Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae'r rheoliadau yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw'r trefniadau asesu hynny a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan—

(i)

adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf 2002(1) mewn perthynas â disgyblion yn y cyfnod sylfaen; neu

(ii)

adran 108(3)(c) o Ddeddf 2002(2) mewn perthynas â disgyblion mewn cyfnod allweddol;

ystyr “canlyniad” (“result”), o ran unrhyw asesiad o dan yr asesiadau statudol yw canlyniad yr asesiad fel y mae wedi ei benderfynu a'i gofnodi'n unol â'r trefniadau hynny;

mae'r term “cyfnod sylfaen” i'w ddehongli'n unol â “foundation stage” yn adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(3);

ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw—

(a)

pennaeth ysgol annibynnol neu berchennog ysgol o'r fath;

(b)

yr athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion;

(c)

corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu

(ch)

y person sy'n gyfrifol am gyfarwyddo unrhyw sefydliad addysg bellach neu le arall ar gyfer addysg neu hyfforddiant y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu y gallai drosglwyddo iddo;

mae “rhif ALl” (“LA number”) yn gyfuniad o rifau sy'n cael ei ddyrannu i awdurdod lleol sy'n neilltuol i'r awdurdod hwnnw, a hwnnw'n gyfuniad a benderfynir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd, ynghyd â llythyren neu lythrennau, yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n neilltuol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “rhif unigryw dysgwr” (“unique learner number”), mewn perthynas â disgybl cofrestredig mewn ysgol, yw'r cyfuniad penodol o rifau sydd wedi eu dyrannu i'r disgybl gan Brif Weithredwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau fel rhif unigryw dysgwr y disgybl hwnnw;

mae “rhif ysgol” (“school number”) yn gyfuniad o rifau sy'n cael ei ddyrannu i ysgol ac sy'n neilltuol i'r ysgol honno, a hwnnw'n gyfuniad a benderfynir gan Weinidogion Cymru; ac

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig (nad yw'n un a sefydlwyd mewn ysbyty) ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol neu uned cyfeirio disgyblion.

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at bennaeth neu gorff llywodraethu, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yn gyfeiriad at yr athro neu'r athrawes sydd â gofal dros yr uned cyfeirio disgyblion.

Ystyron cofnod cwricwlaidd a chofnod addysgol

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, sgiliau a galluoedd eraill y disgybl a'i gynnydd yn yr ysgol, fel y manylir arno yn Atodlen 2.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cofnod addysgol” (“educational record”) yw unrhyw gofnod gwybodaeth, gan gynnwys cofnod cwricwlaidd disgybl—

(a)sydd wedi ei brosesu gan neu ar ran corff llywodraethu unrhyw ysgol a bennir ym mharagraff (3) neu athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol o'r fath;

(b)sy'n ymwneud ag unrhyw berson sydd, neu sydd wedi bod, yn ddisgybl yn yr ysgol; ac

(c)a ddeilliodd oddi wrth, neu a ddarparwyd gan neu ar ran, unrhyw un o'r personau a bennir ym mharagraff (4), ac eithrio gwybodaeth sydd wedi ei phrosesu gan athro neu athrawes at ei ddefnydd neu ei defnydd ei hun.

(3Yr ysgolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(a) yw—

(a)ysgol a gynhelir; a

(b)ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol.

(4Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c) —

(a)un o gyflogeion yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol;

(b)yn achos—

(i)ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig; neu

(ii)ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol,

athro neu athrawes neu gyflogai arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysg a gymerwyd ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);

(c)y disgybl y mae'r cofnod yn ymwneud ag ef; ac

(ch)rhiant i'r disgybl hwnnw.

Dyletswyddau pennaeth — cofnodion cwricwlaidd

4.  Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir a phob ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol gadw cofnod cwricwlaidd, sydd i'w ddiweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn cysylltiad â phob disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

Dyletswyddau pennaeth — cofnodion addysgol

5.—(1Cyn pen pymtheng niwrnod ysgol o gael cais ysgrifenedig gan riant am ddatgelu cofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir a phennaeth ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol roi'r cofnod hwnnw ar gael yn rhad ac am ddim i'r rhiant fwrw golwg drosto.

(2Cyn pen pymtheng niwrnod ysgol o gael cais ysgrifenedig gan riant am gopi o gofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol o'r fath, roi copi ohono i'r rhiant ar ôl i'r ffi (nad yw'n uwch na chost ei ddarparu), os oes un, a ragnodwyd gan y corff llywodraethu gael ei thalu.

(3Ym mhob achos lle mae'r disgybl dan ystyriaeth i'w dderbyn i ysgol arall (gan gynnwys ysgol annibynnol) neu i sefydliad addysg bellach neu unrhyw le arall ar gyfer addysg neu hyfforddiant, rhaid i'r pennaeth drosglwyddo cofnod addysgol y disgybl i'r person cyfrifol, yn rhad ac am ddim, os bydd y person hwnnw yn gofyn amdano, cyn pen pymtheng niwrnod ysgol o gael y cais.

(4Rhaid i'r cofnod a ddarperir o dan baragraff (3) beidio â chynnwys canlyniadau unrhyw asesiad o gyflawniadau'r disgybl.

(5Pan fo'n cydymffurfio â chais am ddatgelu cofnod addysgol disgybl neu gopi o'r cofnod hwnnw o dan baragraffau (1), (2) neu (3) o'r rheoliad hwn, rhaid i bennaeth beidio â datgelu unrhyw ddogfennau sy'n ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 30(2) o Ddeddf Diogelu Data 1998(4).

Trosglwyddo gwybodaeth pan fo disgybl yn newid ysgol

6.—(1Yn y rheoliad hwn ystyr “gwybodaeth drosglwyddo gyffredin” (“common transfer information”) yw'r wybodaeth a restrir yn Atodlen 2.

(2Pan fo'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei throsglwyddo ar ffurf sy'n ddarllenadwy gan beiriant, caniateir i'r gofyniad hwnnw gael ei fodloni drwy drosglwyddo'r wybodaeth—

(a)drwy wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarperir at y diben hwnnw gan neu ar ran Gweinidogion Cymru; neu

(b)drwy fewnrwyd a ddarperir at y diben hwnnw gan neu ar ran awdurdod lleol, ac at ddibenion y rheoliad hwn mae mewnrwyd yn golygu rhwydwaith caeëdig y gellir ei gyrchu'n unig—

(i)gan yr awdurdod lleol,

(ii)gan neu ar ran corff llywodraethu ysgol yn yr awdurdod hwnnw,

(iii)gan athro neu athrawes mewn ysgol yn yr awdurdod hwnnw,

ac eithrio, pan fo disgybl yn trosglwyddo i ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol arall, bod rhaid bodloni'r gofyniad drwy drosglwyddo'r wybodaeth drwy wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarperir at y diben hwnnw gan neu ar ran Gweinidogion Cymru.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fo disgybl yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir (yr “hen ysgol”) ac yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall (yr “ysgol newydd”), rhaid i wybodaeth drosglwyddo gyffredin y disgybl a'i gofnod addysgol gael eu trosglwyddo i bennaeth yr ysgol newydd cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad y daeth pennaeth yr hen ysgol i wybod am y tro cyntaf am gofrestriad y disgybl yn yr ysgol newydd a sut bynnag heb fod yn hwyrach na chyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y mae'r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol.

(4Rhaid i'r wybodaeth a'r cofnod y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3) gael eu trosglwyddo gan bennaeth yr hen ysgol neu, pan fo'r pennaeth hwnnw a'r awdurdod lleol wedi cytuno ar hynny, gan yr awdurdod hwnnw.

(5Rhaid i'r wybodaeth drosglwyddo gyffredin gael ei throsglwyddo ar ffurf sy'n ddarllenadwy gan beiriant.

(6Caniateir i'r cofnod addysgol gael ei drosglwyddo ar ffurf sy'n ddarllenadwy gan beiriant neu ar ffurf papur neu drwy gyfuniad o'r ddwy ffurf.

(7Pan na fo'n rhesymol ymarferol i bennaeth yr hen ysgol ganfod ysgol newydd y disgybl, neu pan fo'r pennaeth yn gwybod bod y disgybl yn symud i ysgol nad yw'n ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr, nid yw'r gofynion ym mharagraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwn yn gymwys ond mae'n rhaid i bennaeth yr hen ysgol drosglwyddo'r wybodaeth drosglwyddo gyffredin i wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarperir at y diben hwnnw gan neu ar ran Gweinidogion Cymru.

(8Pan fo disgybl wedi ei gofrestru mewn ysgol a gynhelir am lai na phedair wythnos, bydd y cydymffurfio'n ddigonol at ddibenion paragraffau (3) a (4) os yw pennaeth yr ysgol honno neu, pan fo'n gymwys, yr awdurdod lleol yn trosglwyddo'r wybodaeth honno a'r cofnod hwnnw y mae wedi eu cael o dan y rheoliad hwn oddi wrth yr ysgol lle'r oedd y disgybl wedi ei gofrestru o'r blaen ar y ffurf a gafwyd ganddo.

(9At ddibenion paragraff (8), mae'r cyfeiriad ym mharagraff (3) at “pymtheng niwrnod ysgol” yn gyfeiriad at nifer y diwrnodau ar ôl y diwrnod y mae'r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr ysgol o dan sylw neu at nifer y diwrnodau ar ôl i bennaeth yr ysgol honno gael yr wybodaeth a'r cofnod, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(10Os bydd pennaeth hen ysgol disgybl yn cael cais gan bennaeth yr ysgol lle mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ar hyn o bryd, yn gofyn naill ai am yr wybodaeth drosglwyddo gyffredin ynglŷn â'r amser y gadawodd y disgybl yr hen ysgol neu am unrhyw gofnod addysgol ynglŷn â'r disgybl hwnnw sydd ym meddiant yr hen ysgol, rhaid i'r pennaeth ei darparu neu ei ddarparu cyn pen pymtheng niwrnod ysgol o gael y cais.

(11Os bydd disgybl yn cyrraedd ysgol newydd a gynhelir ac nad yw ei hen ysgol ar gael, rhaid i bennaeth yr ysgol newydd gysylltu â'r awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol newydd i wneud cais am chwilio'r wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarperir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru am wybodaeth drosglwyddo gyffredin y disgybl.

Cyfieithu gwybodaeth a dogfennau

7.—(1Os yw'n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol fod unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac sydd wedi ei darparu yn Gymraeg, yn cael ei chyfieithu i'r Saesneg, rhaid ei chyfieithu felly a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd felly fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.

(2Os yw'n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol fod unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac sydd wedi ei darparu yn Saesneg, yn cael ei chyfieithu i'r Gymraeg, rhaid ei chyfieithu felly a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd felly fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.

(3Os yw'n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol fod unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae'n ofynnol iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn, yn cael ei chyfieithu i iaith ac eithrio Cymraeg neu Saesneg neu fod fersiwn Braille neu fersiwn tâp sain o'r ddogfen honno ar gael, rhaid ei chyfieithu neu ei chynhyrchu felly mewn Braille neu ar ffurf tâp sain, yn ôl y digwydd, a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd, y fersiwn Braille neu'r fersiwn tâp sain, fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.

(4Ni ddylid codi unrhyw dâl am gopi o unrhyw wybodaeth a gyfieithwyd yn unol â pharagraffau (1), (2) neu (3), ond pan fo ffi yn cael ei chodi am gopi o ddogfen wreiddiol, rhaid peidio â chodi unrhyw ffi uwch am gopi o'r ddogfen a gyfieithwyd felly.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Gorffennaf 2011

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill