Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Diddymu) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1673 (Cy. 162)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Diddymu) 2013

Gwnaed

3 Gorffennaf 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Gorffennaf 2013

Yn dod i rym

1 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27C o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1).

Yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”)(2) wedi cydsynio i drosglwyddiad eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl (“Yale Sixth Form College Further Education Corporation”)(3) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (“Deeside College Further Education Corporation”)(4).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl (“Yale Sixth Form College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (“Deeside College Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27C(6) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (Diddymu) 2013 a daw i rym ar 1 Awst 2013.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5); ac

ystyr “yr Hen Gorfforaethau” (“the Old Corporations”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Chweched Dosbarth Iâl (“Yale Sixth Form College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy (“Deeside College Further Education Corporation”).

Diddymu a throsglwyddo

3.  Ar 1 Awst 2013 mae pob un o’r Hen Gorfforaethau wedi eu diddymu ac mae eu holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo yn unol ag adran 27C(2) o’r Ddeddf i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”), sef corff corfforaethol sydd wedi ei sefydlu at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.

Trosglwyddo staff

4.  Mae adran 26(2), (3) a (4) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan yr Hen Gorfforaethau yn union cyn 1 Awst 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—

(a)at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson sy’n gyflogedig fel hynny;

(b)at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2013;

(c)at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at unrhyw un o’r Hen Gorfforaethau sy’n cyflogi’r person yn union cyn 1 Awst 2013; a

(d)at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”).

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

3 Gorffennaf 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r corfforaethau addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Chweched Dosbarth Iâl a Choleg Glannau Dyfrdwy a hynny’n effeithiol o 1 Awst 2013 ymlaen. Mae’n darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau pob corfforaeth i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”) ac mae’n diogelu hawliau cyflogaeth cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd drwy gymhwyso, gydag addasiadau, adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”).

Effaith cymhwyso adran 26(2) i (4) o’r Ddeddf yw cadw contractau cyflogaeth cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd fel petai’r contractau cyflogaeth wedi cael eu gwneud yn wreiddiol rhwng y cyflogeion hynny a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”). Daw cyflogeion y corfforaethau a ddiddymwyd yn gyflogeion Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (“Coleg Cambria Further Education Corporation”) o 1 Awst 2013 ymlaen.

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.

(1)

1992 p.13; rhoddwyd adran 27C yn lle adran 27, fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, gan Ddeddf Addysg 2011, adran 49, Atodlen 12, paragraffau 1 a 7.

(2)

A sefydlwyd gan Orchymyn Coleg Cambria (Corffori) 2013 (O.S. 2013/374 (Cy. 46)).

(3)

A sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097). Adwaenir y Coleg yn gyffredinol fel “Coleg Iâl” neu “Coleg Iâl, Wrecsam”.

(4)

Sefydlwyd Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Glannau Dyfrdwy gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1993 (O.S. 1993/97).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill