- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
25 Tachwedd 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer yn adran 19(4) a (5) ac adran 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd;
ystyr “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yw unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat;
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “perthynas” (“relative”) yw taid, nain, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (naill ai o waed cyfan neu o hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) neu lys-riant;
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person nad yw'n rhiant, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn.
(4) Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog, a geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.
2. Nid yw person sy'n gofalu am blentyn o dan wyth oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o Fesur 2010, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr erthyglau canlynol, 3 i 7.
3.—(1) Nid yw person sy'n gofalu am blentyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw—
(i)yn rhiant neu'n berthynas i'r plentyn; neu,
(ii)yn rhiant maeth ar gyfer y plentyn.
(2) Yn yr erthygl hon, mae “rhiant maeth” (“foster parent”) yn cynnwys person y lleolwyd plentyn gydag ef, gan awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, neu berson sy'n maethu plentyn yn breifat.
4. Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os nad yw'r cyfnod, neu gyfanswm y cyfnodau, yn ystod unrhyw un diwrnod pan fo'r person yn gofalu am blant yn fwy na dwy awr.
5.—(1) Pan fo person sy'n cael ei gyflogi —
(a)(i)i ofalu am blentyn neu grŵp o siblingiaid ar gyfer rhieni (“y rhieni cyntaf”), neu
(ii)i ofalu am ail blentyn neu grŵp o siblingiaid ar gyfer rhieni (“yr ail rieni”) yn ychwanegol at y plant y gofelir amdanynt ar gyfer y rhieni cyntaf, a
(b)yn gofalu am y plant o dan sylw yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref neu gartrefi'r rhieni cyntaf neu'r ail rieni,
nid yw'n gweithredu fel gwarchodwr plant.
(2) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “cael ei gyflogi” (“employed”) yw cael ei gyflogi naill ai o dan gontract cyflogaeth neu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;
(b)mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person sy'n berthynas i'r plentyn;
(c)mae “grŵp o siblingiaid” (“sibling group”) yn cynnwys hanner-brodyr a hanner-chwiorydd.
6. Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw yn gofalu am y plentyn am gyfnod nad yw'n cychwyn tan ar ôl 6pm ar unrhyw un diwrnod ac sy'n dod i ben cyn 2am y diwrnod canlynol.
7.—(1) Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw yn gofalu am blentyn neu blant fel rhan o'r broses o fod yn gyfaill i rieni'r plentyn hwnnw neu'r plant hynny ac os na chaiff unrhyw daliad ei wneud am y gwasanaeth.
(2) Yn yr erthygl hon ystyr “taliad” (“payment”) yw taliad o arian neu'r hyn sy'n werth arian ond nad yw'n cynnwys darparu nwyddau neu wasanaethau.
8. Nid yw person, sy'n darparu gofal i blant o dan wyth oed mewn mangre annomestig, yn darparu gofal dydd at ddibenion Mesur 2010 yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr erthyglau canlynol, 9 i 15.
9. Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal gan y person hwnnw yn y fangre o dan sylw ar nifer llai na 6 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn galendr, a bod y person hwnnw wedi hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen cyn defnyddio'r fangre o dan sylw am y tro cyntaf yn y flwyddyn honno.
10. Nid yw person yn darparu gofal dydd os nad yw'r cyfnod neu gyfanswm y cyfnodau pan ofelir am blant mewn mangre, yn ystod unrhyw un diwrnod, yn hwy na dwy awr.
11. Nid yw person yn darparu gofal dydd os darperir y gofal i blentyn y gofelir amdano mewn cartref plant y cofrestrwyd person mewn perthynas ag ef o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
12. Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn a letyir mewn—
(a)cartref gofal,
(b)ysbyty fel claf, neu
(c)canolfan breswyl i deuluoedd,
yn rhan o weithgarwch y sefydliad o dan sylw, naill ai gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr.
13.—(1) Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal mewn gwesty, tŷ llety neu sefydliad cyffelyb arall, i blentyn sy'n aros yn y sefydliad hwnnw—
(a)pan fo'r ddarpariaeth yn digwydd yn unig rhwng 6 pm a 2 am; a
(b)pan na fo'r person, neu yn ôl y digwydd, unrhyw unigolyn sy'n cael ei gyflogi ganddo, sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny i fwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), ystyr “cleient” (“client”) yw person y darperir gofal i blentyn ar ei gais (neu bersonau, ar eu cais ar y cyd).
14.—(1) Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blant mewn ysgol, a'r ddarpariaeth o ofal yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu addysg.
(2) yn yr erthygl hon ystyr “ysgol” (“school”) yw—
(i)ysgol a gynhelir o fewn yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 39 o Ddeddf Addysg 2002(2);
(ii)ysgol annibynnol; neu
(iii)ysgol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996(3) (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir).
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw person yn darparu gofal dydd pan fo'n hyfforddi neu'n dysgu mewn gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3) ac mae unrhyw ofal a ddarperir iddo yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â'r hyfforddi neu'r dysgu hwnnw.
(2) Nid yw'r eithriad yn yr erthygl hon yn gymwys —
(a)os yw'r plant islaw 5 oed ac yn bresennol am fwy na phedair awr y dydd; neu—
(b)os yw'r person yn cynnig hyfforddi neu ddysgu mewn mwy na dau o'r mathau o weithgaredd a restrir ym mharagraff (3).
(3) Y mathau o weithgaredd yw—
(a)chwaraeon;
(b)celfyddydau perfformio;
(c)celfyddydau a chrefftau;
(ch)cymorth ar gyfer astudiaethau ysgol neu waith cartref;
(d)astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, ar ran Gweinidogion Cymru
25 Tachwedd 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu eithriadau i'r hyn sy'n gynwysedig yn y diffiniadau o “gwarchod plant” neu “gofal dydd i blant” at ddibenion Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”).
Mae adrannau 21 a 23 o Fesur 2010, yn eu trefn, yn gwneud yn ofynnol bod gwarchodwr plant a pherson sy'n darparu gofal dydd i blant yn cofrestru gyda Gweinidogion Cymru. Mae adran 19(2) a (3) yn diffinio “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”. Mae adran 19(4) a (5) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu amgylchiadau pan fydd person, y byddai ei weithgarwch fel arall yn dod o fewn un o'r diffiniadau, wedi ei eithrio o'r diffiniad hwnnw ac o ganlyniad na fydd yn ofynnol iddo gofrestru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys