Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/09/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliadau 3, 6, 8, 20 a 28

ATODLEN 1LL+CY GOFYNION RHAGNODEDIG AR GYFER COFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR

DehongliLL+C

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—

(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a

(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

RHAN 1LL+CY gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: gwarchod plant

Gofynion mewn perthynas â'r ceisyddLL+C

2.  Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F1o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

3.  Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

4.  Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F2o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

5.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F3o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

[F46.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

7.  Pan fo'n briodol(1), bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staffLL+C

8.  Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F5o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

9.  Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 8 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F6o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

10.  Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F7o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

11.  Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

12.  Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arallLL+C

13.[F8(1) Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.]

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

(3Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(4Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CY gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: darparwyr gofal dydd

Gofynion mewn perthynas â'r ceisydd: unigolynLL+C

14.  Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 15 i 20 yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

15.  Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F9o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

16.  Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

17.  Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F10o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

18.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F11o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

[F1219.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

20.  Pan fo'n briodol, bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â'r unigolyn cyfrifol pan fo'r ceisydd yn sefydliadLL+C

21.  Pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac wedi penodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol–

(a)bod yr unigolyn cyfrifol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F13o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; neu

(b)pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant [F14o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

22.  Bod gan yr unigolyn cyfrifol y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl y mae'n ei chyflawni mewn perthynas â gofalu am blant [F15o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

23.  Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ymgymryd â'i rôl mewn perthynas â gofalu am blant [F16o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

[F1724.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

25.  Pan fo'n briodol, bod yr unigolyn cyfrifol wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA yr unigolyn cyfrifol i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â'r person â chyfrifoldebLL+C

26.  Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 27 i 31 yn gymwys pan fo'r ceisydd wedi penodi neu'n bwriadu penodi person i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre (“y person â chyfrifoldeb”).

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

27.  Bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F18o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

28.  Bod gan y person â chyfrifoldeb y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F19o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

29.  Bod y person â chyfrifoldeb yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F20o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

[F2130.  Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

31.  Pan fo'n briodol, bod y person â chyfrifoldeb wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA person â chyfrifoldeb i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staffLL+C

32.  Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraffau 21 neu 26) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant [F22o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

33.  Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 32 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant [F23o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

34.  Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F24o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

35.  Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 32.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

36.  Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arallLL+C

37.[F25(1) >Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—

(a)yn byw yn y fangre berthnasol,

(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu

(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,

yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.]

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

(3Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(4Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 4, 6, 8, 20 a 28

ATODLEN 2LL+CGWYBODAETH A DOGFENNAU SY'N OFYNNOL AR GYFER COFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR

DehongliLL+C

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—

(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a

(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

RHAN 1LL+CGwybodaeth a dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant

Gwybodaeth am y ceisyddLL+C

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unigolyn sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant.

(2Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant [F26o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

(4Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol.

(5Enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—

(a)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd;

(b)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant [F27o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac

(c)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.

(6Manylion unrhyw fusnes a gynhelir, neu a gynhaliwyd, gan y ceisydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am y gofal a ddarperirLL+C

3.  Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”), ynghyd â disgrifiad o'r fangre a'r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i'w darparu, ar gyfer plant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

4.  Y datganid o ddiben.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

5.  Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel gwarchodwr plant.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

6.  Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

7.  Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—

(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a

(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

8.  Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

9.  Nifer y plant y gofelir amdanynt, a'u hoedrannau.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am bersonau eraill: staffLL+C

10.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant neu blentyn perthnasol—

(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;

(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

11.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant perthnasol—

(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;

(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno;

(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;

(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;

(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;

(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);

(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—

(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,

(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath, a

(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant [F28o dan ddeuddeng mlwydd oed] a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;

(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;

(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;

(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;

(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;

(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—

(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,

(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person, a

(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn ymwneud â phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ynghylch personau eraill: pob person arallLL+C

12.—(1Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 10 ac 11) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

13.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a, dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol, ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

14.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac sydd rywfodd arall yn bresennol yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Y dogfennau sydd i'w cyflenwiLL+C

15.  Tystysgrif geni'r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

16.  Prawf o hunaniaeth y ceisydd, gan gynnwys ffotograff diweddar.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

17.  Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd [F29o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

18.  Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r gwarchod plant arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

19.—(1Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—

(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant a warchodir, bod–

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)pan fo'n briodol(2), cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau–—

(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14, bod—

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

20.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F30o dan ddeuddeng mlwydd oed].

(2Os nad oes modd i'r ceisydd gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), datganiad gan y ceisydd ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CGwybodaeth a dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru: darparydd gofal dydd

DehongliLL+C

21.  Yn Rhan hon—

  • ystyr “perthynas” (“relative”) mewn perthynas ag unrhyw berson yw—

    (a)

    priod neu bartner sifil y person hwnnw;

    (b)

    unrhyw riant, taid, nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person neu briod neu bartner sifil y person;

    (c)

    priod neu bartner sifil unrhyw berthynas y cyfeirir ato yn is-baragraff (b),

    (ch)

    ac at y diben o benderfynu ynghylch unrhyw berthynas o'r fath, rhaid trin llysblentyn person fel plentyn y person, ac y mae [F31cyfeiriadau at “priod neu bartner sifil” mewn perthynas ag unrhyw berson yn cynnwys cyn briod neu bartner sifil a pherson sy’n byw gyda’r person fel pe baent yn bâr priod neu’n bartneriaid sifil] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am y ceisydd: unigolynLL+C

22.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.

(2Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant [F32o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

(4Manylion unrhyw fusnes a gynhelir neu a gynhaliwyd gan y ceisydd.

(5Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant [F33o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; a

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am y ceisydd: sefydliadLL+C

23.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad.

(2Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y ceisydd.

(3Yn achos ceisydd sefydliadol sy'n gwmni, ei swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni, ei rif cofrestru ac, yn achos ceisydd sefydliadol sy'n elusen gofrestredig, ei rif elusen gofrestredig.

(4Os yw'r sefydliad yn is-gwmni cwmni daliannol, enw a chyfeiriad y cwmni daliannol, ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.

(5Yn yr Atodlen hon rhaid dehongli'r geiriau “cwmni daliannol” (“holding company”) ac “is–gwmni” (“subsidiary”) yn unol â'r dehongliad o “subsidiary” a “holding company” yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol pan fo'r ceisydd yn sefydliadLL+C

24.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac, fel y cyfryw, wedi penodi unigolyn cyfrifol.

(2Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) yr unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol yr unigolyn gyfrifol a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i—

(a)darparu gofal dydd i blant [F34o dan ddeuddeng mlwydd oed] ,

(b)pan fo paragraff 25 yn gymwys, goruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd i blant [F35o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

(4Ac eithrio pan fo paragraff 25 yn gymwys, manylion am hanes cyflogaeth yr unigolyn cyfrifol–

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r unigolyn cyfrifol,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd yr unigolyn cyfrifol i ofalu am blant [F36o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf yr unigolyn cyfrifol.

Gwybodaeth am y person â chyfrifoldebLL+C

25.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi.

(2Enw llawn (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol) y person â chyfrifoldeb, ac os nad y person hwnnw hefyd yw'r ceisydd neu'r unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.

(3Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person â chyfrifoldeb a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ddarparu gofal dydd i blant [F37o dan ddeuddeng mlwydd oed] .

(4Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—

(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —

(i)nad ydynt yn berthnasau i'r person,

(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y person i ofalu am blant [F38o dan ddeuddeng mlwydd oed] ; ac

(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y person.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am y gofal a ddarperirLL+C

26.  Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”) ynghyd â disgrifiad o'r cyfleusterau a ddarperir neu sydd i'w darparu i blant y gofelir amdanynt, gan gynnwys datganiad pa un a yw'r fangre wedi ei hadeiladu'n bwrpasol neu wedi ei throsi i'w defnyddio fel mangre lle y gofelir am blant.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

27.  Y datganiad o ddiben.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

28.  Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel darparydd gofal dydd i blant.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

29.  Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

30.  Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion —

(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a

(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

31.  Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

32.  Nifer y plant y bwriedir darparu gofal iddynt, a'u hoedrannau.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth am bersonau eraill: staffLL+C

33.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—

(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;

(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

34.  Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—

(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;

(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno gyda'r ceisydd;

(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;

(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;

(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;

(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);

(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—

(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,

(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath,

(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant [F39o dan ddeuddeng mlwydd oed] a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;

(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;

(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;

(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;

(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;

(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—

(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,

(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person;

(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ynghylch personau eraill: pob person arallLL+C

35.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 24, 25 a 33) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

36.  At ddibenion paragraff 35 mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

37.  Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), a dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Y dogfennau sydd i'w cyflenwiLL+C

38.  Tystysgrif geni'r ceisydd, a phan fo'n berthnasol tystysgrifau geni'r unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

39.  Prawf o hunaniaeth y ceisydd, a phan fo'n briodol, o hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb gan gynnwys ffotograffau diweddar.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

40.  Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd [F40o dan ddeuddeng mlwydd oed].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

41.  Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth arfaethedig o ofal dydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

42.—(1Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—

(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant y darperir gofal dydd iddynt, bod–

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—

(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37, bod—

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a

(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a

(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

43.  Os yw'r ceisydd yn sefydliad, copïau o'r ddau adroddiad blynyddol diwethaf yr oedd yn ofynnol eu paratoi.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

44.  Pan fo'r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, y ddau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) ar gyfer y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

45.  Cyfrifon blynyddol diwethaf y sefydliad, os oes rhai.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

46.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant [F41o dan ddeuddeng mlwydd oed].

(2Os nad oes modd i berson a grybwyllir yn is-baragraff (1) gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw, datganiad gan y person hwnnw ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 30

ATODLEN 3LL+CY COFNODION SYDD I'W CYNNAL

1.  Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y person cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a phob person arall sy'n byw, yn gweithio neu a gyflogir yn y fangre berthnasol .LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

2.  Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon unrhyw berson arall a ddaw i gysylltiad â'r plant perthnasol yn rheolaidd heb oruchwyliaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

3.  Enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a rhyw pob plentyn perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

4.  Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw, cyfeiriad a rhif teleffon rhiant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

5.  Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw a chyfeiriad yr ymarferydd meddygol cofrestredig y cofrestrwyd y plentyn gydag ef.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

6.  Cofnod dyddiol o enwau'r plant perthnasol, oriau eu presenoldeb ac enwau'r personau a fu'n gofalu amdanynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

7.  Cofnod o ddamweiniau, salwch difrifol a digwyddiadau arwyddocaol eraill a ddigwyddodd yn fangre berthnasol ac a effeithiodd ar les plant perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

8.  Cofnod o unrhyw gynnyrch meddyginiaethol a gafodd ei weini i blentyn perthnasol ar y fangre berthnasol, gan gynnwys y dyddiad a'r amgylchiadau a chan bwy y cafodd y feddyginiaeth ei gweini, a chan gynnwys unrhyw gynhyrchion meddyginiaethol y caniateir i'r plentyn eu gweini ei hunan, ynghyd â chofnod o ganiatâd y rhiant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

9.  Unrhyw anghenion dietegol arbennig, neu anghenion iechyd arbennig neu alergedd unrhyw blentyn perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

10.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân neu ddamwain.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

11.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os oes gan riant gwyn ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir gan y person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

12.  Datganiad o'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer amddiffyn plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i'w diogelu rhag eu cam-drin neu'u hesgeuluso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os gwneir honiadau o gam-drin neu esgeuluso.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

13.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd i blentyn perthnasol fynd ar goll neu beidio â chael ei gasglu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

14.  Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon pob aelod cyfredol o'r pwyllgor neu gorff llywodraethu ceisydd sy'n gymdeithas anghorfforedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 31

ATODLEN 4LL+CDIGWYDDIADAU Y MAE'N OFYNNOL HYSBYSU GWEINIDOGION CYMRU YN EU CYLCH

1.—(1Yn achos gwarchod plant, newid yn y personau canlynol—LL+C

(a)unrhyw berson sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, neu

(b)unrhyw berson sy'n byw neu a gyflogir yn y fangre honno.

(2Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

2.—(1Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol—LL+C

(a)unrhyw berson â chyfrifoldeb,

(b)unrhyw un sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol,

(c)unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre honno (ar yr amod nad yw personau i'w trin fel pe baent yn gweithio yn y fangre at ddibenion y paragraff hwn os na wnânt ddim o'u gwaith yn y rhan o'r fangre lle y gofelir am blant, neu os nad ydynt yn gweithio yn y fangre ar yr adeg y gofelir am blant yno), ac

(ch)pan ddarperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd neu'r Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gymaradwy yn y sefydliad).

(2Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

3.  Unrhyw newid—LL+C

(a)yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu'r personau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) neu baragraff 2(1)(a) i (c); neu

(b)yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, pan fo'r person cofrestredig yn sefydliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

4.  Unrhyw newid yn y math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

5.  Yn achos gofal dydd, unrhyw newid yn y cyfleusterau sydd i'w defnyddio ar gyfer gofal dydd yn y fangre berthnasol, gan gynnwys newidiadau yn nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân ar gyfer gweithwyr sy'n oedolion a mynediad i'r fangre ar gyfer ceir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

6.  Unrhyw newid yn yr oriau pan ddarperir gofal dydd neu pan warchodir plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

7.  Unrhyw achos yn y fangre berthnasol o glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gweld plentyn neu berson arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i adrodd amdano felly, neu anaf difrifol, neu salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

8.  Unrhyw honiadau o niwed difrifol a wnaed i blentyn, gan unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu gan unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio, neu a gyflogir, yn y fangre, neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir iddi ddigwydd yn y fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

9.  Unrhyw ddigwyddiad arall a allai effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre, i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

10.  Unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 47

ATODLEN 5LL+CDIWYGIO RHEOLIADAU 2002

1.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau 2002–LL+C

(a)hepgorer y diffiniad o “the 1989 Act”;

(b)yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly” hepgorer paragraff (d);

(c)yn y diffiniad o “organisation” hepgorer y geiriau “and” ymlaen i'r diwedd;

(ch)hepgorer y diffiniad o “the Part XA Regulations”;

(d)hepgorer y diffiniad o “person in charge”;

(dd)yn y diffiniad o “registration” hepgorer y geiriau “or Part XA” ymlaen i'r diwedd;

(e)yn y diffiniad o “statement of purpose” hepgorer paragraff (d).

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 48

ATODLEN 6LL+CDIRYMIADAU

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler rhl. 1

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Offeryn a ddirymwydCyfeirnodMaint y dirymiad
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002OS 2002/812 (Cy.92)Y cyfan o'r Rheoliadau
Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002OS 2002/919 (Cy. 107)Rheoliadau 16, 17 ac 18 ac Atodlenni 7 ac 8.
Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002OS 2002/2622 (Cy.254)Rheoliad 6
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003OS 2003/2708 (Cy.259)Y cyfan o'r Rheoliadau
Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004OS 2004/3282 ( Cy.285)Y cyfan o'r Rheoliadau (gydag arbedion)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004OS 2004/2414 (Cy.222)Rheoliad 7
Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005OS 2005/118 (Cy.10)Y cyfan o'r Rheoliadau
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006OS 2006/3251 (Cy.295)Rheoliad 4
Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008OS 2008/2689 (Cy.238)Y cyfan o'r Rheoliadau
Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009OS 2009/2541 (Cy.205)Rheoliad 2
Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2009OS 2009/3265 (Cy.286)Rheoliad 2
(1)

Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.

(2)

Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill