- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'i wneud
13 Mehefin 2006
Yn dod i rym
14 Mehefin 2006
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(2).
1. Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006, maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anifeiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan reoliadau Eneffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(3).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw gwartheg yn cynnwys buail a byfflo (gan gynnwys byfflo dŵr);
ystyr “BSE” (“BSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf buchol;
mae gan “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yr un ystyr ag sydd yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(4);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
3. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal–
(a)pan fo anifail yn cael ei ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006;
(b)pan fo anifail i'w ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, a bod yr anifail wedi ei brisio ar gyfer pwrpasau iawndal, ond fod yr anifail yn marw (neu yn cael ei ladd am resymau eraill) wedi prisio; neu
(c)lle bo anifail yn ddarostyngedig i gyfyngiad symud o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 a bod yn rhaid ei ladd fel mater o frys, a bod milfeddyg wedi datgan yn ysgrifenedig y byddai'r anifail fel arall wedi bod yn addas i'w fwyta gan bobl yn unol â Phennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(5), ac os felly yr iawndal yw gwerth y corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen).
4.—(1) Yr iawndal yw'r pris cyfartalog a delir ym Mhrydain fawr am anifail o'r oed a'r categori hwnnw o anifail–
(a)yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri; ac
(b)yn achos unrhyw anifail buchol eraill, yn y mis blaenorol
(2) Anifail pedigri yw anifail sydd wedi cael tystysgrif pedigri gan sefydliad neu gymdeithas bridwyr sy'n cyflawni amodau Penderfyniad y Cyngor 84/247/EEC sy'n gosod y meini prawf ar gyfer cydnabod sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy'n cadw llyfrau buches ar gyfer anifeiliaid bridio pur o'r rhywogaeth buchol(6).
(3) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gategoreiddio anifeiliaid fel a ganlyn, ac at bwrpas penderfynu ynglŷn â pha gategori i roi'r anifail, oed yr anifail yw'r oed, fel y dangosir gan ei basport gwartheg, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o'r bwriad i'w ladd.
Gwryw | Menyw |
---|---|
Sector Eidion—anifail sydd ddim yn bedigri | |
Hyd at ac yn cynnwys 3 mis | Hyd at ac yn cynnwys 3 mis |
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis | Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis |
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnnwys 9 mis | Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 9 mis |
Dros 9 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis | Dros 9 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis | Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis |
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis | Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis |
Dros 20 mis– | Dros 20 mis– |
Teirw bridio | Wedi bwrw llo |
Arall | Heb fwrw llo |
Sector Llaeth—anifail sydd ddim yn bedigri | |
Hyd at ac yn cynnwys 3 mis | Hyd at ac yn cynnwys 3 mis |
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis | Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis |
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis | Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis | Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis |
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis | Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis |
Dros 20 mis | Dros 20 mis– |
Wedi bwrw lloHeb fwrw llo | |
Sector Eidion — anifail pedigri | |
6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis | 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis | Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis |
Dros 24 mis | Dros 24 mis (heb fwrw llo) |
Wedi bwrw llo o dan 36 mis | |
Wedi bwrw llo 36 mis a drosodd | |
Sector Llaeth—anifail pedigri | |
Hyd at ac yn cynnwys 2 fis | Hyd at ac yn cynnwys 2 fis |
Dros 2 fis hyd at ac yn cynnwys 12 mis | Dros 2 fis hyd at ac yn cynnwys 10 mis |
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis | Dros 10 mis hyd at ac yn cynnwys 18 mis |
Dros 24 mis | Dros 18 mis (heb fwrw llo) |
Wedi bwrw lllo o dan 36 mis | |
Wedi bwrw llo 36 mis a throsodd |
5.—(1) Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r data i gyfrifo'r pris cyfartalog yn ddigonol, yna mae'n rhaid iddo dalu iawndal–
(a)am anifeiliaid yn y categori hwnnw, y pris cyfartalog a gyfrifwyd yn flaenorol yn fwyaf diweddar lle roedd digon o ddata i gyfrifo'r pris cyfartalog; neu
(b)pris y farchnad, am yr anifail unigol.
(2) Ar gyfer byfflo neu bison, yr iawndal yw pris y farchnad.
(3) Pris y farchnad yw'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am anifail unigol oddi wrth brynwr yn y farchnad agored adeg prisio pe na bai'n ofynnol lladd yr anifail o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, wedi ei gyfrifo o dan reoliad 15 o Reoliadau Enseffalopathïau Trosgwlyddadwy (Cymru) 2006, gyda'r ffioedd am enwebu'r prisiwr a ffioedd y prisiwr yn daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol.
6. Dirymir Rheoliadau 8, 9, 84, 93, Rhan III o Atodlen 1, rheoliad 17 o Ran IV o Atodlen 6A a rheoliadau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â thalu iawndal yn dilyn cigydda anifail buchol, o Reoliadau TSE (Cymru) 2002(7)pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu swm yr iawndal sydd yn daladwy pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn peri cigydda anifail buchol o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai swm yr iawndal sydd yn daladwy ar gigydda anifail buchol yw y pris cyfartalog a dalwyd ym Mhrydain Fawr ar gyfer oed a chategori yr anifail yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri, ac ar gyfer unrhyw anifail buchol arall yn y mis blaenorol.
Yr iawndal ar gyfer Byffalo a Buail yw pris y farchnad.
Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2969 ac O.S. 1999/1339.
OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22.
OJ Rhif L125, 12.05.1984, t.58.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys