaeth a chanllawiau, ar ffurf a gymeradwywyd gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru, ynghylch presenoldeb tystion yn y gwrandawiad, dod â dogfennau, a'r hawl i gael eich cynrychioli gan berson arall; ac
(b)datganiad sy'n esbonio canlyniadau posibl peidio â bod yn bresennol a hawl unrhyw berson a gyhuddwyd sydd wedi traddodi ateb ond nad yw'n bresennol ac nad yw'n cael ei gynrychioli i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
(3) Caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad a rhaid i'r cofrestrydd roi nid llai na saith diwrnod o hysbysiad o unrhyw ohiriad o'r fath i unrhyw berson a gyhuddwyd.
(4) O dro i dro caiff y tribiwnlys dorri gwrandawiad ac, os caiff amser a lle y gwrandawiad a dorrwyd eu cyhoeddi cyn y toriad, ni fydd angen hysbysiad pellach.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. para. 13 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
14. Rhaid i'r cofrestrydd drefnu bod y rhestr o'r holl ddyfarniadau y cynhelir gwrandawiad llafar ar eu cyfer ac o ddyddiad, amser a lle y gwrandawiad ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. para. 14 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
15.—(1) Caiff y tribiwnlys—
(a)os yw pob person a gyhuddwyd yn cytuno felly yn ysgrifenedig, neu
(b)o dan yr amgychiadau a ddisgrifir ym mhararagraff 3(3) uchod,
benderfynu ar ddyfarniad, neu ar unrhyw fater penodol, heb wrandawiad.
(2) Bydd darpariaethau paragraffau 17(2) ac 18(6) yn gymwys mewn perthynas â phenderfynu ar ddyfarniad, neu ar unrhyw fater penodol, yn unol â'r paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. para. 15 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
16.—(1) Rhaid i holl wrandawiadau tribiwnlys gael eu cynnal yn gyhoeddus ac eithrio pan yw'r tribiwnlys o'r farn y byddai cyhoeddusrwydd yn niweidio buddiannau cyfiawnder.
(2) Bydd gan y personau canlynol hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad, p'un a gaiff ei gynnal yn breifat neu beidio—
(a)llywydd ac aelodau Panel Dyfarnu Cymru, neu unrhyw aelod ohono, er nad hwy yw'r tribiwnlys at ddibenion y gwrandawiad;
F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)Comisiynydd Lleol yng Nghymru neu gynrychiolydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru; ac
(ch)swyddog monitro awdurdod y mae'r person a gyhuddwyd yn aelod neu'n aelod cyfetholedig ohono [F4neu gynrychiolydd y swyddog monitro] .
(3) Caiff y tribiwnlys ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat.
(4) Heb ragfarnu unrhyw bwerau a all fod ganddo, caiff tribiwnlys wahardd o wrandawiad, neu o ran honno, unrhyw berson y mae ei ymddygiad wedi tarfu ar y gwrandawiad, neu'n debygol o darfu arno ym marn y tribiwnlys.
Diwygiadau Testunol
F3Atod. para. 16(2)(b) wedi ei hepgor (19.10.2009 gyda chais yn unol â rhl. 1(2)) yn rhinwedd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2578), rhlau. 1(1), 6(3)(a)
F4Geiriau yn Atod. para. 16(2)(ch) wedi eu mewnosod (19.10.2009 gyda chais yn unol â rhl. 1(2)) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2578), rhlau. 1(1), 6(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. para. 16 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
17.—(1) Os bydd person a gyhuddwyd yn methu â bod yn bresennol neu â chael ei gynrychioli mewn gwrandawiad y mae wedi'i hysbysu'n briodol amdano, caiff y tribiwnlys—
(a)oni bai ei fod wedi'i fodloni bod rheswm digonol dros yr absenoldeb hwnnw, wrando a phenderfynu ar y dyfarniad yn absenoldeb y person hwnnw; neu
(b)torri'r gwrandawiad;
a chaiff wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau a threuliau a wêl yn dda.
(2) Cyn penderfynu y dylid penderfynu ar ddyfarniad yn absenoldeb person a gyhuddwyd, rhaid i'r tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y person hwnnw mewn ymateb i'r hysbysiad am y gwrandawiad ac, at ddibenion y paragraff hwn, rhaid trin unrhyw ateb fel sylw ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. para. 17 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
18.—(1) Ar ddechrau'r gwrandawiad rhaid i'r cadeirydd esbonio'r drefn y mae'r tribiwnlys yn bwriadu ei mabwysiadu ar gyfer yr achos.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraff hwn, bydd y tribiwnlys yn cynnal y gwrandawiad yn y modd hwnnw sydd fwyaf addas ym marn y tribiwnlys i egluro'r materion sydd ger ei fron ac sydd fwyaf addas yn gyffredinol ar gyfer trafod y dyfarniad yn gyfiawn; cyn belled ag y bo'n ymddangos i'r tribiwnlys fod hynny'n briodol, rhaid i'r tribiwnlys geisio osgoi ffurfioldeb yn ei achosion.
(3) Gall y gwrandawiad gael ei gynnal naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg yn ôl cyfarwyddyd y tribiwnlys ac wrth roi cyfarwyddyd o'r fath rhaid i'r tribiwnlys gymryd i ystyriaeth unrhyw ddewis a nodwyd gan berson a gyhuddwyd mewn ateb a draddodwyd o dan baragraff 3, ac, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gweithredu'r dewis hwnnw . Yn y naill achos neu'r llall rhaid i wasanaeth cyfieithu ar y pryd gael ei ddarparu ar gyfer unrhyw berson sy'n bresennol yn y gwrandawiad ac sy'n gofyn amdano.
(4) Bydd gan unrhyw berson a gyhuddwyd hawl i roi tystiolaeth, i alw tystion, i holi unrhyw dystion ac i gyfarch y tribiwnlys ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar bwnc y dyfarniad.
(5) Gall tystiolaeth gerbron y tribiwnlys gael ei rhoi ar lafar, neu, os yw'r tribiwnlys yn gorchymyn felly, drwy affidafid neu ddatganiad ysgrifenedig, ond caiff y tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg yn yr achos i unrhyw un sy'n tystio datganiad ysgrifenedig neu'n gwneud un fod yn bresennol.
(6) Caiff y tribiwnlys dderbyn tystiolaeth o unrhyw ffaith y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys ei bod yn berthnasol er na fyddai'r dystiolaeth honno yn dderbyniadwy mewn achos gerbron llys barn ond rhaid iddo beidio â gwrthod derbyn unrhyw dystiolaeth sy'n dderbyniadwy yn y gyfraith ac yn berthnasol.
(7) Caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dyst roi tystiolaeth ar lw neu ar gadarnhad, ac at y diben hwnnw gall llw neu gadarnhad ar ffurf briodol gael eu rhoi.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. para. 18 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
19.—(1) Gall penderfyniad tribiwnlys gael ei gymryd gan fwyafrif a rhaid i'r penderfyniad gofnodi a fu'n unfrydol neu a gafodd ei gymryd gan fwyafrif.
(2) Gall penderfyniad tribiwnlys gael ei roi ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ei gadw a, beth bynnag, p'un a gafwyd gwrandawiad neu beidio, rhaid ei gofnodi ar unwaith mewn dogfen y mae'n rhaid iddi gynnwys hefyd ddatganiad o'r rhesymau dros ei benderfyniad a chael ei llofnodi a'i dyddio gan y cadeirydd.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i bob dogfen y cyfeirir ati yn y paragraff hwn gael ei chofnodi yn y gofrestr cyn gynted ag y gellir.
(4) Os bydd unrhyw ddogfen o'r fath yn cyfeirio at unrhyw dystiolaeth sydd wedi'i gwrando yn breifat, dim ond crynodeb o'r ddogfen a nodir yn y gofrestr, gan hepgor unrhyw ddeunydd a gyfarwyddir gan y tribiwnlys.
(5) Ac eithrio lle cyhoeddir penderfyniad ar ddiwedd y gwrandawiad, trinnir y ddogfen sy'n ei gofnodi fel pe bai wedi'i gwneud ar y dyddiad y caiff ei chofnodi yn y gofrestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. para. 19 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
20.—(1) Ac eithrio fel y darperir gan baragraff 17(1), rhaid i'r tribiwnlys beidio â gwneud gorchymyn fel rheol i ddyfarnu costau a threuliau, ond yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), fe gaiff wneud gorchymyn o'r fath yn erbyn person os yw o'r farn bod y person hwnnw wedi gweithredu'n wacsaw neu'n flinderus neu fod ei ymddygiad wedi bod yn hollol afresymol.
(2) Rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan is-baragraff (1) yn erbyn person heb i'r person hwnnw gael cyfle i gyflwyno sylwadau yn erbyn gwneud y gorchymyn.
(3) Gall gorchymyn o dan is-baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r person y mae'n cael ei wneud yn ei erbyn dalu i berson arall naill ai swm penodedig mewn perthynas â'r costau a'r treuliau a dynnwyd gan y person arall hwnnw mewn cysylltiad â'r dyfarniad neu'r cyfan neu ran o'r costau hynny fel y maent wedi'u asesu (os na chytunir fel arall).
(4) Bydd unrhyw gostau y mae gorchymyn o dan y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu hasesu yn cael eu hasesu yn y llys sirol ar y sail safonol.
(5) Bydd swm penodedig unrhyw gostau a threuliau a ddyfernir gan dribiwnlys neu swm y costau a'r treuliau hynny ar ôl ei asesu, onid yw'n cael ei neilltuo ac yn ddarostyngedig i unrhyw amrywiad yn sgil apêl neu adolygiad, yn dwyn llog o'r pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl dyddiad dyfarnu'r costau yn ôl y gyfradd sy'n cael ei rhagnodi am y tro o dan adran 69 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984(1).
(6) Gellir caslgu swm penodedig unrhyw gostau a threuliau neu swm y rheiny fel y mae wedi'i asesu ynghyd ag unrhyw log arnynt drwy atafaeleb a roddir gan lys sirol.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. para. 20 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
21.—(1) Ni fydd unrhyw anghysondeb sy'n deillio o fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau hyn neu ag unrhyw gyfarwyddyd gan y tribiwnlys cyn i'r tribiwnlys ei hun gyrraedd ei benderfyniad ynddo'i hun yn golygu bod y dyfarniad yn annilys.
(2) Pan ddaw unrhyw anghysondeb o'r fath i sylw'r tribiwnlys, fe gaiff y tribiwnlys, ac os yw o'r farn y gall unrhyw berson fod wedi'i ragfarnu gan yr anghysondeb rhaid i'r tribiwnlys, roi unrhyw gyfarwyddiadau y mae'n credu eu bod yn gyfiawn cyn cyrraedd ei benderfyniad i gywiro'r anghysondeb neu i'w hepgor.
(3) Gall gwallau clerigol mewn unrhyw ddogfen sy'n cofnodi cyfarwyddyd neu benderfyniad gan y tribiwnlys, neu wallau sy'n codi mewn dogfen o'r fath yn sgil llithriad neu hepgoriad damweiniol, gael eu cywiro gan y cadeirydd drwy ardystiad o dan ei law.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. para. 21 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
22.—(1) Rhaid i'r gofrestr gael ei chadw yng nghyfeiriad Panel Dyfarnu Cymru a rhaid iddi fod yn agored i unrhyw berson ei harchwilio yn ddi-dâl ar bob adeg resymol.
(2) Caiff y tribiwnlys wneud trefniadau sy'n briodol ym marn y tribiwnlys ar gyfer cyhoeddi ei benderfyniadau ond, wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i'r angen i gadw cyfrinachedd unrhyw dystiolaeth a wrandawyd yn breifat ac at y diben hwnnw caiff wneud unrhyw ddiwygiadau sy'n angenrheidiol i destun penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. para. 22 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
23.—(1) Bernir bod unrhyw ddogfen sy'n honni ei bod yn ddogfen sydd wedi'i gweithredu neu wedi'i rhoi yn briodol gan y cofrestrydd ar ran y tribiwnlys yn ddogfen sydd wedi'i gweithredu neu wedi'i rhoi felly, yn ôl fel y digwydd, oni phrofir i'r gwrthwyneb.
(2) Bydd dogfen sy'n honni ei bod wedi'i hardystio gan y cofrestrydd fel copi cywir o unrhyw gofnod o benderfyniad yn y gofrestr yn dystiolaeth ddigonol o'r cofnod ac o'r materion a gynhwysir ynddo, oni phrofir i'r gwrthwyneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. para. 23 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
24.—(1) Bydd unrhyw ddogfen y mae'r darpariaethau hyn yn gofyn neu'n awdurdodi ei hanfon, ei thraddodi neu ei chyflwyno i unrhyw berson wedi'i hanfon, wedi'i thraddodi neu wedi'i chyflwyno yn briodol i'r person hwnnw—
(a)os yw wedi'i hanfon at y person hwnnw yn ei gyfeiriad priodol drwy'r post mewn llythyr cofrestredig neu drwy ddosbarthiad a gofnodwyd;
(b)os yw wedi'i hanfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy neges ffacsimili neu unrhyw gyfrwng arall sy'n cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun yr ohebiaeth, ac os felly bernir bod y ddogfen wedi'i hanfon pan fydd wedi dod i law ar ffurf ddarllenadwy; neu
(c)os yw wedi'i thraddodi iddo neu wedi'i gadael yn ei gyfeiriad.
(2) Bydd unrhyw ddogfen y gofynnir neu yr awdurdodir ei hanfon, ei thraddodi neu ei chyflwyno i gwmni neu gorff corfforedig wedi'i hanfon, wedi'i thraddodi neu wedi'i chyflwyno os yw wedi'i hanfon, wedi'i thraddodi, neu wedi'i chyflwyno i ysgrifennydd y cwmni neu'r corff.
(3) Cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae unrhyw ddogfen o'r fath i'w hanfon, ei thraddodi neu ei chyflwyno iddo fydd cyfeiriad hysbys diwethaf y person o dan sylw ac yn achos ysgrifennydd unrhyw gwmni neu gorff corfforedig, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. para. 24 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
25. Pan fydd yr amser a ragnodir gan y darpariaethau hyn ar gyfer gwneud unrhyw weithred yn dod i ben ar ddydd Sul neu ar ŵ yl gyhoeddus, bydd y weithred yn brydlon o'i gwneud ar y diwrnod canlynol nesaf nad yw'n ddydd Sul neu'n ŵ yl gyhoeddus.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. para. 25 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys