Search Legislation

Rheoliadau'r Cwricwlwm Lleol mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 270 (Cy.49)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau'r Cwricwlwm Lleol mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2011

Gwnaed

8 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Chwefror 2011

Yn dod i rym

4 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 33Q o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(1).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cwricwlwm Lleol mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 4 Mawrth 2011.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “corfforaeth addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education corporation” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Sgiliau 2000;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol i Fyfyrwyr 16 i 18 oed) (Cymru) 2011(3);

  • ystyr “sefydliad AU” (“HE institution”) yw sefydliad sy'n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch.

Cymhwyso cwricwlwm lleol sefydliadau AU

3.—(1Pan fo sefydliad AU yng Nghymru yn darparu addysg uwchradd neu addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed, mae adrannau 33A i 33L, 33N a 33O o Ddeddf 2000(4) a'r Rheoliadau yn gymwys o ran y sefydliad AU hwnnw gyda'r addasiadau a nodir yn y paragraffau a ganlyn.

(2Mae'r cyfeiriadau at “sefydliad”, “institution” neu “sefydliadau”, “institutions” yn adrannau 33C(2), 33D(1), (2) a (4), 33E(4), 33F, 33G(1) a (3), 33H, 33I(1) a (3), 33J(1), 33K(5) a (6) a 33L o Ddeddf 2000 ac yn y Rheoliadau yn effeithiol fel petaent yn cynnwys cyfeiriadau at sefydliad AU sy'n darparu addysg uwchradd neu addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.

(3Mae'r cyfeiriad at “relevant students” yn adran 33C(2) o Ddeddf 2000 yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petai'n gyfeiriad at fyfyrwyr y mae'r sefydliad AU yn sefydliad perthnasol iddynt (yn unol â phenderfyniad o dan adran 33D o Ddeddf 2000).

(4Mae'r cyfeiriadau at “governing body” yn adrannau 33D(2), 33F(1), 33G(3), (4), 33H, 33I(3), (4), 33J(1)(c), 33K(4)(c) a (5)(b) a 33L o Ddeddf 2000 yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petaent yn cynnwys cyfeiriadau at y bwrdd, y pwyllgor neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r gyfadran, yr adran neu'r coleg yn y sefydliad AU sef cyfadran, adran neu goleg sy'n darparu'r addysg uwchradd neu'r addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.

(5Mae adran 33K(4) o Ddeddf 2000 yn effeithiol fel petai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd yr is-adran honno—

  • ; and

    (d)

    the board, committee or other persons responsible for the management of a faculty, department or college of an HE institution, which faculty, department or college delivers the secondary education or further education for students who have not attained the age of nineteen provided by the institution and which faculty, department or college is situated within the area of the authority..

(6Mae'r cyfeiriadau at “pennaeth sefydliad” neu “principal” yn adrannau 33F, 33G(1), (4), 33I(1), (4) a 33J(1) o Ddeddf 2000 ac yn y Rheoliadau yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petaent yn gyfeiriadau at bennaeth y gyfadran, yr adran neu'r coleg yn y sefydliad AU sef cyfadran, adran neu goleg sy'n gyfrifol am ddarparu'r addysg uwchradd neu'r addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

8 Chwefror 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (“Deddf 2000”) (fel y'u mewnosodwyd gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009) at sefydliadau yn sector addysg uwch Cymru. Mae'r darpariaethau o Ddeddf 2000 sy'n cael eu cymhwyso (adrannau 33A i 33L, 33N a 33O) yn ymwneud â'r cwricwlwm lleol i bersonau 16 i 19 oed.

Mae'r Rheoliadau'n sicrhau bod personau 16 i 19 oed sy'n ymgymryd ag addysg uwchradd neu addysg bellach mewn sefydliad addysg uwch yn elwa ar yr un hawl i ddewis a dilyn cyrsiau astudio mewn cwricwlwm lleol â'r personau hynny sy'n ymgymryd â'u haddysg mewn ysgolion neu sefydliadau addysg bellach. Mae'r sefydliadau addysg uwch bellach o dan yr un dyletswyddau o ran darparu'r cwricwlwm lleol ag ysgolion a sefydliadau addysg bellach.

(1)

2000 p.21. Mewnosodwyd adran 33Q gan adran 38 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).

(4)

Mewnosodwyd adrannau 33A i 33L, 33N a 33O o Ddeddf 2000 gan adrannau 22 i 33, 35 a 36 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources