- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gwnaed
27 Ebrill 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Ebrill 2009
Yn dod i rym
28 Mai 2009
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Mai 2009.
2. Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio drwy roi'r paragraff a ganlyn yn lle paragraffau (7) ac (8) o reoliad 4—
“(7) Nid yw Rhan 3 (ac eithrio rheoliad 25) na Rhannau 4 i 9 yn gymwys o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a bennir yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned(4).”.
3. Mae Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006(5) wedi eu dirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Cymru) 2007 er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn mewnforion personol a ganiateir o drydydd gwledydd a achoswyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.
Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar fusnesau, elusennau na chyrff gwirfoddol.
O.S. 2005/2766, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
O.S. 2007/376 (Cy.36) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/392 (Cy.41).
OJ Rhif L 77, 24.3.2009, t. 1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys