- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy rhiant myfyriwr, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu esemptiadau a ganiateir—
(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os cyfrifir yr incwm at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, ar ffurf swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;
(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na chaiff taliadau, a fyddent fel arall, o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, yn rhan o incwm person, eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu
(c)o dan is-baragraff (2)
i'w gwneud na'u caniatáu.
(2) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol rhiant, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—
(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os cyfrifir incwm y myfyriwr at ddiben deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;
(b)mewn unrhyw achos lle y cyfrifir incwm yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n gyfwerth â'r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly i fod yn fwy na'r didyniadau a wneid os byddai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac
(c)yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,075.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“blwyddyn ariannol gyfredol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol y rhiant gyfartaledd ei incwm gweddilliol ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddynt.
(5) Os yw rhiant y myfyriwr yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes y mae'n ei rhedeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o'r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw rhiant myfyriwr yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y rhiant hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir dim ond oherwydd—
(a)nad yw'r rhiant yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir ei incwm fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n preswylio felly, yn preswylio fel arfer felly, neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir;
(b)nad yw'r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir incwm y rhiant at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n deillio yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir; neu
(c)bod yr incwm yn deillio o swyddfa, o wasanaeth neu o gyflogaeth, a bod incwm o'r rhain yn esempt o dreth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae ei incwm trethadwy at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.
(7) Os yw incwm rhiant y myfyriwr yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu'r Swistir ac incwm rhiant y myfyriwr at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, sef y gyfradd fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os bydd un o rieni'r myfyriwr yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth neu y byddai'n cael ei gymryd i ystyriaeth at ddiben canfod incwm yr aelwyd, yna—
(a)os bydd y rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi; neu
(b)os bydd y rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, ystyrir mai agregiad o'r canlynol yw incwm yr aelwyd—
(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a
(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl marw'r rhiant arall.
(9) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y rhieni wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm pa riant bynnag sydd fwyaf priodol o dan yr amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru.
(10) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at agregiad o'r canlynol—
(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y rhieni wedi gwahanu; a
(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir fel arall mewn cysylltiad â gweddill y flwyddyn berthnasol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys