Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu rheoliadau o'r un enw a wnaed yn 2004 (O.S. 2004/870 (Cy.85)) (“Rheoliadau 2004”), gyda diwygiadau angenrheidiol i ddarparu ar gyfer cynnal refferenda sydd i'w cynnal o dan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) (“Deddf 2000”), neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran II o Ddeddf 2000. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Bydd y refferenda yn ymwneud â'r cwestiwn p'un ai trefniadau gweithrediaeth o faer a chabinet, gweithrediaeth o faer a rheolwr y cyngor neu weithrediaeth o arweinydd a chabinet y dylai cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol eu mabwysiadu. Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhagnodi ffurfiau penodol sydd i'w defnyddio mewn refferendwm o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Y prif newidiadau a wneir yn Rheoliadau 2004 yw, yn gyntaf, gwneud y newidiadau angenrheidiol i gyflawni'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006 (p. 22) (“Deddf 2006”) yn y cyd-destun hwn, ac yn ail, pennu'r rheolau yn llawn ar gyfer cynnal refferenda.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn pennu ffurf y geiriau yn y datganiad a'r cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad cyhoeddus o gynigion yr awdurdod lleol o dan adran 25 o Ddeddf 2000 neu, yn ôl y digwydd, o dan reoliad 17 neu 19 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 (“y Rheoliadau Deisebau a Chyfarwyddiadau”), o dan reoliadau o dan adran 30 neu 33 o Ddeddf 2000, neu o dan orchymyn o dan adran 36 o'r Ddeddf honno. Rhaid i'r hysbysiad bennu dyddiad y refferendwm, amryw o faterion sy'n gysylltiedig â chynnal y refferendwm a'r modd y bydd cynigion yr awdurdod lleol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth ffeithiol am eu cynigion, amlinelliad o'r cynigion wrth gefn sydd ganddynt a'r refferendwm cyn belled â bod yr wybodaeth wedi ei chyflwyno yn deg.

Mae rheoliad 5 yn gosod cyfyngiadau ar y deunydd y gellir ei gyhoeddi, ei arddangos neu ei ddosbarthu gan neu ar ran yr awdurdod yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod cyn dyddiad y refferendwm

Mae rheoliad 6 yn gosod “cyfyngiad treuliau refferendwm” ar y swm y bydd modd ei wario fel “treuliau refferendwm” (diffinnir y ddau derm yn rheoliad 6(1), y mae Atodlen 2 yn berthnasol iddo). Mae swm y treuliau refferendwm yn cael ei uwchraddio i adlewyrchu'r chwyddiant rhwng gwneud Rheoliadau 2004 a gwneud y Rheoliadau hyn. O dan reoliad 6(3) mae'n dramgwydd gwario dros ben y cyfyngiad treuliau refferendwm.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod symiau sy'n berthnasol i ddefnyddio rhai mathau o eiddo, gwasanaethau a chyfleusterau i'w trin fel pe baent wedi eu gwario fel treuliau refferendwm at ddibenion rheoliad 6.

Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer cynnal refferendwm. At y diben hwn yr oedd Rheoliadau 2004 yn cymhwyso Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) gydag addasiadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r rheolau ar gyfer cynnal refferendwm yn llawn (Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol), yn Atodlen 3. Rhoddir crynodeb o'r newidiadau sy'n adlewyrchu Deddf 2006 ar ddiwedd y nodyn hwn. Cymhwysir deddfwriaeth etholiadol arall, gydag addasiadau, i hwyluso'r modd y cynhelir refferenda (fel a nodir yn Nhablau 1 i 5 o Atodlen 4).

Mae rheoliad 9 yn pennu pwy sydd i fod yn swyddog cyfrif yn y refferendwm.

Mae rheoliad 10 yn ymdrin â chanlyniad y refferendwm, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau sy'n caniatáu herio canlyniad y refferendwm.

Mae rheoliad 11 yn pennu'r seiliau dros herio a'r cyfnod y bydd yn rhaid gwneud unrhyw ddeiseb refferendwm oddi mewn iddo. Mae hefyd yn nodi'r gweithdrefnau sy'n gymwys i ddeisebau refferendwm ac yn cymhwyso gydag addasiadau, drwy Atodlenni 5 a 6, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheolau Deisebau Etholiadau 1960. Mae rheoliad 12 yn ymdrin â chanlyniadau di-oed dwyn deiseb refferendwm (p'un a gaiff yr awdurdod gweithredu neu barhau i weithredu trefniadau gweithrediaeth newydd yn unol â'r refferendwm ai peidio). Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer y sefyllfa wedi i lys etholiad benderfynu deiseb refferendwm.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer anwybyddu diwrnodau penodol wrth gyfrifo cyfnodau penodol o amser at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 15 yn eithrio hysbysebion sy'n ymwneud yn benodol â'r refferendwm rhag rheoliadau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) sy'n rheoli arddangos hysbysebion.

Mae rheoliad 16 yn darparu bod mangreoedd a ddefnyddir mewn perthynas â'r refferendwm ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus neu ar gyfer cymryd y bleidlais i'w trin fel mangreoedd heb eu meddiannu at ddibenion trethu.

Mae Atodlen 1 yn rhagnodi'r datganiad a ffurf y cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm.

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch materion sy'n berthnasol i dreuliau refferendwm.

Mae Atodlen 3 yn cynnwys Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

Mae Atodlen 4 yn cymhwyso deddfwriaeth etholiadol gydag addasiadau i hwyluso'r modd y cynhelir refferenda. Cymhwysir darpariaethau o'r deddfiadau a'r is-ddeddfwriaeth canlynol: Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2), 1985 (p. 50) a 2000 (p. 2), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41), Deddf 2006 a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341).

Mae Atodlen 5 yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 at ddibenion dwyn deiseb refferendwm i herio'r canlyniad mewn refferendwm.

Mae Atodlen 6 yn gwneud addasiadau yn Rheolau Deisebau Etholiadau 1960, pan gymhwysir hwy i refferenda gan reoliad 11(9).

Mae'r darpariaethau yn y Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol (“y Rheolau”) sy'n adlewyrchu newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2006 yn cynnwys y canlynol.

Mae'r Rheolau'n adlewyrchu mesurau diogelwch newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf 2006. Darperir ar gyfer nodau diogelwch ar bapurau pleidleisio, yn ogystal â nodau adnabod unigryw. Disodlir bonion papurau pleidleisio gan restrau rhifau cyfatebol. Gosodir gofynion bod pleidleiswyr post a dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post yn darparu eu llofnod a'u dyddiad geni wrth ddychwelyd papurau pleidlais bost.

Mae'r Rheolau'n adlewyrchu newidiadau yn yr amgylchiadau pan ganiateir i berson roi pleidlais sydd wedi ei thendro. Cyflwynir gofynion newydd o ran yr wybodaeth a hygyrchedd yr wybodaeth sydd i'w darparu gan swyddogion cyfrif i bleidleiswyr.

Mae'r Rheolau yn adlewyrchu newidiadau a wnaed ynglŷn â'r personau y caniateir mynediad iddynt i orsaf bleidleisio ac i'r cyfrif i arsylwi ar refferenda.

Gwneir diwygiadau i ddarparu ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i swyddog llywyddu am newidiadau yn y gofrestr etholwyr sy'n dod i rym ar ddiwrnod y pleidleisio. Gwneir diwygiadau o ganlyniad i gyflwyno cynllun ar gyfer cofrestru etholwyr penodol yn ddienw.

Mae'r Rheolau yn adlewyrchu newidiadau a wnaed ynglŷn â chadw ac archwilio dogfennau refferendwm ar ôl y pleidleisio.

Mae'r ffurflenni newydd a atodir i'r Rheolau yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2006.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac y mae ar gael o'r Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill