Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1268 (Cy. 87)

Tai, Cymru

Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015

Gwnaed

21 Ebrill 2015

Yn dod i rym

27 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 59(3) a 142(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 142(3)(b)(i) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Ebrill 2015.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “aelod o aelwyd y person” (“member of a person’s household”) yr un ystyr ag yn adran 57(2), ac mae “aelwyd” (“household”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw’r awdurdod tai lleol perthnasol(2) y mae dyletswydd arno i berson digartref o dan adrannau 68, 75 neu 82;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014; ac mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at adran o’r Ddeddf honno;

ystyr “llety a rennir” (“shared accommodation”) yw llety—

(a)

nad yw’n fangre ar wahân na hunangynhaliol; neu

(b)

pan na fo unrhyw un neu ragor o’r cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r ceisydd neu eu bod yn cael eu rhannu gan fwy nag un aelwyd—

(i)

toiled;

(ii)

cyfleusterau golchi personol;

(iii)

cyfleusterau coginio; neu

(c)

nad yw’n sefydliad sydd wedi ei gofrestru o dan ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “llety Gwely a Brecwast” (“B&B accommodation”) yw llety a ddarperir yn fasnachol (pa un a yw brecwast wedi ei gynnwys ai peidio)—

(a)

nad yw’n fangre ar wahân na hunangynhaliol;

(b)

pan na fo unrhyw un neu ragor o’r cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r ceisydd neu eu bod yn cael eu rhannu gan fwy nag un aelwyd—

(i)

toiled;

(ii)

cyfleusterau golchi personol;

(iii)

cyfleusterau coginio;

(c)

nad yw’n llety sydd ym mherchnogaeth neu’n cael ei reoli gan awdurdod tai lleol, landlord cymdeithasol cofrestredig neu sefydliad gwirfoddol; neu

(d)

nad yw’n sefydliad sydd wedi ei gofrestru o dan ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000(3);

ac mae “Gwely a Brecwast” (“B&B”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “llety Gwely a Brecwast bach” (“small B&B”) yw—

  • llety Gwely a Brecwast—

    (i)

    pan fo’r rheolwr yn byw yn y fangre; a

    (ii)

    sydd â llai na 7 ystafell wely ar gael i’w gosod;

ystyr “llety o safon sylfaenol” (“basic standard accommodation”) yw llety—

(a)

sy’n cydymffurfio â’r holl ofynion statudol (megis, pan fo’n gymwys, gofynion yn ymwneud â thân, nwy, trydan, a diogelwch arall; cynllunio; a thrwyddedau ar gyfer tai amlfeddiannaeth); a

(b)

sydd â rheolwr a ystyrir gan yr awdurdod i fod yn berson addas a phriodol sydd â’r gallu i reoli llety Gwely a Brecwast;

ac mae “safon sylfaenol” (“basic standard”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “llety o safon uwch” (“higher standard accommodation”) yw llety sy’n bodloni—

(a)

y safon sylfaenol; a

(b)

y safonau sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,

ac mae “safon uwch” (“higher standard”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

RHAN 1Materion i’w hystyried wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer personau sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gallent fod mewn angen o’r fath

3.  Wrth benderfynu at ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014 a yw llety yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gall fod mewn angen o’r fath(4), rhaid ystyried, pan fo’n briodol, y materion a ganlyn yn ymwneud â pherson sydd naill ai yn geisydd, neu sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)anghenion iechyd penodol y person;

(b)agosrwydd a hygyrchedd cymorth teuluol;

(c)unrhyw anabledd sydd gan y person;

(d)agosrwydd a hygyrchedd cyfleusterau meddygol, a gwasanaethau cymorth eraill—

(i)sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio gan y person neu’n cael eu darparu iddo; a

(ii)sy’n hanfodol er llesiant y person;

(e)pan fo’r llety wedi ei leoli y tu allan i ardal yr awdurdod, pellter y llety o ardal yr awdurdod;

(f)arwyddocâd unrhyw darfu a fyddai’n cael ei achosi gan leoliad y llety o ran cyflogaeth, cyfrifoldebau gofalu neu addysg y person; ac

(g)agosrwydd cyflawnwyr honedig a dioddefwyr cam-drin domestig.

RHAN 2Amgylchiadau pan na fo llety Gwely a Brecwast a llety a rennir i’w hystyried yn addas ar gyfer personau sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gallent fod mewn angen o’r fath

Llety Gwely a Brecwast yn anaddas oni bai bod eithriad yn gymwys

4.  At ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014, nid yw llety Gwely a Brecwast i’w ystyried yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gall fod mewn angen o’r fath oni bai bod o leiaf un o’r eithriadau yn erthygl 6 neu erthygl 7(1) yn gymwys.

Llety a rennir yn anaddas oni bai ei fod yn bodloni’r safon uwch neu fod eithriad yn gymwys

5.  At ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014 ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau sydd wedi eu cynnwys yn erthyglau 6 a 7(2), nid yw llety a rennir i’w ystyried yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gall fod mewn angen o’r fath oni bai ei fod yn bodloni’r safon uwch.

Eithriadau i erthyglau 4 a 5 ar gyfer pob math o lety

6.  Nid yw erthyglau 4 a 5 yn gymwys—

(a)pan fo’r awdurdod yn credu y gallai’r ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis tân, llifogydd neu drychineb arall, ac nad oes unrhyw lety arall ar gael yn rhesymol i’r awdurdod; neu

(b)pan fo’r awdurdod wedi cynnig llety addas i’r ceisydd, ond bod y ceisydd yn dymuno cael ei letya mewn llety arall.

Eithriadau i erthyglau 4 a 5 pan fo llety yn bodloni safon

7.—(1Nid yw erthygl 4 yn gymwys—

(a)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 2 wythnos;

(b)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast o safon uwch am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos;

(c)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos, a bod yr awdurdod, cyn diwedd y cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), wedi cynnig llety addas arall, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw;

(d)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol ar ôl arfer y dewis y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw;

(e)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon uwch, a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall, cyn i’r cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) ddod i ben, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw.

(2Nid yw erthygl 5 yn gymwys—

(a)pan fo’r person yn meddiannu llety a rennir o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 2 wythnos;

(b)pan fo’r person yn meddiannu, am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos, lety a rennir o safon sylfaenol sydd ym mherchnogaeth neu a reolir gan awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn i’r cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ddod i ben, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety hwnnw; neu

(c)(i)pan fo’r person yn meddiannu llety a rennir o safon sylfaenol a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf i ddarparu llety dros dro i bersonau sydd wedi gadael eu cartrefi o ganlyniad i gam-drin domestig, ac sy’n cael ei reoli gan sefydliad—

(aa)nad yw’n awdurdod tai lleol; a

(bb)nad yw’n masnachu i wneud elw; a

(ii)pan fo’r awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety hwnnw.

(3Os yw’r llety addas arall a gynigir at ddibenion paragraffau (1) neu (2) yn cael ei rannu, rhaid iddo fodloni’r safon uwch.

(4Yn achos aelwydydd sydd â phlant dibynnol neu fenyw feichiog, rhaid i’r cynnig a wneir o dan baragraff (1)(d) neu (e), neu baragraff (2)(c) fod yn llety hunangynhaliol addas. Yn achos ceisydd sy’n berson ifanc dan oed, rhaid i’r cynnig fod yn llety addas â chymorth.

(5Wrth gyfrifo cyfnod, neu gyfanswm cyfnod, y mae person wedi meddiannu llety a rennir at ddibenion paragraffau (1) neu (2), rhaid diystyru unrhyw gyfnod cyn y daeth awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 yn rhinwedd adrannau 82(4) neu 83(2) (atgyfeiriadau yn sgil cysylltiadau lleol).

RHAN 3Addasrwydd llety’r sector rhentu preifat ar gyfer dod â’r ddyletswydd adran 75 i ben i geiswyr digartref

8.  At ddibenion cynnig yn y sector rhentu preifat o dan adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr sydd mewn angen blaenoriaethol yn dod i ben), ni chaniateir i lety gael ei ystyried yn addas pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—

(a)bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r llety mewn cyflwr ffisegol rhesymol;

(b)bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r llety yn cydymffurfio â phob gofyniad statudol (megis, pan fo’n gymwys, gofynion sy’n ymwneud â thân, nwy, trydan, carbon monocsid a diogelwch arall; cynllunio; a thrwyddedau ar gyfer tai amlfeddiannaeth); neu

(c)bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r landlord yn berson addas a phriodol o fewn ystyr adran 20 i weithredu fel landlord.

Dirymu a darpariaethau trosiannol ac arbed

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Gorchmynion a ganlyn drwy hyn wedi eu dirymu—

(a)Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) 1996(5) i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru;

(b)Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Diwygio) 1997(6) i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru; ac

(c)Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006(7).

(2Mae’r Gorchmynion a ddirymir o dan baragraff (1) yn parhau mewn grym mewn cysylltiad ag unrhyw gais a wnaed o dan adran 183 o Ddeddf Tai 1996 cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

21 Ebrill 2015

Erthygl 2

YR ATODLENY Safon Uwch

Safonau Gofod

Safonau gofod ar gyfer llety cysgu

Meintiau ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu mewn ystafell/cegin ar wahân

Arwynebedd Llawr YstafellNifer Fwyaf o Bersonau
Heb fod yn llai na 6.5 metr sgwâr1 person
Heb fod yn llai na 10.2 metr sgwâr2 berson
Heb fod yn llai na 14.9 metr sgwâr3 pherson
Heb fod yn llai na 19.6 metr sgwâr4 person

Meintiau ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu o fewn yr ystafell

Arwynebedd Llawr YstafellNifer Fwyaf o Bersonau
Heb fod yn llai na 10.2 metr sgwâr1 person
Heb fod yn llai na 13.9 metr sgwâr2 berson
Heb fod yn llai na 18.6 metr sgwâr3 pherson
Heb fod yn llai na 23.2 metr sgwâr4 person

At ddibenion y cyfrifiadau o faint yr ystafell uchod, mae plentyn o dan 10 oed i’w drin fel hanner person.

(a)Dim mwy na 4 person i feddiannu un ystafell, ac eithrio pan fo’r meddianwyr yn cydsynio.

(b)Dim rhannu ystafelloedd ar gyfer y rheini o ryw gwahanol i’w gilydd, sy’n 10 oed neu’n hŷn, oni bai eu bod yn byw gyda’i gilydd fel partneriaid a bod y ddau dros yr oed cydsynio, neu pan fo rhiant neu warcheidwad yn dewis rhannu gyda phlentyn hŷn.

(c)Rhaid i uchder llawr i nenfwd pob ystafell fod o leiaf 2.1 metr dros nid llai na 75% o arwynebedd yr ystafell. Rhaid diystyru unrhyw ran o’r ystafell pan fo uchder y nenfwd yn llai na 1.5 metr wrth gyfrifo arwynebedd y llawr.

(d)Mae ceginau ac ystafelloedd ymolchi ar wahân yn anaddas ar gyfer llety cysgu.

Gosodiadau ar gyfer gwresogi

2.  Rhaid bod gan y llety ddarpariaeth ddigonol ar gyfer gwresogi. Rhaid i bob ystafell gyfanheddol ac ystafell ymolchi neu ystafell gawod fod yn gallu cynnal a chadw isafswm tymheredd o 18°C yn yr ystafell pan fo’r tymheredd y tu allan yn minws 1°C.

Cyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd mewn uned lety

3.—(1Mewn uned lety sy’n lletya mwy nag un person, rhaid i’r ardal paratoi bwyd a ddarperir yn yr uned gynnwys y cyfleusterau a ganlyn:

(a)pedwar llosgwr/hob, ffwrn gonfensiynol a gril, neu ddau losgwr/hob a microdon sy’n cynnwys ffwrn a gril;

(b)sinc a bwrdd diferu integredig, sydd â chyflenwad cyson o ddŵr poeth a dŵr yfed oer;

(c)cwpwrdd storio sydd â chapasiti o 0.2 o fetrau ciwbig o leiaf ac eithrio man storio o dan y sinc;

(d)oergell;

(e)isafswm o bedwar soced 13 amp (sengl neu ddwbl) wedi eu lleoli dros yr wyneb gweithio;

(f)wyneb gweithio ar gyfer paratoi bwyd sy’n mesur o leiaf 1 metr x 0.6 metr; ac

(g)isafswm o 1 metr o ardal cylchdroi rhwng cyfleusterau a chelfi/dodrefn eraill yn yr ystafell.

(2Mewn uned lety sy’n lletya un person, rhaid i’r ardal paratoi bwyd a ddarperir yn yr uned lety gynnwys y cyfleusterau a ganlyn:

fel (a) – (g) uchod ond (a) i gael isafswm o ddau losgwr/hob.

Storio, paratoi a choginio bwyd mewn cyfleuster a rennir

4.—(1Pan fo ardaloedd paratoi bwyd yn cael eu rhannu rhwng mwy nag un aelwyd, rhaid bod un set o gyfleusterau cegin ar gyfer:

(a)pob 3 aelwyd deuluol neu lai;

(b)pob 5 aelwyd un person neu lai (ar gyfer rhwng 6 a 9 aelwyd un person, mae ffwrn neu ficrodon ychwanegol yn ofynnol);

(c)pob 10 person neu lai pan fo cymysgedd o aelwydydd teuluol ac aelwydydd un person o fewn yr un fangre.

(2Rhaid i bob set o gyfleusterau a rennir ddarparu’r cyfleusterau a ganlyn:

(a)fel ar gyfer paragraff 3(1)(a) i (g) ac eithrio bod rhaid i gyfleusterau coginio gynnwys 4 llosgwr neu hob, a ffwrn gonfensiynol, gril a microdon;

(b)tegell trydan; ac

(c)tostiwr.

(3Caniateir i’r ardal paratoi bwyd a ddefnyddir gan y rheolwr gael ei chynnwys wrth gyfrifo’r gymhareb, ar yr amod ei bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd mewn cyfleuster a rennir.

(4Pan nad oes gan breswylwyr fynediad i gyfleusterau cegin a bod y rheolwr yn darparu brecwast a phryd bwyd gyda’r nos o leiaf ar gyfer preswylwyr, ystyrir bod y gofynion ar gyfer cyfleusterau cegin a rennir wedi eu bodloni.

(5Rhaid i gyfleusterau ychwanegol i’w darparu ym mhob ystafell wely neu o fewn yr holl lety a feddiennir yn gyfan gwbl gan bob aelwyd gynnwys;

(a)oergell; ac

(b)cyfleuster storio cloadwy.

Fel arall, caniateir darparu’r rhain mewn mannau eraill yn yr adeilad.

Cyfleusterau toiled ac ymolchi

5.—(1Rhaid i gyfleusterau i’w defnyddio yn gyfan gwbl gan y person neu’r aelwyd gynnwys:

(a)bath neu gawod;

(b)basn golchi dwylo â chyflenwad cyson o ddŵr poeth ac oer; ac

(c)toiled naill ai en-suite neu mewn ystafell ar wahân a gedwir at ddefnydd person neu aelwyd yn gyfan gwbl.

(2Rhaid i gyfleusterau a rennir gynnwys:

(a)un toiled a basn golchi dwylo â chyflenwad cyson o ddŵr poeth ac oer o fewn yr adeilad ar gyfer pob pum aelwyd neu lai. Rhaid iddo gael ei leoli heb fod yn fwy nag un llawr i ffwrdd o’r defnyddwyr bwriadedig. Ar gyfer y pum aelwyd gyntaf caniateir i’r toiled a’r basn golchi dwylo fod yn yr ystafell gawod neu’r ystafell ymolchi. Rhaid i bob toiled a basn golchi dwylo ychwanegol ar gyfer meddianaethau o chwe aelwyd neu fwy fod mewn compartment ar wahân;

(b)un ystafell ymolchi neu ystafell gawod i’w darparu ar gyfer pob pum person. Rhaid i hon gael ei lleoli heb fod yn fwy nag un llawr i ffwrdd o’r defnyddwyr bwriadedig; ac

(c)mewn mangre sy’n lletya plant o dan 10 oed, rhaid i o leiaf hanner y cyfleusterau ymolchi gynnwys baddonau sy’n addas ar gyfer plant.

(3Ni chaniateir i nifer y personau sy’n meddiannu uned lety sydd â chyfleuster toiled a ddarperir at eu defnydd hwy yn gyfan gwbl gael ei gynnwys wrth gyfrifo toiledau a rennir.

Diogelwch

6.  Rhaid i bob drws mynediad i bob uned lety fod yn gloadwy a rhaid bod modd ei ddatgloi o’r tu mewn heb ddefnyddio allwedd.

Ystafell neu Ystafelloedd Cyffredin

7.  Rhaid bod gan bob mangre ystafell gyffredin sy’n mesur o leiaf 12 metr sgwâr oni bai bod gan bob aelwyd ardal fyw ar wahân i’w hardal gysgu sydd ar gael at ddefnydd yr aelwyd honno yn gyfan gwbl, neu fod y fangre ar gyfer aelwydydd un person yn unig.

Safonau Rheoli(8)

8.—(1Rhaid dyroddi copi ysgrifenedig o ‘reolau’r tŷ’ i bob aelwyd sy’n cynnwys manylion am sut bydd y sancsiynau am dorri’r rheolau yn cael eu cymhwyso. Rhaid i reolau’r tŷ gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod sy’n gosod aelwydydd digartref yn y fangre.

(2Rhaid dyroddi i bob aelwyd wybodaeth ysgrifenedig mewn perthynas â’r fangre gan gynnwys sut i weithredu’r holl osodiadau, er enghraifft cyfarpar gwresogi a dŵr poeth ac offer diffodd tân.

(3Rhaid i wybodaeth ysgrifenedig fod ar gael i breswylwyr mewn perthynas â’r ardal leol gan gynnwys lleoliad neu fanylion cyswllt cyfleusterau, golchdai, meddygfeydd ac ysgolion lleol.

(4Rhaid i breswylwyr gael mynediad i’w hystafelloedd bob amser ac eithrio pan fo ystafelloedd yn cael eu glanhau neu eu cynnal a’u cadw mewn ffordd arall. Rhaid gwneud darpariaeth i letya preswylwyr yn ystod yr amserau hyn.

(5Rhaid caniatáu mynediad i swyddogion priodol yr awdurdod tai lleol y mae’r fangre wedi ei lleoli yn ei ardal, a swyddogion unrhyw awdurdod sy’n gosod aelwydydd digartref yn y fangre, i arolygu’r fangre ym mha ffordd bynnag ac ar ba adeg bynnag sy’n angenrheidiol, i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau perthnasol; ac y bydd y rheolwr yn caniatáu cynnal arolygiadau o’r fath, heb rybudd os yw’n angenrheidiol.

(6Rhaid caniatáu mynediad i swyddogion yr awdurdod lleol a’r gweithwyr iechyd a chymunedol awdurdodedig ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi, i ymweld â aelwydydd digartref sy’n meddiannu’r llety a’u cyfweld yn breifat yn yr ystafell neu’r ystafelloedd a feddiennir ganddynt.

(7Gellir cysylltu bob amser â rheolwr sydd â chyfrifoldeb beunyddiol digonol i sicrhau bod yr eiddo yn cael ei reoli’n dda. Rhaid i hysbysiad sy’n rhoi enw, cyfeiriad a rhif ffôn y rheolwr gael ei arddangos mewn man yn yr eiddo lle y gellir ei weld yn hawdd.

(8Rhaid bod cynllun ymadael mewn argyfwng clir yn ei le sy’n nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol i’w cymryd wrth glywed y larwm tân, y llwybrau dianc a’r mannau ymgynnull diogel. Rhaid i reolwr sicrhau bod pob person sydd newydd gyrraedd y fangre yn cael gwybod am yr hyn i’w wneud os digwydd tân ac am y rhagofalon tân a ddarperir.

(9Rhaid dyroddi i bob aelwyd weithdrefn gwyno sy’n pennu sut mae gwneud cwyn. Rhaid i’r wybodaeth hon hefyd gynnwys ym mhle y gall yr achwynydd gael cyngor a chymorth pellach.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Wrth gyflawni swyddogaeth tai i sicrhau bod llety ar gael i geisydd sy’n ddigartref, neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, o dan Ran 2 (Digartrefedd) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), rhaid i awdurdod tai lleol (“awdurdod”) sicrhau bod y llety yn addas. Mae adran 59 o Ddeddf 2014 (addasrwydd llety) yn pennu materion penodol i’w hystyried wrth benderfynu ynghylch addasrwydd at ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014.

Yn sgil adran 59(3)(a) o Ddeddf 2014, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i bennu amgylchiadau pan fo llety i’w ystyried yn addas ar gyfer person, neu pan na fo i’w ystyried felly. Yn sgil adran 59(3)(b), caiff Gweinidogion Cymru hefyd bennu materion y mae’n rhaid i awdurdod eu hystyried, neu eu diystyru, wrth benderfynu a yw llety yn addas.

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei rannu’n dair rhan. Mae Rhan 1 yn pennu materion y mae’n rhaid i awdurdodau eu hystyried wrth benderfynu addasrwydd llety. Mae Rhan 2 yn pennu pan nad yw llety Gwely a Brecwast a llety a rennir yn addas i’w ddefnyddio ar gyfer llety dros dro. Mae Rhan 3 yn pennu pan nad yw llety’r sector rhentu preifat yn addas ar gyfer cyflawni’r dyletswyddau o dan adran 75 o Ddeddf 2014. Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Ebrill 2015.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i aelwyd y mae gan yr awdurdod reswm i gredu, neu y mae wedi ei fodloni, bod dyletswydd yn ddyledus iddi o dan adrannau 68, 75 neu 82 o Ddeddf 2014.

Mae Rhan 1 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys i aelwydydd sy’n cynnwys personau sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gallent fod mewn angen o’r fath. Mae erthygl 3 yn pennu materion sydd i’w hystyried, pan fo’n briodol, wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer person. Mae’r materion hyn yn ymwneud ag anghenion iechyd neu anabledd ceisydd neu aelod o aelwyd y ceisydd, ac agosrwydd gwasanaethau cymdeithasol, cyfleusterau meddygol a chymorth hanfodol arall. Rhaid hefyd ystyried tarfu posibl ar gyflogaeth, addysg neu gyfrifoldebau gofalu yn ogystal ag agosrwydd unrhyw gyflawnwr neu ddioddefwr cam-drin domestig perthnasol.

Mae Rhan 2 yn gymwys i lety dros dro sydd ar gael, o dan y dyletswyddau yn adran 68 o Ddeddf 2014, i’r rheini sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gallent fod mewn angen o’r fath. Mae’n gymwys hefyd i lety dros dro a ddarperir o dan y dyletswyddau yn adrannau 75 ac 82 o Ddeddf 2014, i’r rheini sydd mewn angen blaenoriaethol.

Mae erthygl 4 o Ran 2 yn pennu pan nad yw llety Gwely a Brecwast i’w ystyried fel llety addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gallai fod mewn angen o’r fath. Diffinnir llety Gwely a Brecwast fel llety a ddarperir yn fasnachol nad yw, pa un a yw brecwast yn cael ei ddarparu ai peidio, yn hunangynhaliol neu’n golygu rhannu cyfleusterau penodol gydag aelwyd arall.

Mae erthygl 5 yn darparu nad yw llety a rennir i’w ystyried fel llety addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gallai fod mewn angen o’r fath oni bai ei fod yn bodloni’r safon uwch fel y’i diffinnir yn erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn.

Mae erthyglau 4 a 5 yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn erthyglau 6 a 7.

Mae erthygl 6 yn nodi’r eithriadau i erthyglau 4 a 5 ar gyfer pob math o lety.

Mae erthygl 7(1) yn nodi’r eithriadau i erthygl 4 ar y defnydd o lety Gwely a Brecwast. Mae’r eithriadau hyn yn ymwneud â safonau gofynnol, hyd meddiannaeth, a dewis y ceisydd. Ac eithrio pan fo’r safon uwch yn ofynnol (ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn erthygl 6), rhaid i lety Gwely a Brecwast fod o’r safon sylfaenol o leiaf er mwyn cael ei ystyried yn addas at ddibenion darparu llety dros dro ar gyfer aelwydydd sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gallent fod mewn angen o’r fath o dan Ran 2 o Ddeddf 2014. Yn ôl gofynion y safon sylfaenol mae’n rhaid i’r llety Gwely a Brecwast fodloni’r holl ofynion statudol. Diogelwch tân a nwy, caniatâd cynllunio a thrwydded HMO (pan fo’n ofynnol) yw rhai enghreifftiau. Rhaid i’r fangre hefyd gael ei rheoli gan berson addas a phriodol.

Mae erthygl 7(2) yn nodi’r eithriadau i erthygl 5 ar y defnydd o lety a rennir. Mae’r rhain yn ymwneud â safonau llety gofynnol, hyd meddiannaeth, a dewis y ceisydd. Mae hefyd yn darparu eithriad ar gyfer rhai llochesi rhag cam-drin domestig.

Mae erthygl 7 hefyd yn pennu amgylchiadau pan na fo llety i’w ystyried yn addas. Mae’n gwneud hyn drwy bennu safonau gofynnol uwch ar gyfer llety Gwely a Brecwast a rennir a llety a rennir a ddefnyddir i letya aelwydydd sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gallent fod mewn angen o’r fath, dros dro am gyfnodau hwy.

Wrth gyfrifo cyfanswm yr amser y mae aelwyd sy’n cynnwys person sydd mewn angen blaenoriaethol wedi ei letya mewn llety Gwely a Brecwast, bydd awdurdod yn diystyru unrhyw gyfnod a dreulir mewn llety o’r fath pan oedd ceisydd o’r fath yn cael ei letya gan awdurdod tai lleol arall cyn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni yn unol ag adrannau 80 i 83 o Ddeddf 2014. Pan fo awdurdod o’r farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni a bod gan geisydd gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol arall, mae’r adrannau hynny yn darparu y caniateir iddo atgyfeirio’r ceisydd at yr awdurdod hwnnw ac, os bodlonir yr amodau ar gyfer atgyfeirio, mae’r ail awdurdod tai lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 o Ddeddf 2014 mewn cysylltiad â’r ceisydd.

Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn yn ymwneud â llety’r sector rhentu preifat a gynigir wrth i awdurdod gyflawni ei ddyletswyddau i geiswyr digartref sydd mewn angen blaenoriaethol am lety fel y darperir gan adran 76(3) a (4) o Ddeddf 2014. Mae erthygl 8 yn pennu amgylchiadau pan na fo llety i’w ystyried yn addas.

Mae erthygl 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirymu Gorchmynion addasrwydd blaenorol yng Nghymru a wnaed o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996. Mae paragraff (2) yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbed ar gyfer y ceiswyr hynny sydd wedi gwneud cais cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(2)

Gweler y diffiniad o “awdurdod tai lleol” yn adran 99 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

(4)

Gweler y diffiniad o “angen blaenoriaethol” yn adran 70 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

(8)

Mae’r safonau rheoli hyn yn ychwanegol at y safonau sydd wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Tai (Rheoli Tai Amlfeddiannaeth) 1990.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill