Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 26 Mawrth 2007.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game” yn Rheoliad 853/2004;

  • mae i “anifeiliaid hela a ffermir” yr ystyr a roddir i “farmed game” ym mhwynt 1.6 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • mae i “anifeiliaid hela gwyllt” yr ystyr a roddir i “wild game” ym mhwynt 1.5 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “carnolion domestig” yr ystyr a roddir i “domestic ungulates” ym mhwynt 1.2 o atodiad I i Reoliadau 853/2004;

  • mae i “cig” yr ystyr a roddir i “meat” ym mhwynt 1.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • mae i “cig anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game meat” yn Rheoliad 853/2004;

  • mae i “cig ffres” yr ystyr a roddir i “fresh meat” ym mhwynt 1.10 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “costau staff lladd-dy a gytunwyd” (“agreed slaughterhouse staff costs”) o ran unrhyw ladd-dy lle cigyddir dofednod neu lagomorffiaid yw—

    (a)

    y gyfran (a fynegir fel swm o arian) o gyflogau (gan gynnwys taliadau goramser a chyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol y cyflogwyr) a delir i staff y lladd-dy hwnnw o ran cyfnod cyfrifyddu y bydd yr Asiantaeth honno a gweithredydd y lladd-dy yn cytuno arni fel y gyfran y gellir ei phriodoli i unrhyw staff o'r fath sy'n cynorthwyo gyda rheolaethau swyddogol drwy gyflawni tasgau penodol yno yn ystod y cyfnod hwnnw o dan Erthygl 5.6 o Reoliad 854/2004; plws

    (b)

    25% o'r swm hwnnw;

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;

  • ystyr “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yw cyfnod sy'n llai na blwyddyn y penderfynir arno gan yr Asiantaeth;

  • ystyr “cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr” (“employers' National Insurance contributions”) yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr yn atebol amdanynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1);

  • mae i “dofednod” yr ystyr a roddir i “poultry” ym mhwynt 1.3 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “ffi rheolaethau swyddogol” (“official controls charge”) yw'r ffi a gyfrifir yn unol ag Atodlen 2 ac a hysbysir yn unol â rheoliad 3(1), (2) neu (3);

  • ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw gweithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg busnes lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri neu gynrychiolydd y gweithredydd a awdurdodwyd yn briodol;

  • mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Erthygl 3.3 o Reoliad 178/2002;

  • ystyr “gwirhau” (“verification”) yw gwirio, drwy archwilio a darparu tystiolaeth wrthrychol;

  • mae i “lagomorffiaid” yr ystyr a roddir i “lagomorphs” ym mhwynt 1.4 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl ac sydd —

    (a)

    wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(2) neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995(3);

  • ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri;

  • ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw'r rheolaethau y mae'r Asiantaeth yn eu cyflawni o dan Reoliad 854/2004 —

    (a)

    mewn lladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela a safleoedd torri, er mwyn gwirhau cydymffurfedd â darpariaethau Rheoliad 853/2004 i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir neu, yn ôl y digwydd, cig anifeiliaid hela gwyllt; a

    (b)

    mewn lladd-dai, er mwyn gwirhau cydymffurfedd â darpariaethau Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(4) i'r graddau y maent yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir yno ar gyfer eu bwyta gan bobl;

  • mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;

  • ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd —

    (a)

    sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;

  • mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” ym mharagraff 2.1(c) o Reoliad 852/2004;

  • ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac —

    (a)

    sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Arolygu) 1995(5); ac

  • mae i “torri” yr ystyr a roddir i “cutting up” yn Rheoliad 853/2004.

Ffioedd

3.—(1Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol o ran y rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

(2Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ran unrhyw fangre o'r fath a bennir yn y paragraff hwnnw, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.

(3Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac—

(a)os yw'n fwy na'r ffi interim, rhaid iddi hysbysu'r gweithredydd o'r ffi derfynol, sef y swm y mae'r ffi rheolaethau swyddogol yn fwy na'r ffi interim; neu

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw'n llai na'r ffi interim, rhaid iddi roi credyd i'r gweithredydd o'r swm y mae'r ffi interim yn fwy na'r ffi rheolaethau swyddogol.

(4Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.

(5Os cafodd unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd eu defnyddio i gyfrifo ffi y mae angen ei hysbysu i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3), rhaid gwrthgyfrifo'r costau hynny yn erbyn swm y ffi honno wrth gyfrifo'r ffi wirioneddol a hysbysir oddi tano, ar yr amod na wneir ad-daliad i'r gweithredydd perthnasol.

(6Os yw swm o dan baragraff (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n penderfynu gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.

Tynnu rheolaethau swyddogol yn ôl

4.  Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sydd yn agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y fangre honno hyd nes y bodlonir y dyfarniad.

Gwybodaeth

5.—(1Rhaid i unrhyw berson pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi—

(a)unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth fynnu ei chael er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu gweithredydd ohoni; a

(b)unrhyw dystiolaeth y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth fynnu ei chael i'w galluogi i wirhau gwybodaeth a roddwyd iddi o dan is-baragraff (a).

(2Bydd unrhyw berson sydd —

(a)gan honni ei fod yn cydymffurfio â pharagraff (1), yn rhoi gwybodaeth sy'n dwyllodrus neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys gan wybod hynny neu sy'n ei rhoi'n ddi-hud; neu

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed o dan y paragraff hwnnw,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

6.  Mae Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2006(6) wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill