Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Ebrill 2015.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “aelod o aelwyd y person” (“member of a person’s household”) yr un ystyr ag yn adran 57(2), ac mae “aelwyd” (“household”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw’r awdurdod tai lleol perthnasol(1) y mae dyletswydd arno i berson digartref o dan adrannau 68, 75 neu 82;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014; ac mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at adran o’r Ddeddf honno;

ystyr “llety a rennir” (“shared accommodation”) yw llety—

(a)

nad yw’n fangre ar wahân na hunangynhaliol; neu

(b)

pan na fo unrhyw un neu ragor o’r cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r ceisydd neu eu bod yn cael eu rhannu gan fwy nag un aelwyd—

(i)

toiled;

(ii)

cyfleusterau golchi personol;

(iii)

cyfleusterau coginio; neu

(c)

nad yw’n sefydliad sydd wedi ei gofrestru o dan ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “llety Gwely a Brecwast” (“B&B accommodation”) yw llety a ddarperir yn fasnachol (pa un a yw brecwast wedi ei gynnwys ai peidio)—

(a)

nad yw’n fangre ar wahân na hunangynhaliol;

(b)

pan na fo unrhyw un neu ragor o’r cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r ceisydd neu eu bod yn cael eu rhannu gan fwy nag un aelwyd—

(i)

toiled;

(ii)

cyfleusterau golchi personol;

(iii)

cyfleusterau coginio;

(c)

nad yw’n llety sydd ym mherchnogaeth neu’n cael ei reoli gan awdurdod tai lleol, landlord cymdeithasol cofrestredig neu sefydliad gwirfoddol; neu

(d)

nad yw’n sefydliad sydd wedi ei gofrestru o dan ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000(2);

ac mae “Gwely a Brecwast” (“B&B”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “llety Gwely a Brecwast bach” (“small B&B”) yw—

  • llety Gwely a Brecwast—

    (i)

    pan fo’r rheolwr yn byw yn y fangre; a

    (ii)

    sydd â llai na 7 ystafell wely ar gael i’w gosod;

ystyr “llety o safon sylfaenol” (“basic standard accommodation”) yw llety—

(a)

sy’n cydymffurfio â’r holl ofynion statudol (megis, pan fo’n gymwys, gofynion yn ymwneud â thân, nwy, trydan, a diogelwch arall; cynllunio; a thrwyddedau ar gyfer tai amlfeddiannaeth); a

(b)

sydd â rheolwr a ystyrir gan yr awdurdod i fod yn berson addas a phriodol sydd â’r gallu i reoli llety Gwely a Brecwast;

ac mae “safon sylfaenol” (“basic standard”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “llety o safon uwch” (“higher standard accommodation”) yw llety sy’n bodloni—

(a)

y safon sylfaenol; a

(b)

y safonau sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,

ac mae “safon uwch” (“higher standard”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

RHAN 1Materion i’w hystyried wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer personau sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gallent fod mewn angen o’r fath

3.  Wrth benderfynu at ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014 a yw llety yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gall fod mewn angen o’r fath(3), rhaid ystyried, pan fo’n briodol, y materion a ganlyn yn ymwneud â pherson sydd naill ai yn geisydd, neu sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)anghenion iechyd penodol y person;

(b)agosrwydd a hygyrchedd cymorth teuluol;

(c)unrhyw anabledd sydd gan y person;

(d)agosrwydd a hygyrchedd cyfleusterau meddygol, a gwasanaethau cymorth eraill—

(i)sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio gan y person neu’n cael eu darparu iddo; a

(ii)sy’n hanfodol er llesiant y person;

(e)pan fo’r llety wedi ei leoli y tu allan i ardal yr awdurdod, pellter y llety o ardal yr awdurdod;

(f)arwyddocâd unrhyw darfu a fyddai’n cael ei achosi gan leoliad y llety o ran cyflogaeth, cyfrifoldebau gofalu neu addysg y person; ac

(g)agosrwydd cyflawnwyr honedig a dioddefwyr cam-drin domestig.

RHAN 2Amgylchiadau pan na fo llety Gwely a Brecwast a llety a rennir i’w hystyried yn addas ar gyfer personau sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gallent fod mewn angen o’r fath

Llety Gwely a Brecwast yn anaddas oni bai bod eithriad yn gymwys

4.  At ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014, nid yw llety Gwely a Brecwast i’w ystyried yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gall fod mewn angen o’r fath oni bai bod o leiaf un o’r eithriadau yn erthygl 6 neu erthygl 7(1) yn gymwys.

Llety a rennir yn anaddas oni bai ei fod yn bodloni’r safon uwch neu fod eithriad yn gymwys

5.  At ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014 ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau sydd wedi eu cynnwys yn erthyglau 6 a 7(2), nid yw llety a rennir i’w ystyried yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gall fod mewn angen o’r fath oni bai ei fod yn bodloni’r safon uwch.

Eithriadau i erthyglau 4 a 5 ar gyfer pob math o lety

6.  Nid yw erthyglau 4 a 5 yn gymwys—

(a)pan fo’r awdurdod yn credu y gallai’r ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis tân, llifogydd neu drychineb arall, ac nad oes unrhyw lety arall ar gael yn rhesymol i’r awdurdod; neu

(b)pan fo’r awdurdod wedi cynnig llety addas i’r ceisydd, ond bod y ceisydd yn dymuno cael ei letya mewn llety arall.

Eithriadau i erthyglau 4 a 5 pan fo llety yn bodloni safon

7.—(1Nid yw erthygl 4 yn gymwys—

(a)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 2 wythnos;

(b)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast o safon uwch am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos;

(c)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos, a bod yr awdurdod, cyn diwedd y cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), wedi cynnig llety addas arall, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw;

(d)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol ar ôl arfer y dewis y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw;

(e)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon uwch, a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall, cyn i’r cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) ddod i ben, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw.

(2Nid yw erthygl 5 yn gymwys—

(a)pan fo’r person yn meddiannu llety a rennir o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 2 wythnos;

(b)pan fo’r person yn meddiannu, am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos, lety a rennir o safon sylfaenol sydd ym mherchnogaeth neu a reolir gan awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn i’r cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ddod i ben, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety hwnnw; neu

(c)(i)pan fo’r person yn meddiannu llety a rennir o safon sylfaenol a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf i ddarparu llety dros dro i bersonau sydd wedi gadael eu cartrefi o ganlyniad i gam-drin domestig, ac sy’n cael ei reoli gan sefydliad—

(aa)nad yw’n awdurdod tai lleol; a

(bb)nad yw’n masnachu i wneud elw; a

(ii)pan fo’r awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety hwnnw.

(3Os yw’r llety addas arall a gynigir at ddibenion paragraffau (1) neu (2) yn cael ei rannu, rhaid iddo fodloni’r safon uwch.

(4Yn achos aelwydydd sydd â phlant dibynnol neu fenyw feichiog, rhaid i’r cynnig a wneir o dan baragraff (1)(d) neu (e), neu baragraff (2)(c) fod yn llety hunangynhaliol addas. Yn achos ceisydd sy’n berson ifanc dan oed, rhaid i’r cynnig fod yn llety addas â chymorth.

(5Wrth gyfrifo cyfnod, neu gyfanswm cyfnod, y mae person wedi meddiannu llety a rennir at ddibenion paragraffau (1) neu (2), rhaid diystyru unrhyw gyfnod cyn y daeth awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 yn rhinwedd adrannau 82(4) neu 83(2) (atgyfeiriadau yn sgil cysylltiadau lleol).

RHAN 3Addasrwydd llety’r sector rhentu preifat ar gyfer dod â’r ddyletswydd adran 75 i ben i geiswyr digartref

8.  At ddibenion cynnig yn y sector rhentu preifat o dan adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr sydd mewn angen blaenoriaethol yn dod i ben), ni chaniateir i lety gael ei ystyried yn addas pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a)bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r llety mewn cyflwr ffisegol rhesymol;

(b)bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r llety yn cydymffurfio â phob gofyniad statudol (megis, pan fo’n gymwys, gofynion sy’n ymwneud â thân, nwy, trydan, carbon monocsid a diogelwch arall; cynllunio; a thrwyddedau ar gyfer tai amlfeddiannaeth); neu

(c)bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r landlord yn berson addas a phriodol o fewn ystyr adran 20 i weithredu fel landlord.

Dirymu a darpariaethau trosiannol ac arbed

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Gorchmynion a ganlyn drwy hyn wedi eu dirymu—

(a)Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) 1996(4) i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru;

(b)Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Diwygio) 1997(5) i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru; ac

(c)Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006(6).

(2Mae’r Gorchmynion a ddirymir o dan baragraff (1) yn parhau mewn grym mewn cysylltiad ag unrhyw gais a wnaed o dan adran 183 o Ddeddf Tai 1996 cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

21 Ebrill 2015

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill