Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 13 Ionawr 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “adran fferm gyfan” (“whole farm section”) yw'r amodau amgylcheddol a geir yn Rhan I o'r Atodlen ac y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy fel rhan o gynllun Tir Cynnal;

ystyr “yr amod cynefin 5%” (“the 5% habitat condition”) yw'r amodau a geir yn Rhan 2 o'r Atodlen;

ystyr “Cod Ymarfer Ffermio Da (“Code of Good Farming Practice”) yw'r darpariaethau a nodir yn adran 9.1 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000-2006;

mae “cyflawni” (“carrying out”), mewn perthynas â gweithgaredd, yn cynnwys sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni;

ystyr “cynefinoedd bywyd gwyllt” (“wildlife habitats”) yw'r amodau amgylcheddol a geir yn Rhan 2 o Atodlen 1;

ystyr “cynllun rheoli adnoddau fferm” (“farm resource management plan”) yw'r gweithgaredd a geir yn Rhan 3 o'r Atodlen;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cytundeb Tir Cynnal” (“Tir Cynnal agreement”) yw'r ystyr a roddir iddo gan reoliad 4(2);

ystyr “deiliad cytundeb Tir Cynnal” (“Tir Cynnal agreement holder”) yw unrhyw berson sydd wedi ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal;

ystyr “dibenion penodedig” (“specified purposes”) yw gwarchod bioamrywiaeth, gwarchod nodweddion tirwedd, diogelu'r amgylchedd hanesyddol a lleihau llygredd;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl cyfraith gyffredin yng Nghymru a Lloegr, neu'n Ŵyl y Banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol(1);

ystyr “force majeure” yw amgylchiadau annormal ac anrhagweladwy sydd y tu allan i reolaeth y ceisydd ac na fyddai wedi bod modd osgoi eu heffaith petai'r ceisydd yn arfer pob gofal dyladwy;

ystyr “ffurflen indemnio landlord” (“landlord indemnity form”) yw'r ffurflen a gaiff ei drafftio gan y Cynulliad Cenedlaethol ac y mae Landlord Tenant sy'n dymuno cymryd rhan yng nghynllun Tir Cynnal ond y mae llai na phum mlynedd o'i gytundeb tenantiaeth yn weddill, yn gwneud ymgymeriad i'r Tenant ynddi i gynnal a chadw'r tir o fewn cynllun Tir Cynnal hyd o leiaf ddiwedd pum mlynedd gyntaf unrhyw gytundeb a wnaed gan y Tenant i gymryd rhan yng nghynllun Tir Cynnal;

ystyr “parti arall” (“other party”) yw person sy'n barti i gytundeb Tir Cynnal gyda'r Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “person cymwys” (“eligible person”) yw deiliad cytundeb Tir Cynnal sy'n gwneud cais am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw wedi'i wahardd rhag bod yn gymwys ar gyfer y cymhorthdal hwnnw ar yr adeg pan gaiff cais y person hwnnw ei ystyried;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004(2) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999(3) ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n gymhathus â gofynion gwarchod yr amgylchedd a chynnal a chadw cefn gwlad; ac

ystyr “tir cytundeb” (“agreement land”) yw tir sy'n destun cytundeb Tir Cynnal.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —

(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu at yr Atodlen iddynt;

(b)at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad y ceir y cyfeiriad ynddo; ac

(c)at is-baragraff â Rhif neu a ddynodwyd yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu a ddynodwyd yn y modd hwnnw yn y paragraff y ceir y cyfeiriad ynddo.

Ceisiadau

3.  Gwneir cais gan berson cymwys i ymuno â chynllun Tir Cynnal ar yr adeg honno a'r ffurf honno a bydd y cais yn cynnwys neu amgaeir gydag ef unrhyw wybodaeth y gofynno'r Cynulliad Cenedlaethol amdani a bydd y cais yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a fynno'r Cynulliad Cenedlaethol.

Pŵer i ymrwymo i gytundebau

4.—(1Mewn unrhyw achos pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, mewn perthynas ag unrhyw dir, y byddai'r amodau canlynol o blith y rhai a geir yn Rhannau 1, 2, 3 a 4 o'r Atodlen, a chyflawni gweithgareddau gan unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir hwnnw, yn ffafriol i'r dibenion penodedig, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) isod, ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal gyda'r person cymwys hwnnw.

(2At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr cytundeb Tir Cynnal yw cytundeb sy'n parhau mewn grym am gyfnod o bum mlynedd o leiaf, sy'n darparu bod y deiliad cytundeb i gydymffurfio â'r amodau a geir yn Rhannau 1, 2, 3 a 4 o'r Atodlen mewn perthynas â'r tir cytundeb ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud cymorthdaliadau i'r deiliad cytundeb o ran dilyn yr amodau hynny ar y tir cytundeb.

(3Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i unrhyw gytundeb Tir Cynnal mewn amgylchiadau y mae Erthygl 42 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 (sy'n awdurdodi disodli ymgymeriad neu gytundeb amaeth-amgylcheddol gan ymgymeriad neu gytundeb arall o'r fath) yn gymwys iddynt onid yw wedi'i fodloni bod yr amodau yn yr Erthygl honno'n cael eu cyflawni.

(4Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i unrhyw gytundeb Tir Cynnal onid oes o leiaf 3 hectar o dir yn ddarostyngedig i'r cytundeb hwnnw.

(5Bydd cytundeb Tir Cynnal—

(a)yn cynnwys darpariaeth y bydd y parti arall yn cyflawni ar y tir cytundeb yr adran fferm gyfan fel a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen;

(b)yn cynnwys y bydd y parti arall yn cyflawni ar y tir cytundeb weithgareddau er mwyn gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen, i'r graddau y mae'r cynefinoedd yn bodoli ar y tir cytundeb;

(c)yn cynnwys y bydd o leiaf 5% y tir cytundeb yn gynefin bywyd gwyllt. Os nad yw o leiaf 5% y tir cytundeb yn gynefin bywyd gwyllt pan fo cais yn cael ei wneud yna bydd y parti arall yn cytuno i sicrhau y bydd y tir cytundeb yn cydymffurfio â'r amod cynefin 5%;

(ch)yn cynnwys darpariaeth y bydd y parti arall yn cwblhau cynllun rheoli adnoddau fferm fel a fanylir yn Rhan 3 o'r Atodlen;

(d)mewn perthynas â'r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b), (c) ac (ch), yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'n ei alluogi i roi cymorthdaliadau sydd, ar ddyddiad dod i rym yr offeryn hwn, (ond fe ganiateir newid y cymorthdalaidau yn ôl disgresiwn y Cynulliad Cenedlaethol) ar y cyfraddau y cyfeirir atynt yn Rhan 4 o'r Atodlen.

Amodau talu cymhorthdal

5.—(1Bydd unrhyw ofyniad mewn cytundeb Tir Cynnal i dalu cymhorthdal i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r amod bod person yn berson cymwys ac i'r amodau canlynol hefyd —

(a)nad yw'r person hwnnw'n mynd yn groes i unrhyw un neu rai o delerau'r cytundeb Tir Cynnal sy'n ei rwymo;

(b)bod y person hwnnw'n cydymffurfio â gofynion rheoliad 7 isod; ac

(c)bod y person hwnnw'n parhau i fod â buddiant yn y tir cytundeb tra pery'r cytundeb Tir Cynnal, onid yw'r person hwnnw'n un o denantiaid y tir cytundeb a bod llai na phum mlynedd o'r denantiaeth yn weddill, a bod y person hwnnw wedi cael llofnod ei Landlord ar y ffurflen indemnio landlord;

(ch)bod y person hwnnw wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Arfer Ffermio Da ac yn parhau i gydymffurfio ag ef;

(2y gellir addasu'r amodau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy o dan gynllun Tir Cynnal ar unrhyw adeg, gan gynnwys addasiad a osodir o ganlyniad i newidiadau a wneir yn y dyfodol i Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2002-2006 ac unrhyw gynllun sy'n ei olynu.

Taliadau

6.  Caniateir talu cymhorthdal o dan unrhyw gytundeb Tir Cynnal yn ystod cyfnod talu blynyddol y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Ceisiadau

7.—(1Bydd cais gan ddeiliad cytundeb Tir Cynnal am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ffurf y byddo'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu mynnu ac yn cynnwys yr wybodaeth y byddo'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdani.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ymgorffori'r cais am daliadau Tir Cynnal yn Ffurflen Taliadau'r Cais Sengl.

Terfynau Ariannol

8.  Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ar unrhyw adeg, oherwydd cyfanswm nifer y ceisiadau am grant a gymeradwywyd neu a ddaeth i law eisoes, fod yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer talu grant o dan gynllun Tir Cynnal yn ystod unrhyw gyfnod yn annigonol ar gyfer unrhyw daliad yn ystod y cyfnod a fyddai'n deillio o gymeradwyo unrhyw gais pellach, caiff, o ran unrhyw gais a fydd wedi dod i law ar ddyddiad gwneud ei benderfyniad ond nas derbyniwyd eto, neu unrhyw gais a ddelo i law yn ystod y cyfnod perthnasol—

(a)atal ystyriaeth bellach ar unrhyw gais o'r fath nes dod yr amser y byddo'n ei bennu wedyn: neu

(b)gwrthod unrhyw gais pellach o'r fath heb ystyriaeth bellach.

Ceisiadau hwyr

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, os bydd y ceisydd yn cyflwyno cais am daliad Tir Cynnal o ran blwyddyn benodol yn hwyrach na'r dyddiad cau a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y swm sy'n daladwy fel arall yn cael ei ostwng o un y cant am bob diwrnod gwaith o'r dyddiad cau hyd y dyddiad y daeth y cais i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Os cyflwynwyd y cais fwy na 25 o ddiwrnodau (p'un ai diwrnodau gwaith ai peidio) yn hwyrach na'r dyddiad cau, ni wneir unrhyw daliad i'r ceisydd yn unol â'r cais hwnnw am daliad Tir Cynnal.

(3Ni fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys os ac i'r graddau bod cais wedi'i gyflwyno'n hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol oherwydd force majeure.

Hysbysiad o newid ym meddiannaeth y tir

10.—(1Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal (neu, os yw'r deiliad cytundeb Tir Cynnal wedi marw, ei gynrychiolydd personol) yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o unrhyw newid ym meddiannaeth y tir cytundeb neu unrhyw ran o'r tir cytundeb os yw'r newid yn digwydd tra bo'r cytundeb Tir Cynnal mewn grym.

(2Rhoddir hysbysiad o dan y rheoliad hwn o fewn tri mis ar ôl y newid ym meddiannaeth y tir o dan sylw.

(3Pan fydd newid wedi bod ym meddiannaeth y cyfan neu ran o unrhyw dir cytundeb, a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal am weddill tymor y cytundeb gwreiddiol gyda'r meddiannydd newydd mewn perthynas â'r tir y bu newid yn ei feddiannaeth, yna bernir bod y cytundeb hwnnw, at ddibenion cyfrifo blynyddoedd cytundeb, wedi cychwyn ar y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb gwreiddiol.

(4Os yw'r meddiannydd newydd yn dewis peidio ag ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal am weddill tymor y cytundeb gwreiddiol mewn perthynas â'r tir y bu newid yn ei feddiannaeth yna gall y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu unrhyw ran o gymhorthdalaiadau sydd yn daladawy i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal o dan y Rheoliadau hyn, a gall adennill y cyfan neu unrhyw ran o gymhorthdal a dalwyd iddo ef neu hi.

(5Bydd darpariaethau uchod y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i Erthygl 36 o Reoliad y Comisiwn Rhif 817/2004 (sy'n rheoli trosglwyddiadau daliadau).

Symiau o gymhorthdal

11.  Bydd cymorthdaliadau a delir mewn perthynas â'r amodau adran fferm gyfan a'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen ar yr adeg y daw'r offeryn hwn i rym fel y'u hamlinellwyd yn Rhan 4 o'r Atodlen—

Rhwymedigaeth i ganiatáu mynd ar y tir ac arolygu

12.—(1Bydd deiliad Cytundeb Tir Cynnal sy'n gwneud cais am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn yn caniatáu i unrhyw berson, a awdurdodwyd yn briodol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno tystiolaeth o'i awdurdod pan ofynnir amdani, fynd ar y tir y mae cytundeb Tir Cynnal yn berthnasol iddo at ddibenion —

(a)cyflawni unrhyw arolygiad o'r tir hwnnw neu o unrhyw ddogfen neu gofnod sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y ceisydd ac sy'n ymwneud â'r cais neu y byddo'n rhesymol i berson a awdurdodir amau ei bod neu ei fod yn ymwneud â'r cais, gyda'r bwriad o wirio cywirdeb unrhyw fanylion a roddir yn y cais;

(b)sicrhau p'un a gydymffurfiwyd â thelerau cytundeb Tir Cynnal; ac

(c)cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.

(2Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal yn rhoi pob cymorth rhesymol i'r person a awdurdodwyd mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1), a bydd yn benodol yn—

(a)cynhyrchu unrhyw ddogfen neu gofnod y byddo person a awdurdodwyd yn gofyn amdani neu amdano;

(b)caniatáu i'r person a awdurdodwyd wneud copïau o unrhyw ddogfen neu gofnod o'r fath neu o ddarnau ohoni neu ohono;

(c)os cedwir y ddogfen neu'r cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei chynhyrchu neu ei gynhyrchu ar ffurf y byddo'n hawdd ei darllen a'i dwyn ymaith; ac

(ch)ar gais y person a awdurdodwyd, mynd gyda'r person a awdurdodwyd pan fydd yn gwneud arolygiad o unrhyw dir er mwyn dangos pa ran o dir sy'n ymwneud â'r cais neu ag unrhyw newid yn ei feddiannaeth a hysbyswyd o dan reoliad 10.

Atal cymhorthdal a'i adennill

13.—(1Os bydd unrhyw ddeiliad cytundeb Tir Cynnal, gyda'r bwriad o gael cymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn ar ei gyfer ef ei hun neu ar gyfer unrhyw berson arall, yn gwneud unrhyw ddatganiad neu'n rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu ran o unrhyw gymorthdaliadau sy'n daladwy i'r person hwnnw neu i unrhyw berson arall o'r fath o dan y Rheoliadau a chaiff, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthyglau 71 a 72 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 (sy'n darparu ar gyfer adennill gyda llog daliadau a delir ar gam, ar gyfer system gosb ac ar gyfer gwaharddiad am wneud datganiadau ffug) adennill y cyfan neu ran o unrhyw symiau a dalwyd eisoes o dan y Rheoliadau yn gymhorthdal i'r person hwnnw neu i unrhyw berson arall o'r fath.

(2Os bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal—

(a)os talwyd y cymhorthdal, wedi methu gwneud rhywbeth y mae ef neu hi wedi ymgymryd i'w wneud, neu

(b)yn mynd yn groes i unrhyw amodau y talwyd y cymhorthdal yn ddarostyngedig iddynt,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb hwnnw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal a dalwyd eisoes i'r deiliad.

(3Bydd unrhyw anghydfod mewn unrhyw achos penodol ynghylch atal neu adennill cymhorthdal drwy gyfeiriad at baragraff (1) neu (2) uchod yn cael ei gyfeirio at un cymrodeddwr a'i benderfynu ganddo a bydd y cymrodeddwr yn un y cytunir arno gan y partïon neu, os methir cael cytundeb, yn un sydd i'w benodi gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac yn unol â darpariaethau Deddf Cymrodeddu 1996(4) neu unrhyw addasiad neu ddeddfiad statudol ohoni sydd mewn grym am y tro.

(4Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn atal neu'n adennill cymhorthdal o dan baragraff (2) uchod, caiff hefyd, i'r graddau y mae hynny o ganlyniad i Erthygl 20(2) yn Rheoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau sy'n effeithiol, yn gymesur â'u diben ac sy'n ddigon o ataliad o ran eu heffaith iddynt gael eu gosod am dorri ymgymeriadau), ei gwneud yn ofynnol i'r deiliad cytundeb dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol swm sy'n hafal i ddim mwy na 10% o'r cymhorthdal a dalwyd neu sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal o dan y Rheoliadau hyn.

(5Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gamau a bennir ym mharagraff (1), (2) neu (4) uchod, caiff hefyd derfynu'r cytundeb y cyfeirir ato ynddynt drwy roi hysbysiad o'r terfyniad hwnnw i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal.

(6Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (5) uchod yn tynnu'n ôl gytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw gam a gymerir o dan baragraff (2) uchod, caiff hefyd, i'r graddau y bo o ganlyniad i Erthygl 20(2) o Reoliad y Comisiwn, drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r deiliad cytundeb, wahardd y deiliad cytundeb rhag darparu ymgymeriad newydd neu rhag ymrwymo i gytundeb newydd o dan gynllun amaeth-amgylcheddol am gyfnod (nad yw'n fwy na dwy flynedd) sy'n cychwyn ar ddyddiad y terfyniad hwnnw fel a bennir yn yr hysbysiad.

Adennill llog

14.—(1Os telir cymhorthdal gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn a'i bod, yn rhinwedd Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn (sy'n darparu ar gyfer adennill gyda llog gymorthdaliadau a delir ar gam), yn ofynnol ad-dalu gyda llog y cyfan neu ran o'r cymhorthdal, bydd cyfradd y llog un pwynt canran yn uwch na LIBOR a hynny ar sail ddyddiol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr LIBOR yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym yn ystod y cyfnod a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn.

(3Mewn unrhyw achosion a fydd yn ymwneud â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r raddfa sy'n gymwys yn y cyfnod a bennir os bydd y dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r raddfa honno.

Adennill taliadau

15.  Mewn unrhyw achos pan fo swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu Reoliad y Comisiwn i'r graddau y mae'n ymwneud â thir cytundeb, neu yn rhinwedd camau a gymerir oddi tanynt, bydd modd adennill y swm sydd i'w dalu felly fel dyled.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ionawr 2006

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill