- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
30.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr Coleg Ewrop neu'r myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i'w gael o dan reoliadau 27 i 29 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 27 i 29, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 27; a
(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 29.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr yn cymhwyso i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A − B) yn hafal i agregiad y symiau sylfaenol o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael neu'n fwy na'r agregiad hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—
(a)os yw partner y myfyriwr—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw yn cymhwyso i'w gael, neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael, o dan y dyfarniad statudol.
(5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
A yw agregiad incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw—
£1,130 os nad oes gan y myfyriwr unrhyw blant dibynnol;
£3,385 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,515 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
£4,515 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,650 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys