- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Safonau Bwyd 1990;
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/110” (“Directive 2001/110”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy'n ymwneud â mêl(1);
mae i “cynhwysyn” yr ystyr a briodolir i “ingredient” gan Reoliadau 1996;
ystyr “cynnyrch mêl penodol”, (“specified honey product”) yn ddarostyngedig i baragraff (2) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1;
ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(2) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(3) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “chwiler” (“brood”) yw unrhyw gam anaeddfed o ran gwenynen mêl gan gynnwys yr wy, larfa a pwpa ac unrhyw wenynen mêl sydd heb ddod allan o'i gell mewn dil mêl;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n gwerthu bwyd heblaw —
at ddibenion ei ailwerthu,
at ddibenion sefydliad arlwyo, neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
ystyr “disgrifiad neilltuedig”, (“reserved description”) o ran unrhyw gynnyrch mêl penodol yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu arddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;
ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i Gytundeb yr AEE;
mae i “labelu” yr ystyr a briodolir i “labelling” gan Reoliadau 1996;
ystyr “mêl” (“honey”) yw'r sylwedd melys naturiol a gynhyrchir gan wenwyn Apis mellifera o neithdar planhigion neu gan secretiadau'r rhannau o blanhigion sy'n fyw neu ysgarthiadau pryfed sy'n sugno planhigion ar y rhannau o blanhigion sy'n fyw, y mae'r gwenyn yn eu casglu, yn eu gweddnewid trwy eu cyfuno â'u sylweddau penodol eu hunain, eu gwaddodi, eu dadhydradu, eu storio neu eu gadael mewn diliau mêl i aeddfedu;
mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu drin;
ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4); ac
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin symudol) os paratoir bwyd, yn ystod y busnes, i'w ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf ac os yw'r bwyd yn barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach.
(2) Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, ni chaiff ei drin fel cynnyrch mêl penodol at ddibenion y Rheoliadau hyn hyn—
(i)ond os bydd yn bodloni'r manylebau perthnasol a gynhwysir yn Atodlen 2 fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno, a
(ii)ond os nad ychwanegwyd ato unrhyw gynhwysyn arall ac os yw cyn belled â phosibl yn rhydd rhag unrhyw sylwedd organig neu anorganig sy'n ddieithr i'w gyfansoddiad.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 2001/110 yr un ystyr yn y rheoliadau hyn ag yn y Gyfarwyddeb honno.
3. Ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo unrhyw fwyd sydd â label, p'un a yw wedi'i atodi i'r papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arno, sy'n dwyn, neu sy'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddeilliad ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n debyg iawn iddo oni bai —
(a)mai'r bwyd hwnnw yw'r cynnyrch mêl penodol y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;
(b)bod disgrifiad, deilliad neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn y cyfryw gyd-destun ag i ddynodi yn eglur neu drwy awgrym clir nad yw'r sylwedd y mae'n ymwneud ag ef ond yn gynhwysyn yn y bwyd hwnnw;
(c)bod disgrifiad, deilliad neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn y cyfryw gyd-destun ag i ddynodi yn eglur neu drwy awgrym clir nad yw'r bwyd yn gynnyrch mêl penodol ac nad yw'n cynnwys cynnyrch mêl penodol.
4.—(1) Heb niweidio cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf nac i sefydliad arlwyo unrhyw gynnyrch mêl penodol oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu gyda'r manylion canlynol —
(a)disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch;
(b)yn achos mêl pobydd y geiriau “intended for cooking only” a'r geiriau hynny'n ymddangos ar y label yn agos at enw'r cynnyrch;
(c)y wlad neu'r gwledydd y mae'r mêl yn tarddu ohoni/ohonynt a lle mae'r mêl wedi'i gynaeafu ac eithrio os yw'r mêl yn tarddu o fwy nag un Aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad gellir rhoi un o'r canlynol yn lle'r wlad y mae'n tarddu ohoni fel y bo'n briodol —
(i)“blend of EC honeys”,
(ii)“blend of non-EC honeys”,
(iii)“blend of EC and non-EC honeys”;
(2) Ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf nac i sefydliad arlwyo unrhyw fêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â gwybodaeth sy'n ymwneud â tharddiad blodeuol neu lysieuol, tarddiad rhanbarthol, tiriogaethol neu dopagraffaidd neu unrhyw feini prawf ansawdd penodol.
(4) Lle, yn unol â nodyn 2 o Atodlen 1, defnyddiwyd y disgrifiad neilltuedig “honey” yn enw cynnyrch bwyd cyfansawdd sy'n cynnwys mêl pobydd, ni chaiff neb werthu bwyd cyfansawdd oni bai bod y rhestr o gynhwysion yn cynnwys y term “baker’s honey”.
5.—(1) Nii chaiff neb werthu mêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd mewn cynwysyddion neu becynnau swmpus oni bai bod y cynwysyddion neu'r pecynnau swmpus hynny wedi'u labelu â'u priod ddisgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch ac oni bai bod unrhyw ddogfennau masnach yn dangos yn glir y disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch.
(2) At ddibenion y paragraff hwn mae dogfennau masnach yn cynnwys yn holl ddogfennau sy'n ymwneud â gwerthu, cludo, storio neu ddosbarthu'r cynnyrch.
6. Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol i gynnyrch mêl penodol gael ei farcio neu ei labelu â hwy yn ôl rheoliadau 4(1)(a) i (c) a (3) o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y mae'n ofynnol i fwyd gael ei farcio neu'i labelu gyda hwy yn ôl Rheoliadau 1996.
7.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn yn fwriadol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi ac yn gweithredu'r rheoliadau hyn yn ei ardal.
8. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —
(a)bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi digwydd mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad sydd â deddfwriaeth debyg i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b)yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy'n ymwneud â mêl.
9. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant etc.);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);
(c)adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d)adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yn ystod busnes);
(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g);
(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (g);
(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (h);
(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
10.—(1) Mae Rheoliadau Mêl 1976(5), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu dirymu.
(2) Bod y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Mêl 1976 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru), yn cael eu hepgor —
(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) Rheoliadau 1982(6), yn Atodlen 1—
(b)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) Rheoliadau 1985(7), yn Rhan I o Atodlen 1;
(c)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(8)), yn Rhan 1 o Atodlen 1, Rhan I o Atodlen 2, Rhan 1 o Atodlen 3 ac Atodlenni 6 a 12;
(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(9), yn Rhan 1 o Atodlen 1;
(d)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymu) 1992(10)), yn Rhan 1 o Atodlen 1;
(dd)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(11), yn Atodlen 9;
(e)yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(12), yn Atodlen 9;
(3) Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yn lle'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb 74/409/EEC yn Atodlen 6, rhodder cyfeiriad at Gyfarwyddeb 2001/110.
(4) Yn Rheoliadau 1996, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dirymir Rheoliad 4(2)(c).
11. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —
(a)bod y bwyd o dan sylw wedi'i farcio neu'i labelu cyn 1 Awst 2004; a
(b)nai fyddai'r materion a oedd yn ffurfio'r tramgwydd arfaethedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Mêl 1976 fel yr oeddent yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys