Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2941 (Cy.300)

ANIFEILIAID, CYMRU

Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012

Gwnaed

21 Tachwedd 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Tachwedd 2012

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 1954(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer y pwerau hynny.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012. Daw i rym ar 17 Rhagfyr 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cymeradwyo trapiau sbring

2.—(1At ddibenion adran 8(3) o Ddeddf Plâu 1954, mae'r trapiau sbring canlynol wedi eu cymeradwyo, sef—

(a)unrhyw drap sbring—

(i)o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen; a

(ii)sy'n cael ei weithgynhyrchu neu a gafodd ei weithgynhyrchu gan neu o dan awdurdod y person neu y cwmni a bennir yn y cofnod hwnnw; a

(b)unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen.

(2Mae'r cymeradwyaethau a roddir gan baragraff (1) o'r erthygl hon sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen, ac sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring a bennir felly, yn ddarostyngedig i'r amodau o ran yr anifeiliaid y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen mewn perthynas â hwy, a'r amgylchiadau y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen oddi tanynt.

(3At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae trap sbring yn gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn yr Atodlen os yw'n cyfateb i'r trap sbring a bennir felly o ran adeiladwaith, deunyddiau, grym effaith neu fomentwm, ac ym mhob modd arall sy'n berthnasol i'w effaith neu i'w fodd o weithredu fel trap.

Dirymiadau

3.  Mae Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2010(3) wedi ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

21 Tachwedd 2012

Erthygl 2

YR ATODLEN

Colofn (1)Colofn (2)
Y math o drap a'i wneuthuriadAmodau
Aldrich Spring Activated Animal Snare — gweithgynhyrchydd: Mr D Schimetz, PO Box 158, Sekiu, Washington 98381, UDA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cigysyddion mawr, mamalaidd, anghynhenid.
Rhaid defnyddio'r trap yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd.
BMI Magnum 55 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA.Ni ddefnyddir y trap ond a ddiben lladd neu ddal llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
BMI Magnum 110 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
BMI Magnum 116 — gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, 44110 — 2248, UDA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
DOC 150 — gweithgynhyrchydd: the Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
DOC 200 — gweithgynhyrchydd: the Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
DOC 250 — gweithgynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, Seland Newydd.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
Fenn Rabbit Trap Mark I — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cwningod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Fenn Vermin Trap Mark I, Vermin Trap Mark II, Vermin Trap Mark III a Vermin Trap Mark IV (Heavy Duty) — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno.Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trapiau mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Fenn Vermin Trap Mark VI (Dual Purpose) — gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, Hoopers Lane, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Fuller Trap — gweithgynhyrchydd: Fuller Industries, Three Trees, Loxwood Road, Bucks Green, Rudgwick, Sussex.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd. Rhaid i'r trap fod wedi ei ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Imbra Trap Mark I a Mark II — gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 682,427 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 4 o'r Fanyleb honno.Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trapiau mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Juby Trap — gweithgynhyrchydd: y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, Whitehall Place, London SW1 ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 813,066 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Kania Trap 2000 — gweithgynhyrchydd: C E Kania Corporation, 124-21, 10405, Jasper Avenue, Edmonton, Alberta, Canada.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid i'r trap fod wedi ei ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Kania Trap 2500 — gweithgynhyrchydd: Kania Industries Inc, 63 Centennial Road, Nanaimo, British Columbia, Canada, V9R 6N6.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(4), gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Lloyd Trap — gweithgynhyrchydd: the National Research Corporation, ac fel a bennir ym Manyleb Patent Prydain Rhif 987,113 ac a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Nooski Rat Trap — gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod mawr. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Nooski Mouse Trap — gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, Seland Newydd.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Sawyer Trap — gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Skinns Superior Squirrel Trap — gweithgynhyrchydd: E.Skinns Ltd, Witham Road, Woodhall Spa, Lincolnshire, LN10 6QX.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Solway Spring Trap Mk 4 — gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(5), gwiwerod llwyd, llygod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Solway Spring Trap Mk 6 — gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)(6), gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Springer No 4 Multi-purpose (Heavy Duty) — gweithgynhyrchydd: AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
Springer No 6 Multi-purpose — gweithgynhyrchydd: AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd.
VS Squirrel Trap — gweithgynhyrchydd: Pescon Services, 394 York Road, Stevenage, Hertfordshire, SG1 4ENNi ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
WCS Collarum — gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, Connecticut 06026, UDA.Ni ddefnyddir y trap ond at y diben o atal llwynogod.
WCS Tube Trap — gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, Connecticut 06026, UDA.Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap i'w ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.
Wise Trap 110, 160, 200 a 250 — gweithgynhyrchydd: WiseCon A/S, Skovgaardsvej 25, DK-3200 Selsinge, Denmarc.Ni ddefnyddir y trapiau ond at y diben o ladd llygod mawr. Rhaid gosod y trapiau mewn carthffos, pibell ddraenio neu strwythur tebyg, a rhaid eu defnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954, mae'n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy Orchymyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Trapiau Sbring (Cymru) 2010 o ran Cymru. Mae erthygl 2 yn pennu'r trapiau cymeradwy, sef y rheini a restrir yng ngholofn (1) yr Atodlen ac eraill sy'n gyfwerth ym mhob modd i'r rheini a restrir felly. Mae'r Gorchymyn yn ychwanegu 5 math o drapiau at y rhai a gymeradwywyd o dan y Gorchymyn blaenorol. Pennir yr amodau a atodir i'r gymeradwyaeth ar gyfer pob un math o drap yng ngholofn (2) o'r Atodlen.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad oes ganddo effaith ar gostau busnes.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(4)

Gweler, er hynny, adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un ai a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n drosedd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.

(5)

Gweler, er hynny adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un ai a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n drosedd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.

(6)

Gweler, er hynny, adran 11(2)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ac Atodlen 6 iddi. Yn rhinwedd y darpariaethau hynny, p'un ai a yw'r trap o dan sylw yn gymeradwy o dan y Gorchymyn hwn ai peidio, mae'n drosedd defnyddio unrhyw drap er mwyn dal neu ladd unrhyw bathew, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 16 o'r Ddeddf honno.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill