- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 2(1)
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Disgrifiadau neilltuedig | Cynnyrch mêl penodol |
Nodyn 1: Gellir defnyddio'r disgrifiad “honey” ar gyfer cynhyrchion mêl penodol yng ngholofn 2 of eitemau 1a, 1b, 2, 5 a 6 o Atodlen 1. | |
Nodyn 2: Lle defnyddir y cynnyrch mêl a bennir yng ngholofn 2 o eitem 9 fel cynhwysyn mewn bwyd cyfanswdd, gellir defnyddio'r disgrifiad neilltuedig “honey” yn enw cynnyrch y bwyd cyfansawdd hwnnw. | |
Nodyn 3: Ac eithrio cynhyrchion a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 8 a 9 gellir disgrifio cynnyrch mêl penodol yn ogystal yn ôl — (i) ei darddiad blodeuol neu lysieuol, os daw'r cynnyrch yn gyfan neu'n bennaf o'r ffynhonnell a ddangosir ac os oes gandndo nodweddion organoleptig, ffisicocemegol a microsgopig y ffynhonnell; (ii) ei darddiad rhanbarthol, tiriogaethol neu dopograffyddol, os daw'r cynnyrch yn llwyr o'r ffynhonnell a ddangosir; a (iii) ei feini prawf ansawdd penodol. | |
1a.. blossom honey neu } 1b.. nectar honey } | mêl a geir o neithdar planhigion |
2. honeydew honey | mêl a geir yn bennaf o ysgarthiadau pryfed sy'n sugno planhigion (Hemiptera) ar y rhannau o blanhigion sy'n fyw neu secretiadau'r rhannau o blanhigion sy'n fyw |
3.comb honey | mêl sy'n cael ei storio gan wenyn yng nghelloedd diliau heb chwiler sydd newydd eu wedi'i hadeiladu neu haenau sylfaen dil tenau sydd wedi'u gwneud yn unig o gŵ yr gwenyn ac a werthir mewn diliau cyfan wedi'u selio neu rannau o ddiliau o'r fath |
4a.. chunk honey neu } 4b.. cut comb in honey } | mêl sy'n cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl dil |
5. drained honey | mêl a geir drwy draenio diliau heb chwiler a'u capanau wedi'u tynnu |
6. extracted honey | mêl a geir trwy allgyrchu diliau heb chwiler a'u capanau wedi'u tynnu |
7. pressed honey | mêl a geir trwy wasgu diliau heb chwiler gyda neu heb ddefnyddio gwres cymedrol heb fod yn fwy na 45°C |
8. filtered honey | mêl a geir trwy ddileu deunyddiau anorganig neu organig estron yn y fath ffordd fel y bydd rhan helaeth o'r paill yn cael ei ddileu |
9. baker’s honey | mêl sy'n — (a) sy'n addas at ddefnydd diwydiannol neu fel cynhwysyn mewn bwydydd eraill sydd wedyn yn cael eu prosesu; a (b) a allai — (i) fod â blas neu arogl dieithr, (ii) bod wedi dechrau eplesu neu sydd wedi eplesu, neu (iii) sydd wedi'u gorgynhesu |
Rheoliad 2(2)
Nodyn 1: Pan gaiff ei roi ar y farchnad fel mêl neu pan gaiff ei ddefnyddio mewn unrhyw gynnyrch a fwriedir i'w fwyta gan bobl, rhaid i fêl: (a) ac eithrio mêl pobydd, beidio â bod ag unrhyw flas neu arogl dieithr, peidio â bod wedi dechrau eplesu neu fod wedi eplesu, neu bod sydd wedi'u cynhesugwresogi yn y fath ffordd fel bod yr ensymau naturiol naill ai wedi'u distrywio neu wedi'u gwneud yn sylweddol anweithgar. (b) Peidio â bod ag asidedd sydd wedi'i newid yn artiffisial. | |
Nodyn 2: Ni cheir dileu paill neu gyfansoddyn sy'n benodol i fêl ac eithrio lle na ellir osgoi hyn wrth ddileu deunydd anorganig neu organig estron. | |
1. Cynnwys siwgr | |
1.1. Cynnwys ffrwctos a glwcos (swm y ddau) | |
— mêl blodau | Dim llai na 60 g/100 g |
— mêl melwlith, cyfuniadau o fêl melwlith gyda mêl blodau | Dim llai na 45 g/100 g |
1.2. Cynnwys swcros | |
— yn gyffredinol | Dim mwy na 5g/100 g |
— ffug acesia (Robinia pseudoacacia), alffalffa (Medicago sativa), Banksia Menzies (Banksia menziesii), Gwyddfid Ffrainc (Hedysarum), gwm coch (Eucalyptus camadulensis), lledrwydden (Eucryphia lucida, Eucryphia milliganii), Citrus spp. | dim mwy na 10 g/100g |
— lafant (Lavandula spp.), tafod y fuwch (Borago officinalis) | dim mwy na 15 g/100g |
2. Cynnwys y lleithder | |
— yn gyffredinol | dim mwy na 20% |
— grug (Calluna) a mêl pobydd yn gyffredinol | dim mwy na 23% |
— mêl pobydd o flodau'r grug (Calluna) | dim mwy na 25% |
3. Cynnwys annhoddadwy mewn dŵ r | |
— yn gyffredinol | dim mwy na 0.1 g/100g |
— mêl wedi'i wasgu | dim mwy na 0.5 g/100 g |
4. Dargludedd trydanol | |
— mêl na restrir mohono isod a chyfuniadau o'r mathau hyn o fêl | dim mwy na 0.8 mS/cm |
— mêl melwith a mêl castan a chyfuniadau o'r rhain ac eithrio gyda'r rhai a restrir isod | dim mwy na 0.8 mS/cm |
— eithriadau mefusbren (Arbutus unedo), grug clochog (Erica), coeden eucalyptwus, pisgwydden (Tilia spp.), grug (Calluna vulgaris), manuka neu jelly bush (Leptospermum), coeden de (Melaleuca spp.) | |
5. Asid rhydd | |
— yn gyffredinol | dim mwy na 50 o filli cyfwerthyddion o asid i bob 1000 gram |
— mêl pobydd | dim mwy na 80 filli cyfwerthyddion o o asid i bob 1000 gram |
6. Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural (HMF) a benderfynir ar ôl prosesu a blendio | |
(a)Gweithgarwch diastas (graddfa Schade) | dim llai nag 8 |
— yn gyffredinol, ac eithrio mêl pobydd | |
— mêl sydd â chynnwys ensym isel naturiol (e.e. mêl sitrws) a chynnwys HMF o ddim mwy na 15 mg/kg | dim llai na 3 |
(b)HMF | |
— yn gyffredinol, ac eithrio mêl pobydd | dim mwy na 40 mg/kg (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau o (a), ail indent) |
— mêl o darddiad a ddatganwyd o ranbarthau sydd â hinsawdd drofannol a cyfuniadau o'r mathau hyn o fêl | dim mwy na 80 mg/kg |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys