- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
27 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Chwefror 2013
Yn dod i rym yn unol ag adran 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29, 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1), ac yn adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3) ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 ac maent yn dod i rym ar 1 Mai 2013 ac eithrio rheoliad 3(5) a ddaw i rym ar 1 Medi 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ar ôl y diffiniad o “absenoldeb anawdurdodedig” mewnosoder—
“ystyr “adroddiad cymharol ar lythrennedd a rhifedd” (“literacy and numeracy comparative report”) yw adroddiad a ddarperir i'r ysgol gan Weinidogion Cymru ar berfformiad ysgol yn yr asesiadau statudol sy'n cynnwys cymhariaeth o berfformiad yr ysgol honno mewn cysylltiad â'r profion hynny mewn perthynas ag ysgolion eraill;”;
(b)ar ôl y diffiniad o “adroddiad llywodraethwyr” mewnosoder—
“ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw'r trefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013;”.
(3) Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—
“5A Yr adroddiad cymharol diweddaraf ar lythrennedd a rhifedd.”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, hepgorer paragraff (3)(a).
(3) Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Pan fo disgybl ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth sydd ym mharagraff 1 o Ran 1 o'r Atodlen.”.
(4) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—
6A—(1) Canlyniadau unrhyw asesiad a gynhelir yn unol â'r trefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.
(4) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—
(1) Crynodeb byr o gynnydd y disgyblion yn unol â'r rhaglenni addysgol ychwanegol a'r rhaglenni astudio ychwanegol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013.”.
4.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a)ar ôl y diffiniad o “absenoldeb anawdurdodedig” mewnosoder—
“ystyr “adroddiad cymharol ar lythrennedd a rhifedd” (“literacy and numeracy comparative report”) yw adroddiad a ddarperir i'r ysgol gan Weinidogion Cymru ar berfformiad ysgol yn yr asesiadau statudol sy'n cynnwys cymhariaeth o berfformiad yr ysgol honno mewn cysylltiad â'r profion hynny mewn perthynas ag ysgolion eraill;”;
(b)ar ôl y diffiniad o “arholiadau cyhoeddus” mewnosoder—
“ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw'r trefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013;”.
(3) Yn rheoliad 5(1) yn lle “cyn 1 Hydref” rhodder “heb fod yn hwyrach na 1 Hydref”.
(4) Yn Atodlen 3, ar ôl paragraff 30 mewnosoder—
“(31) Yr adroddiad cymharol diweddaraf ar lythrennedd a rhifedd”.
5.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “asesiadau statudol” yn lle is-baragraff (i) rhodder—
“(i)yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013; a;” .
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau o ganlyniad i'r trefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 (“y Gorchymyn Asesu”). Mae'r Gorchymyn Asesu yn pennu'r trefniadau asesu ar gyfer profi llythrennedd a rhifedd yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru (“y profion llythrennedd a rhifedd”). Daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Mai 2013 ac eithrio rheoliad 3(5) a ddaw i rym ar 1 Medi 2013.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ychwanegu at gwricwlwm cenedlaethol Cymru drwy bennu rhaglenni addysgol ychwanegol (“y rhaglenni addysgol ychwanegol”) ar gyfer maes dysgu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu a maes dysgu datblygiad mathemategol yn y cyfnod sylfaen, a hefyd wedi pennu rhaglenni astudio ychwanegol (“y rhaglenni astudio ychwanegol”) ar gyfer Saesneg, Cymraeg a mathemateg mewn cysylltiad â'r ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol.
Rhoddwyd effaith gyfreithiol i'r rhaglenni addysgol ychwanegol a'r rhaglenni astudio ychwanegol gan Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gyhoeddi yn ei adroddiad blynyddol yr wybodaeth gymharol ddiweddaraf am lythrennedd a rhifedd mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol yn y profion llythrennedd a rhifedd.
Mae rheoliad 3(2) a (3) yn diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011 (“Rheoliadau Adroddiad Pennaeth”) er mwyn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir roi adroddiad i rieni ar ganlyniadau'r profion diwedd cyfnod yn y cyfnod sylfaen ym mlwyddyn olaf y plentyn yn y cyfnod sylfaen. Mae rheoliad 3(4) hefyd yn diwygio'r Rheoliadau Adroddiad Pennaeth er mwyn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir roi adroddiad i rieni ar ganlyniadau'r profion llythrennedd a rhifedd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gyhoeddi ym mhrosbectws yr ysgol yr wybodaeth gymharol ddiweddaraf am lythrennedd a rhifedd mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol yn y profion llythrennedd a rhifedd.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gynnwys yn yr wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol ganlyniadau'r profion llythrennedd a rhifedd.
1996 p.56. Diwygiwyd adran 29(3) gan Atodlen 30 a pharagraff 67 o Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 29(3) a (5) gan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgilau 2000 (p.21), Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 12 a Rhan 7 o Atodlen 16 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraffau 57 a 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 a chan O.S. 2010/1158. Amnewidiwyd adran 537A gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac fe'i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2010/1158.
2002 p.32. Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 30 gan Ddeddf Addysg 2005, adran 103(1)(a). Diwygiwyd is-adrannau (3) a (4) o adran 30 gan Ddeddf Addysg 2005, adran 103(1)(b).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn yr adrannau yn Neddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr adrannau yn Neddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O.S. 2011/1939 (Cy.207).
O.S. 2011/1943 (Cy.210).
O.S. 2011/1944 (Cy.211).
O.S. 2011/1963 (Cy.217).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: