- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
8 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Chwefror 2011
Yn dod i rym
4 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 33Q o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(1).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cwricwlwm Lleol mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 4 Mawrth 2011.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “corfforaeth addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education corporation” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Sgiliau 2000;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol i Fyfyrwyr 16 i 18 oed) (Cymru) 2011(3);
ystyr “sefydliad AU” (“HE institution”) yw sefydliad sy'n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch.
3.—(1) Pan fo sefydliad AU yng Nghymru yn darparu addysg uwchradd neu addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed, mae adrannau 33A i 33L, 33N a 33O o Ddeddf 2000(4) a'r Rheoliadau yn gymwys o ran y sefydliad AU hwnnw gyda'r addasiadau a nodir yn y paragraffau a ganlyn.
(2) Mae'r cyfeiriadau at “sefydliad”, “institution” neu “sefydliadau”, “institutions” yn adrannau 33C(2), 33D(1), (2) a (4), 33E(4), 33F, 33G(1) a (3), 33H, 33I(1) a (3), 33J(1), 33K(5) a (6) a 33L o Ddeddf 2000 ac yn y Rheoliadau yn effeithiol fel petaent yn cynnwys cyfeiriadau at sefydliad AU sy'n darparu addysg uwchradd neu addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.
(3) Mae'r cyfeiriad at “relevant students” yn adran 33C(2) o Ddeddf 2000 yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petai'n gyfeiriad at fyfyrwyr y mae'r sefydliad AU yn sefydliad perthnasol iddynt (yn unol â phenderfyniad o dan adran 33D o Ddeddf 2000).
(4) Mae'r cyfeiriadau at “governing body” yn adrannau 33D(2), 33F(1), 33G(3), (4), 33H, 33I(3), (4), 33J(1)(c), 33K(4)(c) a (5)(b) a 33L o Ddeddf 2000 yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petaent yn cynnwys cyfeiriadau at y bwrdd, y pwyllgor neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r gyfadran, yr adran neu'r coleg yn y sefydliad AU sef cyfadran, adran neu goleg sy'n darparu'r addysg uwchradd neu'r addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.
(5) Mae adran 33K(4) o Ddeddf 2000 yn effeithiol fel petai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd yr is-adran honno—
“; and
the board, committee or other persons responsible for the management of a faculty, department or college of an HE institution, which faculty, department or college delivers the secondary education or further education for students who have not attained the age of nineteen provided by the institution and which faculty, department or college is situated within the area of the authority.”.
(6) Mae'r cyfeiriadau at “pennaeth sefydliad” neu “principal” yn adrannau 33F, 33G(1), (4), 33I(1), (4) a 33J(1) o Ddeddf 2000 ac yn y Rheoliadau yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petaent yn gyfeiriadau at bennaeth y gyfadran, yr adran neu'r coleg yn y sefydliad AU sef cyfadran, adran neu goleg sy'n gyfrifol am ddarparu'r addysg uwchradd neu'r addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (“Deddf 2000”) (fel y'u mewnosodwyd gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009) at sefydliadau yn sector addysg uwch Cymru. Mae'r darpariaethau o Ddeddf 2000 sy'n cael eu cymhwyso (adrannau 33A i 33L, 33N a 33O) yn ymwneud â'r cwricwlwm lleol i bersonau 16 i 19 oed.
Mae'r Rheoliadau'n sicrhau bod personau 16 i 19 oed sy'n ymgymryd ag addysg uwchradd neu addysg bellach mewn sefydliad addysg uwch yn elwa ar yr un hawl i ddewis a dilyn cyrsiau astudio mewn cwricwlwm lleol â'r personau hynny sy'n ymgymryd â'u haddysg mewn ysgolion neu sefydliadau addysg bellach. Mae'r sefydliadau addysg uwch bellach o dan yr un dyletswyddau o ran darparu'r cwricwlwm lleol ag ysgolion a sefydliadau addysg bellach.
2000 p.21. Mewnosodwyd adran 33Q gan adran 38 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).
Mewnosodwyd adrannau 33A i 33L, 33N a 33O o Ddeddf 2000 gan adrannau 22 i 33, 35 a 36 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys