Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 553 (Cy.56)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

2 Mawrth 2004

Yn dod i rym

5 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), a chan ei fod wedi rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac wedi ymgynghori fel y mae'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Gwladwriaeth sy'n aelod o'r Gymuned Ewropeaidd;

mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “castan” (“chestnut”) yw ffrwyth y gastanwydden (Castanea sativa);

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/113” (“Directive 2001/113”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC(4) ynglŷn â jamiau ffrwythau, jelïau a marmaledau a phiwrî castan a felyswyd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 24 o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a briodolir i “ingredient” yn Rheoliadau 1996;

ystyr “cynhwysyn ychwanegol a ganiateir” (“permitted additional ingredient”) yw cynhwysyn a ddisgrifir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 ac sy'n cael ei ddefnyddio fel a bennir yn y paragraff hwnnw;

ystyr “cynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig” (“specified jam or similar product”), yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw unrhyw gyfansoddiad bwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd â'r Nodiadau ynglŷn â'r Atodlen honno;

ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(5) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(6) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —

(a)

er mwyn ailwerthu;

(b)

at ddibenion sefydliad arlwyo; neu

(c)

at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;.

ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig yw unrhyw ddisgrifiad a bennir ynghylch y cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd â'r Nodiadau ynglŷn â'r Atodlen honno;

ystyr “echdynnyn dyfrllyd ffrwythau” (“aqueous extract of fruit”) yw echdynnyn dyfrllyd ffrwythau sydd, yn ddarostyngedig i'r colledion sy'n digwydd o reidrwydd mewn gweithgynhyrchu priodol, yn cynnwys pob un o gyfansoddion y ffrwythau a ddefnyddiwyd sy'n doddadwy mewn dŵ r;

ystyr “ffrwyth” (“fruit”) yw ffrwyth ffres ac iach, sy'n rhydd rhag dirywiad, sy'n cynnwys pob un o'i gyfansoddion hanfodol ac sy'n ddigon aeddfed i'w ddefnyddio, ar ôl ei lanhau, cael gwared ar unrhyw frychau sydd arno, torri'i ben a'i goesyn, ac mae'n cynnwys sinsir, tomatos, y rhannau bwytadwy o goesynnau rhiwbob, moron, tatws melys, cucumerau, pwmpenni, melonau a melonau dwr;

ystyr ffrwythau gwinwydd (“vine fruits”) yw mysgatelau, resins, syltanas, neu gyrains;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig i'w werthu neu ddangos i'w werthu ac mae'n cynnwys ei gael mewn meddiant i'w werthu, a dehonglir “gwerthu” yn unol â hynny;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractiol i'r Cytundeb AEE;

mae i “label”, “labeli” a “labelu” yr ystyr a briodolir i “labelling” yn Rheoliadau 1996;

ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) yw unrhyw felysydd i'r graddau y mae ei ddefnyddio yn y cynnyrch jam neu'r cynnyrch tebyg penodedig wedi'i ganiatáu yn Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(7);

ystyr “mwydion ffrwythau” (“fruit pulp”) yw'r rhan fwytadwy o ffrwyth cyfan, gyda neu heb y pilion, y croen, yr hadau neu'r dincod, fel y bo'n briodol, a'r ffrwyth hwnnw wedi'i sleisio neu wedi'i wasgu efallai ond heb ei leihau i biwrî;

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin a rhaid dehongli “a baratowyd” yn unol â hynny;

ystyr “piwrî ffrwythau” (“fruit purée”) yw'r rhan fwytadwy o ffrwyth cyfan, gyda neu heb y pilion, y croen, yr hadau neu'r dincod, fel y bo'n briodol, a'r ffrwyth hwnnw wedi'i leihau i biwrî drwy gael ei hidlo neu drwy beri iddo fynd drwy broses debyg;

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(8);

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach;

ystyr “sinsir” (“ginger”) yw gwreiddyn bwytadwy'r planhigyn sinsir mewn cyflwr ffres neu wedi'i breserfio ac y gall fod wedi'i sychu neu wedi'i breserfio mewn surop; ac

ystyr “siwgrau” (“sugars”) yw cynnyrch siwgr a ddiffinnir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC ynglŷn â siwgrau penodol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(9) surop ffrwctos, siwgr a echdynnwyd o ffrwythau neu siwgr brown neu unrhyw gyfuniad ohonynt.

(2Nid yw bwyd a ddisgrifir yng ngholofn 2 unrhyw un o eitemau 1 i 7 yn Atodlen 1 yn gynnyrch jam penodedig na'n gynnyrch tebyg penodedig o fewn ystyr y Rheoliadau hyn os —

(a)y mae'n cynnwys unrhyw gynhwysyn ychwanegol ac eithrio cynhwysyn ychwanegol a ganiateir;

(b)y parwyd i unrhyw ddeunydd crai, y mae paragraffau 2 i 4 o Atodlen 2 yn cyfeirio ato, ac a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r bwyd hwnnw, gael unrhyw driniaeth heblaw triniaeth a awdurdodir yn y paragraffau hynny.

(3Mae i unrhyw ymadrodd arall sy'n cael ei ddefnyddio yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn cael ei ddefnyddio yng Nghyfarwyddeb 2001/113 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

Cwmpas y Rheoliadau

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion jam penodedig a chynhyrchion tebyg penodedig, a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflwyno i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu mân gynnyrch popty, crystiau neu fisgedi.

(3Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gynnyrch sy'n dwyn y disgrifiad a nodir yn eitemau 8 i 11 o golofn 1 Atodlen 1 ac —

(a)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru —

(i)o Wladwriaeth AEE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu

(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig, lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Gwladwriaeth AEE; neu

(b)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru —

(i)o Aelod-wladwriaeth (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu

(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig, lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth, neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon.

Disgrifiadau neilltuedig

4.  Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd â label, p'un a yw wedi'i gysylltu â'r deunydd lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arno neu beidio, a'r label hwnnw'n dwyn arno, yn ffurfio neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddisgrifiad sy'n deillio ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo oni bai —

(a)bod bwyd o'r fath yn gynnyrch jam neu gynnyrch tebyg penodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn berthnasol iddo;

(b)bod disgrifiad, disgrifiad sy'n deillio ohono neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun o'r fath er mwyn dangos yn bendant neu drwy oblygiad clir mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n berthnasol iddo; neu

(c)bod disgrifiad o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn ychwanegol at enw'r bwyd ac yn unol ag arferion sy'n cael eu defnyddio i ddynodi cynhyrchion eraill nad oes modd drysu rhyngddynt a'r rhai sydd wedi'u diffinio yng ngholofn 2 o Atodlen 1.

Labelu a disgrifio cynhyrchion jam penodedig

5.—(1Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig onid yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —

(a)disgrifiad neilltuedig y cynnyrch;

(b)pan fydd unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig yn cynnwys mwy na 10 miligram fesul cilogram o sylffwr deuocsid gweddilliol, yna, yn ychwanegol at unrhyw fanylyn y mae'n ofynnol ei nodi mewn rhestr gynhwysion o dan Reoliadau 1996, rhaid nodi'r cynnwys gweddilliol hwnnw yn y rhestr gynhwysion yn ôl y ganran yn ôl pwysau o'r gweddillion yn y cynnyrch yn “sulphur dioxide”.

(2Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch a bennir yn eitemau 1-7 o Atodlen 1 onid yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —

(a)yn achos —

(i)cynnyrch a baratowyd o un math o ffrwyth, mynegiad o'r math hwnnw o ffrwyth;

(ii)cynnyrch a baratowyd o ddau fath o ffrwyth, mynegiad o'r mathau hynny o ffrwyth yn nhrefn ddisgynnol pwysau'r mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, y pilion ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r cynnyrch; a

(iii)cynnyrch a baratowyd o dri math o ffrwyth neu fwy, mynegiad o'r mathau hynny o ffrwyth yn nhrefn ddisgynnol pwysau'r mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y pilion ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r cynnyrch neu fel arall y geiriau “mixed fruit” neu eiriad tebyg neu nifer y mathau o ffrwyth a ddefnyddiwyd i baratoi'r cynnyrch hwnnw;

(b)mynegiad o'r gyfran o ffrwythau a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r cynnyrch ar y ffurf “prepared with Xg of fruit per 100 g”, gan fewnosod yn lle “X” y maint mewn gramau o ffrwythau y deilliodd y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, y pilion ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a ddefnyddiwyd am bob can gram o'r cynnyrch gorffenedig; ac

(c)ac eithrio pan fydd honiad ynglŷn â maeth yn cael ei wneud am y cynnyrch siwgr a bod y cynnyrch wedi'i farcio neu wedi'i labelu, o ran cynnwys siwgr, â'r label maethiad rhagnodedig fel a nodwyd yn Atodlen 7 i Reoliadau 1996, mynegiad o gyfanswm y cynnwys siwgr ar y ffurf “total sugar content: Yg per 100 g”, gan fewnosod yn lle “Y” y cynnwys mewn gramau o solidau toddadwy ym mhob can gram o'r cynnyrch, fel y penderfynir arno drwy reffractomedr ar 20°C, a'r cynnwys a ddangosir yn gywir hyd at +/− 3 gradd reffractometrig.

(3Rhaid i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r cynnyrch â hwy yn unol â pharagraff 2(b) ac (c) ymddangos ar labeli'r bwyd yn yr un cylch golwg ag enw'r cynnyrch ac mewn arwyddnodau y gellir eu gweld yn eglur.

Dull marcio neu labelu

6.  Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig â hwy o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y byddai'n ofynnol marcio neu labelu bwyd â hwy o dan Reoliadau 1996.

Cosbi a gorfodi

7.—(1Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn neu'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion

8.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —

(a)bod y bwyd yr honnir bod tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad a chanddi ddeddfwriaeth gyfatebol i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

(b)yn achos allforio i Wladwriaeth AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2001/113/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â ffrwythau, jamiau, jelïau a marmaledau, a phiwrî castan a felyswyd, a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(10).

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf

9.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu unrhyw Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio a dirymu

10.—(1Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981(11) a Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Diwygio)1990(12), i'r graddau y mae pob un yn gymwys i Gymru.

(2Hepgorir y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru) —

(a)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982(13), yn Atodlen 1;

(b)yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985(14)), yn Atodlen 1, Rhan 1;

(c)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Lloegr a Chymru) 1990(15), yn Atodlen 1, Rhan 1, Atodlen 3, Rhan 1 ac Atodlen 6 ;

(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(16)), yn Atodlen 1, Rhan 1;

(d)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymu) 1992(17), yn Rhan 1 o'r Atodlen;

(dd)yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(18), yn Atodlen 9.

(3Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(19)) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), yn Atodlenni 2, 3 a 7 yn lle'r geiriau “Directive 79/693/EEC” ym mhob man y maent yn ymddangos rhoddir y geiriau “Directive 2001/113/EC” relating to fruit jams, jellies and marmalades and sweetened chestnut purée intended for human consumption”.

Darpariaethau trosiannol

11.  Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi —

(a)bod y bwyd dan sylw wedi'i farcio neu wedi'i labelu cyn 12 Gorffennaf 2004, a

(b)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981 fel yr oeddent yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(20)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Mawrth 2004

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1CYFANSODDIAD

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau NeilltuedigCynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig

NODIADAU

1.

Yn achos cynnyrch a baratowyd o gymysgedd o fathau o ffrwythau, rhaid darllen colofn 2 o'r Atodlen hon fel petai'r meintiau isaf a bennir ar gyfer y gwahanol fathau o ffrwythau a grybwyllir neu y cyfeirir atynt ynddi wedi'u lleihau yn gymesur â meintiau cymharol y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd.

2.

Rhaid bod y cynhyrchion a ddisgrifir yn yr Atodlen hon yn cynnwys 60% neu fwy o sylwedd sych toddadwy, fel y penderfynir arno drwy reffractomedr ar 20oC, ac eithrio —

(a)

y cynhyrchion hynny lle mae'r siwgrau ynddynt wedi'u hamnewid yn gyfan gwbl neu'n rhannol â melysyddion a ganiateir;

(b)

y cynhyrchion hynny sydd wedi'u labelu “reduced sugar” y caniateir iddynt gynnwys nid llai na 25% ac nid mwy na 50% o sylwedd sych toddadwy;

(c)

y cynhyrchion hynny a ddisgrifiwyd yn eitemau 8 i 11 y mae'n rhaid iddynt gynnwys 65% neu fwy o sylwedd sych toddadwy.

3.

Rhaid darllen colofn 1 o'r Atodlen fel petai'r canlynol wedi'i roi yn lle “X” yn eitem 8 —

(a)

enw math penodol o ffrwyth; neu

(b)

y geiriau “mixed fruit”; neu

(c)

y gair “fruit” a mynegiad o'i flaen o nifer y mathau o ffrwyth a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r bwyd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yr eitem.

4.

Rhaid darllen colofn 1 o'r Atodlen hon fel petai'r canlynol wedi'i roi yn lle “Y” yn eitem 10 —

(a)

enw math penodol o ffrwyth; neu

(b)

y geiriau “mixed fruit”.

1.  Jam

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o siwgrau, mwydion neu biwrî neu'r ddau o un math o ffrwyth neu fwy a dŵ r, yn y fath fodd â bod maint y mwydion ffrwythau neu'r piwrî ffrwythau neu'r ddau ohonynt a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na —

(i)

250 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

(ii)

150 gram yn achos sinsir,

(iii)

160 gram yn achos afalau cashiw,

(iv)

60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint,

(v)

350 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

2.  Extra Jam

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o

  • siwgrau, mwydion annwysedig un math o ffrwyth neu fwy a dŵ r, neu

  • yn achos jam ecstra egroes neu jam ecstra di-had mafon, mwyar duon, cyrains duon, llus America, cyrains cochion, o siwgrau, piwr annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, a dŵ r,

ond ni chaniateir defnyddio'r ffrwythau canlynol wedi'u cymysgu ag eraill wrth weithgynhyrchu jam ecstra: afalau, gellyg, eirin careglynol, melonau, melonau dŵ r, grawnwin, pwmpenni, cucumerau a thomatos.

A maint y mwydion ffrwythau neu biwrî ffrwythau neu'r ddau a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na —

(i)

350 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

(ii)

250 gram yn achos sinsir,

(iii)

230 gram yn achos afalau cashiw,

(iv)

80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint,

(v)

450 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

3.  Jelly

Cymysgedd sydd wedi'i gelio'n briodol o siwgrau a sudd ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu'r ddau ohonynt yn y fath fodd â bod maint y sudd ffrwythau neu'r echdynnyn ffrwythau dyfrllyd neu'r ddau ohonynt sy'n cael ei ddefnyddio am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na —

(i)

250 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

(ii)

150 gram yn achos sinsir,

(iii)

160 gram yn achos afalau cashiw,

(iv)

60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint, 4(v)350 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

Cyfrifir y meintiau ym mharagraffau (i) i (v) uchod ar ôl didynnu pwysau'r dŵ r a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r echdynion dyfrllyd.

4.  Extra Jelly

Cymysgedd sydd wedi'i gelio'n briodol o siwgrau a sudd ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu'r ddau, ond ni chaniateir defnyddio'r ffrwythau canlynol wedi'u cymysgu ag eraill i weithgynhyrchu extra jelly: afalau, gellyg, eirin careglynol, melonau, melonau dŵ r, grawnwin, pwmpenni, cucumerau a thomatos.

A maint y sudd ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu'r ddau, a defnyddiwyd am bob cilogram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na —

(i)

350 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

(ii)

250 gram yn achos sinsir,

(iii)

230 gram yn achos afalau cashiw,

(iv)

80 gram ar gyfer ffrwyth y dioddefaint,

(v)

450 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

Cyfrifir y meintiau ym mharagraffau (i) i (v) uchod ar ôl didynnu pwysau'r dŵ r a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r echdynion dyfrllyd.

5.  Jelly marmalade

Cyfansoddiad marmalêd, fel y'i disgrifir isod ond lle nad yw'r cynnyrch yn cynnwys unrhyw sylwedd annhoddadwy ac eithrio o bosibl meintiau bach o bilion sydd wedi'u sleisio'n fân.

6.  Marmalade

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o ddŵ r, siwgrau a mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, pilion ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu unrhyw gyfuniad ohonynt, a phob un o'r rheini wedi'u sicrhau o ffrwythau sitrws, yn y fath fodd â bod maint y ffrwythau sitrws a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 200 gram, y mae nid llai na 75 gram ohono wedi'i gael o'r endocarp.

7.  Sweetened chestnut purée

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster addas, o ddŵ r, siwgr a chastanau a wnaed yn biwrî, yn y fath fodd â bod maint y castanau a wnaed yn biwrî ac a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 380 gram.

8.  X curd

Emwlsiad o fraster neu olew bwytadwy (neu'r ddau), siwgr, ŵ y cyfan neu felynwy (neu'r ddau), ac unrhyw gyfuniad o ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu olewau naws ffrwythau, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yn y fath fodd —

(a)

â bod maint y braster a'r olew a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 40 gram;

(b)

â bod maint yr wyau cyfan a'r melynwyau a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 6.5 gram o solidau melynwy; ac

(c)

â bod maint y ffrwythau, y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, yr echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, ac olew naws y ffrwythau yn ddigon i nodweddu'r cynnyrch gorffenedig.

9.  Lemon cheese

Bwyd sy'n cydymffurfio â'r disgrifiad yn eitem 8 uchod sy'n briodol ar gyfer ceuled lemon.

10.  Y flavour curd

Emylsiad o fraster neu olew bwytadwy (neu'r ddau), siwgr, ŵ y cyfan neu felynwy (neu'r ddau), a deunydd cyflasu gyda chynhwysion eraill neu hebddynt, yn y fath fodd —

(a)

â bod maint y braster a'r olew a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 40 gram;

(b)

â bod maint yr wyau cyfan a'r melynwyau a ddefnyddiwyd yn gyfryw ag y bydd pob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig yn cynnwys nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy; ac

(c)

â bod maint y deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd yn ddigon i nodweddu'r cynnyrch.

11.  Mincemeat

Cymysgedd o gyfryngau melysu, ffrwythau gwinwydd, pilion sitrws, siwet neu fraster cyfatebol a finegr neu asid asetig, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yn y fath fodd —

(a)

â bod maint y ffrwythau gwinwydd a'r pilion sitrws a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 300 gram, y mae nid llai na 200 gram ohono yn cynnwys ffrwythau gwinwydd; a

(b)

â bod maint y siwet neu'r braster cyfatebol a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 25 gram.

At ddibenion y cofnod hwn ystyr “cyfryngau melysu” yw —

(a)

unrhyw gynnyrch siwgr a ddiffinnir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/111/EC(21) ynglŷn â siwgrau penodol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

(b)

siwgr brown;

(c)

triogl cansen;

(ch)

mêl, fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC(22) ynglŷn â mêl.

Rheoliad 2(1) a (2)

ATODLEN 2CYNHWYSION YCHWANEGOL A GANIATEIR A THRINIAETHAU AWDURDODEDIG AR GYFER CYNHYRCHION A DDISGRIFIWYD YN EITEMAU 1 I 7 O ATODLEN 1

1.  Caniateir defnyddio'r cynhwysion ychwanegol canlynol, i'r graddau a nodir isod:

(a)mêl fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC dyddiedig 20 Rhagfyr 2001 ynglŷn â mêl(23): mewn pob cynnyrch fel amnewidyn cyfan neu rannol ar gyfer siwgrau;

(b)sudd ffrwythau: dim ond mewn jam;

(c)sudd ffrwythau sitrws: mewn cynhyrchion a gafwyd o fathau eraill o ffrwythau: dim ond mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;

(ch)suddau ffrwythau coch: dim ond mewn extra jam a weithgynhyrchwyd o egroes, mefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion, eirin a rhiwbob;

(d)sudd betys coch: dim ond mewn jam a jelly a weithgynhyrchwyd o fefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion ac eirin;

(dd)olewau naws ffrwythau sitrws: dim ond mewn marmalade a jelly marmalade;

(e)olewau a brasterau bwytadwy fel cyfryngau gwrth-ewynnu: mewn pob cynnyrch;

(f)hylif pectin: mewn pob cynnyrch;

(ff)pilion sitrws: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;

(g)dail Pelargonium odoratissimum: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly, pan fyddant wedi'u gwneud o gwins;

(ng)gwirodydd, gwin a gwin liqueur, cnau, perlysiau, fanila ac echdynion fanila: mewn pob cynnyrch;

(h)fanilin: mewn pob cynnyrch;

(i)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch ychwanegion bwyd yr awdurdodwyd eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(24).

2.  Caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau gael eu trin yn y ffyrdd canlynol:

(a)eu twymo, eu hoeri neu eu rhewi;

(b)eu sychrewi;

(c)eu dwysáu, i'r graddau ei bod yn dechnegol bosibl;

(ch)ac eithrio mewn perthynas â extra jam neu extra jelly, eu sylffito, hynny yw caniateir defnyddio sylffwr deuocsid (E 220) neu ei halwynau (E 221, E 222, E 223, E 224, E 226 ac E 227) yn gyfrwng cymorth i weithgynhyrchu ar yr amod nad yw'r cyfanswm ohono yn uwch na'r uchafswm cynnwys o ran sylffwr deuocsid a bennwyd yng Nghyfarwyddeb 92/2/EC(25).

3.  Caniateir i fricyll ac eirin sydd i'w defnyddio wrth weithgynhyrchu jam gael eu trin â phrosesau sychu eraill ar wahân i sych-rewi.

4.  Yn ychwanegol caniateir i bilion sitrws gael eu preserfio mewn heli.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC ynghylch jamiau ffrwythau, jelïau a marmaledau a phiwrî castan a felyswyd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.67) ac maent yn cynnwys mesurau cenedlaethol hefyd. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau —

(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer rhai cynhyrchion jam penodedig (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2). Y cynhyrchion a ddisgrifir yn y cofnodion sydd wedi'u Rhif o 1 i 7 yn Atodlen 1 yw'r rhai y mae'r Gyfarwyddeb yn gymwys iddynt tra bod y rhai a bennir yn y cofnodion sydd wedi'u Rhif o 8 i 11 yn Atodlen 1 wedi'u cynnwys fel mesurau cenedlaethol;

(b)yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle mae'r Rheoliadau yn gymwys (rheoliad 3);

(c)yn cyfyngu'r defnydd ar ddisgrifiadau neilltuedig i'r cynhyrchion jam penodedig a'r cynhyrchion tebyg y maent yn berthnasol iddynt (rheoliad 4);

(ch)yn rhagnodi gofynion labelu at gyfer cynhyrchion o'r fath (rheoliad 5);

(d)yn gwneud darpariaeth ynglŷn â dull marcio a labelu cynhyrchion jam penodedig a chynhyrchion tebyg penodedig (rheoliad 6);

(dd)yn pennu cosb ar gyfer torri'r Rheoliadau, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) a'r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad ynglŷn ag allforion (rheoliadau 7 ac 8);

(e)yn cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9);

(f)yn dirymu'r Rheoliadau blaenorol ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11).

Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a rhoddwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(4)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.67.

(5)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.

(6)

OJ Rhif L1, 3.1.94, p.571.

(9)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.

(10)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.67, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor AEE Rhif 99/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.10).

(20)

1998 p.38.

(21)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.

(22)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47.

(23)

OJ Rhif L.010, 12/01/2002, t.47.

(24)

OJ Rhif L.040, 11/02/1989, t.27.

(25)

OJ Rhif L.61, 18.03.95, t.1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill