Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1088 (Cy.96)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009

Gwnaed

27 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Ebrill 2009

Yn dod i rym

28 Mai 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Mai 2009.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007

2.  Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio drwy roi'r paragraff a ganlyn yn lle paragraffau (7) ac (8) o reoliad 4—

(7) Nid yw Rhan 3 (ac eithrio rheoliad 25) na Rhannau 4 i 9 yn gymwys o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a bennir yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned(4)..

Dirymu

3.  Mae Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006(5) wedi eu dirymu.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

27 Ebrill 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Cymru) 2007 er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn mewnforion personol a ganiateir o drydydd gwledydd a achoswyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar fusnesau, elusennau na chyrff gwirfoddol.

(1)

O.S. 2005/2766, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

O.S. 2007/376 (Cy.36) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/392 (Cy.41).

(4)

OJ Rhif L 77, 24.3.2009, t. 1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources