Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

ystyr “ y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.

Trosglwyddo Swyddogaethau'r Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol

2.  Yn ddarostyngedig i erthygl 9, trosglwyddir holl swyddogaethau'r Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo staff

3.  At ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(1)

(a)mae'r trosglwyddiad swyddogaethau y mae erthygl 2 yn ei wneud yn effeithiol i'w drin fel pe bai'n drosglwyddiad ymgymeriad;

(b)mae pob person a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gyflogedig gan y Cyngor o dan gontract cyflogaeth, i'w drin fel pe bai'n gyflogedig yn yr ymgymeriad yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

4.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd gan y Cyngor hawl iddynt neu yr oedd y Cyngor yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Bydd tystysgrif a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol bod unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau wedi'u trosglwyddo gan baragraff (1) yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r trosglwyddiad.

(3Nid yw'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth a drosglwyddir yn rhinwedd erthygl 3.

(4Mae i baragraff (1) effaith mewn cysylltiad ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

(a)er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn rhwystro eu trosglwyddo, neu'n ei gosbi, neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo ac eithrio drwy'r gorchymyn hwn;

(b)heb fod unrhyw offeryn neu ffurfioldeb arall yn ofynnol.

Darpariaeth ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau

5.  I'r graddau y mae'n ofynnol ar gyfer parhau ei effaith ar ac ar ôl y dyddiad trosglwyddo, rhaid i unrhyw beth a wnaed gan y Cyngor neu mewn perthynas ag ef ac sy'n cael effaith yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, gael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol neu mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diddymu'r Cyngor

6.  Ar y dyddiad trosglwyddo mae'r Cyngor yn peidio â bod.

Darpariaethau Trosiannol

7.—(1Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Cyngor neu mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad trosglwyddo.

(2Caniateir i'r Cynulliad Cenedlaethol barhau, neu caniateir parhau, mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol, ag unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael ei wneud gan y Cyngor neu mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad trosglwyddo.

(3Ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo, i'r graddau y bo'n angenrheidiol neu'n briodol, mae cyfeiriadau at y Cyngor, mewn unrhyw offerynnau, contractau, neu achosion cyfreithiol, i'w trin fel pe baent yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.

Cyfrifon

8.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)paratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer y cyfnod sy'n cychwyn ar ddyddiad y datganiad diwethaf o gyfrifon a baratowyd gan y Cyngor ac sy'n gorffen ar y dyddiad trosglwyddo;

(b)anfon copi o'r datganiad at Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn diwedd y cyfnod o 6 mis yn cychwyn ar y dyddiad trosglwyddo.

(2Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio'r datganiad y mae wedi'i dderbyn o dan yr erthygl hon a llunio adroddiad arno;

(b)gosod copi o'r adroddiad ar y datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau a deddfwriaeth arall

9.—(1Diwygir y Deddfau a bennir yn Atodlen 1 yn unol â'r Atodlen honno.

(2Diwygir yr is-ddeddfwriaeth a bennir yn Atodlen 2 yn unol â'r Atodlen honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill