- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
19.—(1) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw swm agregedig y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall yn gysylltiedig â bod yn bresennol arno.
(3) 11,090 ewro yw uchafswm y grant at ffioedd.
20.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.
(2) Nid yw myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 2 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.
(3) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at gostau byw sy'n hafal i swm (A + B)
lle—
A yw £2,402; a
mae B yn £49 am bob wythnos, gan gynnwys wythnos pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop am lai na 5 niwrnod, pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yng Ngholeg Ewrop uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod;
(4) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at fwrdd a llety o 6,000 ewro.
(5) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am swm sy'n hafal i (A − B)
lle—
A yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i Goleg Ewrop; a
B yw £99.
(6) Mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at deithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yng Ngholeg Ewrop, i Goleg Ewrop.
(7) Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau, mae myfyriwr Coleg Ewrop yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan Goleg Ewrop yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
21. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir yn unol â rheoliad 20.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys