Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1CYFANSODDIAD

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau NeilltuedigCynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig

NODIADAU

1.

Yn achos cynnyrch a baratowyd o gymysgedd o fathau o ffrwythau, rhaid darllen colofn 2 o'r Atodlen hon fel petai'r meintiau isaf a bennir ar gyfer y gwahanol fathau o ffrwythau a grybwyllir neu y cyfeirir atynt ynddi wedi'u lleihau yn gymesur â meintiau cymharol y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd.

2.

Rhaid bod y cynhyrchion a ddisgrifir yn yr Atodlen hon yn cynnwys 60% neu fwy o sylwedd sych toddadwy, fel y penderfynir arno drwy reffractomedr ar 20oC, ac eithrio —

(a)

y cynhyrchion hynny lle mae'r siwgrau ynddynt wedi'u hamnewid yn gyfan gwbl neu'n rhannol â melysyddion a ganiateir;

(b)

y cynhyrchion hynny sydd wedi'u labelu “reduced sugar” y caniateir iddynt gynnwys nid llai na 25% ac nid mwy na 50% o sylwedd sych toddadwy;

(c)

y cynhyrchion hynny a ddisgrifiwyd yn eitemau 8 i 11 y mae'n rhaid iddynt gynnwys 65% neu fwy o sylwedd sych toddadwy.

3.

Rhaid darllen colofn 1 o'r Atodlen fel petai'r canlynol wedi'i roi yn lle “X” yn eitem 8 —

(a)

enw math penodol o ffrwyth; neu

(b)

y geiriau “mixed fruit”; neu

(c)

y gair “fruit” a mynegiad o'i flaen o nifer y mathau o ffrwyth a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r bwyd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yr eitem.

4.

Rhaid darllen colofn 1 o'r Atodlen hon fel petai'r canlynol wedi'i roi yn lle “Y” yn eitem 10 —

(a)

enw math penodol o ffrwyth; neu

(b)

y geiriau “mixed fruit”.

1.  Jam

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o siwgrau, mwydion neu biwrî neu'r ddau o un math o ffrwyth neu fwy a dŵ r, yn y fath fodd â bod maint y mwydion ffrwythau neu'r piwrî ffrwythau neu'r ddau ohonynt a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na —

(i)

250 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

(ii)

150 gram yn achos sinsir,

(iii)

160 gram yn achos afalau cashiw,

(iv)

60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint,

(v)

350 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

2.  Extra Jam

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o

  • siwgrau, mwydion annwysedig un math o ffrwyth neu fwy a dŵ r, neu

  • yn achos jam ecstra egroes neu jam ecstra di-had mafon, mwyar duon, cyrains duon, llus America, cyrains cochion, o siwgrau, piwr annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, a dŵ r,

ond ni chaniateir defnyddio'r ffrwythau canlynol wedi'u cymysgu ag eraill wrth weithgynhyrchu jam ecstra: afalau, gellyg, eirin careglynol, melonau, melonau dŵ r, grawnwin, pwmpenni, cucumerau a thomatos.

A maint y mwydion ffrwythau neu biwrî ffrwythau neu'r ddau a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na —

(i)

350 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

(ii)

250 gram yn achos sinsir,

(iii)

230 gram yn achos afalau cashiw,

(iv)

80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint,

(v)

450 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

3.  Jelly

Cymysgedd sydd wedi'i gelio'n briodol o siwgrau a sudd ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu'r ddau ohonynt yn y fath fodd â bod maint y sudd ffrwythau neu'r echdynnyn ffrwythau dyfrllyd neu'r ddau ohonynt sy'n cael ei ddefnyddio am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na —

(i)

250 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

(ii)

150 gram yn achos sinsir,

(iii)

160 gram yn achos afalau cashiw,

(iv)

60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint, 4(v)350 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

Cyfrifir y meintiau ym mharagraffau (i) i (v) uchod ar ôl didynnu pwysau'r dŵ r a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r echdynion dyfrllyd.

4.  Extra Jelly

Cymysgedd sydd wedi'i gelio'n briodol o siwgrau a sudd ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu'r ddau, ond ni chaniateir defnyddio'r ffrwythau canlynol wedi'u cymysgu ag eraill i weithgynhyrchu extra jelly: afalau, gellyg, eirin careglynol, melonau, melonau dŵ r, grawnwin, pwmpenni, cucumerau a thomatos.

A maint y sudd ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu'r ddau, a defnyddiwyd am bob cilogram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na —

(i)

350 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

(ii)

250 gram yn achos sinsir,

(iii)

230 gram yn achos afalau cashiw,

(iv)

80 gram ar gyfer ffrwyth y dioddefaint,

(v)

450 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

Cyfrifir y meintiau ym mharagraffau (i) i (v) uchod ar ôl didynnu pwysau'r dŵ r a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r echdynion dyfrllyd.

5.  Jelly marmalade

Cyfansoddiad marmalêd, fel y'i disgrifir isod ond lle nad yw'r cynnyrch yn cynnwys unrhyw sylwedd annhoddadwy ac eithrio o bosibl meintiau bach o bilion sydd wedi'u sleisio'n fân.

6.  Marmalade

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o ddŵ r, siwgrau a mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, pilion ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu unrhyw gyfuniad ohonynt, a phob un o'r rheini wedi'u sicrhau o ffrwythau sitrws, yn y fath fodd â bod maint y ffrwythau sitrws a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 200 gram, y mae nid llai na 75 gram ohono wedi'i gael o'r endocarp.

7.  Sweetened chestnut purée

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster addas, o ddŵ r, siwgr a chastanau a wnaed yn biwrî, yn y fath fodd â bod maint y castanau a wnaed yn biwrî ac a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 380 gram.

8.  X curd

Emwlsiad o fraster neu olew bwytadwy (neu'r ddau), siwgr, ŵ y cyfan neu felynwy (neu'r ddau), ac unrhyw gyfuniad o ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu olewau naws ffrwythau, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yn y fath fodd —

(a)

â bod maint y braster a'r olew a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 40 gram;

(b)

â bod maint yr wyau cyfan a'r melynwyau a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 6.5 gram o solidau melynwy; ac

(c)

â bod maint y ffrwythau, y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, yr echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, ac olew naws y ffrwythau yn ddigon i nodweddu'r cynnyrch gorffenedig.

9.  Lemon cheese

Bwyd sy'n cydymffurfio â'r disgrifiad yn eitem 8 uchod sy'n briodol ar gyfer ceuled lemon.

10.  Y flavour curd

Emylsiad o fraster neu olew bwytadwy (neu'r ddau), siwgr, ŵ y cyfan neu felynwy (neu'r ddau), a deunydd cyflasu gyda chynhwysion eraill neu hebddynt, yn y fath fodd —

(a)

â bod maint y braster a'r olew a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 40 gram;

(b)

â bod maint yr wyau cyfan a'r melynwyau a ddefnyddiwyd yn gyfryw ag y bydd pob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig yn cynnwys nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy; ac

(c)

â bod maint y deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd yn ddigon i nodweddu'r cynnyrch.

11.  Mincemeat

Cymysgedd o gyfryngau melysu, ffrwythau gwinwydd, pilion sitrws, siwet neu fraster cyfatebol a finegr neu asid asetig, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yn y fath fodd —

(a)

â bod maint y ffrwythau gwinwydd a'r pilion sitrws a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 300 gram, y mae nid llai na 200 gram ohono yn cynnwys ffrwythau gwinwydd; a

(b)

â bod maint y siwet neu'r braster cyfatebol a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 25 gram.

At ddibenion y cofnod hwn ystyr “cyfryngau melysu” yw —

(a)

unrhyw gynnyrch siwgr a ddiffinnir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/111/EC(1) ynglŷn â siwgrau penodol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

(b)

siwgr brown;

(c)

triogl cansen;

(ch)

mêl, fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC(2) ynglŷn â mêl.

Rheoliad 2(1) a (2)

ATODLEN 2CYNHWYSION YCHWANEGOL A GANIATEIR A THRINIAETHAU AWDURDODEDIG AR GYFER CYNHYRCHION A DDISGRIFIWYD YN EITEMAU 1 I 7 O ATODLEN 1

1.  Caniateir defnyddio'r cynhwysion ychwanegol canlynol, i'r graddau a nodir isod:

(a)mêl fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC dyddiedig 20 Rhagfyr 2001 ynglŷn â mêl(3): mewn pob cynnyrch fel amnewidyn cyfan neu rannol ar gyfer siwgrau;

(b)sudd ffrwythau: dim ond mewn jam;

(c)sudd ffrwythau sitrws: mewn cynhyrchion a gafwyd o fathau eraill o ffrwythau: dim ond mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;

(ch)suddau ffrwythau coch: dim ond mewn extra jam a weithgynhyrchwyd o egroes, mefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion, eirin a rhiwbob;

(d)sudd betys coch: dim ond mewn jam a jelly a weithgynhyrchwyd o fefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion ac eirin;

(dd)olewau naws ffrwythau sitrws: dim ond mewn marmalade a jelly marmalade;

(e)olewau a brasterau bwytadwy fel cyfryngau gwrth-ewynnu: mewn pob cynnyrch;

(f)hylif pectin: mewn pob cynnyrch;

(ff)pilion sitrws: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;

(g)dail Pelargonium odoratissimum: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly, pan fyddant wedi'u gwneud o gwins;

(ng)gwirodydd, gwin a gwin liqueur, cnau, perlysiau, fanila ac echdynion fanila: mewn pob cynnyrch;

(h)fanilin: mewn pob cynnyrch;

(i)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch ychwanegion bwyd yr awdurdodwyd eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(4).

2.  Caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau gael eu trin yn y ffyrdd canlynol:

(a)eu twymo, eu hoeri neu eu rhewi;

(b)eu sychrewi;

(c)eu dwysáu, i'r graddau ei bod yn dechnegol bosibl;

(ch)ac eithrio mewn perthynas â extra jam neu extra jelly, eu sylffito, hynny yw caniateir defnyddio sylffwr deuocsid (E 220) neu ei halwynau (E 221, E 222, E 223, E 224, E 226 ac E 227) yn gyfrwng cymorth i weithgynhyrchu ar yr amod nad yw'r cyfanswm ohono yn uwch na'r uchafswm cynnwys o ran sylffwr deuocsid a bennwyd yng Nghyfarwyddeb 92/2/EC(5).

3.  Caniateir i fricyll ac eirin sydd i'w defnyddio wrth weithgynhyrchu jam gael eu trin â phrosesau sychu eraill ar wahân i sych-rewi.

4.  Yn ychwanegol caniateir i bilion sitrws gael eu preserfio mewn heli.

(1)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.

(2)

OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47.

(3)

OJ Rhif L.010, 12/01/2002, t.47.

(4)

OJ Rhif L.040, 11/02/1989, t.27.

(5)

OJ Rhif L.61, 18.03.95, t.1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill