Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dosbarthu pecynnau i aelwydydd ac etholwyr â llaw

8.—(1Rhaid i'r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

(a)unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad;

(b)rhestr sy'n cynnwys cyfeiriadau pob aelwyd yn y gofrestr cyfeiriadau sydd wedi'i lleoli yn ardal y cydgysylltydd hwnnw y mae'n rhaid dosbarthu pecyn aelwyd iddynt o dan y rheoliad hwn;

(c)llyfr cofnodion cyfrifo i bob dosbarth cyfrifo yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; ac

(ch)unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.

(2Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad ddynodi swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob dosbarth cyfrifo.

(3Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad roi i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2) gopi o'r llyfr cofnodion cyfrifo i'w ddosbarth cyfrifo ac wedyn rhaid i'r swyddog cyfrifiad ddosbarthu—

(a)pecyn aelwyd i bob aelwyd sy'n meddiannu annedd, neu ran o annedd, a grybwyllir yn y llyfr cofnodion cyfrifo;

(b)pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw i bob aelwyd sy'n cynnwys etholwr yn nosbarth cyfrifo'r swyddog cyfrifiad nad yw eisoes wedi cael pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw ac y mae'r cydgysylltydd cyfrifiad wedi rhoi gwybod amdano i'r swyddog; ac

(c)pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw (fel y bo'n briodol) i unrhyw aelwydydd neu etholwyr eraill y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt yn ei ddosbarth cyfrifo.

(4Bydd dyletswydd y swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecyn o dan baragraff (3) wedi'i chyflawni mewn perthynas â phob aelwyd ac etholwr os bydd y swyddog yn trosglwyddo'r pecyn i'r deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu, os nad oes person o'r fath ar gael, os bydd y swyddog—

(a)yn gadael pecyn gyda pherson cyfrifol sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw; neu

(b)os nad oes person cyfrifol ar gael, yn gadael y pecyn neu'n ei anfon drwy'r post i'r cyfeiriad yn y llyfr cofnodion cyfrifo neu'r cyfeiriad y rhoddodd y cydgysylltydd cyfrifiad wybod amdano i'r swyddog.

(5Mewn perthynas â phob pecyn aelwyd neu bob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw a ddosberthir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo.

(6Rhaid i bob swyddog cyfrifiad roi'r cofnodion yn y llyfr cofnodion cyfrifo i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i ddangos bod pecyn wedi'i ddosbarthu i bob cyfeiriad.

(7Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddosbarthu i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

(8Yn y rheoliad hwn ystyr “llyfr cofnodion cyfrifo” (“enumeration record book”) yw llyfr sydd wedi'i argraffu gan yr Awdurdod ac sy'n cynnwys—

(a)cyfeiriadau aelwydydd mewn dosbarth cyfrifo y mae'n rhaid i swyddog cyfrifiad ddosbarthu pecynnau aelwyd iddynt â llaw;

(b)y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur H2 sydd i'w ddosbarthu i'r cyfeiriadau hynny; ac

(c)lle i swyddog cyfrifiad gofnodi gwybodaeth am y canlynol—

(i)unrhyw aelwydydd ychwanegol y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt; a

(ii)dosbarthu pob pecyn aelwyd a phob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill