Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 287 (Cy.39)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

12 Chwefror 2003

Yn dod i rym

18 Chwefror 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(7) ac (8) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(3), ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992(4)), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Darpariaethau dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw unrhyw benderfyniad a wnaed ar ôl 31 Awst 1994 gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd disgybl yn barhaol (sy'n cynnwys penderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad o ddisgybl a wneir am gyfnod penodedig yn barhaol), yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 neu baragraff 7 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg 1993(6);

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

(a)

mewn perthynas â disgybl o dan 18, ei riant;

(b)

mewn perthynas â disgybl sydd wedi cyrraedd yr oedran hwnnw, y disgybl ei hun.

Apelio yn erbyn gwaharddiad parhaol o uned cyfeirio disgyblion

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 52(7) o Ddeddf 2002 y person all apelio i banel apelau yn erbyn penderfynad i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion.

(2Y person a ragnodir yw'r person perthnasol mewn perthynas ag unrhyw ddisgybl sy'n destun penderfyniad perthnasol.

Camau i'w cymryd gan yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, rhaid i'r athro neu athrawes yng ngofal ddilyn y camau canlynol ar unwaith—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol yn cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy'n datgan y materion canlynol—

(i)y rhesymau am y penderfyniad,

(ii)ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,

(iii)y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,

(iv)bod raid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a

(v)y diwrnod olaf y gellir gwneud yr apêl.

(b)hysbysu'r awdurdod addysg lleol bod y digybl yn cael ei wahardd yn barhaol a'r rhesymau dros hynny.

(2Nid yw'r rheoliad hwn i fod yn gymwys i unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.

Trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau yn unol â'r Rheoliadau hyn i alluogi person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad perthnasol.

(2Ni ellir gwneud unrhyw apêl mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol y mae rheoliad 4(2) yn gymwys iddo oni roddir hysbysiad ysgrifenedig yn nodi'r seiliau am yr apêl gan y person perthnasol i'r awdurodd addysg lleol cyn pen 30 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym.

Cymhwyso deddfwriaeth bresennol

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Atodlen 18 i Ddeddf 1998 i fod yn gymwys gyda'r addasiadau a ragnodwyd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5.

(2Mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, nid yw paragraff 1(1) o Atodlen 18 i Ddeddf 1998 fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn i fod yn gymwys.

Penderfyniad panel apelau yn benderfyniad rhwymol

7.  Bydd penderfyniad panel apelau ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 5 yn rhwymol ar y person perthnasol, yr athro neu athrawes sy'n gyfrifol a'r awdurdod addysg lleol.

Cyfarwyddyd i adsefydlu disgybl

8.  Pan o dan apêl yn unol â'r Rheoliadau hyn bod panel apelau yn penderfynu na ddylai'r disgybl dan sylw fod wedi cael ei wahardd yn barhaol, rhaid i'r panel apelau naill ai—

(a)gyfarwyddo ei fod yn cael ei adsefydlu (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennnir yn y cyfarwyddyd); neu

(b)mewn achosion pan na fyddai'n ymarferol rhoi cyfarwyddyd sy'n ei gwneud hi'n ofynnol ei adsefydlu, benderfynu y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.

Parchu canllawiau

9.  Rhaid i athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdod addysg lleol neu banel apelau sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo gan neu o dan y Rheoliadau hyn a Deddf 1998 (fel y cafodd ei haddasu gan y Rheoliadau hyn) barchu canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 2002.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Chwefror 2003

Rheoliad 6

YR ATODLENAddasu Atodlen 18 i Ddeddf 1998

1.  Yn lle “section 67(1)”, bob tro y digwydd, rhoddir “regulation 5 of the Education (Pupil Referral Units) (Appeals Against Permanent Exclusion) (Wales) Regulations 2003”.

2.  Yn lle “section 66(6)(b)”, bob tro y digwydd, rhoddir “regulation 4(1)(a) of the Education (Pupil Referral Units) (Appeals Against Permanent Exclusion) (Wales) Regulations 2003”.

3.  Ym mharagraff 1, yn lle “not to reinstate”, bob tro y digwydd, rhoddir “to permanently exclude”.

4.  Ym mharagraff 2(7)—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “governing body of the school” rhoddir “management committee (where one has been established) of the pupil referral unit”;

(b)ym mharagraff (b) hepgorir “or the governing body”; ac

(c)ym mharagraff (c), yn lle “school”, bob tro y digwydd, rhoddir “pupil referral unit”.

5.  Ym mharagraff 10(2)—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “head teacher”, rhoddir “teacher in charge”;

(b)ym mharagraff (b) hepgorir “and the governing body” ac ar ôl “written representations,” ychwanegir “and”;

(c)ym mharagraff (c) hepgorir “, and a governor nominated by the governing body,” ac “, and”; ac

(ch)hepgorir paragraff (d).

6.  Ym mharagraff 14—

(a)hepgorir “the governing body”; a

(b)yn lle “head teacher” rhoddir “teacher in charge”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r person perthnasol (hynny yw rhiant disgybl, neu'r disgybl ei hun os ydyw'n 18) sy'n gallu apelio yn erbyn penderfyniad athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd y disgybl yn barhaol. Mae'r hawl newydd hwn i apelio yn gymwys i unrhyw benderfyniad a wneir gan athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i wahardd disgybl yn barhaol ar neu ar ôl 1 Medi 1994.

Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i'r athro neu athrawes sy'n gyfrifol hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol ar unwaith am y penderfyniad a'r rheswm drosto pan gaiff disgybl ei wahardd yn barhaol ar ôl dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn. Yn ogystal, rhaid hysbysu'r person perthnasol o'i hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a sut y gall fynd ati i wneud apêl o'r fath.

Mae Rheoliad 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdod addysg lleol i wneud trefniadau sy'n galluogi'r person perthnasol i wneud apêl. Fodd bynnag, rhaid i'r person perthnasol gydymffufio â'r terfynau amser ar gyfer hysbysu'r awdurdod addysg lleol o'i fwriad i apelio. Mewn perthynas â phenderfyniad perthnasol a wnaed ar y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y diwrnod hwnnw, y terfyn amser yw 15 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan dderbyniodd y person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4(1). Mewn perthynas â phenderfyniad perthnasol a wnaed cyn y diwrnod pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, y terfyn amser yw 30 diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod hwnnw.

Mae rheoliad 6 yn cymhwyso Atodlen 18 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y caiff ei haddasu gan yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ar gyfer unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â rheoliad 5.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ailadrodd y darpariaethau sydd eisoes yn bodoli yn adran 67(3) a (4) o Ddeddf 1998 ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion, gan ychwanegu darpariaeth (yn rheoliad 8(b)) i'r panel apelau wneud penderfyniad y byddai adsefydlu wedi bod yn briodol mewn achos pan na fyddai fel arall mewn gwirionedd wedi bod yn ymarferol i roi cyfarwyddyd o'r fath.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud hi'n ofynnol i athro neu athrawes sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion, awdurdod addysg lleol neu banel apelau, barchu canllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(1)

1996 p.56. Ar gyfer ystyr “regulations” gweler adran 579.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

2002 p.32; gweler adran 212(1) ar gyfer ystyr “regulations”.

(4)

1992 p.53; amnewidir paragraff 15(b) o Atodlen 1 yn rhagolygol gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill