Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

(2Daw rheoliadau 1, 5 a 10, a rheoliad 2 a rheoliadau 6 i 9 i'r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 5, i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(3Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym—

(a)ar 31 Rhagfyr 2002 mewn perthynas â bwyd L-tryptoffan; a

(b)mewn unrhyw achos arall ar 1 Ebrill 2004.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “bwyd DMN” (“PNU food”) yw bwyd at ddefnydd maethol neilltuol—

    (a)

    y mae, oherwydd ei gyfansoddiad arbennig neu y broses o'i gynhyrchu, gwahaniaeth amlwg rhyngddo â bwyd a fwriadwyd i'w fwyta'n arferfol, a

    (b)

    sy'n cael ei werthu mewn modd sy'n dangos a ydyw'n addas ar gyfer y diben maethol penodol honedig;

  • ystyr “bwyd DMN dynodedig” (“designated PNU food”) yw unrhyw fwyd DMN heblaw am fformwlâu babanod, fformwlâu dilyn ymlaen, bwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod a fwriadwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc;

  • ystyr “bwyd L-tryptoffan” (“L-tryptophan food”) yw unrhyw fwyd DMN dynodedig sy'n fwyd y mae L-tryptoffan, neu unrhyw un o'i halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid, wedi'i ychwanegu ato at ddiben maethol penodol;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 89/398” (“Directive 89/398”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC(1) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â bwydydd a fwriadwyd at ddefnydd maethol neilltuol, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 1999/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(2);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2001/15” (“Directive 2001/15”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC(3) (fel y'i cywiriwyd(4))) ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol;

  • ystyr “defnydd maethol neilltuol” (“particular nutritional use”) yw bodloni gofynion maethol neilltuol—

    (a)

    rhai categorïau o bobl y mae eu prosesau treulio, neu eu metaboledd yn afreolus, neu

    (b)

    rhai categorïau o bobl y mae eu cyflwr seicolegol yn golygu ei bod o fudd iddynt fwyta, a hynny dan reolaeth, unrhyw sylwedd mewn bwyd, neu

    (c)

    babanod neu bobl ifanc sydd mewn iechyd da; ac

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 89/398 neu 2001/15 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb dan sylw.

Cyfyngiadau ar werthu

3.—(1Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig sy'n fwyd y mae sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau a grybwyllwyd ym mharagraff (2) wedi cael ei ychwanegu ato at ddiben maethol penodol oni bai bod y sylwedd hwnnw—

(a)yn cael ei restru o dan y categori hwnnw—

(i)yn achos unrhyw fwyd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2; a

(ii)mewn unrhyw achos arall, yn Atodlen 1; a

(b)yn cydymffurfio â'r meini prawf perthnasol ar burdeb y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3).

(2At ddibenion paragraff (1), y categorïau yw—

(a)fitaminau,

(b)mwynau,

(c)asidau amino,

(ch)carnitin a thawrin,

(d)niwcleotidau, a

(dd)colin ac inositol.

(3Y meini prawf perthnasol ar burdeb at ddibenion paragraff (1)(b) yw—

(a)y meini prawf ar burdeb, os o gwbl, a bennir gan ddeddfwriaeth y Gymuned at ddefnyddio'r sylwedd dan sylw wrth gynhyrchu bwyd at ddibenion heblaw am y rhai a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2001/15, neu

(b)os nad oes meini prawf ar burdeb o'r fath, meini prawf ar burdeb a dderbynnir yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd dan sylw a argymhellir gan gyrff cenedlaethol.

(4Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig y defnyddiwyd unrhyw sylwedd at ddiben maethol penodol wrth ei gynhyrchu oni bai bod y bwyd hwnnw—

(a)yn ddiogel pan gaiff ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd (os o gwbl); a

(b)yn bodloni gofynion maethol neilltuol y bobl y mae wedi'i fwriadu ar eu cyfer,

fel y caiff ei sefydlu gan ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol.

Gwirio rheoliad 3(4)

4.  Bydd gweithgynhyrchydd neu, fel y digwydd, mewnforiwr bwyd DMN dynodedig y defnyddiwyd sylwedd at ddiben maethol penodol wrth ei gynhyrchu yn cyflenwi'r canlynol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd os gwneir cais am hynny—

(a)copi o'r gwaith gwyddonol a data sy'n sefydlu bod defnyddio'r sylwedd wrth gynhyrchu'r bwyd hwnnw yn creu bwyd sy'n bodloni'r meini prawf yn rheoliad 3(4), neu

(b)os yw gwaith neu ddata o'r fath wedi'u cynnwys mewn cyhoeddiad sydd ar gael yn rhwydd, cyfeiriad at y cyhoeddiad hwnnw.

Gofyniad i hysbysu

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff gweithgynhyrchydd, neu pan fo hynny'n briodol, mewnforiwr unrhyw fwyd hysbysadwy werthu unrhyw fwyd o'r fath oni bai bod y gweithgynhyrchydd, neu pan fo hynny'n briodol, y mewnforiwr, o leiaf 3 mis cyn gosod bwyd o'r math hwnnw ar y farchnad yng Nghymru am y tro cyntaf, wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ysgrifenedig drwy anfon model o'r label sydd i'w ddefnyddio ar gyfer y bwyd hwnnw a manylion am gyfansoddiad y bwyd.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw'r gweithgynhyrchydd neu, pan fo hynny'n briodol, y mewnforiwr eisoes wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gosod bwyd o'r math penodol hwnnw ar y farchnad mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yn unol â darpariaeth gyfatebol sy'n cael effaith yNo.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “bwyd hysbysadwy” (“notifiable food”) yw unrhyw fwyd L-tryptoffan

(a)sydd wedi'i fwriadu i gael ei ddefnyddio mewn deietau cyfyngu-ar-ynni er mwyn colli pwysau;

(b)sydd wedi'i fwriadu i ddiwallu ymdrech gyhyrol sylweddol, yn arbennig ar gyfer sbortsmyn; neu

(c)sydd ar gyfer pobl sy'n dioddef gan anhwylderau carbohydrad-metaboliaeth (clefyd siwgr).

Gorfodi

6.  Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi ac yn gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Tramgwyddau a chosbau

7.  Os bydd unrhyw berson—

(a)yn torri rheoliad 3(1) neu (4), neu

(b)yn torri, heb esgus resymol, reoliad 4 neu 5(1),

bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion

8.  Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person sy'n cael ei gyhuddo brofi bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi cael ei fwriadu i'w allforio i wlad (ac eithrio Aelod-wladwriaeth) sydd â deddfwriaeth sy'n gyffelyb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd hwnnw yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honNo.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

9.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i gael ei fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad bod rhaid ystyried bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cânt eu cymhwyso gan baragraff (f);

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddifyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).

Diwygio Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990

10.—(1Caiff Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990(5) eu diwygio (i'r graddau y maent yn ymestyn i Gymru) yn unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 2 (gwaharddiad ar werthu, etc. bwyd sy'n cynnwys tryptoffan)—

(a)ym mharagraffau (1) a (2) yn lle'r geiriau “Subject to paragraph (4)” rhoddir y geiriau “Subject to paragraphs (4) and (4A)”;

(b)ym mharagraff (3) mewnosodir ar y dechrau y geiriau “Subject to paragraph (4A) of this regulation,”;

(c)ar ôl paragraff (4) mewnosodir y paragraff canlynol—

(4A) Paragraphs (1) to (3) of this regulation shall not apply in respect of—

(a)laevorotatory tryptophan added to any infant formula or follow-on formula;

(b)laevorotatory tryptophan added to any processed cereal-based food or baby food; or

(c)laevorotatory tryptophan, its sodium, potassium, calcium or magnesium salts or its hydrochloride, added to any designated PNU food for a specific nutritional purpose in compliance with Commission Directive 2001/15/EC(6) (as corrected(7)) on substances that may be added for specific nutritional purposes in foods for particular nutritional uses.;

(ch)ym mharagraff (7)—

(i)ar ôl y diffiniad o “appropriate medical certificate” mewnosodir y diffiniad canlynol—

  • “designated PNU food” has the meaning assigned to it by the Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Particular Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2002;;

(ii)ar ôl y diffiniad o “hospital” hepgorir y gair “and” a mewnosodir y diffiniadau canlynol—

  • “infant formula” and “follow-on formula” have the meaning assigned to them by the Infant Formula and Follow-on Formula Regulations 1995(8);

  • “processed cereal-based food” and “baby food” have the meaning assigned to them by the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children Regulations 1997(9); and.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Tachwedd 2002

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill