Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 41 (Cy.7)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

10 Ionawr 2006

Yn dod i rym

13 Ionawr 2006

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yntau wedi'i ddynodi (1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(2), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) uchod a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 13 Ionawr 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “adran fferm gyfan” (“whole farm section”) yw'r amodau amgylcheddol a geir yn Rhan I o'r Atodlen ac y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy fel rhan o gynllun Tir Cynnal;

ystyr “yr amod cynefin 5%” (“the 5% habitat condition”) yw'r amodau a geir yn Rhan 2 o'r Atodlen;

ystyr “Cod Ymarfer Ffermio Da (“Code of Good Farming Practice”) yw'r darpariaethau a nodir yn adran 9.1 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000-2006;

mae “cyflawni” (“carrying out”), mewn perthynas â gweithgaredd, yn cynnwys sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni;

ystyr “cynefinoedd bywyd gwyllt” (“wildlife habitats”) yw'r amodau amgylcheddol a geir yn Rhan 2 o Atodlen 1;

ystyr “cynllun rheoli adnoddau fferm” (“farm resource management plan”) yw'r gweithgaredd a geir yn Rhan 3 o'r Atodlen;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cytundeb Tir Cynnal” (“Tir Cynnal agreement”) yw'r ystyr a roddir iddo gan reoliad 4(2);

ystyr “deiliad cytundeb Tir Cynnal” (“Tir Cynnal agreement holder”) yw unrhyw berson sydd wedi ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal;

ystyr “dibenion penodedig” (“specified purposes”) yw gwarchod bioamrywiaeth, gwarchod nodweddion tirwedd, diogelu'r amgylchedd hanesyddol a lleihau llygredd;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl cyfraith gyffredin yng Nghymru a Lloegr, neu'n Ŵyl y Banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol(3);

ystyr “force majeure” yw amgylchiadau annormal ac anrhagweladwy sydd y tu allan i reolaeth y ceisydd ac na fyddai wedi bod modd osgoi eu heffaith petai'r ceisydd yn arfer pob gofal dyladwy;

ystyr “ffurflen indemnio landlord” (“landlord indemnity form”) yw'r ffurflen a gaiff ei drafftio gan y Cynulliad Cenedlaethol ac y mae Landlord Tenant sy'n dymuno cymryd rhan yng nghynllun Tir Cynnal ond y mae llai na phum mlynedd o'i gytundeb tenantiaeth yn weddill, yn gwneud ymgymeriad i'r Tenant ynddi i gynnal a chadw'r tir o fewn cynllun Tir Cynnal hyd o leiaf ddiwedd pum mlynedd gyntaf unrhyw gytundeb a wnaed gan y Tenant i gymryd rhan yng nghynllun Tir Cynnal;

ystyr “parti arall” (“other party”) yw person sy'n barti i gytundeb Tir Cynnal gyda'r Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “person cymwys” (“eligible person”) yw deiliad cytundeb Tir Cynnal sy'n gwneud cais am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw wedi'i wahardd rhag bod yn gymwys ar gyfer y cymhorthdal hwnnw ar yr adeg pan gaiff cais y person hwnnw ei ystyried;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004(4) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999(5) ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n gymhathus â gofynion gwarchod yr amgylchedd a chynnal a chadw cefn gwlad; ac

ystyr “tir cytundeb” (“agreement land”) yw tir sy'n destun cytundeb Tir Cynnal.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —

(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu at yr Atodlen iddynt;

(b)at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad y ceir y cyfeiriad ynddo; ac

(c)at is-baragraff â Rhif neu a ddynodwyd yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu a ddynodwyd yn y modd hwnnw yn y paragraff y ceir y cyfeiriad ynddo.

Ceisiadau

3.  Gwneir cais gan berson cymwys i ymuno â chynllun Tir Cynnal ar yr adeg honno a'r ffurf honno a bydd y cais yn cynnwys neu amgaeir gydag ef unrhyw wybodaeth y gofynno'r Cynulliad Cenedlaethol amdani a bydd y cais yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a fynno'r Cynulliad Cenedlaethol.

Pŵer i ymrwymo i gytundebau

4.—(1Mewn unrhyw achos pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, mewn perthynas ag unrhyw dir, y byddai'r amodau canlynol o blith y rhai a geir yn Rhannau 1, 2, 3 a 4 o'r Atodlen, a chyflawni gweithgareddau gan unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir hwnnw, yn ffafriol i'r dibenion penodedig, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) isod, ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal gyda'r person cymwys hwnnw.

(2At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr cytundeb Tir Cynnal yw cytundeb sy'n parhau mewn grym am gyfnod o bum mlynedd o leiaf, sy'n darparu bod y deiliad cytundeb i gydymffurfio â'r amodau a geir yn Rhannau 1, 2, 3 a 4 o'r Atodlen mewn perthynas â'r tir cytundeb ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud cymorthdaliadau i'r deiliad cytundeb o ran dilyn yr amodau hynny ar y tir cytundeb.

(3Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i unrhyw gytundeb Tir Cynnal mewn amgylchiadau y mae Erthygl 42 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 (sy'n awdurdodi disodli ymgymeriad neu gytundeb amaeth-amgylcheddol gan ymgymeriad neu gytundeb arall o'r fath) yn gymwys iddynt onid yw wedi'i fodloni bod yr amodau yn yr Erthygl honno'n cael eu cyflawni.

(4Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i unrhyw gytundeb Tir Cynnal onid oes o leiaf 3 hectar o dir yn ddarostyngedig i'r cytundeb hwnnw.

(5Bydd cytundeb Tir Cynnal—

(a)yn cynnwys darpariaeth y bydd y parti arall yn cyflawni ar y tir cytundeb yr adran fferm gyfan fel a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen;

(b)yn cynnwys y bydd y parti arall yn cyflawni ar y tir cytundeb weithgareddau er mwyn gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen, i'r graddau y mae'r cynefinoedd yn bodoli ar y tir cytundeb;

(c)yn cynnwys y bydd o leiaf 5% y tir cytundeb yn gynefin bywyd gwyllt. Os nad yw o leiaf 5% y tir cytundeb yn gynefin bywyd gwyllt pan fo cais yn cael ei wneud yna bydd y parti arall yn cytuno i sicrhau y bydd y tir cytundeb yn cydymffurfio â'r amod cynefin 5%;

(ch)yn cynnwys darpariaeth y bydd y parti arall yn cwblhau cynllun rheoli adnoddau fferm fel a fanylir yn Rhan 3 o'r Atodlen;

(d)mewn perthynas â'r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b), (c) ac (ch), yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'n ei alluogi i roi cymorthdaliadau sydd, ar ddyddiad dod i rym yr offeryn hwn, (ond fe ganiateir newid y cymorthdalaidau yn ôl disgresiwn y Cynulliad Cenedlaethol) ar y cyfraddau y cyfeirir atynt yn Rhan 4 o'r Atodlen.

Amodau talu cymhorthdal

5.—(1Bydd unrhyw ofyniad mewn cytundeb Tir Cynnal i dalu cymhorthdal i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r amod bod person yn berson cymwys ac i'r amodau canlynol hefyd —

(a)nad yw'r person hwnnw'n mynd yn groes i unrhyw un neu rai o delerau'r cytundeb Tir Cynnal sy'n ei rwymo;

(b)bod y person hwnnw'n cydymffurfio â gofynion rheoliad 7 isod; ac

(c)bod y person hwnnw'n parhau i fod â buddiant yn y tir cytundeb tra pery'r cytundeb Tir Cynnal, onid yw'r person hwnnw'n un o denantiaid y tir cytundeb a bod llai na phum mlynedd o'r denantiaeth yn weddill, a bod y person hwnnw wedi cael llofnod ei Landlord ar y ffurflen indemnio landlord;

(ch)bod y person hwnnw wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Arfer Ffermio Da ac yn parhau i gydymffurfio ag ef;

(2y gellir addasu'r amodau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy o dan gynllun Tir Cynnal ar unrhyw adeg, gan gynnwys addasiad a osodir o ganlyniad i newidiadau a wneir yn y dyfodol i Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2002-2006 ac unrhyw gynllun sy'n ei olynu.

Taliadau

6.  Caniateir talu cymhorthdal o dan unrhyw gytundeb Tir Cynnal yn ystod cyfnod talu blynyddol y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Ceisiadau

7.—(1Bydd cais gan ddeiliad cytundeb Tir Cynnal am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ffurf y byddo'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu mynnu ac yn cynnwys yr wybodaeth y byddo'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdani.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ymgorffori'r cais am daliadau Tir Cynnal yn Ffurflen Taliadau'r Cais Sengl.

Terfynau Ariannol

8.  Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ar unrhyw adeg, oherwydd cyfanswm nifer y ceisiadau am grant a gymeradwywyd neu a ddaeth i law eisoes, fod yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer talu grant o dan gynllun Tir Cynnal yn ystod unrhyw gyfnod yn annigonol ar gyfer unrhyw daliad yn ystod y cyfnod a fyddai'n deillio o gymeradwyo unrhyw gais pellach, caiff, o ran unrhyw gais a fydd wedi dod i law ar ddyddiad gwneud ei benderfyniad ond nas derbyniwyd eto, neu unrhyw gais a ddelo i law yn ystod y cyfnod perthnasol—

(a)atal ystyriaeth bellach ar unrhyw gais o'r fath nes dod yr amser y byddo'n ei bennu wedyn: neu

(b)gwrthod unrhyw gais pellach o'r fath heb ystyriaeth bellach.

Ceisiadau hwyr

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, os bydd y ceisydd yn cyflwyno cais am daliad Tir Cynnal o ran blwyddyn benodol yn hwyrach na'r dyddiad cau a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y swm sy'n daladwy fel arall yn cael ei ostwng o un y cant am bob diwrnod gwaith o'r dyddiad cau hyd y dyddiad y daeth y cais i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Os cyflwynwyd y cais fwy na 25 o ddiwrnodau (p'un ai diwrnodau gwaith ai peidio) yn hwyrach na'r dyddiad cau, ni wneir unrhyw daliad i'r ceisydd yn unol â'r cais hwnnw am daliad Tir Cynnal.

(3Ni fydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys os ac i'r graddau bod cais wedi'i gyflwyno'n hwyrach na'r dyddiad cau perthnasol oherwydd force majeure.

Hysbysiad o newid ym meddiannaeth y tir

10.—(1Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal (neu, os yw'r deiliad cytundeb Tir Cynnal wedi marw, ei gynrychiolydd personol) yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o unrhyw newid ym meddiannaeth y tir cytundeb neu unrhyw ran o'r tir cytundeb os yw'r newid yn digwydd tra bo'r cytundeb Tir Cynnal mewn grym.

(2Rhoddir hysbysiad o dan y rheoliad hwn o fewn tri mis ar ôl y newid ym meddiannaeth y tir o dan sylw.

(3Pan fydd newid wedi bod ym meddiannaeth y cyfan neu ran o unrhyw dir cytundeb, a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal am weddill tymor y cytundeb gwreiddiol gyda'r meddiannydd newydd mewn perthynas â'r tir y bu newid yn ei feddiannaeth, yna bernir bod y cytundeb hwnnw, at ddibenion cyfrifo blynyddoedd cytundeb, wedi cychwyn ar y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb gwreiddiol.

(4Os yw'r meddiannydd newydd yn dewis peidio ag ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal am weddill tymor y cytundeb gwreiddiol mewn perthynas â'r tir y bu newid yn ei feddiannaeth yna gall y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu unrhyw ran o gymhorthdalaiadau sydd yn daladawy i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal o dan y Rheoliadau hyn, a gall adennill y cyfan neu unrhyw ran o gymhorthdal a dalwyd iddo ef neu hi.

(5Bydd darpariaethau uchod y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i Erthygl 36 o Reoliad y Comisiwn Rhif 817/2004 (sy'n rheoli trosglwyddiadau daliadau).

Symiau o gymhorthdal

11.  Bydd cymorthdaliadau a delir mewn perthynas â'r amodau adran fferm gyfan a'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen ar yr adeg y daw'r offeryn hwn i rym fel y'u hamlinellwyd yn Rhan 4 o'r Atodlen—

Rhwymedigaeth i ganiatáu mynd ar y tir ac arolygu

12.—(1Bydd deiliad Cytundeb Tir Cynnal sy'n gwneud cais am gymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn yn caniatáu i unrhyw berson, a awdurdodwyd yn briodol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno tystiolaeth o'i awdurdod pan ofynnir amdani, fynd ar y tir y mae cytundeb Tir Cynnal yn berthnasol iddo at ddibenion —

(a)cyflawni unrhyw arolygiad o'r tir hwnnw neu o unrhyw ddogfen neu gofnod sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y ceisydd ac sy'n ymwneud â'r cais neu y byddo'n rhesymol i berson a awdurdodir amau ei bod neu ei fod yn ymwneud â'r cais, gyda'r bwriad o wirio cywirdeb unrhyw fanylion a roddir yn y cais;

(b)sicrhau p'un a gydymffurfiwyd â thelerau cytundeb Tir Cynnal; ac

(c)cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.

(2Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal yn rhoi pob cymorth rhesymol i'r person a awdurdodwyd mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1), a bydd yn benodol yn—

(a)cynhyrchu unrhyw ddogfen neu gofnod y byddo person a awdurdodwyd yn gofyn amdani neu amdano;

(b)caniatáu i'r person a awdurdodwyd wneud copïau o unrhyw ddogfen neu gofnod o'r fath neu o ddarnau ohoni neu ohono;

(c)os cedwir y ddogfen neu'r cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei chynhyrchu neu ei gynhyrchu ar ffurf y byddo'n hawdd ei darllen a'i dwyn ymaith; ac

(ch)ar gais y person a awdurdodwyd, mynd gyda'r person a awdurdodwyd pan fydd yn gwneud arolygiad o unrhyw dir er mwyn dangos pa ran o dir sy'n ymwneud â'r cais neu ag unrhyw newid yn ei feddiannaeth a hysbyswyd o dan reoliad 10.

Atal cymhorthdal a'i adennill

13.—(1Os bydd unrhyw ddeiliad cytundeb Tir Cynnal, gyda'r bwriad o gael cymhorthdal o dan y Rheoliadau hyn ar ei gyfer ef ei hun neu ar gyfer unrhyw berson arall, yn gwneud unrhyw ddatganiad neu'n rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu ran o unrhyw gymorthdaliadau sy'n daladwy i'r person hwnnw neu i unrhyw berson arall o'r fath o dan y Rheoliadau a chaiff, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthyglau 71 a 72 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 (sy'n darparu ar gyfer adennill gyda llog daliadau a delir ar gam, ar gyfer system gosb ac ar gyfer gwaharddiad am wneud datganiadau ffug) adennill y cyfan neu ran o unrhyw symiau a dalwyd eisoes o dan y Rheoliadau yn gymhorthdal i'r person hwnnw neu i unrhyw berson arall o'r fath.

(2Os bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal—

(a)os talwyd y cymhorthdal, wedi methu gwneud rhywbeth y mae ef neu hi wedi ymgymryd i'w wneud, neu

(b)yn mynd yn groes i unrhyw amodau y talwyd y cymhorthdal yn ddarostyngedig iddynt,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb hwnnw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal a dalwyd eisoes i'r deiliad.

(3Bydd unrhyw anghydfod mewn unrhyw achos penodol ynghylch atal neu adennill cymhorthdal drwy gyfeiriad at baragraff (1) neu (2) uchod yn cael ei gyfeirio at un cymrodeddwr a'i benderfynu ganddo a bydd y cymrodeddwr yn un y cytunir arno gan y partïon neu, os methir cael cytundeb, yn un sydd i'w benodi gan Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac yn unol â darpariaethau Deddf Cymrodeddu 1996(6) neu unrhyw addasiad neu ddeddfiad statudol ohoni sydd mewn grym am y tro.

(4Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn atal neu'n adennill cymhorthdal o dan baragraff (2) uchod, caiff hefyd, i'r graddau y mae hynny o ganlyniad i Erthygl 20(2) yn Rheoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau sy'n effeithiol, yn gymesur â'u diben ac sy'n ddigon o ataliad o ran eu heffaith iddynt gael eu gosod am dorri ymgymeriadau), ei gwneud yn ofynnol i'r deiliad cytundeb dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol swm sy'n hafal i ddim mwy na 10% o'r cymhorthdal a dalwyd neu sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal o dan y Rheoliadau hyn.

(5Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gamau a bennir ym mharagraff (1), (2) neu (4) uchod, caiff hefyd derfynu'r cytundeb y cyfeirir ato ynddynt drwy roi hysbysiad o'r terfyniad hwnnw i'r deiliad cytundeb Tir Cynnal.

(6Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (5) uchod yn tynnu'n ôl gytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw gam a gymerir o dan baragraff (2) uchod, caiff hefyd, i'r graddau y bo o ganlyniad i Erthygl 20(2) o Reoliad y Comisiwn, drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r deiliad cytundeb, wahardd y deiliad cytundeb rhag darparu ymgymeriad newydd neu rhag ymrwymo i gytundeb newydd o dan gynllun amaeth-amgylcheddol am gyfnod (nad yw'n fwy na dwy flynedd) sy'n cychwyn ar ddyddiad y terfyniad hwnnw fel a bennir yn yr hysbysiad.

Adennill llog

14.—(1Os telir cymhorthdal gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn a'i bod, yn rhinwedd Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn (sy'n darparu ar gyfer adennill gyda llog gymorthdaliadau a delir ar gam), yn ofynnol ad-dalu gyda llog y cyfan neu ran o'r cymhorthdal, bydd cyfradd y llog un pwynt canran yn uwch na LIBOR a hynny ar sail ddyddiol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr LIBOR yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym yn ystod y cyfnod a bennir yn Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn.

(3Mewn unrhyw achosion a fydd yn ymwneud â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r raddfa sy'n gymwys yn y cyfnod a bennir os bydd y dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r raddfa honno.

Adennill taliadau

15.  Mewn unrhyw achos pan fo swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu Reoliad y Comisiwn i'r graddau y mae'n ymwneud â thir cytundeb, neu yn rhinwedd camau a gymerir oddi tanynt, bydd modd adennill y swm sydd i'w dalu felly fel dyled.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ionawr 2006

YR ATODLEN

RHAN 1—ADRAN FFERM GYFAN

Amodau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy mewn perthynas â'r cyfan o'r tir sydd o dan gytundeb. Mae'r amodau fel a ganlyn:

  • FFINIAU CAEAU

    • Cadwer holl ffiniau traddodiadol caeau (gwrychoedd neu berthi, waliau cerrig sych, argloddiau ag arwyneb o gerrig neu hebddo, ffensys llechi) a nodweddion cysylltiedig (pyst llidiart carreg, camfeydd carreg).

    • Dylid defnyddio deunyddiau a dulliau traddodiadol ar gyfer unrhyw waith cynnal a chadw a wneir ar ffiniau traddodiadol.

    • Gadawer heb eu torri mewn unrhyw un flwyddyn o leiaf 25% o wrychoedd neu berthi gan gynnwys unrhyw wrychoedd neu berthi ar gloddiau, gan adael pob gwrych neu berth heb ei dorri neu ei thorri am o leiaf un flwyddyn o bob pedair (ac eithrio pan fydd gofynion priffyrdd ac/neu iechyd a diogelwch yn rhwystr i hynny gydag ymyl ffyrdd).

    • Na thorrer gwrychoedd neu berthi rhwng 1 Mawrth a 31 Awst (ac eithrio pan fydd gofynion priffyrdd ac/neu iechyd a diogelwch yn rhwystr i hynny gydag ymyl ffyrdd).

  • CLUSTOGFEYDD FFINIAU CAEAU

    • Peidier â thrin y tir, taenu arno wrteithiau, calch, chwynladdwyr neu blaladdwyr eraill (onid rhoi triniaeth gyfyngedig a wneir i chwyn niweidiol neu i rywogaethau estron goresgynnol megis clymog Japan, Jac y Neidiwr, yr Efwr Enfawr, neu'r Rhododendron, fel a fanylir yn Adran 1 o Ddeddf Chwyn 1959, ac unrhyw chwyn eraill a ragnodir wedyn gan reoliadau o dan Ddeddf Chwyn 1959) o fewn clustogfa 1 metr o led wedi'i fesur o ymyl allanol gwaelod ffin draddodiadol cae (ar y naill ochr a'r llall).

  • COED

    • Cadwer coed unigol. Os bydd hynny'n bosibl, anoger aildyfiant naturiol yn lle coed a gollwyd, neu fel arall ailblanner coed gan ddefnyddio glasbrennau o darddiad lleol.

    • Na ddifroder coed a phlanhigion ac anifeiliaid cysylltiedig (e.e. drwy dreigl plaladdwyr).

    • Dylai unrhyw reolaeth ddilyn y canllawiau ar gyfer ystlumod mewn coed.

    • Cadwer coed crin onid ydynt yn achos perygl posibl neu rwystr.

  • MYNEDIAD I'R CYHOEDD

    • Cydymffurfier â gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â hawliau tramwy sy'n bodoli ar dir, gan gynnwys osgoi rhoi rhwystrau ar eu traws, a'u hailagor ar ôl aredig.

    • Rhodder caniatâd i gael mynediad ar droed i dir y dangosir ar y mapiau a baratowyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ei fod yn dir sydd ar gael ar gyfer mynediad o'r fath.

  • NODWEDDION TIRWEDD A NODWEDDION HANESYDDOL

    • Diogeler nodweddion archaeolegol neu hanesyddol rhag cael eu niweidio gan dda byw, gan gerbydau, gan drin y tir neu adennill tir. Ni ddylid plannu coed na dwyn cerrig ymaith.

    • Dylid cynnal a chadw adeiladau traddodiadol gwrth-dywydd a chadarn mewn cyflwr da, gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol.

    • Dylid cynnal a chadw adeiladau traddodiadol gwrth-dywydd a chadarn a addaswyd gan ddefnyddio deunyddiau modern ond caniateir trwsio'r cydrannau modern â deunyddiau modern neu roi deunyddiau modern yn eu lle.

    • Rhaid cynnal a chadw nodweddion tirwedd traddodiadol a chadarn eraill sydd mewn cyflwr da (e.e. corlannau defaid, pontydd meini carreg).

    • Rhaid cadw nodweddion hanesyddol ac adeiladau traddodiadol sy'n adfeilion neu eu holion onid ydynt yn achos perygl posibl.

    • Nac aflonydder ar rywogaethau a warchodir ac a all fod yn defnyddio'r safleoedd hyn.

    • Rhaid cydymffurfio â Deddf Trysor 1996 wrth ddefnyddio canfodyddion metel.

  • ARWEDDION CRAIG A THIRFFURFIAU

    • Diogeler arweddion craig a safleoedd daearegol drwy osgoi aflonyddu'n ffisegol arnynt. Nac echdynner craig, sgri, tywod, gro, graean, clai neu fawn (ac eithrio o chwareli sy'n bodoli neu at ddefnydd ar y fferm) ac na losger llystyfiant ar ardaloedd creigiog.

    • Cadwer clustogfa o 2m o gwmpas arweddion craig heb drin y tir, neu ddefnyddio gwrteithiau, calch, chwynladdwyr neu blaladdwyr eraill, (oni bai ar gyfer rhoi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol).

  • SBWRIEL

    • Cadwer y fferm yn glir o sbwriel gan osgoi dymchwel sbwriel megis hen gerbydau a chyfarpar domestig nas defnyddir mwyach, yn y caeau neu o fewn cwrtil y fferm.

  • PRIDD A DŴR

    • Gwarchoder yr holl nodweddion dŵr — llynnoedd, pyllau dŵr, afonydd a ffosydd — rhag niwed drwy dreigl tail, gwrteithiau, cemegion eraill ac ysgeintio damweiniol o gaeau cyfagos.

    • Ni ddylid trin y tir neu daenu arno wrteithiau, deunydd gwastraff oddi ar y fferm, calch, plaladdwyr neu gemegion eraill fel eu bod yn glanio o fewn 1m i nodwedd ddŵr.

    • Na thaener tail buarth fferm neu slyri o fewn 10m i nodwedd ddŵr.

    • Rheoler y tir er mwyn osgoi stablan y pridd yn ormodol i'r graddau bod hynny'n andwyol i'r amgylchedd y tu hwnt i ffiniau'r safle ei hun, a hynny drwy lif dwr ac erydu pridd sy'n arwain at lygru cyrsiau dŵr a pheri bod mwy o waddod ynddynt.

    • Dylid osgoi pori trwm pan fo hyn yn arwain at ddwyn ymaith lystyfiant sydd yn ei dro yn arwain at erydu pridd.

    • Dylid osgoi erydu gormod ar lannau cyrsiau dŵr a llygru'r dŵr gan dda byw a dylid rheoli mynediad lle y bo angen hynny.

  • RHYWOGAETHAU NAD YDYNT YN RHAI BRODOROL

    • Na chyflwyner o'r newydd ar y tir unrhyw rywogaethau anifeiliaid neu blanhigion nad ydynt yn rhai brodorol, ac eithrio ar gyfer cynhyrchu amaethyddol.

  • RHYWOGAETHAU A WARCHODIR

    • Nac aflonydder ar rywogaethau a warchodir megis pathewod, ystlumod, llygod pengrwn y dŵr, dyfrgwn, a moch daear ac ymgynghorer â'r CGC neu â Llywodraeth Cynulliad Cymru a chaffael unrhyw drwydded sy'n angenrheidiol cyn gwneud gwaith os oes rhywogaethau a warchodir yn bresennol.

  • LLES ANIFEILIAID A GWARCHOD BYWYD GWYLLT

    • Cydymffurfier â Chodau perthnasol y Cynulliad Cenedlaethol ar Les Da Byw.

RHAN 2 —CYNEFINOEDD BYWYD GWYLLT

Mae'n un o ofynion Cynllun Tir Cynnal bod y cynefinoedd bywyd gwyllt sy'n bodoli ar y tir cytundeb yn cael eu gwarchod rhag niwed. Rhaid i o leiaf 5% o'r tir cytundeb fod yn gynefinoedd bywyd gwyllt.

Y prif grwpiau o gynefinoedd bywyd gwyllt yw'r canlynol (ond nid yw'r rhestr yn un gyflawn):

  • Coetir llydanddail: coetir, gan gynnwys llennyrch a rhodfeydd cysylltiedig, y mae o leiaf 50% o'r coed sydd ynddo yn goed brodorol neu'n goed yw. Cynhwysir coetir gwlyb o wern neu helyg a hefyd berllannau'n cynnwys coed ffrwythau hirgyff. Caniateir cynnwys coetir sy'n ymgorffori coed coniffer ar yr amod bod y rhywogaethau brodorol sydd ynddo yn gorchuddio mwy na 50% o'r arwynebedd (er y gellir cynnwys y rhai sydd â llai na 50% o rywogaethau brodorol os ydynt ar safleoedd coetiroedd hynafol).

  • Prysgwydd: ardaloedd lle y mae mwyafrif y prysgwydd yn rhai brodorol megis y ddraenen wen, y ddraenen ddu, eithin, ysgaw, bedw neu fwyar duon.

  • Gweundir: ardaloedd lle y mae o leiaf 25% o'r llystyfiant yn cynnwys corlwyni megis grug, llus ac eithin mân. Fe'u ceir mewn ystod o leoliadau o ardaloedd arfordir ac iseldir i ucheldiroedd. Mae gweundiroedd ucheldir, sydd fel arfer yn uwch na therfyn caeau amaethyddol, yn aml yn gysylltiedig â chynefinoedd rhostir megis corsydd a phorfa asid.

  • Gweundiroedd mynydd-dir uchel: yn fwyaf nodweddiadol, gorchuddir y rhan helaethaf o'r rhain, sydd hefyd yn cael eu cynnwys, gan fwsoglau, cennau, glaswellt prin a chlytiau o dir caregog heb lystyfiant.

  • Porfa: Ystod o gynefinoedd yn cynnwys porfa na chafodd ei gwella, porfa led naturiol, caeau gwair traddodiadol a phorfeydd corsiog, na fu unrhyw drin arnynt, na chawsant eu hau o'r newydd, na thaenwyd chwynladdwyr arnynt ac na chawsant eu draenio yn ystod y deng mlynedd diwethaf neu fwy. Ar y mwyaf ni fyddant wedi'u gwrteithio ond yn ysgafn â gwrtaith anorganig a nodwedd y cynefin fydd na fydd yno neu prin y bydd yno rywogaethau porfa a gafodd ei gwella megis rhygwellt parhaol a meillion gwyn. Os bydd y rhain yn fwy na 25% o'r glaswellt dylai'r tir gael ei ddosbarthu fel porfa a gafodd ei gwella ac nis cynhwysir yn gynefin o dan gynllun Tir Cynnal.

  • Gwlyptiroedd: Mathau o dir sy'n cynnwys corsydd, gwelyau brwyn, mignenni a ffeniau. Fe'u ceir ar fawn dwfn a/neu lle y mae'r tabl dŵr ar yr un lefel â'r tir neu'n uwch am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.

  • Ardaloedd arfordirol: Maent yn cynnwys morfeydd heli a thwyni tywod, yn ogystal â phrysgwydd arfordirol, gweundir, a phorfeydd y mae'r grwpiau cynefin blaenorol yn eu gorchuddio.

Mae'r rhestr uchod yn diffinio'r prif fathau o gynefinoedd, ond gellir cynnwys yn gynefin Tir Cynnal ardaloedd neu gyrff lled naturiol eraill o ddŵr megis pyllau dŵr.

  • Rhaid glynu at set enerig o ragnodau ar ardaloedd cynefin ar y fferm. Maent fel a ganlyn:

Diogelu Cynefinoedd Bywyd Gwyllt — Amodau

  • Ni ddylid aredig, trin y tir na hau o'r newydd.

  • Na ddefnyddier rholer na tsiaen ogau rhwng 1 Ebrill ac 15 Gorffennaf bob blwyddyn.

  • Na osoder system ddraenio newydd

  • Ni ddylid clirio ffosydd rhwng 1 Mawrth a 31 Awst

  • Na ddefnyddier chwynladdwyr neu blaladdwyr (ac eithrio i roi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol).

  • Ymgynghorer â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac/neu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ynghylch chwistrellu rhedyn ac ystyrier a oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol.

  • Na ddefnyddier gwrteithiau anorganig, gwrteithiau organig wedi'u prynu mewn bagiau, slyri neu ddeunyddiau gwastraff eraill oddi ar y fferm.

  • Na thaener unrhyw galch, slag basig, gwymon wedi'i galcheiddio, papur gwastraff, slwtsh neu ddeunyddiau gwastraff eraill oddi ar y fferm.

  • Dylid stocio'r tir yn unol â Chod Arfer Ffermio Da yn enwedig fel na fydd gorbori neu ddim digon o bori.

  • Dylid osgoi ymgymryd ag arferion bwydo atodol pan fydd y rhain yn peri niwed i lystyfiant a stablan y pridd.

  • Nac ymgymerer â bwydo atodol o fewn coetir llydanddail neu goetir cymysg.

  • Dylid osgoi rhychau cerbydau ar lystyfiant.

  • Nac echdynner mawn na symud ymaith greigiau.

  • Cadwer twmpathau morgrug.

  • Na symuder ymaith unrhyw bentyrrau o wymon.

Os nad oes digon o dir i fodloni'r rheol 5% gellir cynnwys gwrychoedd neu berthi sy'n bodoli a chynefinoedd/neu gynefinoedd newydd a gaiff eu creu er mwyn bodloni'r gofyniad hwn a'u cyfrif yn rhan o'r ardal gynefin.

Gwarchodir yn y cynllun yr holl wrychoedd neu berthi o dan amodau'r adran fferm gyfan yn Rhan 1. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer bod yn rhan o ardal gynefin, rhaid i wrychoedd neu berthi o'r fath:

  • Bod yn 2 fetr o leiaf o led rhwng ochrau'r gwrych neu'r berth gan gynnwys llystyfiant trwchus cyfagos cysylltiedig — 2 fetr yw'r lled safonol wrth gyfrifo arwynebedd gwrych neu berth.

  • Cynnwys rhywogaethau brodorol megis coed cyll, y ddraenen wen, y ddraenen ddu a chelyn.

  • Bod yn ddi-fwlch (ac eithrio ar gyfer llidiardau ac o dan goed gwrychoedd neu goed perthi) rhwng corneli'r cae er mwyn darparu coridor bywyd gwyllt di-fwlch ar hyd y gwrych neu'r berth.

  • Cael eu gwarchod rhag da byw ar y naill ochr a'r llall. Os nad oes da byw'n bresennol (e.e. ar ffermydd tir âr) rhaid cadw heb unrhyw aflonyddu arno stribed 2 fetr o led gan gynnwys y gwrych neu'r berth ei hun a llystyfiant trwchus cysylltiedig.

  • Bod yn gyfan gwbl o dan rheolaeth y deiliad cytundeb Tir Cynnal fel bod y deiliad Cytundeb Tir Cynnal yn gallu gweithredu'n llwyr yr amodau ar gyfer gwrychoedd neu berthi yn yr Adran Fferm Gyfan. Mae hyn yn golygu na fyddo gwrychoedd neu berthi ffiniol yr ydych yn eu rhannu â ffermwr arall neu'r rhai ar ymyl priffyrdd cyhoeddus yn gymwys i'w cynnwys yn gynefin mewn llawer o achosion.

  • Os cynhwysir gwrychoedd neu berthi yn gynefin rhaid ychwanegu'r amod clustogfa 1 metr at led 2m y gwrych neu'r berth.

Os yw'r ardaloedd cynefin (ynghyd â gwrychoedd neu berthi cymwys os cynhwyswyd y rhain) yn dod i lai na 5% o dir y fferm bydd angen i'r ffermwr nodi ardaloedd o dir wedi'i wella lle y caiff cynefinoedd newydd eu creu. Bydd yn ofynnol i'r ardaloedd newydd hyn, o ychwanegu unrhyw gynefin sy'n bodoli atynt, fod yn gymaint â'r isafswm o 5% neu'n fwy na hynny.

Mae saith opsiwn ar gael i'r ffermwr o dan y cynllun o ran creu cynefin. Gall y ffermwr ddewis un neu fwy i weddu i reolaeth y fferm. Mae'r opsiynau fel a ganlyn:

1.  Creu coridorau glannau nentydd gydag ymyl cyrsiau dŵr.

2.  Taenu llai ar dir a hynny i adfer tir a gafodd ei wella yn dir a gafodd ei led wella.

3.  Gadael lleiniau ymyl o rawnfwyd heb ei dorri ar dir grawnfwydydd.

4.  Creu lleiniau ymyl glaswelltog ar dir grawnfwydydd.

5.  Plannu coed llydanddail ar raddfa fechan.

6.  Sefydlu cnydau gorchudd i adar gwyllt.

7.  Sefydlu cnydau gwreiddlysiau nas chwistrellir.

Rhagnodau ar gyfer creu coridor glannau nentydd

  • Dylid sicrhau na chaiff da byw fynd ar stribed o dir 10m o led ar gyfartaledd yn gyfagos at gwrs dŵr. Gwneir hyn fel arfer drwy godi ffens, oni all amgylchiadau sicrhau na all da byw fynd ar y stribed (e.e. ffermydd tir cytundeb lle nad oes da byw, neu ardaloedd a amddiffynnir gan nodweddion naturiol). Ni ddylai'r stribed fod yn gulach na 6m yn unrhyw fan.

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at ragnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt).

  • Na thaener tail buarth fferm.

Rhagnodau ar gyfer taenu llai a hynny er mwyn adfer tir a gafodd ei wella yn dir a gafodd ei led wella

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal

  • Na thaener tail buarth fferm.

Rhagnodau ar gyfer gadael lleiniau ymyl heb eu torri ar dir grawnfwydydd

  • Mae'r llain ymyl i'w defnyddio ar bentiroedd detholedig a rhaid iddi fod rhwng 4 metr o leiaf a 12 metr ar y mwyaf o led, y tu hwnt i'r glustogfa ffin cae 1 metr.

  • Caniateir lleoli'r llain ymyl yn yr un lle neu gellir ei symud mewn cylch o gwmpas y tir cytundeb ym mhob un o flynyddoedd y cynllun. Os y'i symudir mewn cylch, dylid cadarnhau bob blwyddyn beth yw'r arwynebedd lleiaf sy'n ofynnol i fodloni'r “rheol 5% ”.

  • Dylid caniatáu i'r llain ymyl aildyfu'n naturiol.

  • Cadwer yr holl dda byw oddi ar y llain ymyl.

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at y rhagnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt yn Rhan 2).

  • Na thaener tail buarth fferm.

  • Na thaener molwsgladdwyr.

  • Dylid trin y llain ymyl unwaith bob blwyddyn rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (os bydd y llain ymyl yn aros yn ei hunfan am fwy na blwyddyn, caniateir ei thrin bob yn ail flwyddyn).

  • Ni chaniateir mynediad rheolaidd i beiriannau ar unrhyw ran o'r llain ymyl na defnyddio unrhyw ran ohoni fel llwybr. Mae torri gwrychoedd neu berthi neu gynnal arolygiadau rwtîn yn dderbyniol, ond os yw'n anhepgorol mynd ar y llain ymyl yn rheolaidd, rhaid iddi fod yn 7 metr o led o leiaf.

Rhagnodau ar gyfer lleiniau ymyl glaswelltog ar dir grawnfwydydd

  • Mae'r llain ymyl i'w defnyddio ar bentiroedd detholedig a rhaid iddi fod rhwng 4 metr o leiaf a 12 metr ar y mwyaf o led y tu hwnt i'r glustogfa ffin cae 1 metr. Gellir symud y llain ymyl mewn cylch yn flynyddol neu, ar yr amod y gellir glynu at yr holl ragnodau, gall aros yn ei hunfan

  • Rhaid hau cymysgedd o ddau o leiaf o'r rhywogaethau glaswellt canlynol er mwyn gorchuddio'r llain ymyl yn gyfan gwbl:

  • Rhonwellt y ci (Cynosurus cristatus)

  • Maswellt penwyn ( Holcus lanatus)

  • Gweunwellt llyfn (Poa pratensis)

  • Perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum)

  • Troed y ceiliog (Dactylis glomerata)

  • Peiswellt y defaid (Festuca ovina)

  • Peiswellt (Festuca pratensis)

Yn ogystal ag o leiaf 3 kg/ha o naill ai meillion coch, meillion Sweden neu bys-y-ceirw.

  • Cyhyd ag y bydd y llain ymyl yn aros yn ei hunfan gellir cadw'r llystyfiant sy'n bodoli am yr ail flwyddyn a'r blynyddoedd canlynol.

  • Rhaid gadael y glaswellt heb ei dorri a heb ei bori rhwng amser hau a 15 Gorffennaf.

  • Rhaid torri'r llain ymyl o leiaf unwaith y flwyddyn a chaniateir dwyn y torion ymaith (gellir eu difrodi, e.e. drwy eu compostio, neu eu defnyddio, e.e. fel gwair, silwair, neu borthiant glas).

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at y rhagnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt yn Rhan 2).

  • Na thaener tail buarth fferm.

  • Na thaener molwsgladdwyr.

  • Na chaniataer i gerbydau fynd ar y llain ymyl rhwng amser hau ac 15 Gorffennaf yn y flwyddyn gyntaf, neu wedi hynny cyn 15 Gorffennaf os cedwir y llain ymyl yn ei hunfan am nifer o flynyddoedd.

Rhagnodau ar gyfer plannu coed llydanddail ar raddfa fechan

  • Rhaid i'r arwynebedd a gaiff ei blannu fod yn arwynebedd a oedd cyn plannu yn borfa a gafodd ei gwella neu'n dir âr.

  • Rhaid i'r coed fod yn rhywogaethau llydanddail brodorol ac o ran trwch dylid eu plannu fel nad oes llai na 3 metr rhyngddynt.

  • Amddiffynner y coed rhag da byw tra pery'r cytundeb Tir Cynnal. Cyflawnir hyn fel arfer drwy godi ffensys, oni fydd amgylchiadau'n sicrhau na fydd unrhyw dda byw yn gallu mynd ar y tir (e.e. tir cytundeb heb dda byw, neu ardaloedd a amddiffynnir gan nodweddion naturiol).

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal.

  • Caniateir taenu tail buarth fferm ar raddfa o 25 tunnell ar y mwyaf fesul hectar cyn plannu. Ni ddylid taenu tail buarth fferm o gwbl ar ôl plannu.

Rhagnodau ar gyfer sefydlu cnwd gorchudd i adar gwyllt

  • Dylid trin gwely hadau sy'n cynnwys o leiaf ddau neu dri math gwahanol o gnwd a dylai'r gwely fod yn 4 metr o led ac ar ymylon caeau (ond mae caeau cyfan yn dderbyniol hefyd) a dylid sefydlu'r cnwd yn flynyddol cyn 20 Ebrill. Mae rhywogaethau nodweddiadol yn cynnwys: barlys, ceirch, tritical, had llin, cwinoa, miled, mwstard, cêl, cribau'r pannwr, betys porthiant, meillion coch, a'r godog.

  • Rhaid peidio â thorri'r cnwd na'i bori cyn 15 Mawrth yn y flwyddyn sy'n dilyn ei sefydlu.

  • Na thaener pryfladdwyr, ffwngladdwyr, molwsgladdwyr neu chwynladdwyr (ac eithrio ar gyfer rhoi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol).

  • Dim ond ar adeg sefydlu cnwd y caniateir defnyddio calch neu wrtaith (organig neu anorganig).

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal.

Rhagnodau ar gyfer sefydlu cnydau gwreiddlysiau nas chwistrellir

  • Sefydler cnwd gwreiddlysiau'n flynyddol cyn 1 Gorffennaf (e.e. rwdins neu swêds, neu erfin neu faip) mewn caeau cyfan neu ar ymylon caeau.

  • Caniateir taenu glyffosad i ddifrodi llystyfiant sy'n bodoli cyn sefydlu'r cnwd, ond ni ddylid defnyddio unrhyw chwynladdwyr eraill, (ac eithrio i roi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol).

  • Dim ond os y'u rhoddir yn y twll neu'r rhych ar adeg sefydlu'r cnwd y caniateir defnyddio molwsgladdwyr. Ni chaniateir defnyddio unrhyw blaladdwyr eraill.

  • Mae defnyddio calch a gwrtaith yn dderbyniol.

  • Ni ddylid pori'r cnwd cyn 15 Hydref ac ni ddylid aredig y tir nes 1 Mawrth yn y flwyddyn sy'n dilyn sefydlu'r cnwd.

  • Opsiwn i'w symud mewn cylch yw hwn a gellir ei symud o gwmpas y fferm yn flynyddol cyhyd ag y cedwir cyfanswm yr arwynebedd y cytunwyd arno.

  • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal.

RHAN 3 —CYNLLUN RHEOLI ADNODDAU FFERM

Bydd yn rhaid i bob un sy'n cymryd rhan gwblhau cynllun rheoli adnoddau fferm. Bydd angen i brif adran y cynllun adnoddau fferm gael ei chwblhau o fewn 6 mis ar ôl ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal.

Bydd yn ofynnol i'r rhai sy'n cymryd rhan ddiweddaru'r ddogfen, drwy wneud newidiadau iddi pan fo hynny'n ofynnol.

Bydd angen paratoi'r Cynllun a'i ddangos i un o Swyddogion y Cynulliad pan fydd yn amser arolygu'r fferm.

Os yw fferm yn cynhyrchu, storio neu'n gwaredu slyri, tail buarth fferm, neu ddeunydd gwastraff organig arall, mae Cynllun Rheoli Tail yn ofynnol. Os nad oes Cynllun Rheoli Tail sy'n ymwneud â'r ardal gytundeb ar gael eisoes, mae'n ofynnol i'r deiliad cytundeb baratoi un, gan ddefnyddio'r templed Tir Cynnal a ddyluniwyd at y diben hwnnw.

Rhaid cwblhau'r Cynllun Rheoli Tail o fewn deuddeng mis ar ôl ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal.

Os taenir gwrtaith organig neu anorganig ar y tir cytundeb, mae Cynllun Rheoli Maetholion Pridd yn ofynnol. Os nad oes Cynllun Rheoli Maetholion Pridd ar gael yn hwylus, rhaid i'r parti arall baratoi un gan ddefnyddio'r templed Tir Cynnal a ddyluniwyd at y diben hwnnw. Rhaid paratoi'r Cynllun Rheoli Maetholion Pridd o fewn deuddeng mis i ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal.

Rhaid adolygu prif ran y Cynllun Rheoli Adnoddau, ac os ydynt yn ofynnol, y Cynllun Rheoli Tail a'r Cynllun Rheoli Maetholion Pridd, a hynny'n flynyddol o leiaf neu'n fwy aml os bernir gan y Cynulliad Cenedlaethol fod angen hynny.

RHAN 4 —TALIADAU

Telir o dan y Rheoliadau yn flynyddol fesul hectar fel a ganlyn:

  • £45.00/ha am yr 20 hectar cyntaf

  • £30.00/ha rhwng 21-50 hectar

  • £25.00/ha rhwng 51-100 hectar

  • £5.00/ha rhwng 101-200 hectar

  • £2.00/ha am bob hectar dros 200 hectar

Gwneir taliadau'n flynyddol ar ffurf ôl-daliadau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig. Gwneir y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 a chynhwysir y fframwaith manwl ar gyfer gweithredu'r Rheoliad Cyngor hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud amryw daliadau grant i unrhyw berson sy'n ymrwymo i gytundeb gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'r person hwnnw'n cytuno i gymryd rhan yng nghynllun amaeth-amgylcheddol Tir Cynnal.

Nod cynllun Tir Cynnal yw darparu cyfleoedd ar gyfer ffermwyr yng Nghymru i gymryd rhan mewn gwaith o natur amaeth-amgylcheddol ar eu tir drwy ddilyn set sylfaenol o amodau a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn er mwyn gwarchod ardaloedd a nodweddion o bwys amgylcheddol ar eu tir. Mae'r Cynllun yn gofyn am lefelau o warchodaeth amgylcheddol sy'n uwch na gofynion y gyfraith a thraws-gydymffurfio, ond nid ydynt mor gaeth â rhai Tir Gofal.

Nod cynllun Tir Cynnal yw rhwystro bioamrywiaeth rhag cael ei golli, diogelu nodweddion tirwedd, diogelu'r amgylchedd hanesyddol a lleihau llygredd.

Os yw buddiolwr cynllun Tir Cynnal yn darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu os torrir y cytundeb Tir Cynnal, yna caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal taliadau grant yn y dyfodol neu adennill, o ofyn amdano, unrhyw grant a dalwyd eisoes i'r buddiolwr.

Os yw'n fwriad gan y Cynulliad Cenedlaethol i atal neu adennill grant, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod i'r buddiolwr a chaniatáu i'r buddiolwr wneud unrhyw sylwadau y mae'n dymuno eu gwneud o fewn cyfnod rhesymol o amser. Rhaid rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.

Cynhyrchwyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer yr offeryn hwn, a gellir cael copïau ohono gan Is-adran yr Amgylchedd, Cadwraeth a Rheoli, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

OJ Rhif L74/1, 26.2.04

(5)

OJ Rhif L343, 23.6.99

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill