Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 843 (Cy.75)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2007

Yn dod i rym

26 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(2) at ddibenion yr adran honno ynghylch mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 26 Mawrth 2007.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game” yn Rheoliad 853/2004;

  • mae i “anifeiliaid hela a ffermir” yr ystyr a roddir i “farmed game” ym mhwynt 1.6 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • mae i “anifeiliaid hela gwyllt” yr ystyr a roddir i “wild game” ym mhwynt 1.5 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “carnolion domestig” yr ystyr a roddir i “domestic ungulates” ym mhwynt 1.2 o atodiad I i Reoliadau 853/2004;

  • mae i “cig” yr ystyr a roddir i “meat” ym mhwynt 1.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • mae i “cig anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game meat” yn Rheoliad 853/2004;

  • mae i “cig ffres” yr ystyr a roddir i “fresh meat” ym mhwynt 1.10 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “costau staff lladd-dy a gytunwyd” (“agreed slaughterhouse staff costs”) o ran unrhyw ladd-dy lle cigyddir dofednod neu lagomorffiaid yw—

    (a)

    y gyfran (a fynegir fel swm o arian) o gyflogau (gan gynnwys taliadau goramser a chyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol y cyflogwyr) a delir i staff y lladd-dy hwnnw o ran cyfnod cyfrifyddu y bydd yr Asiantaeth honno a gweithredydd y lladd-dy yn cytuno arni fel y gyfran y gellir ei phriodoli i unrhyw staff o'r fath sy'n cynorthwyo gyda rheolaethau swyddogol drwy gyflawni tasgau penodol yno yn ystod y cyfnod hwnnw o dan Erthygl 5.6 o Reoliad 854/2004; plws

    (b)

    25% o'r swm hwnnw;

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;

  • ystyr “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yw cyfnod sy'n llai na blwyddyn y penderfynir arno gan yr Asiantaeth;

  • ystyr “cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr” (“employers' National Insurance contributions”) yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr yn atebol amdanynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(5);

  • mae i “dofednod” yr ystyr a roddir i “poultry” ym mhwynt 1.3 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “ffi rheolaethau swyddogol” (“official controls charge”) yw'r ffi a gyfrifir yn unol ag Atodlen 2 ac a hysbysir yn unol â rheoliad 3(1), (2) neu (3);

  • ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw gweithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg busnes lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri neu gynrychiolydd y gweithredydd a awdurdodwyd yn briodol;

  • mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Erthygl 3.3 o Reoliad 178/2002;

  • ystyr “gwirhau” (“verification”) yw gwirio, drwy archwilio a darparu tystiolaeth wrthrychol;

  • mae i “lagomorffiaid” yr ystyr a roddir i “lagomorphs” ym mhwynt 1.4 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl ac sydd —

    (a)

    wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(6) neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995(7);

  • ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri;

  • ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw'r rheolaethau y mae'r Asiantaeth yn eu cyflawni o dan Reoliad 854/2004 —

    (a)

    mewn lladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela a safleoedd torri, er mwyn gwirhau cydymffurfedd â darpariaethau Rheoliad 853/2004 i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir neu, yn ôl y digwydd, cig anifeiliaid hela gwyllt; a

    (b)

    mewn lladd-dai, er mwyn gwirhau cydymffurfedd â darpariaethau Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(8) i'r graddau y maent yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir yno ar gyfer eu bwyta gan bobl;

  • mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;

  • ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd —

    (a)

    sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;

  • mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” ym mharagraff 2.1(c) o Reoliad 852/2004;

  • ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac —

    (a)

    sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    (b)

    (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Arolygu) 1995(9); ac

  • mae i “torri” yr ystyr a roddir i “cutting up” yn Rheoliad 853/2004.

Ffioedd

3.—(1Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol o ran y rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

(2Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ran unrhyw fangre o'r fath a bennir yn y paragraff hwnnw, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.

(3Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac—

(a)os yw'n fwy na'r ffi interim, rhaid iddi hysbysu'r gweithredydd o'r ffi derfynol, sef y swm y mae'r ffi rheolaethau swyddogol yn fwy na'r ffi interim; neu

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw'n llai na'r ffi interim, rhaid iddi roi credyd i'r gweithredydd o'r swm y mae'r ffi interim yn fwy na'r ffi rheolaethau swyddogol.

(4Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.

(5Os cafodd unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd eu defnyddio i gyfrifo ffi y mae angen ei hysbysu i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3), rhaid gwrthgyfrifo'r costau hynny yn erbyn swm y ffi honno wrth gyfrifo'r ffi wirioneddol a hysbysir oddi tano, ar yr amod na wneir ad-daliad i'r gweithredydd perthnasol.

(6Os yw swm o dan baragraff (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n penderfynu gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.

Tynnu rheolaethau swyddogol yn ôl

4.  Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sydd yn agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y fangre honno hyd nes y bodlonir y dyfarniad.

Gwybodaeth

5.—(1Rhaid i unrhyw berson pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi—

(a)unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth fynnu ei chael er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu gweithredydd ohoni; a

(b)unrhyw dystiolaeth y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth fynnu ei chael i'w galluogi i wirhau gwybodaeth a roddwyd iddi o dan is-baragraff (a).

(2Bydd unrhyw berson sydd —

(a)gan honni ei fod yn cydymffurfio â pharagraff (1), yn rhoi gwybodaeth sy'n dwyllodrus neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys gan wybod hynny neu sy'n ei rhoi'n ddi-hud; neu

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed o dan y paragraff hwnnw,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

6.  Mae Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2006(10) wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(12);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(13);

ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(14), fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(15), fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(16), fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau(17), fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden(18);

ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd(19);

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 yn gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(20);

ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig(21); ac

ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol i weithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(22).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2CYFRIFO FFI RHEOLAETHAU SWYDDOGOL

Y ffi rheolaethau swyddogol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—

(a)y swm o —

(i)y ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw, a

(ii)unrhyw ffi ychwanegol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw yn rhinwedd paragraff 7; a

(b)y costau amser a gynhyrchir gan y fangre honno am y cyfnod hwnnw.

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).

(2Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.

(3Yn y paragraff hwn ystyr “cyfnod ariannol” (“financial period”) yw—

(a)y cyfnod sy'n dechrau ar 26 Mawrth 2007 ac sy'n dod i ben ar 30 Mawrth 2008; a

(b)ar ôl hynny, y cyfnod sy'n dechrau ar y dydd Llun sy'n union ar ôl y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn unrhyw flwyddyn ac sy'n dod i ben ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.

Y ffi safonol

3.  Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda yno neu yn ôl y digwydd eu trin yno yn y cyfnod.

4.  Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod.

Y math o anifailCyfradd fesul math o anifail mewn Ewros
Anifeiliaid buchol
• 6 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy4.7183
• yn llai na 6 wythnos oed pan gigyddir hwy2.6213
Equidae ac uncarnolion eraill4.6134
Moch gan gynnwys baeddod gwyllt
• pwysau carcas llai na 25 kg0.5243
• pwysau carcas mwy na neu'n gytbwys â 25 kg1.3631
Defaid, geifr ac anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil nas rhestrir yn rhywle arall yn y Tabl hwn
• pwysau carcas llai na 12 kg0.1835
• pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol0.3670
• pwysau carcas mwy na 18 kg0.5243
Dofednod, cwningod, adar hela bach a helfilod daear
• pob brwyliad; pob iâr gast; dofednod eraill, cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso llai na 2 kg0.0105
• dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)0.0210
• dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear (sydd i gyd yn oedolion) ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg0.0419
Estrysiaid ac adar di-gêl eraill1.3631
Mamaliaid tir ac adar o fath nas crybwyllir uchod1.3631

5.  Mae'r ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela o ran cig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad i'w dorri neu neu i dynnu'r esgyrn yno, i'w chyfrifo drwy luosi â 3.1455 y nifer o dunelli o gig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad o dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno.

6.  Trosir y ffi safonol (a fynegir mewn Ewros) i bunnoedd drwy ei luosi â'r gyfradd drosi Ewro / sterling sy'n gymwys yn y flwyddyn y cyflawnwyd y rheolaethau swyddogol a arweiniodd at godi'r ffi.

7.—(1Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.

(2Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.

(3Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.

(4Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.

(5At ddibenion y paragraff hwn ystyr “aneffeithlonrwydd” (“inefficiency”) yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—

(a)oedi cyn dechrau cigydda y gellir ei briodoli i'r gweithredydd;

(b)torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw;

(c)camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan swyddog;

(ch)tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

(d)darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);

(dd)oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac

(e)unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.

(6At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.

(7Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

(8Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).

(9Ni chaniateir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

8.—(1Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 7 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).

(2Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 7(3).

(3Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)—

(a)rhaid i'r Asiantaeth enwebu person i benderfynu'r mater o'r rhestr a sefydlwyd o dan is-baragraff (4);

(b)rhaid i'r person a enwebir roi cyfle i'r gweithredydd a'r Asiantaeth wneud sylwadau ar y mater sydd i'w benderfynu; ac

(c)rhaid i'r person a enwebir, o fewn mis o'i enwebiad, benderfynu a oes ffi ychwanegol yn daladwy a hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.

(4Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Costau amser

9.  Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 10 ac 11) drwy—

(a)lluosi'r amser (a fynegir mewn oriau a ffracsiynau o awr) a dreulir gan bob arolygydd sy'n arfer rheolaethau swyddogol yn y fangre honno yn y cyfnod gan y tâl wrth yr awr sy'n gymwys i'r arolygydd hwnnw a benderfynir yn unol â pharagraffau 12 i 14;

(b)ychwanegu'r canlyniadau at ei gilydd; ac

(c)ychwanegu unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd am y cyfnod hwnnw.

10.  Mae'r costau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol yn cynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd o dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.

11.  Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, mae unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd—

(a)yn teithio i fangre neu o fangre lle mae'r arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau;

(b)yn unrhyw fangre yr aeth yr arolygydd iddi at ddibenion arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a fydd yr arolygydd yn gallu arfer rheolaethau swyddogol yno ai peidio); ac

(c)yn unrhyw le arall—

(i)pan fo'r arolygydd ar gael i arfer rheolaethau swyddogol ond nad yw mewn gwirionedd yn eu harfer, a

(ii)pan gaiff ei dalu o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,

i'w gyfrifo fel pe bai'n amser yr oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol.

12.  Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.

13.  Rhaid cyfrifo'r tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu y cyfryw gyfrannedd o gostau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 a dynnwyd gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd wrth arfer rheolaethau swyddogol (ond heb gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a gymerwyd i ystyriaeth yn unol â pharagraff 10) ag y bydd yr Asiantaeth yn credu ei fod yn briodol ei ddosrannu i'r tâl hwnnw yr awr;

14.  Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 12 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 13, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

15.  Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 12 i 14, rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yn ôl yr awr.

Diffiniadau

16.  Yn yr Atodlen hon —

(a)mae i “cynorthwyydd swyddogol” a “milfeddyg swyddogol” yr ystyr a roddir i “official auxiliary” a “official veterinarian” yn eu trefn yn Erthygl 2.1(h) ac (f) o Reoliad 854/2004;

(b)ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw milfeddyg swyddogol neu gynorthwyydd swyddogol;

(c)ystyr “y ffi safonol” (“the standard charge”), o ran unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff 3, 4 neu 5, yn ôl y digwydd, a drosir i sterling yn unol â pharagraff 6;

(ch)ystyr “cyfradd drosi Ewro / sterling” (“the Euro / sterling conversion rate”) sy'n gymwys o ran unrhyw flwyddyn o dan sylw yw—

(i)am 2007, 1 Ewro = £0.67410, a

(ii)ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny; a

(d)ystyr “costau amser” (“time costs”), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 9 i 11;

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3245 (Cy.293)).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi mewn perthynas â Chymru Erthyglau 26 a 27 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n ei gwneud yn ofynnol i ffioedd gael eu casglu i dalu'r costau sy'n cael eu peri gan reolaethau swyddogol a gyflawnir, yn gyntaf, ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83) ac yn ail, i wirhau cydymffurfedd â'r rheolau lles anifeiliaid a nodir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 93/119/EC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t.21) i'r graddau y maent yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl.

3.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol ar y ffi sydd bellach i'w chodi o ran y rheolaethau swyddogol hynny (diffinnir y termau “lladd-dy”, “sefydliad trin anifeiliaid hela”, “safle torri”, “rheolaethau swyddogol” a “ffi rheolaethau swyddogol” oll yn rheoliad 2) (rheoliad 3);

(b)yn darparu bod unrhyw ffi rheolaethau swyddogol a hysbysir yn y modd hwnnw yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi (rheoliad 3);

(c)yn caniatáu i'r Asiantaeth wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol eraill mewn mangre benodol, er gwaethaf gorchymyn Llys yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y fangre dalu ffi rheolaethau swyddogol y mae'n atebol amdani, os yw'r gweithredydd yn methu cydymffurfio â'r gorchymyn (rheoliad 4);

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau—

(i)rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad yr wybodaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu'r gweithredydd ohoni, a

(ii)rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol iddi fynnu ei chael i wirhau'r wybodaeth honno (rheoliad 5);

  • yn darparu bod person sydd —

    (i)

    wrth ymateb i hawliad am wybodaeth neu dystiolaeth, yn rhoi gwybodaeth dwyllodrus neu gamarweiniol gan wybod hynny neu'n ei rhoi'n ddi-hid, neu

    (ii)

    heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed am wybodaeth neu dystiolaeth,

    yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

4.  Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn nodi sut y mae'r ffi'r rheolaethau swyddogol i'w chyfrifo.

5.  Mae arfarniad rheoliadol am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(4)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(6)

O.S. 1995/539, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292.

(7)

O.S. 1995/539, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292.

(9)

O.S. 1995/2148, a ddirymwyd o 1 Ionawr 2006 ymlaen gan O.S. 2005/2059.

(11)

1998 p.38.

(12)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(13)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(14)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(15)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd symud rhydd ar nwyddau, rhyddid i bobl symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, treth, ystadegau, ynni, yr amgylchedd, cydwiethredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, cysylltiadau allanol, polisïau tramor a diogelwch cyffredin a sefydliadau, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania (OJ Rhif L363, 20.12.2006, p.1.).

(16)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006

(17)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006.

(18)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(19)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1.

(20)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penoldol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu mesurau gweithredu penodol (OJ Rhif L320, 18.11.2006, p.13).

(21)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1665/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L320, 18.11.2006, p.46).

(22)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83. Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2006 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill