- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
7.—(1) Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.
(2) Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.
(3) Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.
(4) Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.
(5) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “aneffeithlonrwydd” (“inefficiency”) yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—
(a)oedi cyn dechrau cigydda y gellir ei briodoli i'r gweithredydd;
(b)torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw;
(c)camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan swyddog;
(ch)tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);
(d)darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6);
(dd)oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac
(e)unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.
(6) At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.
(7) Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).
(8) Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).
(9) Ni chaniateir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys