- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
34. Pan fo gwiriad dogfennol wedi'i gyflawni wrth safle arolygu ar y ffin ar gynnyrch sydd wedi'i fwriadu(p'un ai'n uniongyrchol neu yn y pen draw) ar gyfer ei fewnforio, rhaid i'r person a gyflwynodd y dogfennau gofynnol ynglyn â'r cynnyrch hwnnw o dan reoliad 18 ildio'r rheini i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 34 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
35. Pan fo Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi a'i bod yn ardystio bod llwyth yn ffit i'w fewnforio, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod y Comisiynwyr wedi cael tystiolaeth sy'n eu boddhau am y canlynol—
(a)bod Rhan 2 o'r ddogfen honno wedi'i dyroddi; a
(b)bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 9 o'r Rheoliadau hyn am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys samplu, ac am unrhyw brawf a wnaed ar unrhyw samplau a gymerwyd neu ddadansoddiad a wnaed o'r samplau hynny—
(i)wedi'i wneud; neu
(ii)bod taliad amdanynt wedi'i sicrhau drwy flaendal neu warant sy'n boddhau'r person y mae'r ffioedd yn daladwy iddo o dan reoliad 54(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 35 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
36.—(1) Pan fo—
(a)hysbysiad o ddod â chynnyrch i mewn wedi'i roi o dan reoliad 17; a
(b)yr hysbysiad hwnnw yn pennu Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig yn gyrchwlad; ac
(c)yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys,
ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, rhwystro na gohirio'r broses o gludo'r cynnyrch hwnnw i'r Aelod-wladwriaeth honno.
(2) Yr amgylchiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(c) yw bod Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi ar gyfer y cynnyrch hwnnw, ac yn awdurdodi ei fewnforio—
(a)i'r Aelod-wladwriaeth honno neu i ardal benodol ohoni yn unol â gofynion penodol; neu
(b)at ddibenion penodol yn unol ag amodau,
a bod y gofynion neu'r amodau hynny wedi'u gosod ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio i'r Aelod-wladwriaeth neu'r ardal benodol honno, neu ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio at y dibenion penodol hynny, mewn unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 36 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
37.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion y bwriedir eu mewnforio ac y mae'n ofynnol iddynt, o dan unrhyw Gyfarwyddeb, Penderfyniad neu Reoliad a restrir yn Atodlen 1, gael eu cludo o dan oruchwyliaeth milfeddyg o'r safle arolygu ar y ffin lle daethpwyd â hwy gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol i'w sefydliad cyrchfan.
(2) Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o safle arolygu ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog Cyllid a Thollau neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.
(3) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw gludydd y mae o dan ei ofal am y tro sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo'n ddi-oed i'w sefydliad cyrchfan, a bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef hyd nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.
(4) Pan fo Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi awdurdodi mewnforio cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo at ddibenion penodol a ddisgrifiwyd yn rheoliad 36(2)(b) rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn aros o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn T5 y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 471 i 495 o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2454/93 (sy'n gosod darpariaethau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 yn sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol)(1) hyd nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.
(5) Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r milfeddyg, sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth am y sefydliad cyrchfan, fod unrhyw gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cyrraedd yno.
(6) Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan sicrhau bod cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael, yn y sefydliad cyrchfan, y driniaeth a ragnodir ar ei gyfer gan y Gyfarwyddeb berthnasol, y Penderfyniad perthnasol neu'r Rheoliad perthnasol a restrir yn Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 37 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
38.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion a drawslwythwyd pan fo'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno yng Nghymru.
(2) Cyn gynted ag y bo cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cyrraedd y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch hysbysu'r milfeddyg swyddogol yno yn ysgrifenedig, neu ar ffurf gyfrifiadurol neu ffurf electronig arall, o union leoliad y cynnyrch, o'r amser yr amcangyfrifir y byddai'n cael ei drawslwytho neu ei ddadlwytho, ac o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan.
(3) Pan fo cynnyrch, yn ôl yr hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2) i'w drawslwytho, a hwnnw'n gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo—
(a)o un awyren i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl iddo gael ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno am lai na deuddeng awr; neu
(b)o un llestr fordwyol i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno am lai na saith niwrnod,
mae'r amodau a osodir ym mharagraff (4) yn gymwys.
(4) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)—
(a)pan fo rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i berson roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi iddo; a
(b)os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd,
rhaid i'r person a grybwyllir yn is-baragraff (a) ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu i gynorthwyydd a benodwyd o dan reoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c) gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol.
(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan fwriedir—
(a)dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o awyren; a
(b) ail lwytho'r cynnyrch hwnnw ar awyren o fewn cyfnod o ddim llai na deuddeng awr ac o ddim mwy na 48 awr o'r amser pan gafodd ei ddadlwytho.
(6) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch sicrhau—
(a)ei fod yn cael ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa; a
(b)ei fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar awyren i'w gludo ymlaen i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys pan fwriedir—
(a)dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o lestr fordwyol; a
(b)ail lwytho'r cynnyrch hwnnw ar long fordwyol o fewn cyfnod o ddim llai na saith niwrnod ac o ddim mwy nac ugain niwrnod o'r amser pan gafodd ei ddadlwytho.
(8) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros y cynnyrch sicrhau—
(a)ei fod yn cael ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa; a
(b)ei fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar lestr fordwyol i'w gludo ymlaen i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.
(9) Rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno cynnyrch y mae paragraffau (5) a (6) neu baragraffau (7) ac (8) yn gymwys iddo, ynghyd â'i ddogfennau gofynnol, i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol ac hefyd, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd, wiriad adnabod ar y cynnyrch hwnnw yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.
(10) Pan fwriedir—
(a)dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo a storio'r cynnyrch hwnnw am fwy na 48 awr ar ôl ei ddadlwytho; neu
(b)dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o lestr fordwyol a storio'r cynnyrch hwnnw am fwy nag ugain niwrnod ar ôl ei ddadlwytho,
rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni, ym mhob achos, wiriad adnabod o'r cynnyrch yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 38 mewn grym ar 14.2.2007, gweler rhl. 1(2)
OJ Rhif L253, 11.10.93, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 402/2006 (OJ Rhif L070, 09.03.2006, t. 35).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys