- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Tachwedd 2002
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae'r Cynulliad Cenedlaethol ac yntau wedi parchu, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn ogystal â sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddedddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Daw rheoliadau 1, 5 a 10, a rheoliad 2 a rheoliadau 6 i 9 i'r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 5, i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym—
(a)ar 31 Rhagfyr 2002 mewn perthynas â bwyd L-tryptoffan; a
(b)mewn unrhyw achos arall ar 1 Ebrill 2004.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “bwyd DMN” (“PNU food”) yw bwyd at ddefnydd maethol neilltuol—
y mae, oherwydd ei gyfansoddiad arbennig neu y broses o'i gynhyrchu, gwahaniaeth amlwg rhyngddo â bwyd a fwriadwyd i'w fwyta'n arferfol, a
sy'n cael ei werthu mewn modd sy'n dangos a ydyw'n addas ar gyfer y diben maethol penodol honedig;
ystyr “bwyd DMN dynodedig” (“designated PNU food”) yw unrhyw fwyd DMN heblaw am fformwlâu babanod, fformwlâu dilyn ymlaen, bwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod a fwriadwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc;
ystyr “bwyd L-tryptoffan” (“L-tryptophan food”) yw unrhyw fwyd DMN dynodedig sy'n fwyd y mae L-tryptoffan, neu unrhyw un o'i halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid, wedi'i ychwanegu ato at ddiben maethol penodol;
ystyr “Cyfarwyddeb 89/398” (“Directive 89/398”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC(4) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â bwydydd a fwriadwyd at ddefnydd maethol neilltuol, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 1999/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(5);
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/15” (“Directive 2001/15”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC(6) (fel y'i cywiriwyd(7))) ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol;
ystyr “defnydd maethol neilltuol” (“particular nutritional use”) yw bodloni gofynion maethol neilltuol—
rhai categorïau o bobl y mae eu prosesau treulio, neu eu metaboledd yn afreolus, neu
rhai categorïau o bobl y mae eu cyflwr seicolegol yn golygu ei bod o fudd iddynt fwyta, a hynny dan reolaeth, unrhyw sylwedd mewn bwyd, neu
babanod neu bobl ifanc sydd mewn iechyd da; ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 89/398 neu 2001/15 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb dan sylw.
3.—(1) Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig sy'n fwyd y mae sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau a grybwyllwyd ym mharagraff (2) wedi cael ei ychwanegu ato at ddiben maethol penodol oni bai bod y sylwedd hwnnw—
(a)yn cael ei restru o dan y categori hwnnw—
(i)yn achos unrhyw fwyd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2; a
(ii)mewn unrhyw achos arall, yn Atodlen 1; a
(b)yn cydymffurfio â'r meini prawf perthnasol ar burdeb y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3).
(2) At ddibenion paragraff (1), y categorïau yw—
(a)fitaminau,
(b)mwynau,
(c)asidau amino,
(ch)carnitin a thawrin,
(d)niwcleotidau, a
(dd)colin ac inositol.
(3) Y meini prawf perthnasol ar burdeb at ddibenion paragraff (1)(b) yw—
(a)y meini prawf ar burdeb, os o gwbl, a bennir gan ddeddfwriaeth y Gymuned at ddefnyddio'r sylwedd dan sylw wrth gynhyrchu bwyd at ddibenion heblaw am y rhai a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2001/15, neu
(b)os nad oes meini prawf ar burdeb o'r fath, meini prawf ar burdeb a dderbynnir yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd dan sylw a argymhellir gan gyrff cenedlaethol.
(4) Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig y defnyddiwyd unrhyw sylwedd at ddiben maethol penodol wrth ei gynhyrchu oni bai bod y bwyd hwnnw—
(a)yn ddiogel pan gaiff ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd (os o gwbl); a
(b)yn bodloni gofynion maethol neilltuol y bobl y mae wedi'i fwriadu ar eu cyfer,
fel y caiff ei sefydlu gan ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol.
4. Bydd gweithgynhyrchydd neu, fel y digwydd, mewnforiwr bwyd DMN dynodedig y defnyddiwyd sylwedd at ddiben maethol penodol wrth ei gynhyrchu yn cyflenwi'r canlynol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd os gwneir cais am hynny—
(a)copi o'r gwaith gwyddonol a data sy'n sefydlu bod defnyddio'r sylwedd wrth gynhyrchu'r bwyd hwnnw yn creu bwyd sy'n bodloni'r meini prawf yn rheoliad 3(4), neu
(b)os yw gwaith neu ddata o'r fath wedi'u cynnwys mewn cyhoeddiad sydd ar gael yn rhwydd, cyfeiriad at y cyhoeddiad hwnnw.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff gweithgynhyrchydd, neu pan fo hynny'n briodol, mewnforiwr unrhyw fwyd hysbysadwy werthu unrhyw fwyd o'r fath oni bai bod y gweithgynhyrchydd, neu pan fo hynny'n briodol, y mewnforiwr, o leiaf 3 mis cyn gosod bwyd o'r math hwnnw ar y farchnad yng Nghymru am y tro cyntaf, wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ysgrifenedig drwy anfon model o'r label sydd i'w ddefnyddio ar gyfer y bwyd hwnnw a manylion am gyfansoddiad y bwyd.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw'r gweithgynhyrchydd neu, pan fo hynny'n briodol, y mewnforiwr eisoes wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gosod bwyd o'r math penodol hwnnw ar y farchnad mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yn unol â darpariaeth gyfatebol sy'n cael effaith yNo.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “bwyd hysbysadwy” (“notifiable food”) yw unrhyw fwyd L-tryptoffan
(a)sydd wedi'i fwriadu i gael ei ddefnyddio mewn deietau cyfyngu-ar-ynni er mwyn colli pwysau;
(b)sydd wedi'i fwriadu i ddiwallu ymdrech gyhyrol sylweddol, yn arbennig ar gyfer sbortsmyn; neu
(c)sydd ar gyfer pobl sy'n dioddef gan anhwylderau carbohydrad-metaboliaeth (clefyd siwgr).
6. Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi ac yn gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
7. Os bydd unrhyw berson—
(a)yn torri rheoliad 3(1) neu (4), neu
(b)yn torri, heb esgus resymol, reoliad 4 neu 5(1),
bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
8. Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person sy'n cael ei gyhuddo brofi bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi cael ei fwriadu i'w allforio i wlad (ac eithrio Aelod-wladwriaeth) sydd â deddfwriaeth sy'n gyffelyb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd hwnnw yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honNo.
9. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i gael ei fwyta gan bobl);
(c)adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad bod rhaid ystyried bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cânt eu cymhwyso gan baragraff (f);
(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h)adran 44 (amddifyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).
10.—(1) Caiff Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990(8) eu diwygio (i'r graddau y maent yn ymestyn i Gymru) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2 (gwaharddiad ar werthu, etc. bwyd sy'n cynnwys tryptoffan)—
(a)ym mharagraffau (1) a (2) yn lle'r geiriau “Subject to paragraph (4)” rhoddir y geiriau “Subject to paragraphs (4) and (4A)”;
(b)ym mharagraff (3) mewnosodir ar y dechrau y geiriau “Subject to paragraph (4A) of this regulation,”;
(c)ar ôl paragraff (4) mewnosodir y paragraff canlynol—
“(4A) Paragraphs (1) to (3) of this regulation shall not apply in respect of—
(a)laevorotatory tryptophan added to any infant formula or follow-on formula;
(b)laevorotatory tryptophan added to any processed cereal-based food or baby food; or
(c)laevorotatory tryptophan, its sodium, potassium, calcium or magnesium salts or its hydrochloride, added to any designated PNU food for a specific nutritional purpose in compliance with Commission Directive 2001/15/EC(9) (as corrected(10)) on substances that may be added for specific nutritional purposes in foods for particular nutritional uses.”;
(ch)ym mharagraff (7)—
(i)ar ôl y diffiniad o “appropriate medical certificate” mewnosodir y diffiniad canlynol—
““designated PNU food” has the meaning assigned to it by the Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Particular Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2002;”;
(ii)ar ôl y diffiniad o “hospital” hepgorir y gair “and” a mewnosodir y diffiniadau canlynol—
““infant formula” and “follow-on formula” have the meaning assigned to them by the Infant Formula and Follow-on Formula Regulations 1995(11);
“processed cereal-based food” and “baby food” have the meaning assigned to them by the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children Regulations 1997(12); and”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Tachwedd 2002
Rheoliad 3(1)(a)
VITAMIN A:
retinol
retinyl acetate
retinyl palmitate
beta-carotene
VITAMIN D :
cholecalciferol
ergocalciferol
VITAMIN E :
D-alpha-tocopherol
DL-alpha-tocopherol
D-alpha-tocopheryl acetate
DL-alpha-tocopheryl acetate
D-alpha-tocopheryl acid succinate
VITAMIN K :
phylloquinone (phytomenadione)
VITAMIN B1 :
thiamin hydrochloride
thiamin mononitrate
VITAMIN B2 :
riboflavin
riboflavin 5'-phosphate, sodium
NIACIN :
nicotinic acid
nicotinamide
PANTOTHENIC ACID :
D-pantothenate, calcium
D-pantothenate, sodium
dexpanthenol
VITAMIN B6 :
pyridoxine hydrochloride
pyridoxine 5'-phosphate
pyridoxine dipalmitate
FOLIC ACID :
pteroylmonoglutamic acid
VITAMIN B12 :
cyanocobalamin
hydroxocobalamin
BIOTIN :
D-biotin
VITAMIN C :
L-ascorbic acid
sodium-L-ascorbate
calcium-L-ascorbate
potassium-L-ascorbate
L-ascorbyl 6-palmitate
CALCIUM :
carbonate
chloride
salts of citric acid
gluconate
glycerophosphate
lactate
salts of orthophosphoric acid
hydroxide
oxide
MAGNESIUM :
acetate
carbonate
chloride
salts of citric acid
gluconate
glycerophosphate
salts of orthophosphoric acid
lactate
hydroxide
oxide
sulphate
IRON :
ferrous carbonate
ferrous citrate
ferric ammonium citrate
ferrous gluconate
ferrous fumarate
ferric sodium diphosphate
ferrous lactate
ferrous sulphate
ferric diphosphate (ferric pyrophosphate)
ferric saccharate
elemental iron (carbonyl + electrolytic + hydrogen reduced)
COPPER :
cupric carbonate
cupric citrate
cupric gluconate
cupric sulphate
copper lysine complex
IODINE :
potassium iodide
potassium iodate
sodium iodide
sodium iodate
ZINC :
acetate
chloride
citrate
gluconate
lactate
oxide
carbonate
sulphate
MANGANESE :
carbonate
chloride
citrate
gluconate
glycerophosphate
sulphate
SODIUM :
bicarbonate
carbonate
chloride
citrate
gluconate
lactate
hydroxide
salts of orthophosphoric acid
POTASSIUM :
bicarbonate
carbonate
chloride
citrate
gluconate
glycerophosphate
lactate
hydroxide
salts of orthophosphoric acid
SELENIUM :
sodium selenate
sodium hydrogen selentine
sodium selenite
CHROMIUM (III) and their hexahydrates :
chloride
sulphate
MOLYBDENUM (VI) :
ammonium molybdate
sodium molybdate
FLUORINE :
potassium fluoride
sodium fluoride
L-alanine
L-arginine
L-cysteine
Cystine
L-histidine
L-glutamic acid
L-glutamine
L-isoleucine
L-leucine
L-lysine
L-lysine acetate
L-methionine
L-ornithine
L-phenylalanine
L-threonine
L-tryptophan
L-tyrosine
L-valine
Ar gyfer asidau amino, i'r graddau y bo hynny'n gymwys caniateir defnyddio hefyd eu halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm a magnesiwm yn ogystal â'u hydrocloridau
L-carnitine
L-carnitine hydrochloride
taurine
adenosine 5'-phosphoric acid (AMP)
sodium salts of AMP
cytidine 5'-monophosphoric acid (CMP)
sodium salts of CMP
guanosine 5'-phosphoric acid (GMP)
sodium salts of GMP
insosine 5'-phosphoric acid (IMP)
sodium salts of IMP
uridine 5'-phosphoric acid (UMP)
sodium salts of UMP
choline
choline chloride
choline bitartrate
choline citrate
inositol
Rheoliad 3(1)(a)
L-aspartic acid
L-citrulline
glycine
L-proline
(Nid yw'r nodyn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/15/EC ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â bwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau maethol neilltuol (ceir diffiniad o “bwyd DMN dynodedig” yn rheoliad 2(1) sy'n eithrio fformwlâu babanod, fformwlâu dilyn ymlaen, bwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod a fwriadwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc) pan fo sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau canlynol wedi cael ei ychwanegu at y bwyd hwnnw at ddiben maethol penodol: fitaminau, mwynau; asidau amino; carnitin a thawrin; niwcelotidau, colin ac inositol. Mae'r Rheoliadau yn gwahardd gwerthu bwydydd o'r fath oni bai bod y sylwedd wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn Atodlen 1 neu, yn achos bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn naill ai Atodlen 1 neu 2. Rhaid bodloni meini prawf perthnasol sy'n ymwneud â phurdeb ar gyfer y sylwedd. (Rheoliad 3(1) i (3)).
3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gosod cyfyngiadau cyffredinol ar werthu bwydydd DMN dynodedig y defnyddiwyd unrhyw sylweddau at ddibenion maethol penodol wrth eu cyhyrchu (rheoliad 3(4)); ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r gweithgynhyrchydd neu'r mewnforiwr gyflewni gwybodaeth i'r Asiantaeth Safonau Bwyd os gwneir cais am hynny er mwyn gwirio bod y safonau hynny wedi'u bodloni (rheoliad 4). Mae'r Rheoliadau yn gwahardd y gweithgynhyrchydd neu'r mewnforiwr rhag gwerthu bwydydd DMN dynodedig penodol y mae L-tryptoffan wedi cael ei ychwanegu atynt at ddiben maethol penodol, oni bai bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cael ei hysbysu ymlaen llaw cyn bod bwyd o'r math neilltuol hwnnw yn cael ei farchnata am y tro cyntaf (rheoliad 5).
4. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfrifoldebau ar gyfer gorfodi (rheoliad 6); creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 7) ac yn cymhwyso rhai o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9). Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnig amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol bwydydd (rheoliad 8).
5. Mae'r Rheoliadau hefyd yn datgymhwyso'r gwaharddiadau yn Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990 (o safbwynt eu cymhwyso mewn perthynas â Chymru) i'r graddau y maent yn gwrthdaro â Chyfarwyddeb 2001/15/EC, Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 91/321/EEC (OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35) ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilyn ymlaen ac Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC (OJ Rhif L49, 28.2.96, t.17) ar fwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc (rheoliad 10).
6. Paratowyd arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.
Trosglwyddwyd swyddogaethau the Secretary of State o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
OJ Rhif L186, 30.6.89, t.27.
OJ Rhif L172, 8.7.1999, t.38.
OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19.
OJ Rhif L253, 21.9.2001, t.34.
O.S. 1990/1728, y mae diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19.
OJ Rhif L253, 21.9.2001, t.34.
O.S. 1995/77, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1997/2042, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys